Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Media
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y
Cynghorwyr
Stephen Churchman, Elwyn Edwards, Simon Glyn, Annwen Hughes, Aled W Jones, Linda Morgan a Mike Stevens |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd
yr aelod canlynol fuddiant personol, yn yr eitem ganlynol am y rheswm a nodir: ·
Y
Cynghorydd Gethin Glyn Williams yn eitem 8
ar y rhaglen oherwydd bod ganddo berthynas sydd yn berchennog tŷ
haf Roedd yr Aelod o’r
farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd Medi
26ain 2019 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar Fedi 26ain 2019
fel cofnod cywir o’r cyfarfod. |
|
DIWEDDARIAD BLYNYDDOL GAN Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL (GWYNEDD A MÔN) PDF 115 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn yn diweddaru’r Pwyllgor ar faes gwaith y Bartneriaeth. Eglurwyd bod gofyn i’r Bartneriaeth adrodd yn ffurfiol i’r Pwyllgor yn flynyddol i
gyflwyno trosolwg o brif ddatblygiadau strategol y Bartneriaeth dros y flwyddyn
ynghyd a’r gwaith comisiynu sydd yn gosod fframwaith i’r blaenoriaethau sydd yn
seiliedig ar asesiad strategol. Ategwyd bod hyn yn sicrhau bod y Bartneriaeth
yn cyflawni ei hymrwymiadau yn unol ag adrannau Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r
Heddlu 2006, drwy gydweithio gyda’r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth
Prawf a’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Tynnwyd sylw at y prif negeseuon oedd yn deillio o weithgarwch 2018/2019
ynghyd a phrif lwyddiannau’r flwyddyn. Amlygwyd y prif gerrig milltir ar gyfer 2019 – 2020 a gofynnwyd i’r
Pwyllgor Craffu gefnogi’r blaenoriaethau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad
ynghyd â chyfeiriad y gwaith i’r dyfodol. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnydd o 13.5% yn y troseddau sy’n
seiliedig ar ddioddefwyr yng Ngwynedd, dengys y dadansoddiad mai cynnydd yn
effeithlonrwydd y broses o gofnodi'r troseddau yw hyn yn hytrach na chynnydd yn
y nifer troseddau. Ategwyd bod y newidiadau i’r broses o gofnodi rhai achosion,
megis stelcio ac aflonyddu wedi cyfrannu at y cynnydd oherwydd bellach mae pob
cam o’r drosedd /achos perthnasol yn cael ei gyfrif yn hytrach nac fel un
trosedd / achos. Nodwyd hefyd bod cynnydd yn y nifer o bobl sydd yn dod ymlaen
i adrodd ar droseddau. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r
Grwpiau Mwyaf Tebyg, sef Grŵp o Siroedd tebyg o ran lefelau troseddu,
adroddwyd bod 8 sir yn y grŵp a bod gwybodaeth lawn am y grŵp ar gael
ar wefan y Swyddfa Gartref. Ategwyd bod y wybodaeth yn cael ei ddiweddaru yn
chwarterol. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â bwriad y
defnydd o geisio adnabod safle newydd ym Mangor ar gyfer triniaeth
cam-ddefnyddio sylweddau, cywirwyd y sylw mai adeilad i’r gwasanaethau
Camddefnyddio Sylweddau weithio ynddo yw’r bwriad sydd yn gynllun sydd yn cael
ei arwain gan y Bwrdd Iechyd. Mewn ymateb i statws cwblhau hyfforddiant ar
