skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Keith Jones, Linda Morgan a Catrin Wager

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr aelod canlynol fuddiant personol, yn yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir:

 

·         Y Cynghorydd Annwen Hughes yn eitemau 8  ar y rhaglen oherwydd bod ei mab yn denant ar 3 Morfa Mawr, Llanbedr

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr          yn ystod y drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 85 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11eg Hydref 2018 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 10.10.2018 fel cofnod cywir o’r cyfarfod.

 

 

5.

DIWEDDARIAD BLYNYDDOL GAN Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL (GWYNEDD A MÔN) pdf eicon PDF 112 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Nia Jeffreys

 

Ystyried  adroddiad ar ddatblygiad strategol y bartneriaeth gan Reolwr Cyflawni Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr Cyflawni Partneriaeth Diogelwch Cymunedol  Gwynedd ac Ynys Môn yn diweddaru’r Pwyllgor ar faes gwaith y Bartneriaeth. Eglurwyd bod gofyn i’r Bartneriaeth adrodd yn ffurfiol i’r Pwyllgor yn flynyddol i gyflwyno trosolwg o brif ddatblygiadau strategol y Bartneriaeth dros y flwyddyn ynghyd a’r gwaith comisiynu sydd yn gosod fframwaith i’r blaenoriaethau. Ategwyd bod hyn yn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cyflawni ei hymrwymiadau yn unol ag adrannau Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2006, drwy gydweithio gyda’r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Tân ac Achub.

 

Tynnwyd sylw at y prif negeseuon oedd yn deillio o weithgarwch 2017/2018 ynghyd a phrif lwyddiannau’r flwyddyn. Cyfeiriwyd at holiadur oedd wedi ei rannu gyda’r cyhoedd i ddweud eu dweud am drosedd yn eu cymunedau. Dadansoddwyd y 987 ymateb a dderbyniwyd ac amlygwyd bod Gwynedd yn un o’r Siroedd mwyaf saff yng Nghymru.

 

Amlygwyd y prif gerrig milltir ar gyfer 2017 – 2018 a gofynnwyd i’r Pwyllgor Craffu gefnogi’r blaenoriaethau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ynghyd â chyfeiriad y gwaith i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnydd o 13.3% yn y troseddau sy’n seiliedig ar ddioddefwyr yng Ngwynedd, dengys y dadansoddiad mai cynnydd yn effeithlonrwydd y broses o gofnodi'r troseddau yw hyn yn hytrach na chynnydd yn y nifer troseddau. Ategwyd bod y newidiadau i’r broses o gofnodi rhai achosion, megis stelcio ac aflonyddu wedi cyfrannu at y cynnydd oherwydd bellach maent yn cael eu cofnodi fel achosion perthnasol yn hytrach nac fel un achos. Nodwyd hefyd bod cynnydd yn y nifer o bobl sydd yn dod ymlaen i adrodd ar droseddau.

 

            PENDERFYNWYD

·         derbyn yr adroddiad

·         cefnogi blaenoriaethau a chyfeiriad gwaith y Bartneriaeth i’r dyfodol.

 

6.

TREIAL GORFODAETH STRYD pdf eicon PDF 51 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith

 

Ystyried adroddiad Pennaeth Priffyrdd a Bwrdesitrefol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn rhoi diweddariad ar y treial gorfodaeth stryd gan adrodd y byddai’r Gwasanaeth yn cyflwyno argymhelliad pellach ar y ffordd ymlaen er mwyn ceisio gwella’r ddarpariaeth i bwrpas sicrhau glendid ac edrychiad strydoedd Gwynedd.

