skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2020 / 21

Penderfyniad:

Ail etholwyd y Cynghorydd Elfed Roberts yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2020/21.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Elfed Roberts yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2020/21

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is Gadeirydd ar gyfer 2020 / 21

Penderfyniad:

Ail etholwyd y Cynghorydd Gethin G Williams yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2020/21.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Gethin G Williams yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2020/21.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Catherine Roberts (Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 261 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 6ed o Chwefror 2020 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 6ed o Chwefror 2020, fel rhai cywir.

 

 

7.

DIWEDDARIAD BLYNYDDOL GAN Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL (GWYNEDD A MÔN) pdf eicon PDF 409 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

I ystyried yr adroddiad

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd cynnwys yr adroddiad a'r dogfennau atodol gan nodi’r sylwadau

Cefnogwyd y blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i'r dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant adroddiad gan Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn yn diweddaru’r Pwyllgor ar faes gwaith y Bartneriaeth. Eglurwyd bod gofyn i’r Bartneriaeth adrodd yn ffurfiol i’r Pwyllgor yn flynyddol i gyflwyno trosolwg o brif ddatblygiadau strategol y Bartneriaeth dros y flwyddyn ynghyd a’r gwaith comisiynu sydd yn gosod fframwaith i’r blaenoriaethau sydd yn seiliedig ar asesiad strategol. Ategwyd bod hyn yn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cyflawni ei hymrwymiadau yn unol ag adrannau Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2006, drwy gydweithio gyda’r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Tynnwyd sylw at y prif negeseuon oedd yn deillio o weithgarwch 2020/2021 ynghyd a phrif lwyddiannau’r flwyddyn.

 

Amlygwyd y prif gerrig milltir ar gyfer 2020 – 2021 a gofynnwyd i’r Pwyllgor Craffu gefnogi’r blaenoriaethau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ynghyd â chyfeiriad y gwaith i’r dyfodol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phryderon bod troseddau sydd yn defnyddio sgamiau ar gynnydd a’r angen i godi ymwybyddiaeth bellach ar sut i’w hadnabod, eu hosgoi neu adrodd arnynt, adroddwyd bod gwaith hyrwyddo yn cael ei wneud gan yr Heddlu a’r Uned Safonau Masnach. Nodwyd bod sawl ymgyrch wedi ei wneud gan y Tîm Cyfathrebu i dynnu sylw at y mater ar wefan y Cyngor ac ar y cyfryngau cymdeithasol, ond bod angen osgoi boddi’r gynulleidfa gyda gormod o wybodaeth. Ategwyd bod y mater yn derbyn sylw gan y Panel Diogelu a bod y Comisiynydd Pobl Hŷn wedi ei adnabod fel mater cenedlaethol gyda sawl ymdrech yn cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn a ddiffyg adnoddau gan yr Heddlu, a’r Cyngor heb adnoddau gorfodaeth digonol i ddelio gyda materion a throseddau yn ymwneud a thraffig a priffyrdd, nodwyd, er nad yw materion traffig yn faes gwaith y Bartneriaeth bod yr Heddlu a’r Cyngor Sir wedi cydweithio yn dda yn ddiweddar (dros gyfnod y pandemig) i ymdrin a’r materion hyn, ond derbyn bod lle i wella.

 

Mewn ymateb i gynnydd mewn cam ddefnyddio sylweddau a bod y defnydd yn mynd o ‘dan y radar’ mewn nifer o gymunedau, amlygwyd bod darn o waith rhanbarthol yn cael ei wneud i gynyddu’r gefnogaeth. Derbyniwyd y sylw bod y Bartneriaeth yn adrodd ar y nifer troseddau sydd wedi eu cofnodi yn unig, ond er hynny yn cydweithio yn dda gyda County Lines i gasglu gwybodaeth i gael dealltwriaeth o’r sefyllfa er mwyn ymyrryd. Anogwyd yr Aelodau i rannu unrhyw wybodaeth o faterion lleol gyda’r Heddlu fel bod modd  ymateb / ymchwilio i’r digwyddiadau.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

·         Byddai cyfreithloni cyffuriau yn rhyddhau arian i wneud gwaith ataliol yn hytrach na gwario ar blismona’r broblem. Angen edrych ar ffyrdd arloesol o ddelio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2019/20 Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GWYNEDD AC YNYS MÔN pdf eicon PDF 340 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ar gynnydd gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Arweinydd y Cyngor yn amlinellu’r hyn a gyflawnwyd dros y cyfnod 2019/20 gan Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn (BGC).

