Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2019/2020 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Elfed Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor
Craffu hwn am 2019/20. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am 2019/2020 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Gethin
Glyn Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn am 2019/20. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y
Cynghorwyr Simon Glyn, Aled W Jones, Linda Morgan, Elfed Roberts a Mike Stevens. Hysbyswyd yr Aelodau bod y Cynghorydd Linda Morgan
wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar a’i bod erbyn hyn yn gwella. Roedd y
Pwyllgor yn anfon eu dymuniadau gorau ati am wellhad buan. Croesawyd y Cynghorwyr Angela Russell a Dafydd Owen
fel aelodau newydd i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau a diolchwyd i’r Cynghorwyr
Peter Garlick a Keith Jones am eu cyfraniadau i’r Pwyllgor. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd
yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr eitem canlynol am y rheswm a nodir: ·
Y
Cynghorwyr Owain Williams a Berwyn Parry Jones yn eitem 10 ar y rhaglen oherwydd eu bod yn Aelodau o’r
Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant
a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 4.4.19 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 4.04.2019 fel
cofnod cywir o’r cyfarfod. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS 2018-19 PDF 190 KB AELOD CABINET:
Cynghorydd Dyfrig Siencyn I ystyried yr adroddiad blynyddol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Dyfrig Siencyn yn amlinellu’r hyn a gyflawnwyd dros y flwyddyn ddiwethaf gan
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Atgoffwyd yr aelodau bod y
Bwrdd wedi cytuno ar feysydd blaenoriaeth fyddai’n gwella llesiant economaidd,
amgylcheddol a diwylliannol y ddwy sir. Adroddwyd bod y Bwrdd yn derbyn yr angen i ganolbwyntio
ar yr hyn y gellid ei gyflawni yn yr hinsawdd sydd ohoni gan fod adnoddau’r
corff cyhoeddus o dan bwysau a bygythiadau pellach mewn arbedion. Er hynny,
drwy gydweithio gellid manteisio ac
adnabod cyfleoedd i weithio mewn ffyrdd gwahanol a chyflwyno dulliau arloesol o
weithredu. Rhoddwyd diweddariad byr ar y datblygiadau o fewn
y chwe maes blaenoriaeth. Adroddwyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn
destun craffu gan Bwyllgor Craffu /
Sgriwtini dynodedig awdurdodau lleol Gwynedd ac Ynys Môn ac y byddai panel
craffu ar y cyd rhwng y ddwy sir yn cael ei ddatblygu i graffu’r gwaith. Nodwyd
bod swyddogion craffu Cyngor
Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn yn trafod camau gweithredu allweddol mewn
perthynas â’r opsiwn o sefydlu panel ar y cyd yn ystod y misoedd nesaf. Roedd yr Aelod Cabinet yn hyderus yng ngwaith y
Bwrdd ac yn adrodd bod ymdeimlad o ymddiriedaeth ymysg Partneriaethau ac awydd
a brwdfrydedd o fod eisiau llwyddo. Diolchodd i bawb am eu cyfraniad. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â diffyg
adnoddau i wireddu’r amcanion ynghyd a cholli grantiau yn sgil Brexit, nododd
yr Aelod Cabinet, er yr angen i ddefnyddio arian presennol, drwy rannu a
chydweithio gellid llwyddo ar y cyd. Ategodd bod Llywodraeth Cymru eu hunain
mewn sefyllfa anarferol o orfod gosod cyllidebau heb wybod beth fydd eu
cyfraniad. Er i’r sefyllfa fod yn un ddryslyd, rhaid dyheu am y gorau gan ddarganfod ffordd well, arloesol o
weithio. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Newid Hinsawdd – mynegwyd siom mai adweithiol oedd y
gwaith yng nghyd-destun llifogydd yn hytrach nag arloesol ac uchelgeisiol. ·
A oes dyhead i gydweithio gyda’r Asiantaethau Tai
Cymdeithasol o ran adeiladu tai / cartrefi carbon isel ·
Angen ystyried dulliau rhad o adeiladu a chynnal tai
– e.e., ynni isel, ynni haul, gwres daear, fyddai yn sicrhau arbedion i’r
dyfodol ac elfen fforddiadwy i’r tenant ·
