Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Glyn Daniels,
Aled W Jones, Berwyn Parry Jones, Keith Jones, Linda Morgan, Gethin Glyn
Williams a Gareth Griffith (Aelod Cabinet
YGC) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 14eg Mehefin
2018 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar
14.6.2018 fel cofnod cywir o’r cyfarfod. |
|
Y GWASANAETH SYDD YN CAEL EI DDARPARU GAN YR UNED SAFONAU MASNACH (GWARCHOD Y CYHOEDD) PDF 450 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig I ystyried adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Adran yr Amgylchedd yn amlinellu
gweithgareddau a chyfrifoldebau'r Uned Safonau Masnach sydd yn rhan o’r
Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd. Rhoddwyd disgrifiad cryno o natur gwaith yr
Uned. Amlinellwyd y newidiadau y mae’r
Uned wedi eu goroesi dros y blynyddoedd diwethaf ynghyd a’r heriau sydd yn ei
hwynebu. Nododd yr Uwch Reolwr nad oedd meysydd gwaith yr Uned wedi eu trafod
mewn Pwyllgorau ers yn debyg cyfnod traed a genau ac felly'r adroddiad yn gyfle
da i godi ymwybyddiaeth o feysydd gwaith a dyletswyddau statudol yr Uned sydd
yn cefnogi busnes ac amaeth y Sir. Amlygodd bod llawer o’r meysydd yn rhai
arbenigol gydag amrywiaeth eang yn y meysydd hynny. Gwnaed cais i’r Pwyllgor
ystyried beth oedd blaenoriaethau Cyngor Gwynedd - Safonau Masnach (pur) ynteu
Iechyd a Lles Anifeiliaid. Ategodd mai crafu’r wyneb yn unig y mae'r Gwasanaeth
yn ei wneud ar hyn o bryd drwy geisio balans
rhwng gwaith adweithiol a gwaith rhagweithiol. Hyd yma, nid oedd cwynion wedi
dod i law ac felly'r gwaith yn mynd rhagddo, ond eto yn amlygu risg anochel petai rywbeth yn mynd o’i le Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Bod
toriadau mewn nifer staff wedi bod yn ormodol ·
Bod
angen mwy o wybodaeth ar berfformiad yr Uned hynny yw, a yw’r gwasanaeth yn
cyfarch y gofynion statudol ·
Cydnabod
bod y swyddogion yn gwneud eu gorau a bod yr adnoddau yn rhy isel ·
Bod yr
adroddiad yn amlygu gwerthoedd elfennol mewn gwarchod lles pobl ac anifeiliaid ·
Bod
angen cydweithio gyda phartneriaid ·
Bod
angen ystyried effaith Brexit ar fyd amaeth
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag effaith y toriadau a sut byddai’r
Uned yn osgoi methiannau, amlygodd yr Aelod Cabinet bod yr Uned yn ymdopi ond
wedi gorfod addasu eu ffordd o weithio. Mynegodd bod y sefyllfa gyfredol yn
ddigonol ond nad oedd eisiau gweld cwtogiad pellach yn y maes. Gyda’r angen am
staff arbenigol ar draws y maes i osgoi risgiau i’r Cyngor, rhaid i’r gwaith
gael ei wneud yn gywir ac er yn ymdopi, mae’r gwasanaeth yn colli gwydnwch. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â nifer y ceisiadau am wasanaeth (1766),
nodwyd nad oedd pob cais yn cael ei ddatrys
a bod rhaid i’r Uned flaenoriaethu. Mynegodd Rheolwr Gwarchod Y Cyhoedd (Masnach) bod dylanwadau
cenedlaethol hefyd yn heriol ac anodd yw cadw balans.
