skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  E-bost: NatalieLloydJones@Gwynedd.Llyw.Cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Simon Glyn, Elfed Roberts, Linda Morgan ac Kevin M Jones.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol na gollyngiadau perthnasol.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni fu unrhyw faterion brys i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 225 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol

o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13eg o Orffennaf, 2021 fel rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 13eg Orffennaf 2021, fel rhai cywir.

 

5.

NEWID HINSAWDD pdf eicon PDF 239 KB

Aelod Cabinet: Cyng. Dyfrig Siencyn

 

Diweddariad ar yr hyn mae’r Cyngor yn ei wneud ar hyn o bryd i ymateb i’r heriau newid hinsawdd a chamau eraill sydd yn ymarferol i’r Cyngor weithredu arnynt i’r dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cafwyd rhagair i’r adroddiad gan Arweinydd y Cyngor gan bwysleisio pwysigrwydd bod y Pwyllgor yn cael cyfle i drafod y pwnc Newid Hinsawdd.

Eglurodd bod Bwrdd Newid Hinsawdd bellach wedi ei sefydlu ar gyfer cynnig trosolwg corfforaethol i’r gwaith sy’n digwydd o fewn y Cyngor ar ddatrysiadau. Trafododd ymrwymiad y Cyngor i ostwng eu hallyriadau carbon fel modd o gyrraedd sero net Carbon erbyn 2030 sef targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y sector gyhoeddus yng Nghymru. Croesawyd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd a phenodwyd i arwain ar y gwaith yma gyda chyfeiriad corfforaethol ac ar gyfer cydlynu gwaith trawsadrannol.

 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Rhaglen Newid Hinsawdd gan gyfeirio at y gwaith sydd wedi digwydd hyd hyn, gan gynnwys:

 

-         Mapio’r holl elfennau perthnasol gan adnabod bylchau er mwyn medru llunio cynllun gweithredu i’r dyfodol

-        Egluro sut mae’r Cyngor yn bwriadu, ac eisoes wedi, ymateb i effeithiau Newid Hinsawdd

-         Nodi bod yr adroddiad yn crynhoi’r prif enghreifftiau o’r gwaith

 

Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-

 

-        Croesawyd y Rheolwr Rhaglen i’w rôl newydd.

-        Holwyd aelod sut daeth y Bwrdd Newid Hinsawdd i fodolaeth a gofynnwyd pwy yw’r aelodau. Ategwyd bod arbenigedd ar y pwnc ymysg rhai aelodau a chynigwyd y dylai’r Bwrdd manteisio ar yr arbenigedd yma.

-        Gofynnwyd am wybodaeth ynghylch a’r pwynt cyswllt o fewn y Cyngor os yw aelodau yn dod ar draws mater sy’n effeithio ar newid hinsawdd.

-        Cyfeiriwyd aelod at yr Adroddiad, yn arbennig pwynt 2.6, a holwyd os yw’r Cyngor yn manteisio ar ail-ddefnyddio gwastraff sy’n cael ei greu, er enghraifft, drwy waith trin ffordd.

-        Mewn perthynas â chyrraedd net sero Carbon, gofynnwyd am eglurder ynghylch dulliau cyrraedd y targed hwn.

-        Gofynnwyd am eglurder ar effaith gynlluniau gwaith megis ffordd osgoi Llanbedr, gwaith ar y Morglawdd ag ati, ar allu’r Cyngor i gyrraedd net sero Carbon.

-        Holwyd am y gwaith i ymdrin â ‘chlwyf yr Onnen’ a sut mae’r Cyngor yn bwriadu datrys y broblem gan fod angen coed ar gyfer amsugno carbon.

 

 

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nodwyd:-

 

-        Nodwyd bod cynrychiolaeth o benaethiaid ac aelodau ar y Bwrdd Newid Hinsawdd a sefydlwyd fel bwrdd i roi statws i’r maes. Ategwyd bod modd ystyried ehangu’r aelodaeth i gynnwys arbenigedd eraill.