gam-drin domestig yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru adroddwyd bod
gweithredu’r hyfforddiant yn heriol a bod pob ymdrech yn cael ei wneud i
sicrhau bod holl staff y Cyngor yn cwblhau haen safonol yr hyfforddiant. Nodwyd
bod yr hyfforddiant yn statudol a’i fod yn cael ei gyflwyno drwy wasanaeth
E-ddysgu - ategwyd bod angen ceisio ffyrdd gwell o gyrraedd y nod ac ystyried
dulliau arloesol i wneud hynny. Bydd y Cyngor yn adrodd i Lywodraeth Cymru ar y nifer sydd wedi
cwblhau’r hyfforddiant a’r Uned Dysgu a Datblygu yn cadw cofnod. Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â phryderon dylanwad gangiau ar gymunedau lleol, adroddwyd bod yr
Heddlu yn gweithio yn galed i daclo County Lines. Awgrymwyd y byddai’n fuddiol
i’r heddlu gyflwyno gwybodaeth ar y gwaith i’r Aelodau. PENDERFYNWYD
·
derbyn
yr adroddiad ·
cefnogi
blaenoriaethau a chyfeiriad gwaith y Bartneriaeth i’r dyfodol. |
|
Aelod Cabinet: Cynghorydd Dyfrig Siencyn I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Dyfrig Siencyn yn amlinellu’r hyn a gyflawnwyd dros y 6 mis diwethaf gan Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Atgoffwyd yr aelodau bod y Bwrdd
wedi cytuno ar feysydd blaenoriaeth fyddai’n gwella llesiant economaidd,
amgylcheddol a diwylliannol y ddwy sir ac wedi sefydlu is-grwpiau i weithredu swyddogaethau’r
Bwrdd. Adroddwyd bod y Bwrdd yn derbyn yr angen i
ganolbwyntio ar yr hyn y gellid ei gyflawni yn yr hinsawdd sydd ohoni gan fod
adnoddau’r corff cyhoeddus o dan bwysau a bygythiadau pellach mewn arbedion. Er
hynny, drwy gydweithio gellid manteisio
ac adnabod cyfleoedd i weithio mewn ffyrdd gwahanol a chyflwyno dulliau
arloesol o weithredu. Rhoddwyd diweddariad byr ar y datblygiadau o fewn
y chwe maes blaenoriaeth. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau
canlynol gan Aelodau unigol: ·
Tlodi – mynegwyd siom a phryder nad oedd
is-grŵp yn arwain ar y gwaith yn bresennol ·
Awgrym i adolygu cyfansymiau rent tai cymdeithasol ·
Bod angen cynnwys cefnogaeth i deuluoedd / gofalwyr
ym maes gwaith Iechyd a Gofal Oedolion ·
Newid Hinsawdd - graddfa’r effaith angen mwy o
gefnogaeth. A yw’r Llywodraeth yn ymateb i’r hyn y mae’r Bwrdd yn ceisio ei
weithredu? ·
Newid Hinsawdd yn fater byd eang ond, ym maes llifogydd
a oes modd addysgu pobl ynglŷn â’r effaith / i arafu newid hinsawdd yn
hytrach na derbyn bod hyn yn digwydd? ·
O ystyried tangyflawniad Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr, angen sicrhau bod blaenoriaethau’r Is-grŵp Iechyd yn cael
eu harwain yn effeithiol gan gynrychiolydd o’r Bwrdd Iechyd Mewn ymateb i sylw ynglŷn â sicrhau
arweiniad effeithiol ar yr agweddau iechyd nodwyd bod yr is-grŵp yn
cyfarch dwy flaenoriaeth a bod y Bwrdd Iechyd a’r ddwy Sir yn cydweithio yn
arbennig o dda. Ategwyd mai rôl yr Awdurdodau Lleol a’r Bwrdd Iechyd yw darparu
gwasanaeth effeithiol ac mai rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw ychwanegu
gwerth i’r hyn sydd eisoes yn digwydd gan y cyrff cyhoeddus yn unigol. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â diffyg
