Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Glyn Daniels,
Elwyn Edwards, Keith Jones ac
Annwen Hughes |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 13 Rhagfyr
2018 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 13.12.2018
fel cofnod cywir o’r cyfarfod. |
|
GWEITHREDU IS-DDEDDFAU DRAENIO TIR PDF 57 KB Ystyried cymeradwyo is-ddeddfau i’w mabwysiadu gan y Cyngor Llawn. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Brif Beiriannydd Ymgynghoriaeth Gwynedd yn
manylu ar gefndir a phwrpas llunio
cyfres newydd o is-ddeddfau fyddai’n cynorthwyo’r Awdurdod Lleol i atal llifogydd a rheoli
gweithgareddau ar hyd dyfrffosydd cyffredin yn fwy effeithiol a chyson. Eglurwyd bod hyn mewn ymateb
i’r Cynghorau yng Nghymru yn derbyn pwerau
a chyfrifoldebau ychwanegol i reoli llifogydd a dŵr wyneb o dan Ddeddf
Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
Cyfeiriwyd at yr is-ddeddfau newydd oedd ynghlwm â’r adroddiad ac ategwyd eu bod wedi eu cynllunio i
weithio ochr yn ochr â’r fframwaith rheoleiddio presennol a ddarparwyd o dan Ddeddf Draenio Tir 1991 a Deddf
Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
Nodwyd na fyddai mabwysiadu’r is-ddeddfau yn cael effaith ar lefel staffio presennol yr Uned. Amlygwyd bod cyfnod o
ymgynghori cyhoeddus wedi ei gynnal rhwng 15fed o Dachwedd a 13eg o Ragfyr 2018, ac ni
dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan y cyhoedd. Ynghyd â chynorthwyo’r
Awdurdodau Lleol i atal llifogydd a mynd i’r afael a’r peryglon mwyaf difrifol amlygwyd bod yr is-ddeddfau,
drwy addasu geirfa ac amlinellu’r math o weithgareddau
sydd dan sylw, o lês i’r amgylchedd yn gyffredinol. Drwy wneud hyn byddai’r is-ddeddfau o fudd i feysydd eraill
ym myd gwaith Llywodraeth Leol ac yn gymorth
i wireddu amcanion deddfau eraill sydd yn cynnwys Cyfarwyddeb y Fframwaith Dŵr a Chyfarwyddeb y Cynefinoedd. Nodwyd mai bwriad yr
adroddiad oedd i aelodau’r Pwyllgor Craffu asesu’r is-ddeddfau newydd ac argymell i’r Cyngor Llawn eu
mabwysiadu’n ffurfiol. Yn dilyn penderfynia dy Cyngor
ar y 7fed o Fawrth 2019, bydd datganiad polisi yn cael ei lunio yn amlygu sut byddai’r is-ddeddfau yn cael eu gweithredu a beth fydd
y newidiadau. Diolchwyd am yr
adroddiad. Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â’r hyn sydd yn cael i gario lawr yr afonydd amlygwyd mai sylwadau am risgiau llifogydd fydd yn cael
eu hystyried. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â gwarchod anifeiliaid maes, amlygwyd mai cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw gwaith cynnal a chadw Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â’r broses ymgynghori nodwyd bod Ymgynghoriaeth Gwynedd wedi dilyn canllawiau ymgynghori
Llywodraeth Cymru ac felly heb gysylltu yn uniongyrchol
gyda datblygwyr oherwydd eu bod yn derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried hyn. Ategwyd y byddai ymgynghori
gyda’r datblygwr yn cael ei ystyried yn ystod
y drefn cynllunio lle bydd Swyddogion yr Uned Dŵr ac Amgylchedd yn cynnig sylwadau ar geisiadau. Mewn sylw
pellach ynglŷn ag ymgynghori gydag Undebau Amaeth nodwyd eto bod Ymgynghoriaeth Gwynedd yn tybio bod
Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn. Mewn ymateb i sylw
ynglŷn ag effaith y cyfrifoldebau ychwanegol ar lwyth gwaith a lefelau staffio'r Uned Dŵr ac
Amgylchedd, nodwyd, drwy weithio yn rhesymol a synhwyrol