-        Awgrymwyd i’r aelod mai’r Rheolwr Rhaglen fyddai’r pwynt cyswllt os bydd unrhyw faterion yn codi, ac atgyfnerthwyd pwrpas y Pwyllgor Craffu sef i ganiatáu i aelodau tynnu sylw swyddogion at y materion sy’n codi yn eu wardiau.

-        Eglurwyd mai diffiniad net sero yw bod sefydliad yn cyd-bwyso eu hallyriadau carbon gyda’u capasiti i amsugno/storio carbon mewn coedwigoedd a thiroedd eraill.

-        Eglurwyd gan mai cynlluniau Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yw’r gwaith ffordd y soniwyd yr aelod amdano, na fydd hynny’n cael effaith ar waith  Cyngor o ran eu hôl troed Carbon.

-        Diolchwyd i’r aelod am ei gwaith fel pencampwr Bioamrywiaeth ac awgrymwyd bod angen lledaenu negeseuon ynglŷn â'r gwaith mae’r Cyngor yn ei wneud  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

NEWID HINSAWDD - STRATEGAETH LLIFOGYDD LLEOL pdf eicon PDF 242 KB

Aelod Cabinet: Cyng. Catrin Wager

 

Diweddariad ar: Gweithredu ar Risgiau Llifogydd Mewndirol a Risgiau Llifogydd Arfordirol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cafwyd rhagair gan yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd yn nodi mai llifogydd yw’r un o’r ffordd fwyaf nodweddiadol sy’n dangos i ni fod Newid Hinsawdd yn effeithio ar gymunedau lleol. Cydnabuwyd bod effeithiau i’w gweld yn barod gyda mwy o dywydd annisgwyl a llifogydd sy’n difrodi cymunedau.

 

Pwysleisiwyd pa mor bwysig yw'r gwaith atal llifogydd fel y ffordd orau i ddiogelu trigolion yn wyneb heriau Newid Hinsawdd.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod y strategaeth yn ddogfen fyw a bod modd ychwanegu ato fel mae datblygiadau yn digwydd. Aethpwyd ati i dywys yr aelodau drwy’r adroddiad gan gynnig eglurhad ar y gwaith sy’n digwydd i adnabod o ble daw’r dŵr mewn achos o lifogydd.

 

Ategwyd bod gwaith ymgysylltu hefyd ar waith ynghyd a thrafodaethau gydag adrannau eraill i sicrhau bod y negeseuon yn cyrraedd y cymunedau.

 

 

Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

 

-        Diolchwyd am yr adroddiad sy’n creu darlun manwl o’r problemau o fewn y dalgylchoedd. Ategwyd bod broblem yng nghwm Pennant ynghylch eiddo sy’n dioddef o ganlyniad i lifogydd. Awgrymwyd y dylid edrych ar leoliadau sydd o dan fygythiad gan fod posibilrwydd y byddant yn dioddef yn y dyfodol.

-        Holwyd aelod os oedd rhestr risg er mwyn ymdrin â phroblemau, fel bod modd mapio'r rhain i ragweld lle mae’r peryglon o ddifrod.

-        Mynegwyd pryder bod llifogydd yn digwydd i raddau o ganlyniad i ddiffyg cynnal a chadw mewn afonydd a nentydd, awgrymwyd y dylid edrych ar ffyrdd cyfoes o adeiladu er mwyn gwarchod eiddo rhag llifogydd yn y dyfodol.

-        Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y trosiant staff o fewn adrannau’r Cyngor yn ddiweddar, a bod cyfoeth o wybodaeth leol yn cael ei golli wrth i staff adael eu swyddi.

-        Eglurwyd bod bylchau o wybodaeth ar fapiau a defnyddiwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru gan nad yw bob cwrs dwr i’w gweld arnynt.

-        Ategwyd pwysigrwydd bod Cynghorwyr yn rhan o unrhyw drafodaethau gan fod problemau llifogydd mewn nifer o wardiau.

-        Holwyd pwy sy’n gyfrifol am sicrhau bod y clawdd yn ddiogel yn Nhalsarnau fel na fydd peryg i’r gymuned leol o ganlyniad i’r difrod.