gwaith yn y maes tlodi, nodwyd mai trefniadau budd-daliadau Llywodraeth San
Steffan a’u gallu cyllidebol sydd yn creu sefyllfaoedd o dlodi ac mai cyfyng yw
gallu’r Awdurdod Lleol i adnabod darn o waith / prosiect penodol i geisio
gwneud argraff yn y maes. Derbyniwyd y sylw bod gwaith angen ei wneud i adnabod
maes gwaith /darganfod prosiectau all gyflawni a gwneud gwahaniaeth. Mewn
perthynas a’r Bwrdd Gwasnaethau Cyhoeddus cytunwyd i ystyried y gwaith sydd
eisoes ar y gweill gan yr Awdurdodau Lleol yn y maes tlodi cyn ystyried beth
gall y Bwrdd wneud i ychwangeu gwerth i hynny. Bydd yr Awdurdodau Lleol yn
darparu cyflwyniad ar gynnydd yn y maes tlodi yn ystod cyfarfod nesaf y Bwrdd
ym mis Mawrth. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gwir effaith Newid yr Hinsawdd, nodwyd bod Ymgynghori aeth Gwynedd eisoes yn gwneud gwaith da yn lleol a’r dyletswyddau hynny yn cynyddu wrth i’r broblem gynyddu. Awgrymwyd bod Llywodraeth Cymru drwy gydweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru wedi newid agwedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Aelodau Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith Adran Amgylchedd Cynghorydd Catrin Wager Adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
yn manylu ar gynigion arbedion fyddai’n cyfrannu tuag at y bwlch ariannol posib
yng nghyllideb 2020/21. Atgoffwyd yr Aelodau nad yw’r grant blynyddol, a
dderbynnir gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn ddigonol ers y 12 mlynedd diwethaf
ac o ganlyniad wedi arwain at sefyllfa
lle mae’r Cyngor yn gorfod cynllunio ar gyfer llenwi’r bwlch ariannol. Ar gyfer
2020/21 penderfynwyd cynllunio ar gyfer bwlch £2m gan ofyn i’r holl adrannau
ddarganfod eu cyfraniad hwy i’r swm. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried cynigion
yr Adran Amgylchedd, Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac yr
Adran Ymgynghoriaeth ynghyd a’r goblygiadau. Ymhelaethodd yr
Aelodau Cabinet a Phenaethiaid yr Adrannau ar gynnwys yr adroddiad, gan ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr
Aelodau. Diolchodd yr Aelodau Cabinet i’r Adrannau am ddarganfod arbedion
pellach na fyddai’n effeithio yn uniongyrchol ar drigolion Gwynedd. Arbedion Adran
Ymgynghoriaeth Croesawu’r ymarfer
o gynyddu’r adnoddau o fewn Unedau Ymgynghoriaeth Gwynedd i alluogi’r Adran i
gynyddu incwm sydd o ganlyniad yn cadw pobl yn gyflogedig mewn swyddi sgiliau
uchel o fewn y Sir drwy gyfrwng y Gymraeg. Arbedion Adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol Mewn ymateb i
awgrym ynglŷn ar gallu i leihau / dorri i lawr gostau contractio allanol
fel bod modd i gwmnïau llai / lleol gystadlu am y gwaith (o dan y rhiniog)
derbyniwyd y gellid gwneud mwy i gadw’r budd yn lleol a rhoi cyfleoedd i
fusnesau lleol ymgeisio am y gwaith. Mewn ymateb i
wybodaeth ynglŷn â chost a threfniant gwastraff masnachol eglurwyd bod yr
Adran yn gwasanaethu dros 2,000 o fusnesau ar draws Gwynedd drwy roi cynnig
unigryw i ailgylchu neu waredu eu gwastraff gweddilliol.