Cartrefi ar gyfer Pobl Leol – rhaid adnabod
safleoedd yn y llefydd cywir a bod y cartrefi yn ymateb i’r angen ·
Bod angen manylion mesuryddion a cherrig milltir ar
y prosiectau ynghyd a gosod amserlen gadarn yn hytrach na nodi tymor byr,
canolog, hir ·
Angen cydnabod ac ymateb i faterion tlodi – posib
ystyried banciau bwyd ·
Angen ail asesu niferoedd / anghenion tai yn sgil
oediad Cynllun Wylfa Newydd Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r berthynas gyda Llywodraeth Cymru a gallu'r Bwrdd i ddylanwadu ar addasu polisïau i gyflawni newid, nododd yr Aelod Cabinet bod y bartneriaeth yn cynrychioli nifer o gyrff cyhoeddus ac felly petai barn neu sylw angen ei fynegi, byddai pwysau ar hynny. Derbyniwyd mai anodd fyddai cael dylanwad ar bolisïau ond angen sicrhau bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
ADRODDIAD CRAFFU GORFODAETH GWASTRAFF PDF 151 KB AELOD CABINET:
Cynghorydd Catrin Wager I ystyried adroddiad yr Ymchwiliad Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr ymchwiliad craffu Gorfodaeth Gwastraff i’r Aelod
Cabinet Catrin Wager. Atgoffwyd pawb beth oedd cefndir y briff a rhoddwyd
crynodeb o’r gwaith a wnaed gan y Cynghorydd Stephen Churchman, Cadeirydd yr
ymchwiliad. Ategodd yr Aelod Cabinet ei diolch i’r
aelodau am eu hymchwiliad trylwyr a’r gwaith ymgysylltu da a wnaed gyda
gwahanol grwpiau o bobl. Cydnabuwyd bod yr adroddiad yn adlewyrchiad teg o’r
gwaith a croesawodd yr angen i ymgymryd ag ymgyrch hyrwyddo sirol i godi
ymwybyddiaeth o’r trefniadau gwastraff ac ailgylchu. Amlygodd nad oedd bwriad
dechrau dirwyo pawb ar unwaith a chreu incwm o gyflwyno pwerau Adran 46 a 47
o’r Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd (1990). Pwysleisiodd y byddai pob achos yn
cael ei drin fel achos unigol a cyfeiriodd ar y Siart Lif oedd yn amlinellu’r
camau gweithredu. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau
canlynol gan Aelodau unigol: ·
Bod angen asesu pob sefyllfa yn unigol ·
Awgrym defnyddio bagiau duon / plastig clir ar
strydoedd trafferthus fel bod y strydoedd yn lan a chlir ar ôl casgliadau ·
Pwysig sefydlu trefn a chadw at newidiadau ·
Croesawu’r casgliadau arbennig - pwysig bod urddas
a pharch yn cael ei ystyried ·
Croesawu’r bwriad o siarad efo unigolion i ddatrys
y problemau - nifer o strydoedd bach, cul, grisiau, diffyg storfa yn creu
problemau i rai ·
Bod casglwyr sbwriel yn gadael llanast - nid yw yn
adlewyrchiad da ein bod yn colli gwastraff rydym yn ei gasglu! ·
Angen sicrhau bod y casglwyr yn cau drysau’r lori
wrth gasglu ·
Bod cynnydd mewn defnydd o drigolion yn
defnyddio biniau cyhoeddus i waredu eu sbwriel ·
Angen cosbi cwmnïau sydd yn cynhyrchu plastig Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd Cadeirydd yr
ymchwiliad bod y gweithgor wedi derbyn nad oedd yr un trefniant yn gweithio i
bawb ac felly ceisiwyd yr argymhelliad i gyd weithio gydag adrannau eraill
megis Tai ac Amgylchedd (Cynllunio) i
geisio datrysiadau. Ategwyd bod y Gwasanaeth hefyd wedi adolygu eu trefniadau
casglu gwastraff gyda’r gobaith y bydd arferion a diwylliant yn newid o
ganlyniad. Y gobaith yw y bydd staff yn cadw at yr un teithiau gan ymgyfarwyddo
gydag anghenion ac arferion pobl. Nodwyd bod y newidiadau yn dechrau yn Nwyfor
(Gorffennaf 2019) Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn y 6 argymhelliad
ynghyd ac ychwanegu argymhelliad i weithwyr y gwasanaeth casglu weithredu yn
briodol fel nad yw gwastraff yn dianc allan o’r cerbydau. PENDERFYNWYD
·
diolch i’r
gweithgor am adroddiad trylwyr ·
derbyn y chwe
argymhelliad oedd wedi ei cynnwys yn yr adroddiad 1. Defnyddio pwerau Deddf
Gwarchod yr Amgylchedd (1990) Adrannau 46 a 47 sy’n ymwneud a chynhwysyddion
gwastraff i gyflwyno trefn newydd lle a phryd a bo’r angen, i ddirwyo trigolion
a busnesau sy’n gwaredu eu gwastraff ar y diwrnod anghywir neu yn y ffordd anghywir fel mater o flaenoriaeth. 2.