ni ystyriwyd y byddai angen adnodd ychwanegol. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Bod angen hysbysu pobl o’r newidiadau gan
amlinellu’r amser y bydd yr is-ddeddfau yn dod i rym ·
Bod angen caniatâd i blannu coed yn gam rhy bell
(Pennod 3 (9) · Bod angen gofyn i Lywodraeth Cymru ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
STRATEGAETH TOILEDAU LLEOL PDF 381 KB I ystyried yr adroddiad a rhoi cyfle i Aelodau’r Pwyllgor i graffu’r
Drafft Strategaeth Toiledau Lleol a chynnig unrhyw adborth cyn mynd gerbron y
Cabinet. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yn diweddaru’r Pwyllgor ar effaith y toriadau ar
doiledau cyhoeddus y Sir a chynlluniau
sydd gan y Gwasanaeth i’r dyfodol drwy ddatblygiad y strategaeth arfaethedig fydd i’w mabwysiadu a’i chyhoeddi erbyn 31
Mai 2019. Nodwyd, yn dilyn
penderfyniad Her Gwynedd i gyflawni toriad o £244,000 yn y gwasanaeth drwy wireddu’r Cynllun
Partneriaethau gyda Chynghorau Cymuned a Thref bod
y Cyngor wedi llwyddo i gadw hyd at 63 o
doiledau ar agor yn y Sir. Ategwyd bod gan
y Sir ddarpariaeth o 35 o doiledau cymunedol sydd yn rhan o Gynllun Grant
Toiledau Cymunedol. Mewn ymateb i Rhan 8 o
Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 rhaid i bob Awdurdod Lleol yng
Nghymru asesu anghenion eu cymuned o ran toiledau ac yna defnyddio
dulliau strategol a thryloyw i
ddiwallu’r angen hwnnw yn y modd gorau posib. Wrth ddatblygu’r strategaeth, amlygwyd bod opsiynau ehangach
wedi eu hystyried fydd yn mynd i’r afael a’r
heriau presennol sydd yn ymwneud a darparu cyfleusterau mewn cymunedau a hynny gyda lleihad yng nghyllideb y gwasanaeth.
Tynnwyd sylw at yr amserlen oedd yn amlygu’r
camau allweddol at gyhoeddi’r strategaeth. Croesawyd y wybodaeth a’r gwaith
calonogol oedd wedi ei wneud Yn ystod y drafodaeth ddilynol,
amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Bod
angen arwyddion ffordd i dynnu sylw at yr adnoddau oddi ar lonydd prysur – yr
arwyddion i gynnig gwybodaeth a chyfarwyddiadau ·
Croesawu
Cynllun Toiledau Cymunedol, ond angen addasu a gwella cyflwr rhai o’r adeiladau
– rhaid sicrhau bod y toiledau yn safonol ·
Angen
hysbysu a hyrwyddo toiledau cymunedol yn
well ·
Bod
angen i unrhyw wybodaeth am doiledau sy’n cael ei roi ar y wefan fod yn
gyfredol a bod fersiwn ar gael i’w argraffu ·
Angen
annog mwy o doiledau cymunedol – derbyn bod rhestr aros, ond angen adolygu’r
sefyllfa ·
Pellter
rhwng toiledau yn bryder – a oes posib mapio fesul 10 milltir? ·
Awgrym
i gynnwys gwybodaeth ar ap Gwynedd ·
Bod
angen ystyried sefydliadau sydd yn cynnig oriau hwy a hyblyg ·
Bod
angen cyfleusterau cydradd – efallai
ystyried nad oes angen dynodiad ·
Posib
creu dolen gyda Google Maps o leoliadau toiledau ·
Targedu rhai busnesau ar brif ffyrdd i gynnig
defnydd o’u toiledau. ·
Bod mwy o sylw yn cael ei roi ar anghenion
twristiaid; pobl leol sydd yn talu trethi Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag os yw’r cynllun toiledau cymunedol yn cynnig gwerth am arian, nodwyd bod gwerth i’r cynllun yn y darlun llawn ond bod cyfle i adolygu’r cynllun gan edrych i ardaloedd sydd heb adnodd. Nodwyd bod y cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i fod bellach yn arian sydd yn cael ei gynnwys fel rhan o’r setliad blynyddol ac wedi ei warchod ar gyfer y defnydd yma yn unig. Nodwyd bod grant hefyd yn cael ei dderbyn gan yr Asiant Cefnffyrdd. Ategwyd bod modd adolygu’r niferoedd a hefyd y lleoliadau gan addasu yn ôl yr angen ynghyd a’r swm sydd yn cael ei dalu i bob busnes sydd yn rhan o’r cynllun. Nodwyd hefyd, yn dilyn y cyhoeddi’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