 

Yn dilyn cais gan y Pwyllgor Craffu i’r Gwasanaeth edrych ar opsiynau posib i newid ymddygiad y cyhoedd fyddai’n arwain at wella ansawdd yr amgylchedd lleol a glendid strydoedd, rhoddwyd adborth ar 3 opsiwn posib a’r camau yr oedd y Gwasanaeth wedi ei gymryd i geisio ffordd ymlaen.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         cosbi trefol yn llawer haws na chosbi yng nghefn gwlad

·         bod angen cynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ac addysgu

·         sbwriel traethau – creu ardaloedd gorfodaeth

·         ystyried camerâu cudd ar safleoedd biniau cymunedol

 

Nododd yr Aelod Cabinet ei fod yn derbyn y sylwadau ynglŷn â phroblemau cosbi yng nghefn gwlad ac ategodd bwysigrwydd addysgu plant ar lefel cynradd drwy amlygu parch   at eu hamgylchedd.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â bod rhai gweithwyr casgliadau sbwriel yn frysiog ac yn flêr, amlygwyd bod y Gwasanaeth yn edrych ar gyflwyno trefniadau casglu sbwriel newydd gyda threfn shifft 37 awr a chael un tîm yn gyfrifol am yr un cylchdeithiau wythnosol. Disgwylir y byddai’r gweithwyr yn cael mwy o berchnogaeth o’r gylchdaith ynghyd a gwell dealltwriaeth o anghenion trigolion.  Bydd trafodaethau gyda’r Undebau yn cael eu             cynnal cyn y Nadolig gyda bwriad o gyflwyno’r trefniadau yn Nwyfor Chwefror 2019, Meirionnydd Gorffennaf 2019 ac Arfon Chwefror 2020. Cytunwyd cyflwyno adroddiad / diweddariad ar  yr effaith Hydref 2019

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut fydd y Gwasanaeth yn monitro defnydd camerâu gan y staff morwrol, adroddwyd byddai popeth yn cael ei gopïo i system gefn yn y swyddfa fel bod modd monitro pob sefyllfa pan fyddai’r camerâu ymlaen. Ategwyd bod         canllawiau yn cael eu darparu a pholisi gweithredu ar y gweill. Nodwyd hefyd bod y   camerâu yn rhoi mwy o hyder i’r swyddogion gyflwyno cosb.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynlluniau’r gwasanaeth am y 6 mis nesaf, nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal am waith y gellid ei wneud ar y cyd gydag    awdurdodau eraill. Ategwyd, ers i amryw o awdurdodau’r gogledd ddirwyn eu cytundebau gyda chwmnïau allanol i ben, bod cyfarfodydd rhanbarthol wedi eu cynnal i ystyried sut i gynnal y math yma o wasanaeth, rhannu adnoddau a chodi ymwybyddiaeth. Nodwyd nad oedd pob awdurdod yn cytuno gydag un drefn, ond bod y mwyafrif yn ffafrio darpariaeth fewnol. Eglurwyd bod rhai eisoes gyda chynlluniau i’w cyflwyno i’r Cabinet. Byddai cydweithio ar draws y Gogledd yn gwella cysondeb yng nghyd-destun   dirwyon.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â deddfau gwahanol gan Gymru a Lloegr yn ymwneud a thaflu sbwriel allan drwy ffenest y car, nodwyd bod Lloegr gyda threfniant mai perchennog y cerbyd sydd yn derbyn cosb, ond yng Nghymru rhaid adnabod y person sydd yn taflu’r sbwriel. Ategwyd bod Cymru wedi dechrau ar y broses o gyflwyno  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

MATERION CYNLLUNIO PLAS PISTYLL, PISTYLL, PWLLHELI pdf eicon PDF 84 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Adran Amgylchedd yn ymateb i bryderon ynglŷn     â’r broses dirprwyo yng nghyd-destun penderfyniadau oedd yn ymwneud a Phlas Pistyll.         Yn gynwysedig yn yr adroddiad cafwyd hanes cynllunio manwl y cais ynghyd a         Chynlluniau Dirprwyo Cynllunio cyfredol a blaenorol Gwynedd. Nododd yr Aelod Cabinet ei fod wedi comisiynu darn o waith i gasglu gwybodaeth fyddai’n ymateb i’r         anhapusrwydd lleol a’r diffyg dealltwriaeth o sut cafodd y penderfyniad ei wneud gyda      phwrpas mewn darganfod os oedd y drefn dirprwyo wedi ei dilyn yn briodol.

