Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr
Robert Glyn Daniels, Elwyn Edwards a Kim Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol. |
|
MATERION BRYS I nodi
unrhyw faterion o frys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28.09.2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28 Medi 2022 fel rhai cywir. |
|
I godi
ymwybyddiaeth y Pwyllgor am y newidiadau deddfwriaethol a pholisi cynllunio
cenedlaethol sydd ar y gweill. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (i)
Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r
sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. (ii)
Bod adroddiad pellach yn cael ei
gyflwyno i’r Pwylllgor yng nghyfarfod 9 Mawrth 2023, yn
edrych ar yr opsiynau ardaloedd posib lle gellir tystiolaethu’r defnydd o
Gyfarwyddyd Erthygl 4. (iii) Gofyn
i’r Adran gynnwys gwybodaeth am yr ymgynghoriad a recriwtio yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd a Rheolwr Cynllunio (Polisi
Cynllunio ar y Cyd). Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol: -
Eglurwyd
bod trafferthion wedi bod yn y gorffennol wrth geisio rheoli niferoedd ail
gartrefi yng Ngwynedd. Roedd hyn gan nad oedd rheoliadau mewn lle i atal pobl
rhag diwygio defnydd eu tai, heb yr angen i ymgeisio am ganiatâd cynllunio. -
Manylwyd
bod dosbarth defnydd newydd wedi cael ei wneud ar gyfer trosi tai i dai
myfyrwyr yn ninasoedd Cymru a bod hyn wedi gyrru ymchwiliad craffu i edrych ar
y posibilrwydd o greu dosbarth defnydd newydd ar gyfer tai oedd yn cael ei
drosi yn ail dau neu dai gwyliau. -
Comisiynwyd
ymchwiliad gan y Cabinet yn 2019 er mwyn edrych i mewn i’r maes hwn a
mabwysiadwyd adroddiad yr arolwg ym mis Hydref 2020 a oedd yn cynnwys
argymhellion ar seiliau cynllunio, trwyddedu a chyllid. Bu i Lywodraeth Cymru
wneud ymchwiliad pellach gan wneud canfyddiadau tebyg iawn. -
Cadarnhawyd
bod tri dosbarth defnydd newydd bellach wedi dod i rym, sef: o
C3 –
Prif Gartref o
C5 –
Ail Gartref o
C6 –
Llety Gwyliau byr dymor -
Nodwyd
bod gan berchnogion yr hawl i newid rhwng y dosbarthiadau defnydd hyn heb
ganiatâd cynllunio. Er mwyn gallu rheoli hyn, mae angen cyflwyno cyfarwyddyd
Erthygl 4. Nodwyd byddai hyn yn rhoi grymoedd i’r Cyngor ei wneud yn ofynnol i
berchnogion ymgeisio am ganiatâd cynllunio cyn newid dosbarth defnydd eu tai. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol: Tynnwyd sylw at ymgyrchoedd eraill a gyfranodd at y datblygiadau hyn megis adroddiad Simon
Brooks a mudiad Hawl i Fyw Adra. Holwyd sut byddai’r broses o gasglu
tystiolaeth a data yn cael ei ariannu. -
Mewn
ymateb i’r ymholiad, cydnabodd Pennaeth Cynorthwyol
Amgylchedd bod tair cam er mwyn sicrhau
fod erthygl 4 yn dod yn weithredol. Ar hyn o bryd mae’r adran yn
blaenoriaethu’r cam cyntaf, sef casglu tystiolaeth oedd yn cael ei wneud gan y
Gwasanaeth Polisi ar y Cyd. Gan fod y gwaith hwn yn ddigynsail, rhagwelir angen
i gael arweiniad gan Cwnsel ac angen felly am arian ychwanegol. -
Cadarnhawyd
bydd angen recriwtio swyddogion cynllunio ychwanegol pan ddaw erthygl 4 yn
weithredol. Mae’n debygol y byddai hyn yn digwydd yn ystod 2023/24. Cyflwynwyd
cais i Lywodraeth Cymru ers mis Medi 2022 yn gwneud cais am adnoddau ychwanegol
er mwyn sicrhau bod y Cyngor mewn sefyllfa gref i weithredu yn effeithiol pan
ddaw erthygl 4 i rym. -
Eglurwyd
bod recriwtio yn broblem ehangach o fewn yr adran yn dilyn pwysau cymhwyso a
phwysau ieithyddol y swyddi. Cadarnhawyd fod gwaith yn cael ei wneud i sicrhau
bod swyddi’r adran yn apelio i raddedigion. Mae’r adran yn rhannu’r cyfleoedd
sydd ar gael gyda phrifysgolion er mwyn denu ymgeiswyr. Gofynnwyd a oes modd cael adroddiad ar ddatblygiadau’r broses recriwtio er mwyn gallu ystyried os bydd yr amserlen o allu gweithredu erthygl 4 ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYFLWYNO CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY PDF 238 KB Cymeradwyo’r