Nododd bod yr Uned yn cydweithio gyda’r Heddlu, RSPCA, DEFRA, Milfeddygon ac
eraill, drwy ganolbwyntio ar roi cyngor cyn troseddu a sicrhau nad yw safonau
cyffredinol yn disgyn. Ategodd nad oedd
gan yr Uned bwerau gorfodaeth ac
mai’r unig ffioedd oedd yn cael eu gosod oedd pwyso a mesur. Cynigiwyd ac eiliwyd i
dderbyn yr adroddiad PENDERFYNWYD: - cydnabod
y gwaith ardderchog roedd yr Uned yn ei wneud - gwneud
cais am adroddiad manylach fyddai yn cynnwys data perfformiad yr Uned (i’w gynnwys ar raglen waith y
Pwyllgor 2018/19) |
|
Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig I ystyried adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn adrodd ar y cynnydd a wnaed
i gyfarch 34 argymhelliad a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn
dilyn ymchwiliad o ddarpariaeth
gorfodaeth cyfraith bwyd y Cyngor. Adroddwyd ar y cynnydd a wnaed i gwrdd â’r
argymhellion yn unol â’r cynllun ym mhwyllgor Craffu Cymunedau 10.10.17. Yn Chwefror 2018 bu i swyddogion
yr ASB ail ymweld â’r Gwasanaeth i asesu
cynnydd pellach ar y cynllun gwella. Adroddwyd bod 20 o’r argymhellion yn parhau
i fod ag angen gweithrediad pellach. Adroddwyd bod y Gwasanaeth wedi
cymryd camau sylweddol i gwrdd â’r 34 argymhelliad oedd yn deillio o archwiliad
llawn yr ASB o ddarpariaeth gorfodaeth cyfraith bwyd y Cyngor ym mis Chwefror
2016. Wedi eu hail ymweliad yn Chwefror 2018, cafwyd cadarnhad bod y Gwasanaeth
wedi cwrdd â chyfran o’r argymhellion, ei bod wedi gwneud cynnydd da ar rai
argymhellion ond bod cynnydd cyfyngedig neu ddim cynnydd wedi bod i gwrdd â 4
argymhelliad. Cydnabuwyd nad oedd, yn unol â rhai
o’r argymhellion, adnodd digonol i gwrdd â gofynion gorfodaeth cyfraith bwyd
fel y mynnir gan Lywodraeth Cymru. Mewn adroddiad i’r Cabinet (Gorffennaf 2018)
amlinellwyd pwysigrwydd y gwasanaeth o ran y gofynion statudol, natur y gwaith
a’r risgiau posib i drigolion Gwynedd a’r Cyngor o beidio cydymffurfio gyda’r
gofynion. O ganlyniad cytunodd y Cabinet i’r Adran Amgylchedd ddefnyddio incwm
(blynyddol) o £70,000 o’r Gwasanaeth
Trafnidiaeth a Chefn Gwlad, oedd yn
flaenorol wedi ei adnabod fel cyfraniad at gynllun arbedion y Cyngor, ar gyfer cyflogi swyddog/ion
o’r newydd ar delerau parhaol yng
Ngwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd. Wedi penodi ac yn dilyn cyfnod o gyfanheddu /
hyfforddi disgwylir y bydd hyn yn caniatáu, ymhen amser, i’r Gwasanaeth gwrdd
â’u goblygiadau gorfodaeth cyfraith bwyd yn unol â'r Cytundeb Fframwaith Diogelwch
Bwyd Cenedlaethol. Yn y cyfamser,
nodwyd y byddai’r Gwasanaeth yn parhau i gwblhau’r gwelliannau a nodwyd yn y
cynllun gwella i gwrdd yn llawn a’r 34 argymhelliad gwreiddiol. Ategwyd
oherwydd ôl groniad hanesyddol archwiliadau diogelwch bwyd bydd angen amser i’w
cwblhau. Dengys bod 290 o archwiliadau a ddylid fod wedi eu cwblhau erbyn
diwedd Mawrth eleni dal yn ofynnol. Os bydd y broses benodi yn llwyddiannus
disgwylid y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn 2021 fan bellaf. Yn ystod y drafodaeth ddilynol,
amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Da
gweld cynnydd, ond pryder bod 2 flynedd a hanner wedi pasio a bod 20
argymhelliad angen gweithrediad pellach. Angen gweld cynnydd pellach ·
Bod
diffyg y Cyngor i gyrraedd y gofynion statudol yn risg sylweddol ·
Nad yw
diffyg adnoddau yn ddigon o esgus ·
Rhaid
parhau i gyrraedd targedau ·
Bod
effaith y toriadau yn weledol erbyn hyn – hyn yn dystiolaeth bod toriadau