 

            Amlygwyd y pwyntiau cychwynnol gan Aelod unigol:

·         bod addasiadau a newidiadau sylweddol i’r hyn a gytunwyd yn 2012 wedi cael ei gwneud o dan y drefn ddirprwyo.

·         dylai cais o’r newydd fod wedi ei gyflwyno yn 2016 oherwydd addasiadau i faint, uchder a dyluniad y cynllun

·         gan fod natur y newidiadau yn fwy nag sy’n rhesymol, dylai’r penderfyniad fod wedi cael ei alw i mewn i bwyllgor Cynllunio

·         bod y safle yn un sensitif ac o fewn tirweddau sydd angen eu gwarchod

·         bod yr addasiadau wedi cythruddo trigolion ac aelodau lleol

·         Swyddogion yn unig sydd ddim yn gweld yr effaith

·         Pwy sydd â hawl i addasu a diffinio beth yw ‘minor impact’?

 

            Mewn ymateb, nododd y Cadeirydd nad oedd bwriad ail agor y cais cynllunio        ond bod angen ceisio gwersi i’w dysgu o’r sefyllfa. Ategwyd bod angen       i’r         adran Cynllunio           gyfiawnhau eu bod yn hapus gyda’r drefn gan      gadarnhau bod y trywydd cywir wedi ei         ddilyn ac os yw’r cynllun dirprwyo             yn cyfarch yr heriau.

 

Ategodd y Swyddog Monitro’r sefyllfa gyfansoddiadol i’r aelodau gan adrodd bod y trefniadau wedi eu dilyn yn unol a’r rhiniogau yn y Cynllun Dirprwyo oedd yn berthnasol ar y pryd. Nodwyd bod y cais a gyflwynwyd yn 2016 yn gais i ddiwygio amodau oedd yn cynnwys lleihau’r nifer o unedau ac addasu’r dyluniad - nid oedd egwyddor y datblygiad felly yn cael ei ystyried wrth benderfynu’r cais  ac nid oedd yn cwrdd â’r rhiniogau perthnasol ar gyfer adrodd ar y math yma o ddatblygiad i’r Pwyllgor Cynllunio.

 

            Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelod          Lleol:

·         Derbyn bod y drefn ‘dechnegol’ wedi ei dilyn, ond yng ngoleuni ardrawiad sylweddol i’r cynllun, oni ddylai ‘clychau fod wedi canu’?

·         Oni ddylai moesoldeb y sefyllfa wedi cael ei hystyried?

·         Cyngor Cymuned wedi derbyn llythyr yn eu cyfeirio at y wefan yn rhoi gwybodaeth am ‘fan newidiadau’ i’r cais

·         Yr adroddiad yn hunangyfiawn

·         Onid yw rhiniog megis ‘cais y mae’r Pennaeth Amgylchedd yn ei ystyried y dylid ei gyfeirio at Bwyllgor’ yn berthnasol yn yr achlysur yma?

 

            Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd Pennaeth yr Amgylchedd fod ganddo gydymdeimlad            gyda phob barn oedd wedi ei derbyn, yr effaith ar y           gymuned a hanes y cais. Ategodd     bod yr adroddiad yn cyfeirio at  y drefn       roedd y swyddogion wedi ei ddilyn i gyrraedd eu      penderfyniad. Nododd,           oni bai bod negeseuon lleol yn cael eu rhannu gyda swyddogion          nad oedd         modd deall ‘teimladau’ a barn trigolion lleol. Nodwyd bod cynllunio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

STAD MANDDALIADAU CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 79 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Ystyried adroddiad Uwch Reolwr Eiddo

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Eiddo yn manylu ar egwyddorion rheoli stad man ddaliadau y Cyngor. Nodwyd, yn 2008, bod adolygiad cynhwysfawr wedi ei       gynnal i edrych ar bwrpas y stad, ei pherfformiad ariannol a‘r trefniadau rheoli. Gyda      degawd wedi mynd heibio ers yr adolygiad, ystyriwyd mai amserol fyddai ail ymweld a’r             maes a chadarnhau’r rhesymeg sydd yn cefnogi pwysigrwydd parhau i ddarparu man ddaliadau yn y Sir.