TREFNIADAU RHEOLI PARCIO PDF 203 KB I ystyried yr adroddiad sydd yn codi ymwybyddiaeth am drefniadau a
chyfrifoldebau rheoli parcio’r Cyngor,
allbynnau’r gwaith a’r heriau ar gyfer y dyfodol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Eiddo yn manylu a’r drefniadau a
chyfrifoldebau rheoli parcio'r
Cyngor, allbynnau gwaith a’r heriau ar gyfer y dyfodol. Dengys y strwythur staffio bod y Gwasanaeth, ers 2012, wedi
wynebu arbedion / toriadau sylweddol
er yn ymateb i’r un llwyth gwaith. Amlygwyd bod y trefniadau talu ac arddangos
sydd mewn bodolaeth mewn 60 o feysydd parcio y Sir, ynghyd a Thocynnau Parcio Blynyddol a’r taliadau a ddaw o orfodaeth parcio wedi
arwain at incwm o £2.65m erbyn
2018/19. Nodwyd bod yr incwm yn rhan allweddol o incwm refeniw blynyddol y Cyngor ac yn cyfrannu tuag ar gynnal
gwasanaethau. Yn unol â gofynion deddfwriaethol, bydd unrhyw incwm sydd yn cael ei gasglu o reoli parcio yn
cael ei ail fuddsoddi yn y rhwydwaith
priffyrdd. Tynnwyd sylw at yr
heriau ar gyfer y blynyddoedd i ddod ynghyd ar amrediad opsiynau ar gyfer sicrhau cynnydd yn yr incwm
parcio. Os am gyfarch effaith chwyddiant a chyfrannu £180,000 tuag at y targed arbedion amlygwyd erbyn 2022/23 yr
angen i’r incwm blynyddol fod
oddeutu £450,000 yn uwch nag ydyw yn 2018/19. Diolchwyd
am y wybodaeth Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â cholled incwm o oddeutu £45,000 am gynnig parcio am ddim dros gyfnod y Nadolig, amlygwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Bod angen ystyried trothwy amser cyn diddymu’r
gwasanaeth ·
Posib nad yw yn cynnig gwerth am arian gan mai
gweithwyr 9 - 5pm sydd yn ei ddefnyddio? ·
Angen ystyried dulliau fel nad yw gweithwyr yn ei
ddefnyddio ·
Angen gwell amseriad - diwedd Tachwedd - cyd fynd a
Dydd Gwener Gwallgo’?
Penwythnosau sydd yn rhedeg i fyny at y Nadolig? ·
Cynnig nosweithiau parcio am ddim pan fydd
digwyddiadau yn cael eu cynnal yn y dref ·
Parcio am ddim yn gynllun da ac yn gefnogol i
Fusnesau Lleol Roedd yr Uwch Reolwr
Eiddo yn derbyn y sylwadau a nodwyd bod bwriad i adolygu’r drefn bresennol. Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â’r graff apeliadau oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad a’r angen am wybodaeth fanylach am y nifer sydd yn
cael ei dyrannu a’r nifer sydd yn cael eu
herio, derbyniwyd bod y graff yn elfennol a bod modd cyflwyno data manylach. Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â sut fydd cyllido cyfleusterau gwefru ceir trydan adroddwyd y byddai’r cynllun yn debygol o gael ei ariannu
drwy grantiau yn ystod y cyfnod cyntaf. Ategwyd
bod y galw am y math yma o gyfleuster yn isel ar hyn o bryd, ond bod angen paratoi ymlaen llaw drwy gynnal
gwaith asesu lleoliadau addas o fewn y Sir. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Bod angen amlygu gwahaniaeth rhwng perchnogaeth
maes parcio preifat a maes parcio'r Cyngor ·
Bod angen peiriannau dwbl sydd yn cynnig gwasanaeth
talu gydag arian parod neu dalu gyda cherdyn ·
Bod
cyfansymiau cynnydd yn ffioedd parcio yn ymddangos yn anodd o ran ceiniogau /