gormodol wedi bod yn gamgymeriad ·
Pam nad oedd cais am gefnogaeth ariannol wedi ei
wneud i’r ASB o fewn y ddwy flynedd a hanner i gyfarch y diffyg adnodd? ·
Derbyn
bod cynnydd yn llwyth gwaith a bod swyddogion yn gorfod rhoi mwy o ymdrech ·
Bod
gofynion statudol angen eu blaenoriaethu Mewn ymateb i gwestiwn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
GWEITHREDU SYSTEMAU DRAENIO CYNALIADWY AR DDATBLYGIADAU NEWYDD PDF 593 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith I ystyried adroddiad Pennaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Ymgynghoriaeth Gwynedd yn amlygu
goblygiadau i’r Cyngor a datblygwyr drwy weithredu Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli
Llifogydd a Dŵr 2010. Yn unol â'r
Ddeddf rhaid i ddatblygiadau newydd gynnwys nodweddion Systemau Draenio Cynaliadwy
(SDC) sy’n bodloni safonau cenedlaethol. Nodwyd bod hi’n ofynnol i bob Awdurdod Lleol sefydlu corff fydd yn
derbyn, cymeradwyo, mabwysiadu a gorfodi nodweddion SDC, yn unol â’r Rheoliadau
newydd - sef y Corff Cymeradwyo Systemau
Draenio Cynaliadwy (CCS). Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Bod
pwysau a chostau cynyddol ar ddatblygwyr ·
Bod y
costau yn ychwanegu at bris gwerthiant tai ac felly dim modd gwneud tai yn
fforddiadwy ·
Bod hwn
yn ofyn statudol pellach ar yr Awdurdod heb gyllid ychwanegol ·
Bod
angen sicrhau trefniadau da a thryloyw ynghyd a chreu perthynas dda gyda
datblygwyr Mewn ymateb i gwestiwn a fydd y gwasanaeth yn hunangynhaliol amlygodd y swyddogion
ei bod yn hyderus y gall weithio. Gyda bwriad o weithio ar y cyd gyda Môn ategwyd
er bod y ffioedd yn annelwig ar hyn o bryd byddai angen nifer o geisiadau i sicrhau
llwyddiant. Amlygwyd bod proses ymgynghori wedi cymryd lle a bod costau i ddatblygwyr
llai wedi ei adnabod. Ychwanegwyd bod angen sicrhau bod y datblygwr yn gyfrifol
am gostau cynnal a chadw gan nad oes arian ychwanegol ar gael. Adroddwyd bod
arian sefydlu'r corff yn doriad o £29k oedd heb ei gyflwyno (fydd ar gael am
dair blynedd). Dadleuwyd bod hyn yn ddigonol ar gyfer sefydlu trefn i finiogi
ac uchafu potensial i wneud i’r drefn weithio. Bydd rhaid i’r arian fod yn
ddigonol i ddiwallu anghenion. Adroddwyd bod gan y Gwasanaeth arbenigedd o fewn
y maes ac felly’n debygol o ymdopi gyda’r gwaith ychwanegol ynghyd ag arwain ar
draws y Gogledd. Byddai hyn yn gosod Gwynedd mewn sefyllfa gref. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r effaith ar amserlen ceisiadau
cynllunio, nodwyd bod y broses yn adlewyrchu trefn cynllunio. Ategwyd bod y
ddwy drefn yn dod o dan ddwy ddeddf wahanol ac er nad ydynt yn ddibynnol ar ei
gilydd, bydd angen y ddau drefniant yn ei lle cyn dechrau adeiladu. Y bwriad yw
dechrau Ionawr 2019. Cynigiwyd ac
eiliwyd i dderbyn y wybodaeth a gwnaed cais am adroddiad cynnydd ymhen 18 mis PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod bod diffyg
arian ar gyfer sefydlu corff i orfodi nodweddion SDC. Gwnaed cais i’r
Gwasanaeth ddarparu diweddariad / adroddiad cynnydd ymhen 18 mis |
|
YMCHWILIAD CRAFFU CYNLLUNIO A'R IAITH GYMRAEG PDF 73 KB I dderbyn diweddariad ar yr ymchwiliad Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
diweddariad ar yr ymchwiliad ynghyd ag amserlen ddiwygiedig oedd yn ymestyn y
camau hyd at Mai 2019. Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn y diweddariad PENDERFYNWYD DERBYN Y DIWEDDARIAD |