 

 

Mewn ymateb i sylwadau’r aelodau, nododd  Pennaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd y canlynol:-

 

-        Eglurwyd bod angen ysgogi pobl i ddatgelu os yw eu heiddo yn dioddef o ganlyniad i lifogydd fel bod modd creu rhestr, ategwyd bod nifer yn gwrthod oherwydd pryder am werth eu tai.

-        Cytunwyd bod angen edrych ar ffyrdd i addasu adeiladu tai ar gyfer y dyfodol fel modd o’u hamddiffyn rhag llifogydd.

-        Cydymdeimlwyd a phryderon yr aelod bod gwybodaeth leol yn cael ei golli wrth i staff adael, fodd bynnag sicrhawyd bod berthynas gwaith rhwng y Cyngor a sefydliadau eraill yn gwella  gyda phawb yn rhannu’r un wybodaeth.

-        Nodwyd bod cynllun i addysgu pobl ar ddulliau i leihau risg llifogydd yn eu heiddo ac o fewn y gymuned fel gwaith ataliol.

-        Nodwyd mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am y clawdd a chytunwyd i drefnu sgwrs rhyngddynt ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

NEWID HINSAWDD - ASEDAU ATAL LLIFOGYDD GWYNEDD pdf eicon PDF 314 KB

Aelod Cabinet: Cyng. Catrin Wager

 

Diweddariad ar: Trefniadau monitro cyflwr asedau Gwynedd er mwyn lleihau risgiau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd gan roi trosolwg o sefyllfa’r asedau sydd gan y Cyngor. Ategwyd bod gan y Cyngor asedau Mewndirol ac Arfordirol sy’n cael eu harchwilio o ran cyflwr unwaith y flwyddyn, dwywaith i ambell un.

 

Tynnwyd sylw’r aelodau at gategorïau a ddefnyddiwyd er mwyn adnabod cyflwr yr asedau fel bod modd deall pa rai sydd angen gwaith trin gan eu bod yn dangos straen.

 

Amlinellwyd rhaglen waith yr adran sy’n cwmpasu edrych ar yr holl asedau i sicrhau eu bod mewn cyflwr diogel, a rhoddwyd diweddariad i’r aelodau ar y sefyllfa.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-

 

-        Diolchwyd am yr adroddiad cynhwysfawr, mynegwyd hyder y bydd y Cyngor yn barod o ran tywydd garw a llifogydd oherwydd y gwaith sydd wedi cael ei gwneud.

-        Holwyd am y drefn archwilio a sut mae’n cael ei benderfynu pa asedau sy’n cael eu monitro a gofynnwyd am syniad o’r amserlen ar gyfer cyflawni’r gwaith. Yn ategol, holwyd os yw’r drefn yn un caeth ynteu oes modd ei haddasu petai ased yn cael ei ddifrodi.

-        Diolchwyd am y gwaith ym Mhenisarwaun a Rhiwlas ers 2017 a rhoddwyd canmoliaeth i’r adran ar y gwaith sydd wedi ei wneud yno.

-        Diolchwyd i’r Pennaeth Adran YGC a’r Aelod Cabinet am eu gwaith.

-        Holwyd beth oedd y Cyngor yn ei gyfrif fel ased gan fod Canolfan Tregarth yn wynebu difrod o ganlyniad i lifogydd ac ategwyd bod y Cyngor yn awyddus i’r gymuned fod yn gyfrifol dros y pibellau.

 

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nodwyd y canlynol:-

 

-        Eglurwyd os oes pryder ynghylch ased sydd ddim ar y cynllun i gael sylw mae’n bosib ymweld mwy nag unwaith a bod y mecanwaith yna i wneud gwaith brys os oes angen.

-        Nodwyd o ran Newid Hinsawdd, bod lefelau mor yn codi yn amlygu mwy o asedau sydd efallai angen gwaith trin.

-        O ran diffinio ‘asedau’ yn y modd yma, nododd mai unrhyw ased sy’n gwarchod cymuned rhag llifogydd sy’n cael ei hystyried.

-        Sicrhaodd y Pennaeth y byddai’n codi’r mater efo’r Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol cyn adrodd yn ôl i’r cynghorydd ar ei gwestiwn.