Ymgymryd ag ymgyrch hyrwyddo sirol i godi
ymwybyddiaeth o’r trefniadau gwastraff ac ailgylchu gyda ffocws penodol ar
Ddinas Bangor a chydnabod y gwahaniaethau daearyddol a demograffig yn y sir ar
wahanol adegau o’r flwyddyn. 3. Gosod sticeri “QR code” ar gynhwysyddion ailgylchu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
INCWM O FEYSYDD PARCIO PDF 55 KB AELOD CABINET:
Cynghorydd Gareth Griffith I ystyried yr adroddiad Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried sefydlu Grŵp
Tasg i gynorthwyo’r Gwasanaeth gyda’r gwaith o ddadansoddi amrediad opsiynau ar
gyfer rheoli parcio yng Ngwynedd. Amlygwyd mai’r bwriad yw asesu’r opsiynau
posib ar gyfer cynyddu’r incwm o feysydd parcio gan ystyried a fuasai modd
gwneud hynny heb gynyddu’r gost i drigolion Gwynedd. Cynigiwyd
bod angen rhwng 3 a 6 aelod ar gyfer y Grŵp Tasg gyda chynrychiolaeth o
Arfon, Meirionnydd a Dwyfor. PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorwyr Kevin Morris Jones (Arfon), Angela Russell (Dwyfor), Annwen
Hughes a Gethin Glyn Williams (Meirionnydd) fel aelodau’r Grŵp Tasg.
Gwnaed cais i’r Gwasanaeth gyflwyno briff, cylch gorchwyl ag amserlen ar gyfer
y Grŵp Tasg i gyfarfod nesaf Pwyllgor Craffu Cymunedau – 26.9.19 |
|
ADRODDIAD CRAFFU CYNLLUNIO A'R IAITH GYMRAEG PDF 27 KB AELOD CABINET:
Cynghorydd Gareth Griffith I ystyried adroddiad yr Ymchwiliad Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr ymchwiliad craffu Cynllunio a’r Iaith Gymraeg i’r
Aelod Cabinet Gareth Griffith. Atgoffwyd yr aelodau o gefndir y penderfyniad i
gynnal yr ymchwiliad gan y Cynghorydd Gruffydd Williams, Cadeirydd yr
ymchwiliad. Diolchodd i’r holl gyfranogwyr am eu cydweithrediad gyda’r gwaith. Yn dilyn trafodaethau gyda Gwasanaeth
Cyfreithiol y Cyngor a’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ynglŷn â
gwahaniaeth barn am yr argymhellion cychwynnol, nodwyd bod cyfaddawd bellach
wedi ei gyrraedd a chytundeb ar y pum argymhelliad. Er hynny, amlygodd
Cadeirydd yr ymchwiliad, yn dilyn ymgynghoriad gydag aelodau eraill y gweithgor
ei fod yn dymuno addasu'r argymhelliad o ddod a’r ymchwiliad i ben a pharhau
gyda’r gwaith ymchwil oherwydd bod anghysondebau wedi codi o’r gwaith. Diolchodd yr Uwch Reolwr Cynllunio am y gwaith ymchwil a nododd bod y
Gwasanaeth, lle roedd yn ymarferol bosib, wedi cydweithio i hwyluso’r gwaith.
