Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Virtual Meeting

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Kevin Morris Jones, Linda Morgan, Glyn Daniels, Owain Williams ac Elwyn Edwards.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 143 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 Chwefror, 2021 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 25ain o Chwefror 2021, fel rhai cywir.

5.

BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS - CYNNYDD AR WIREDDU'R CYNLLUN LLESIANT pdf eicon PDF 365 KB

I ystyried yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfarfod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn diweddaru’r aelodau ar gynnydd y ffrydiau gwaith. Ategwyd bod hyn yn statudol o dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Nodwyd bod heriau wedi codi yn sgil y pandemig, fodd bynnag gwelwyd cynnydd mewn rhai mannau.

Adroddwyd bod yr is-grwpiau wedi ail ymafael ar eu cynlluniau gwaith ac bod y Bwrdd yn cynghori iddynt ystyried eu briff gwreiddiol ac ystyried beth sydd wedi ei gyflawni ac beth sydd eisoes angen ei wneud.

Aethpwyd drwy’r adroddiad yn fanwl gan tynnu sylw at y prif bwyntiau a fyddai o ddiddordeb i aelodau’r Pwyllgor fel a ganlyn;

- Nodwyd bod cydweithio yn digwydd er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg o fewn cyrff cyhoeddus, er enghraifft mewn derbynfeydd

- Soniwyd am y gwaith sy’n cyd-fynd a’r strategaeth tai er mwyn sicrhau mwy o gartrefi fforddiadwy yng Ngwynedd. Ategwyd eu bod yn rhannu gwybodaeth a chydweithio er mwyn osgoi dyblygu ar waith sydd eisoes yn digwydd.

- Ysgrifennwyd at Lywodraeth Cymru er mwyn atgyfnerthu pwysigrwydd argaeledd tai i gyfrannu at lesiant cymunedau.

- Cyfeiriwyd at waith ynghylch newid hinsawdd, sef bod yr Is-Grŵp wedi cwrdd a Cyfoeth Naturiol Cymru a rhannu eu datganiadau ardal.

Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-

- Diolchwyd y Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus am yr adroddiadau dan sylw.

- Tynnwyd sylw at yr adroddiad sy’n trafod ‘7 cam at llesiant’ a gofynnwyd i’r rheolwr a fyddai'n bosib atgoffa o’r rhain yn ei hadroddiad nesaf er mwyn atgoffa’r Pwyllgor o beth sydd angen ei wneud.

- Cwestiynwyd ai tasg ar gyfer yr adran Gynllunio yn gwerthuso safleoedd at berthynas tai i bobl leol.

- Awgrymwyd mai edrych ar gynlluniau a gwerthuso fforddiadwyedd a pholisïau y dylai fod yn blaenoriaeth er mwyn osgoi dyblygu gwaith.

- At berthynas ‘Newid Hinsawdd’, rhannwyd bod gan eiddo lleol broblem gydag llifogydd ac eu bod wedi derbyn cyngor ar gyfer ei warchod rhag difrod pellach. Gofynnwyd os byddai modd rhannu gwybodaeth ychwanegol gyda trigolion mewn ardaloedd dan fygythiad o lifogydd.

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y pwyntiau isod:-

- Nodwyd mai briff yr Is-grŵp gyda’r tai fforddiadwy oedd oedd edrych ar datblygu ar y cyd, er enghraifft, edrych ar safleoedd segur i weld y sgôp am eu ddatblygu.

- Grŵp ychwanegol technegol wedi rhoi ystyriaeth i hyn.

- Diolchwyd am y sylwadau ynghylch yr ffrwd Newid Hinsawdd a byddai’r sylwadau yn cael eu cyfleu yn ôl cyn iddynt fynd allan i ymgysylltu.

PENDERFYNWYD

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfarfod.

 

6.

TREFNIADAU TÂN GWYLLT pdf eicon PDF 109 KB

I ystyried yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfarfod.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd yn gryno er mwyn egluro’r trefniadau gwaith sydd yn gysylltiedig a thân gwyllt.