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy ar gyfer ei fabwysiadu gan Gabinet Y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Amgylchedd, Rheolwr Cefn Gwlad a Phennaeth Cynorthwyol Amgylchedd. Tynnwyd sylw
yn fras at y prif bwyntiau canlynol: -
Eglurodd
Aelod Cabinet Amgylchedd bod y cynllun drafft wedi bod gerbron y Pwyllgor hwn
cyn mynd allan i ymgynghoriad ac fe’i datblygwyd yn dilyn ymgynghoriad a
gynhaliwyd dros yr haf. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys 7 cwestiwn a oedd wedi
eu selio ar y camau gweithredu -
Cafwyd
294 o ymatebion i’r ymgynghoriad, gyda rhan helaeth o ymatebion yn dangos
bodlonrwydd cyffredinol gyda’r cynllun gwella hawliau tramwy Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol: Holwyd os oedd yr adran wedi cysidro chwilio
am wirfoddolwyr i’w cynorthwyo i wella hawliau tramwy. Credir fod pobl yn
awyddus i wirfoddoli gan ei fod yn tynnu cymunedau at ei gilydd. Byddai hyn
hefyd yn ffordd dda o gydweithio gyda chynghorau tref a chymuned. -
Mewn
ymateb i’r ymholiad, nododd Rheolwr Cefn Gwlad ei fod yn her i swyddogion
gyd-lynu gwirfoddolwyr. Gall ymateb i ddiddordeb fod yn heriol ar brydiau gan
nad ydi’r adnoddau ar gael i gefnogi gwirfoddolwyr yn barhaus. Rhaid cofio
hefyd bod angen cysidro materion iechyd a diogelwch gyda rhai agweddau o
wirfoddoli. Er hyn, cydnabuwyd nad oes digon o fanteisio ar wirfoddoli wedi
cael ei gynnwys yn y cynllun ac mae lle i wella yma. -
Aeth y
Rheolwr Cefn Gwlad ymlaen i gadarnhau fod perthynas cryf gyda chynghorau
cymuned a thref yn enwedig gyda materion ariannu a grantiau. Mae gwaith parhaus
yn cael ei wneud i gydweithio gyda chynghorau tref a chyrff cyhoeddus. Nodwyd bod angen i wirfoddolwyr dderbyn
hyfforddiant iechyd a diogelwch ac y gallent wneud y gwaith o arolygu llwybrau.
Datganwyd clod i waith y gwasanaeth o ystyried y toriadau i’w gyllideb. Gofynnwyd sut byddai’r cynllun yn caniatáu i
geffylau fynd ar y llwybrau yn ddiogel wrth gysidro rhwystrau fel giatiau ac
agosatrwydd at draffig ar y ffyrdd. -
Mewn
ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd Rheolwr Cefn Gwlad y derbynnir ceisiadau yn
rheolaidd gan gymdeithas ceffylau i gael caniatâd i ddefnyddio mwy ar y
llwybrau. Mae rhai llwybrai yn addas yn barod megis Lonydd Las Ogwen Mae’r
llwy’r yma yn llydan a gwastad sydd yn addas ar gyfer ceffylau a beiciau. -
Aeth y
Rheolwr Cefn Gwlad ymlaen i ddweud fod anghysondeb yn y mathau o lwybrau sydd
yn rhan o’r rhwydwaith felly nid ydi ceffylau a beiciau yn gallu mynd ar bob
un. Mae gwaith yn cael ei wneud er mwyn cael cysondeb dros y rhwydwaith Lonydd
Glas cyfan ac i gael asesiad diogelwch er mwyn i bob defnyddiwr fod yn saff
wrth ddefnyddio’r llwybrau. Holiwyd os oes gwaith yn cael ei wneud er
mwyn gwneud y llwybrau yn fwy hygyrch i bobl gydag anawsterau symudedd neu i
bobl gyda nam golwg. Tybir fod rhai pobl yn cael trafferthion defnyddio’r
llwybrau oherwydd pellter arwyddion oddi wrth ei gilydd, yn enwedig os nad
ydynt yn gweld yn dda iawn. - Mewn ymateb i’r ymholiad, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
STRATEGAETH LLIFOGYDD LEOL PDF 114 KB Diweddariad
ar y Strategaeth Llifogydd Lleol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd,
Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a Phennaeth Cynorthwyol Ymgynghoriaeth Gwynedd . Tynnwyd sylw yn fras at y prif
bwyntiau canlynol: -
Esboniodd
Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol fod y ddogfen yn manylu ar risgiau
llifogydd mewndirol ac arfordirol ond bod y rhain yn cael eu cysidro ar wahân. -
Trafodwyd
risgiau llifogydd mewndirol gan egluro fod pob ardal yn cael eu cysidro yn
annibynnol er mwyn datgan y risgiau sy’n effeithio gwahanol rannau o’r sir.