 

Ymhelaethwyd ar gynnwys yr adroddiad a rhoddwyd diweddariad byr ar y datblygiadau o fewn y meysydd blaenoriaeth ynghyd a gwaith yr is-grwpiau sydd yn gyfrifol am y meysydd hynny. Ers mis Mawrth 2020, yn wyneb pandemig covid-19, eglurwyd bod cyrff cyhoeddus wedi gorfod addasu i ymateb i’r argyfwng iechyd drwy newid eu ffordd o weithio a chysylltu gydag eraill.

 

Amlygwyd bod y cyrff cyhoeddus yn symud tuag at adferiad ac yn ystyried effeithiau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. . Nodwyd bod y grŵp rhanbarthol a oedd yn cydgordio’r ymateb i’r argyfwng wedi gofyn i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws y gogledd edrych ar y gwaith o adfer gyda ffocws ar safbwynt gwytnwch cymunedol. Cynhaliwyd gweithdy ar gyfer BGC Gwynedd ac Ynys Môn yn mis Medi, rhoddwyd ystyriaeth i sut gallai’r Bwrdd ymateb i 40 o faterion a adnabuwyd gan bartneriaid y Bwrdd. Daethpwyd i’r casgliad bod 8 mater angen sylw pellach. Nodwyd eu bod yn ymchwilio i sut gallai’r Bwrdd weithredu heb ddyblygu’r gwaith a wneir eisoes gan bartneriaid unigol er mwyn ychwanegu gwerth. Byddai cylch gorchwyl yr is-grwpiau yn cael eu diweddaru er mwyn ymateb i’r materion.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

 

·         Cartrefi i bobl leol -  y farchnad dai wedi ffrwydro yn ddiweddar. Y flaenoriaeth yw tai i bobl leol nid eu bod o ‘natur arloesol’

·         Y dylai Cymdeithas Tai ‘Cymunedol’ baratoi tai fyddai’n gwarchod cymdeithas. Siom nad yw'r adroddiad yn cyfarch pryderon trigolion Gwynedd o ddiffyg tai i bobl leol

·         Bod lle i lais y Bwrdd gael dylanwad ar newid Deddfau cynllunio. Awgrym i’w gynnwys fel rhan o gylch gorchwyl y Bwrdd i ddwyn pwysau ar y Llywodraeth i  newid y maes cynllunio fel bod modd gwarchod tai i bobl leol.

·         Angen dwyn pwysau ar y Llywodraeth sydd ohoni i gael tai cymdeithasol o dan faner Awdurdod Lleol

·         Bod Cwmni Adra bellach  yn rhywbeth na all ei reoli

·         Cynllun Hunan-adeiladu Cymru yn faes i’w ystyried – yn gynllun arloesol

·         Bod diffyg tai i bobl leol yn cael effaith ar yr iaith – pobl yn symud i ffwrdd

·         Bod y system pwyntiau ar gyfer rheoli'r Gofrestr Tai Cyffredin yn aneffeithiol

 

·         Bod angen sicrwydd sut mae gweithrediad a llwyddiant y cynlluniau adfer rhanbarthol yn cael eu mesur

·         Siarter Iaith – angen mwy o asgwrn cefn a cheisio hyrwyddo a dylanwadu defnydd y Siarter yn ehangach

·         Bod angen gwarchod polisïau rheoli tannau, gwarchod tiroedd ac amaethu yng nghyd-destun newid hinsawdd

·         Bod angen gweld gwahaniaeth yn y maes gofal – cartrefi preswyl / nyrsio yn cau, diffyg gofalwyr yn bryder, diffyg meddygon sydd yn siarad Cymraeg, prinder deintyddion, cynnydd mewn iechyd meddwl

·         Bod angen sicrhau bod arian wrth gefn i ddelio gyda thlodi

 

 

·         Mewn ymateb i’r sylwadau ynglŷn â thai i bobl leol, nodwyd mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am newid cyfansoddiad Cwmni Adra  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.