Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y
Cynghorwyr Craig ab Iago, Louise Hughes, Tudor Owen, Nigel Pickavance, Caerwyn
Roberts a Mike Stevens |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 24.1.17 fel rhai cywir Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 24 01 2017 fel cofnod cywir o’r cyfarfod |
|
ADOLYGIAD CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY PDF 254 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig Ystyried adroddiad yr Aelod
Cabinet Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn
diweddaru’r Pwyllgor ar yr hyn oedd wedi ei weithredu ers i’r Aelod Cabinet
gyflwyno adroddiad ym Medi, 2017 yn gofyn i’r Pwyllgor gefnogi'r bwriad o
adolygu a pharatoi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy i Wynedd. Amlygwyd bod
Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i Awdurdodau Lleol yn egluro’r drefn
a’r camau sydd yn gosod arweiniad ynglŷn â gofynion statudol ac atodol. Tynnwyd sylw at yr
holiadur drafft oedd wedi ei atodi yn yr adroddiad. Pwrpas yr holiadur, oedd
wedi ei lunio gyda chefnogaeth y Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu, oedd casglu barn y
cyhoedd a charfanau penodol, am Hawliau Tramwy. Pwysleisiwyd hefyd y byddai’r Cynllun
yn cael ei baratoi ar y cyd gydag Awdurdod Y Parc cenedlaethol (Eryri) ac fe
amlygwyd yr egwyddorion cydweithio oedd wedi eu llunio. Gyda 3500km o rwydwaith
angen ei asesu cydnabuwyd bod y dasg yn un anodd ac felly yn ddibynnol ar
gefnogaeth eraill. b)
Mewn ymateb i’r holiadur, awgrymwyd yr angen i
gynnwys blwch ‘plant’ yng nghwestiwn C5 ‘Pa rai o’r canlynol fyddech yn mynd
efo chi?’ c)
Yn ystod y drafodaeth
nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Bod
diffyg arwyddion ar lwybrau ·
Rhaid bod yn ymwybodol o broblemau sydd yn codi
gyda thir feddianwyr. Awgrymwyd bod angen pwerau i sicrhau nad yw un person yn
cael effaith ·
Bod
angen sicrhau bod yr ANHE ac Uned Cefn Gwlad yn cyfrannu at y Cynllun ·
Bod mwy o fuddsoddiad mewn llwybrau mynyddig ac
arfordirol ·
Rhaid ystyried mabwysiadu polisi i warchod y tir
rhwng llwybrau arfordirol a’r môr a sicrhau bod pobl a thirfeddianwyr yn deall
eu sefyllfa ·
Diffyg
adnoddau yn sicr o godi pryderon cynnal a chadw llwybrau ·
Grantiau yn allweddol i’r gwaith cynnal a
chadw ·
Awgrym i gydlynu gwirfoddolwyr a ‘r
gwasanaethau ieuenctid - rhaid magu parch yn y gymuned at asedau lleol ·
Awgrym i hybu’r ap pathwatch ymysg staff -
effeithiol i rannu gwybodaeth Mewn ymateb i’r
sylw ynglŷn â grantiau derbyniwyd bod grantiau gwahanol ar gyfer cynnal
gwelliannau, ond yr amserlen ariannol yn mynd i orfodi rhaglen o
flaenoriaethau. Amlygwyd bod categorïau 1 - 5 wedi eu llunio i reoli'r adnoddau
ac awgrymwyd bod angen adolygu’r categorïau hyn. Amlygwyd hefyd bod bwriad gan
Lywodraeth Cymru i adolygu deddfwriaeth hawliau tramwy ac felly bydd
ymgynghoriad gyda chynigion ymarferol yn debygol o gael ei gyflwyno yn y
misoedd nesaf. PENDERFYNWYD: a)
Rhoddwyd cefnogaeth i’r Adran barhau gyda’r meysydd
gwaith sydd i’w gweithredu dros y 6 mis nesaf, sef ·
Parhau i gasglu gwybodaeth am gyflwr y rhwydwaith a
chychwyn y gwaith o ddadansoddi’r
wybodaeth. ·
Cydweithio gyda APCE i adnabod anghenion adnoddau. ·
Cydweithio gyda’r Uned Cyfathrebu / Ymgysylltu i
adnabod y dulliau gorau o ymgysylltu i gyrraedd y gynulleidfa ehangaf phosib.
Cwblhau’r holiadur a chynnal ymgynghoriad
cyhoeddus yn ystod Mai a Mehefin. ·
Parhau i werthuso'r CGHT blaenorol. ·
Edrych sut mae’r CGHT yn gorgyffwrdd a deddfwriaeth, cynlluniau a
pholisïau eraill. · Tuag at ddiwedd y cyfnod (oddeutu mis Medi) dechrau ar y dasg o gyrraedd casgliadau yn seiliedig ar y wybodaeth fydd i law ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ARGYMHELLION ADRODDIAD YMCHWILIAD CRAFFU TREFNIADAU CYNLLUNIO PDF 322 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig Ystyried Adroddiad
Ymchwiliad Craffu Cynllunio Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: a) Cyflwynwyd
adroddiad yr ymchwiliad craffu trefniadau cynllunio i’r Aelod Cabinet.