Ystyriwyd bod ystyriaeth rhy leol wedi cael ei wneud yn y gorffennol ac felly
mae’r adran yn awyddus i edrych ar ardaloedd fesul dalgylch er mwyn canfod
risgiau mwy real. -
Trafodwyd
risgiau arfordirol. Pwysleisiwyd bod yr adran eisiau canfod yr ardaloedd mwyaf
bregus er mwyn ymgeisio am grantiau i gael deunyddiau i’w gwarchod. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol: Holwyd tua faint mae lefelau’r môr yn mynd i
godi yn sgil effaith newid hinsawdd, beth ellir ei wneud er mwyn ei atal a’r
sefyllfa yn ardal Friog. -
Mewn
ymateb i’r ymholiad hwn, nododd Pennaeth Cynorthwyol Ymgynghoriaeth
Gwynedd bod rhagdybiaeth y bydd lefel y môr yn cynyddu tua metr yn y dyfodol
oherwydd newid hinsawdd. Eglurodd bod cynllun penodol ar gyfer ardal Friog yng
nghyswllt lliniaru effaith a’r effaith gymunedol. Nododd y gwneir asesiad
effaith ar y gymuned. Cyfeiriwyd at fwriad yr adran i edrych ar y dalgylchoedd
yn rheolaidd i adolygu eu risgiau llifogydd. Gofynnwyd sut mae’r adran am fynd
o gwmpas i wneud hyn. -
Mewn
ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Ymgynghoriaeth
Gwynedd bod nifer o brosiectau bychan ar waith o fewn y dalgylchoedd er mwyn
cael gwybodaeth eglur ym mhob ardal. Mae’r prosiectau yma yn cael eu hunioni
cyn cyflwyno gwybodaeth i Gyfoeth Naturiol Cymru sydd yn bwydo’r wybodaeth i’w
bas data. -
Ymhelaethwyd
bod modd defnyddio map Cyfoeth Naturiol Cymru i weld faint o dai bydd mewn
ardal risg uchel yn y dalgylch. Gan fod gwybodaeth yn cael ei fwydo i mewn yn
rheolaidd i mewn i’r bas data, mae’r wybodaeth yma yn debygol o newid yn gyson.
Wrth i’r adran weithio ar ardaloedd o risg uchel a datrys problemau, bydd y
wybodaeth yn cael ei fwydo yn ôl i Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn iddynt
ddiweddaru eu gwybodaeth. -
Pwysleisiwyd
er bod y broses yma yn cymryd amser, bydd y blaenoriaethau bydd angen eu dilyn
yn newid gydag amser er mwyn sicrhau bod cymorth atal llifogydd yn mynd i’r ardaloedd
sydd eu hangen fwyaf. Mae’r wybodaeth yn cael ei symud o’r adran i Gyfoeth
Naturiol Cymru dwywaith y flwyddyn. Mae hyn yn ddigonol i’r adran. Nodwyd ei fod yn allweddol i gysidro pa sgil-effeithiau ar ardaloedd cyfagos gaiff prosiectau i warchod yr arfordir mewn un dalgylch. Mae’n bosib fod datrys risgiau llifogydd arfordirol mewn un gymuned yn cael effaith negyddol ar ardal arall. Mae’n bwysig cymryd y risgiau yma i ystyriaeth wrth geisio llunio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2022/23 PDF 400 KB I’r Pwyllgor flaenoriaethu eitemau ar gyfer y cyfarfodydd sydd i ddod a mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (i) Blaenoriaethu’r
eitem ‘Cynllun Llesiant’ ar gyfer cyfarfod 19 Ionawr 2023 gan dynnu’r eitem
‘Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig’. (ii) Mabwysiadu’r
rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2022/23. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd
Craffu a thynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol: -
Cadarnhawyd
bod y pwyllgor wedi mabwysiadu’r rhaglen waith yn y cyfarfod diwethaf ar
28.09.2022. Ers hyn mae un adroddiad wedi llithro yn ôl yn yr amserlen, sef yr
eitem ‘Cynllun llesiant’. Derbyniwyd cais gan swyddogion i gyflwyno’r adroddiad
hwn i’r pwyllgor ym mis Ionawr. Mae pedair eitem wedi eu rhaglennu ar gyfer mis
Ionawr yn barod felly roedd angen blaenoriaethu. -
Eglurwyd
bod yr eitem ‘Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig’ wedi ei amserlennu ar gyfer
mis Ionawr. Cadarnhawyd bod sesiwn gwybodaeth wedi bod yn ddiweddar ar gyfer yr
aelodau. Cynigir ei dynnu oddi ar amserlen mis Ionawr gan flaenoriaethu
adroddiad ‘Cynllun Llesiant’ yn ei le. Bydd angen craffu’r cynllun llesiant gan
y byddai’n llywio blaenoriaethau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn
y cyfnod nesaf. Mewn ymateb i ymholiad am gynnwys yr eitem
‘Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig’, cadarnhawyd mai amserlen/proses y cynllun
y bwriadwyd ei graffu yn unig, nid cynnwys y cynllun ei hun. Mae’r wybodaeth
yma eisoes wedi cael ei rannu yn y sesiwn gwybodaeth i aelodau. PENDERFYNWYD (ii)
Mabwysiadu’r
rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2022/23. |