Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones E-bost: rhodrijones1@gwynedd.llyw.cymru 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2022-2023 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol
y Cynghorydd Elin Hywel yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022/23. Cofnod: |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-Gadeirydd ar gyfer 2022-2023 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol
y Cynghorydd Kim Jones yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022/23. Cofnod: Cynigwyd ac eiliwyd dau enw ar
gyfer y rôl, sef y Cynghorydd Kim Jones a’r Cynghorydd Glyn Daniels. PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Kim Jones yn Is-Gadeirydd y
Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022/23. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y
Cynghorydd Arwyn Herald Roberts a’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Arweinydd y Cyngor). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Sicrhaodd y
Cadeirydd y byddai’r pwyllgor yn ymgymryd â’i rôl o graffu gwaith y Cyngor a’r
Cabinet. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
10fed Mawrth 2022 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2022 fel rhai cywir. |
|
MONITRO PERFFORMIAD PDF 180 KB I ethol
Aelodau ar gyfer mynychu Cyfarfodydd monitro perfformiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol
y Cynghorwyr Rhys Tudur ac Linda Morgan i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad
maes gwaith Amgylchedd. Ethol
y Cynghorwyr Stephen Churchman ac Arwyn Herald Roberts i fynychu cyfarfodydd
herio perfformiad maes gwaith Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Ethol
y Cynghorwyr Rob Triggs a Llio Elenid Owen i fynychu cyfarfodydd herio
perfformiad maes gwaith Ymgynghoriaeth Gwynedd. Cofnod: Gwahoddwyd
enwebiadau ar gyfer mynychu cyfarfodydd herio perfformiad. Eglurwyd bod tri
maes gwaith penodol i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau - Amgylchedd, Priffyrdd a
Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd. Tynnwyd sylw at ‘Ganllaw Herio
Perfformiad i Aelodau Craffu’ a oedd wedi ei gynnwys yn y rhaglen. PENDERFYNWYD: -
Ethol y Cynghorwyr Rhys Tudur ac
Linda Morgan i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad maes gwaith Amgylchedd. -
Ethol y Cynghorwyr Stephen
Churchman ac Arwyn Herald Roberts i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad maes
gwaith Priffyrdd a Bwrdeistrefol. -
Ethol y Cynghorwyr Rob Triggs a
Llio Elenid Owen i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad maes gwaith
Ymgynghoriaeth Gwynedd. |
|
BWRDD HINSAWDD A NATUR PDF 228 KB I enwebu
Aelod fel cynrychiolydd i gyfarfodydd Bwrdd Hinsawdd a Natur Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol
y Cynghorydd Beca Roberts i gynrychioli’r Pwyllgor ar y Bwrdd Hinsawdd a Natur. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y
Cynghorydd Beca Roberts i gynrychioli’r Pwyllgor ar y Bwrdd Hinsawdd a Natur. Dechreuodd
y Cyfarfod am 10:00yb a gorffennodd am 10:30yb. ________________________________ CADEIRYDD |