 

Adroddwyd bod swyddog o fewn yr Uned Stadau wedi ei rhyddhau i gynorthwyo gyda      gwaith rheoli man ddaliadau’r Cyngor sydd wedi galluogi’r uned i roi mwy o sylw i       faterion ynglŷn a chynyddu incwm rent a delio gyda nifer o faterion cytundebol oedd  yn disgwyl sylw. Ategwyd mai trefniant dros dro yn unig oedd yr adnodd a’i fod ar draul            perfformiad ym meysydd gwaith eraill yr Uned Stadau.

 

Atgoffwyd yr aelodau mai Aelod Cabinet Amgylchedd sydd ar cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau gweithredol rheoli man ddaliadau gyda phaneli ymgynghori wedi eu           sefydlu i gynorthwyo gyda materion megis gosod daliadau gwag neu ddirwyn   tenantiaethau i ben. Amlygwyd bod panel ar gyfer Meirionnydd a phanel ar gyfer            Dwyfor.

 

Nodwyd bod sefyllfa ariannol y stad wedi newid yn sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf a bellach bod y stâd yn hunangynhaliol - yn creu incwm i’r Cyngor uwchlaw costau        rhedeg. Ategwyd pe byddai dymuniad i ail fuddsoddi yn y stad byddai hynny yn arwain at         yr angen i ddarganfod arbediad cyfwerth mewn maes arall. Pe byddai’r incwm yn     cynyddu yn y dyfodol (drwy adolygiadau rhent neu drosglwyddo i delerau newydd o dan y          cytundebau modern) gellid ystyried clustnodi’r swm ychwanegol i’w ail fuddsoddi yn y             stad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau unigol:

·         Bod yr adroddiad / diweddariad hir ddisgwyliedig i’w groesawu

·         Bod man ddaliadau yn cyfrannu at gadw pobl ifanc yn ein cymunedau gwledig gan roi cyfle iddynt weithio yn y byd amaeth

·         Awgrym i gadw yr adnodd staff a chadw’r elw fel bod gwariant yn cael ei ail fuddsoddi ar welliannau. Rhai o’r tai mewn cyflwr difrifol.

·         Ystyried targedu rhai o’r tai sydd angen llawer o waith gwella

·         Awgrym i sefydlu un panel ar draws y Sir gan sicrhau arbenigedd amaethyddol

·         Os oes cais i’r tenant fuddsoddi yn yr adeiladau rhaid rhoi mwy o sicrwydd na 5 mlynedd i’r tenant

·         Awgrym i osod y tiroedd

·         Bod angen cytuno cylch gorchwyl a chynnal trafodaethau i flaenoriaethu gwariant

·         Awgrym i sefydlu cwmni hyd braich i ddenu arian cyfalaf / grant fel ffordd ymlaen i wella a moderneiddio safonau. Nid yw rheoli man ddaliadau yn ofyn statudol ac felly mae sicrhau bod y stad yn hunangynhaliol yn hanfodol.

·         Gyda gosod ymddeoliad oed pendant o 65 rhaid adolygu’r cymal yma fel bod modd sicrhau bod y tenant yn cael cyfle i wneud cynllun busnes a chyd-fynd gyda gofynion cyfreithiol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a chanllawiau caeth ar gyfer gofynion statudol safonau   tai, nodwyd bod cyfrifoldeb statudol ar yr adran eiddo i gwrdd âr gofynion hyn. Ategwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.