Ategwyd yr Aelod Cabinet at hyn gan nodi mai pwrpas yr adroddiad oedd ymateb i rhybydd o gynnig a daeth o’r cyfarfod llawn o’r Cyngor.

Eglurwyd bod gofynion statudol yn ymwneud a gwerthiant tan gwyllt a storio’r tan gwyllt a pha mathau a chaniateir ynghyd a chyfyngiadau sŵn a cyfnodau gwerthiant sydd yn bodoli.

Mewn perthynas a rheoleiddio, nodwyd bod gan y Cyngor pwerau statudol yn ymwneud a sŵn, ond bod angen tystiolaeth wedi ei gasglu dros gyfnod. Nodwyd mai’r math o bethau sy’n cael eu cyfeirio at gyda than gwyllt yw defnydd anghymdeithasol yn fwy na sŵn cyffredinol.

Trafodwyd rôl y Cyngor er mwyn datrys hyn sef, cynnal ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth ar defnydd da, cydweithio a’r Gwasanaeth Tân, paratoi datganiadau i’r wasg, defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hybu ymarfer da (cyfeiriwyd at enghraifft yn atodiad 2). Eglurwyd bod y gyfraith yn cyfyngu ar allu’r Cyngor i newid rheolau ynghylch tan gwyllt.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

- Croesawyd yr adroddiad ac awgrymwyd bod angen diwygio’r cod tan gwyllt neu gosod cyfyngiadau ar trwyddedau arwerthwyr a canllawiau pellach iddynt er mwyn osgoi defnydd anghymdeithasol.

- Codwyd pryder bod effaith ar anifeiliaid ffarm sy’n arwain ar adegau at niwed i eiddo pan mae gwartheg yn cael eu dychryn.

- Gofynnwyd os fydd modd tynhau cyfyngiadau ar werthwyr fel bod y niwed yma i anifeiliaid fferm ac eiddo yn cael ei leihau.

- Ategwyd bod rhan fwyaf o drigolion yn dilyn y rheolau ac y lleiafrif sy’n anghymdeithasol ac yn eu difodd o ganol mis Hydref ymlaen ac nid ar ddiwrnod tan gwyllt yn unig.

- Gofynnwyd beth yw’r bwriad er mwyn symud ymlaen a hyn, ac oes adroddiad ychwanegol yn dod yn ôl i’r Pwyllgor. Awgrymwyd sefydlu is-grŵp i’w drafod sy’n cynnwys y Cynghorydd sydd wedi rhoi y rhybydd o gynnig ymlaen.

- Anghytunwyd yn aelod bod hyn y fater broblemus, ategwyd mai dim ond bod yn oddefgar am ychydig o wythnosau’r flwyddyn lle mae’r tan gwyllt yn digwydd sydd angen ar bobl.

- Ategwyd bod y tan gwyllt yn dod a llawer o hwyl i blant a phobl a bod sawl datrysiadau posib i perchenogion anifeiliaid anwes fel eu cadw yn tŷ neu defnyddio meddyginiaeth.

- Anghytunwyd a’r sylw uchod gan egluro bod tan gwyllt wedi datblygu erbyn hyn i fod llawer fwy swnllyd ac yn amharu ar bobl ar raddfa uwch.

Mewn ymateb i sylwadau’r aelodau, nodwyd:-

- Bod cynghori prynwyr cyn y digwyddiadau yn rhywbeth mae swyddogion yn ei wneud ers tro. Er mwyn gwella, nodwyd bod modd wella hyn o ran diwygio’r canllawiau ac hefyd o ran y berthynas sydd gennym efo’r gwerthwyr.

- Er mwyn mynd a’r adroddiad yn ei flaen, cytunwyd i adolygu’r ddarpariaeth a thrafod a’r Cynghorydd sydd wedi cyflwyno’r cynnig.

- Bod modd addasu a rhannu arfer da gyda gwerthwyr a defnyddwyr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

GWASANAETH GWARCHOD Y CYHOEDD pdf eicon PDF 200 KB

I ystyried yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(a)  Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfarfod.