Atgoffwyd pawb beth oedd cefndir y briff a rhoddwyd crynodeb o’r gwaith a wnaed
gan y Cynghorydd Eric M Jones, Cadeirydd yr ymchwiliad. b) Ategodd yr Aelod
Cabinet ei ddiolch i’r aelodau am y gwaith da a wnaed o fewn cyfnod byr.
Trafodwyd yr argymhellion fesul un ac fe nodwyd y sylwadau canlynol gan yr
Aelod Cabinet: ·
Croesawyd yr awgrym am yr angen i aelodau ynghyd ag
aelodau cynghorau cymuned dderbyn hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth a
dealltwriaeth o gynnwys y Cynllun Datblygu Lleol (wedi iddo ei gymeradwyo) ·
Y byddai adolygiad Ffordd Gwynedd o’r gwasanaeth yn
cael ei weithredu pan fydd yr amserlen yn caniatáu ·
Derbyn yr angen i gynnwys / tynnu sylw penodol i
faterion economaidd o fewn adroddiadau Pwyllgor Cynllunio c) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Awgrym y dylid ystyried cyfarch amserlen, rhannu
ymarfer da a sylwadau cynllunio addas fel rhan o hyfforddiant cynghorau cymuned ·
Awgrym y dylid cynnwys sylwadau calonogol ynghyd a
niferoedd cwynion ·
Croesawu'r argymhelliad i gydweithio a hwyluso
trafodaethau gydag uned gwaith rheolaeth adeiladu’r Cyngor PENDERFYNWYD, derbyn yr adroddiad, a gwblhwyd mewn amser cymharol fyr,
cymeradwyo’r argymhellion a cheisio adroddiad yn ôl gan yr Aelod Cabinet mewn
tua 6 mis o’r hyn sydd wedi ei gyflawni yn dilyn yr argymhellion |
|
YMCHWILIAD CRAFFU GORFODAETH STRYD - DIWEDDARIAD PDF 200 KB Aelod Cabinet : Cynghorydd John Wynn
Jones Derbyn adroddiad
gan yr Aelod
Cabinet ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad gan
yr Aelod Cabinet yn rhoi diweddariad ar y gwaith oedd wedi ei weithredu ar yr
argymhellion a gyflwynwyd ym Medi 2016. Amlygwyd bod yr uned wedi ei
hailstrwythuro gyda gwaith y tîm wedi ei ail flaenoriaethu i adlewyrchu lleihad
yn nifer staff yr Uned. Nodwyd bod y toriadau wedi bod yn anodd, ond bod y
staff wedi ymateb yn dda. Rhoddwyd diweddariad ar yr holl argymhellion a
gofynnwyd i’r Aelodau ystyried cynnal ymchwiliad craffu o’r newydd i geisio
datrys y dulliau gorau o symleiddio'r drefn o rannu gwybodaeth am gasgliadau
sbwriel. Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol: ·
bod y ‘Gangiau Cymunedol’ i gyd wedi mynd o
ganlyniad i Her Gwynedd ·
Lleihad mewn gwasanaethau ac felly derbyn bod angen
cyflwyno dulliau gwahanol o ymdrin â gorfodaeth stryd ·
Y dylai pobl sydd yn taflu sbwriel a baeddu
strydoedd dalu dirwy i gynnal gwasanaethau ·
Y Rhybudd o Gynnig a fu gerbron y Cyngor am y rhai
sydd yn creu llanast trwy osod ei sbwriel allan ar y diwrnod anghywir neu yn y
ffordd anghywir a’r angen i edrych ar hynny ymhellach ·
Rhaid addysgu pobl ac ystyried pobl fregus os am
gyflwyno trefniadau newydd ·
Cefnogaeth gan Cadw Cymru’n Daclus a Swyddogion y
Cyngor wedi bod yn llwyddiannus iawn e.e., ymgyrchoedd casglu sbwriel cymunedol ·
Angen ystyried myfyrwyr lefel ‘A’ sydd yn cwblhau
BAC i wirfoddoli ynghyd a Chlybiau Ieuenctid (Guides, Brownies a Rainbows) sydd yn cwblhau bathodynnau
gwirfoddoli. Awgrym hefyd i ddefnyddio’r
Gwasanaeth Prawf. ·
Rhaid lliniaru materion Iechyd a Diogelwch i hwyluso
trefniadau gwirfoddolwyr ·
Croesawu'r gwaith sydd yn cael ei wneud yn yr
ysgolion ·
Pwysig codi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth yn
amserol os am gyflwyno newidiadau b) Gofynnodd yr Aelod Cabinet i’r Aelodau annog pobl i
fanteisio ar ymgyrchoedd Cadw Cymru’n Daclus Diolchwyd am y wybodaeth ac anfonwyd
dymuniadau am wellhad buan i Peter Simpson, Rheolwr Gorfodaeth Stryd. PENDERFYNWYD: ·
Bod y Pwyllgor yn
hapus gyda’r hyn oedd wedi ei weithredu hyd yma ·
Bod yr adran yn
paratoi ymlaen llaw ar gyfer cyfathrebu gydag Aelodau a’r cyhoedd cyn i’r
cyfnod treialu gyda cwmni allanol ddechrau ·
Bod angen rhannu
newyddion da a pharhau gyda’r gwaith o godi ymwybyddiaeth ·
Cynnwys y cais am
ymchwiliad craffu ar orfodaeth pan fo rhywun yn mynd yn groes i’r trefniadau
casglu ar restr o ymchwiliadau posib er ystyriaeth gan y Cyngor newydd |