arian parod – angen cadw’r symiau yn syml · Awgrym i gyflwyno talu am docyn parcio blynyddol mewn rhandaliadau misol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
MATERION CYNLLUNIO A'R DREFN DIRPRWYO PDF 89 KB I ystyried
adroddiad Pennaeth yr Adran Amgylchedd a Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Yn dilyn trafodaeth ynglŷn â gweithrediad y Cynllun Dirprwyo
Cynllunio yng nghyd-destun Plas Pistyll, Pistyll, Pwllheli penderfyniad y
Pwyllgor Craffu Cymunedau 13.12.2018 oedd gohirio’r mater fel bod modd derbyn
adroddiad pellach fyddai’n cyfarch materion sylfaenol y cynllun dirprwyo, y
rhiniogau ar gyfer derbyn cais newid amodau, rhiniogau’r cynllun dirprwyo
ynghyd ag ymateb i sylwadau’r Aelodau a thystiolaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor. Cyflwynwyd adroddiad oedd wedi ei baratoi ar y cyd gan Bennaeth yr Adran
Amgylchedd a Phennaeth yr Adran Gyfreithiol
yn cyfarch yr argymhellion uchod. Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio'r penderfyniad gan nad oedd sylwadau’r
aelodau a thystiolaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ar y 13eg o Ragfyr 2018 wedi
ei gynnwys yn yr adroddiad diwygiedig. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro bod yr adroddiad yn ymateb i’r
cofnod ac nad oedd y cofnod yn nodi’r angen i gynnal trafodaethau gydag aelodau
unigol a chynnwys eu mewnbwn yn yr adroddiad. Ategwyd bod yr adroddiad yn cael
ei gyflwyno i’r Pwyllgor ei graffu a bod cyfle i aelodau unigol herio a gofyn
cwestiynau yn y cyfarfod. Nododd y Cadeirydd, mai ei argraff ef oedd y byddai’r aelodau wedi cael
eu cynnwys mewn trafodaethau gyda’r swyddogion a bod yn rhan o greu'r
adroddiad. Mewn ymateb nododd y Swyddog Monitro bod angen briff manwl ar gyfer yr
hyn oedd angen ei gyflwyno i'r’ Pwyllgor Craffu nesaf. Yn ystod y drafodaeth ddilynol,
cynigiwyd yr angen i gynnwys y materion canlynol
yn yr adroddiad: ·
Bod y polisïau perthnasol yn cael eu dehongli yn
glir ·
Bod angen diffiniadau clir o eirfa dechnegol ·
Angen ymateb i sylwadau a wnaed yng nghyfarfod mis
Rhagfyr 2018 ·
Bod angen cloriannu’r dystiolaeth a gyfeiriwyd
atynt yn Rhagfyr 2018 ·
Bod angen rhoi ystyriaeth i ardaloedd /tirweddau
nodedig ·
Bod esiamplau yn yr adroddiad ddim yn berthnasol Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Bod rhaid dysgu gwersi gan sicrhau cyfeiriad
pendant ac eglur ·
Awgrym i gynnal trafodaeth bellach gydag aelodau
unigol PENDERFYNWYD ·
gohirio’r mater i’r cyfarfod nesaf ·
bod cyfarfod anffurfiol yn cael ei gynnal rhwng y
Cadeirydd Y Cynghorydd Seimon Glyn, Cynghorydd Aled Wyn Jones, Cynghorydd
Gruffydd Williams, Cynghorydd Dafydd Meurig (Aelod Cabinet Amgylchedd) a’r
Swyddogion perthnasol er mwyn cytuno ar y materion sydd angen eu cyfarch yn yr
adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Ebrill y 4ydd 2019. |
|
CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD I enwebu aelod newydd
i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad Adran yr Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gwahoddwyd Aelodau i fynegi diddordeb neu gynnig enwebiadau ar gyfer
mynychu cyfarfodydd herio
perfformiad Adran yr Amgylchedd. Cynigwyd ac eiliwyd y
Cynghorydd Berwyn Parry Jones PENDERFYNWYD ethol y
Cynghorydd Berwyn Parry Jones i gynrychioli’r Pwyllgor mewn cyfarfodydd
herio perfformiad Adran yr Amgylchedd |