Ategodd bod briff yr ymchwiliad ychydig yn ehangach na’r elfen paratoi canllaw
cynllunio atodol yn unig. Nododd bod y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi
gwneud cais i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau am sylwadau ar yr ymatebion i
ymgynghoriad cyhoeddus ar y Canllaw Cynllunio Atodol (Rhagfyr 2018 – Ionawr
2019). O ganlyniad mynegodd mai rhan D o’r adroddiad yn unig fyddai’n cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Polisi ar y 17 o Orffennaf 2019 – bydd sylwadau pellach
yr ymchwiliad yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod dilynol yn mis Medi. Gofynnodd
hefyd am eglurder pellach am yr argymhelliad i barhau gyda’r gwaith ymchwil. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a sylw ‘byddai’n anghyfreithlon cynnwys
y datganiad hwn yn y Canllaw’ (ymateb y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd i
argymhellion cychwynnol 1a ac 1b Tachwedd 2018), nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod
yr argymhelliad yn ymwneud a newid deddfwriaeth ac nid y broses ymgynghorol
statudol. Nid oedd modd i’r cydbwyllgor ystyried y ddau argymhelliad gan mai
ymgynghori ar y canllaw cynllunio oedd gerbron. Byddai angen mynd at y
llywodraeth i newid y ddeddfwriaeth. Mewn ymateb i ganfyddiad un aelod bod Polisi
PS1 yn ddiwerth ac nad oedd y canllaw wedi ei brofi yn iawn, nododd yr Uwch
Reolwr Cynllunio nad oedd y broses monitro flynyddol wedi ei gwblhau ac felly
nid oedd tystiolaeth i gefnogi’r farn. Ategodd yr Uwch Reolwr bod Polisi PS1 yn
rhoi hyblygrwydd sylweddol wrth ystyried yr iaith Gymraeg, pan yn berthnasol,
gyda’r canllaw yn mynd i fanylder ar sut i weithredu hyn. Os na fyddai
datblygiadau penodol yn cwrdd gyda’r math o dai sydd yn cael eu datblygu, bydd
y Gwasanaeth Cynllunio yn annog trafodaeth fuan yn y broses gyda’r datblygwr i
amlygu’r hyn fyddant angen ei wneud i roi ystyriaeth i’r iaith Gymraeg. Ategodd y Swyddog Monitro, bod fframwaith
statudol a pholisi perthnasol yn cyfyngu gallu'r awdurdod i ofyn i ddatblygwr
am asesiad iaith tu hwnt i’r gofyn. Os bydd pryderon a chanfyddiadau yn codi
nad yw Polisi PS1 yn gweithredu yn unol â’r egwyddor, a bod tystiolaeth yn cael
ei gyflwyno yn cefnogi’r canfyddiadau, bydd trefniadau adolygu priodol yn ei
lle gan y gyfundrefn. |
|
CRAFFU TREFNIADAU PERFFORMIAD PDF 44 KB a)
Ystyried
yr adroddiad b)
I ethol aelod i fynychu Cyfarfodydd Herio
Perfformiad (Adran Amgylchedd) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Atgoffwyd yr aelodau bod cyfarfodydd
rheolaidd yn cael eu cynnal rhwng Aelodau Cabinet, Penaethiaid Adran a’u
Rheolwyr Gwasanaeth i adolygu gwaith a pherfformiad y gwasanaeth. Bydd y Prif
Weithredwr neu Gyfarwyddwr Corfforaethol yn bresennol yn y cyfarfodydd hyn i
herio’r perfformiad. Yn ogystal bydd dau aelod o bob Pwyllgor Craffu (ynghyd
a’r Pwyllgor Archwilio) yn cael gwahoddiad i’r cyfarfodydd hyn er mwyn cael
blas ar faterion perfformiad a hefyd os bydd unrhyw faterion perfformiad all
deilyngu sylw mewn Pwyllgor Craffu maes o law. Disgwyli’r i’r aelodau adrodd yn
ôl i gyfarfod anffurfiol cyntaf o’r Pwyllgor Craffu perthnasol yn dilyn y
cyfarfodydd hyn. Yn dilyn newid mewn aelodaeth y
Pwyllgor a dymuniad aelod i sefyll i lawr, cadarnhawyd yr enwebiadau oedd yn
cynrychioli’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn y cyfarfodydd herio perfformiad
ynghyd ac enwebiadau i’r seddi gwag. PENDERFYNWYD ar yr enwebiadau canlynol, Cynghorwyr
Edgar Owen ac Elwyn Jones Priffyrdd
a Bwrdeistrefol Cynghorwyr Berwyn P Jones ac R Glyn Daniels Amgylchedd Cynghorwyr
Simon Glyn a Mike Stevens Ymgynghoriaeth
Gwynedd Yn dilyn cyhoeddiad bod Gareth
James, Rheolwr Aelodau - Cefnogi a Chraffu yn ymddeol ar ddiwedd y mis,
diolchwyd i Gareth am ei waith a’i gefnogaeth i’r Pwyllgor Craffu dros y
blynyddoedd. Dymunwyd ymddeoliad hapus iddo. |