Bydd y gwasanaeth yn dewis a dethol gwastraff y gellid eu hailgylchu ym Mharc
Adfer yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy. Ategwyd bod hwn yn rhoi cyfle i’r Adran
wella’r gwasanaeth drwy ddenu ac annog mwy o gwmnïau i aros. Nodwyd hefyd y
bydd deddf newydd yn gofyn i Awdurdodau Lleol ailgylchu mwy a bydd y trefniant
presennol o ailgylchu gwastraff
masnachol yn fantais i Wynedd. Y bwriad yw cynnig gwasanaeth gwyrdd / cyfrifol
gan edrych i ddatblygu'r gwasanaeth yma ymhellach Arbedion Adran
Amgylchedd Mewn ymateb i
frawddeg bod ‘yr effaith ar drigolion yn lleihau oherwydd cydweithio agosach
gyda’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol’, ac y dylai hyn fod yn ffordd naturiol
o weithio beth bynnag, nodwyd bod yr Adrannau yn cynnal trafodaethau traws
adrannol i geisio adnabod cyfleoedd o gydweithio o fewn meysydd cyffredin fel
bod modd osgoi dyblygu gwaith. Sylwadau
cyffredinol: ·
Ystyried arbedion drwy ddefnyddio ymgynghorwyr
lleol yn hytrach na rhai allanol ·
Gosod dirwy am dorri amodau cynllunio – hyn yn gyfle i
greu incwm. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad
a chymeradwyo cynigion yr adrannau i gwrdd â’u cyfran o arbedion perthnasol |
|
TAI HAF A CHYNLLUNIO PDF 58 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth
Cynorthwyol yr Amgylchedd yn diweddaru’r Pwyllgor ar y gwaith ymchwil manwl y
mae’r Cabinet wedi cytuno i’r Adran ei wneud mewn perthynas â thai haf. Pwrpas
y gwaith yw ceisio cyfarch sut y byddai modd cyfyngu faint o dai y gellid eu
defnyddio at ddibenion gwyliau, gan edrych ar fesurau sydd yn weithredol mewn
llefydd eraill a sut byddai modd newid deddfwriaethau cynllunio er mwyn eu
gweithredu yng Nghymru. Adroddwyd bod pryderon ers rhai blynyddoedd
yng Ngwynedd ynglŷn â’r nifer o dai haf a’i sgil effeithiau ar gymunedau’r
Sir. Nodwyd bod y diwydiant twristiaeth wedi esblygu yn sylweddol dros y
blynyddoedd diwethaf yn enwedig yn y ddarpariaeth o lety gosod byr dymor. Amlygwyd mai’r bwriad oedd penodi tîm
amlddisgyblaeth i wneud y gwaith ymchwil a gwahoddwyd ymgeiswyr i gyflwyno
tendr ym mis Hydref 2019. Er na dderbyniwyd
cais am dendr, penderfynwyd parhau gyda’r gwaith ymchwil gan gyflawni
hynny mewn partneriaeth gyda Chyngor Caerdydd a’r Sefydliad Cynllunio Trefn
Brenhinol (RTPI). Ategwyd bod yr Adran Cynllunio yn llunio cynllun a rhaglen ar
gyfer y gwaith ymchwil a bod bwriad rhoi diweddariad i’r Pwyllgor Craffu wrth
i’r gwaith fynd yn ei flaen. Rhoddwyd
cyflwyniad ffurfiol i’r Pwyllgor yn egluro’r cyd-destun ar gyfer y gwaith. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol gan Aelodau
Unigol: ·
Croesawu’r
gwaith ymchwil – mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth i’r
argymhellion / canfyddiadau ·
Bod
pryderon wedi eu hamlygu ers blynyddoedd ac erbyn hyn yr effaith yn amlygu’r
angen i weithredu ·
Bod
angen rheolau a phrosesau yn ei lle i reoli’r sefyllfa yn well ·
Awgrym
i gyflwyno trefn gofrestru neu drwydded ar gyfer tai haf – hyn yn incwm posib ·
Cyflwyno
trefn o ddirwyo llym os yw amodau cynllunio yn cael eu torri ·
Cyfle i drafod defnydd / rheolaeth tai gwyliau / cyfle i gydweithio gyda chymdeithasau tai /
prynu tai marchnad gwyliau i’w cadw yn
lleol ·
Bod tai
haf yn cael effaith negyddol ar drigolion lleol ·
Croesawu'r syniad o osod cap ar y niferoedd tai haf
mewn ardaloedd penodedig ·
Bod angen ystyried nifer ‘ail dai’ sydd hefyd yn
cael effaith ar stoc tai'r Sir ·
Derbyn
yr angen i gasglu tystiolaeth er mwyn pwyso am newid Mewn ymateb, nododd Pennaeth Cynorthwyol yr Amgylchedd ei fod yn
cydweld a’r sylwadau gan nodi’r angen i ddatblygu polisïau newydd a sefydlu
deddfwriaethau ar y cyd (megis trethi a chynllunio) fel eu bod yn gyson yn eu
diffiniadau i osgoi amheuaeth. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, croesawu’r gwaith ymchwil a derbyn
diweddariad wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen. |