(b)  Argymell i’r Cabinet ystyried edrych ar raddau cyflogau staff ar draws y Cyngor a sut maent yn cymharu â chyflogau cynghorau cyfagos.

 

Cofnod:

 

Rhoddwyd rhagair gan yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd yn nodi mai adroddiad i amlinellu gwaith pwysig yr adran Gwarchod y Cyhoedd yn ystod cyfnod y pandemig sydd gerbron yr aelodau heddiw. Ategwyd bod llawer iawn o waith cefndirol yn digwydd ac yn anaml y byddai pawb yn clywed am y gwaith hwn sy’n rhan bwysig o’r cyngor.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Adran Amgylchedd ac ategwyd diolchiadau'r Aelod Cabinet i’r holl staff yr adran. Aethpwyd ymlaen i nodi bod swyddogion a staff yn parhau i fod yn brysur â materion ynghylch Covid-19 ar ben eu dyletswyddau arferol sy’n ail gychwyn dros y cyfnod nesaf. Pwysleisiwyd bod y staff yn ymgymryd â’r cyfrifoldebau yma er eu bod yn gweithio gyda niferoedd staffio is o ganlyniad i ddegawd o doriadau.

Ategwyd bod y toriadau wedi arwain at ddiffyg gwydnwch o fewn yr adran bellach. Thynnwyd sylw at y math o doriadau sydd wedi bod, er enghraifft yn 2011/12 roedd 63 o swyddogion o fewn yr adran sydd bellach wedi disgyn at 42. Parhawyd i egluro effaith y toriadau sef bod galw mawr am swyddogion sydd a’r arbenigedd angenrheidiol ac yn cwrdd â gofynion y swydd.

Trafodwyd elfen arall sy’n ategu at ddiffyg gwydnwch o fewn yr adran, sef bod anghysondeb cyflogau’r swyddi ar draws y siroedd yng Ngogledd Cymru. Eglurwyd bod Cyngor Gwynedd gyda chyflogau is na siroedd eraill cyfagos a bod pryder y byddai swyddogion yn cael eu colli gan fod rhai eisoes wedi symud i swyddi mewn siroedd eraill.

Cyfeiriwyd at y datrysiadau i’r pwysau ar y gwasanaeth gan gynnwys penodi swyddogion newydd gan ddefnyddio arian o gronfa caledi. Parhawyd i drafod eu dyletswyddau cychwynnol sef ymgysylltu efo cymunedau, ysgolion a busnesau lleol. Eglurwyd y byddai’r swyddogion newydd yma gyda chyfleoedd i barhau fel technegwyr neu swyddogion parhaol i’r adran yn y dyfodol.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-

- Diolchwyd am yr adroddiad yn enwedig yn sgil newyddion am fathau gwahanol o Covid-19 sy’n ymddangos. Ategwyd y bydd Covid-19 yma am gyfnod ac mae angen cynllunio ar gyfer y tymor hir.

- Mewn perthynas â’r materion ynghylch cyflogau, gofynnwyd a ydi’r swyddi yn cael eu harfarnu i adlewyrchu’r nifer is o adrannau sydd erbyn hyn a’r llwyth gwaith ychwanegol. Ategwyd bod angen cryfhau’r adran gan fod datblygiadau newydd gyda’r pandmeig.

- Cytunwyd bod wir angen ail edrych ar y raddfa cyflogau os yw swyddogion talentog yn cael eu colli i siroedd sydd â chyflogau uwch am yr un swydd.

- Codwyd pryder ynghylch faniau bwyd symudol sy’n cynyddu yn ystod y cyfnod hwn ac os ydynt wedi derbyn y caniatâd cywir i weithredu, mewn perthynas ag hylendid bwyd.

- Datganwyd bod y toriadau swyddi wedi mynd yn rhy bell o fewn yr adran, ac o ganlyniad mae gwir angen recriwtio staff. Nodwyd o safbwynt cadw staff bod angen sicrhau cyflogau teg.

- Gofynnwyd pwy sy’n gyfrifol am gyflogi staff olrhain newydd yn sgil y niferoedd uchel sydd angen.

- Cydnabuwyd bod Cyngor Gwynedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.