skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Stephen Churchman, Kevin Morris Jones, Linda Morgan, Mike Stevens a Gethin Glyn Williams

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 121 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 4ydd o Orffennaf 2019 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 4.07.2019 fel cofnod cywir o’r cyfarfod.

 

5.

ADOLYGIAD STRATEGOL O'R GWASANAETH CLUDIANT CYHOEDDUS pdf eicon PDF 76 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith

 

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd gan Pennaeth yr Amgylchedd ar y gwaith o adolygu darpariaeth cludiant cyhoeddus yng Ngwynedd ynghyd a’r camau nesaf bydd yr Adran yn gweithredu arnynt. Nodwyd bod yr adolygiad yn rhoi cyfle i’r Cyngor dreialu ffyrdd amgen o ddiwallu anghenion trafnidiaeth. Ategwyd nad oedd y rhwydwaith presennol wedi ei datblygu ers degawdau ac nad oedd unrhyw dystiolaeth bod y gwasanaeth wedi ei adolygu’n gynhwysfawr yn ystod y cyfnod yma. Nodwyd bod cymorth gan Trafnidiaeth Cymru i gyflawni’r ddarpariaeth gyda’r weledigaeth bod Traws Cymru yn darparu’r prif goridor teithio gyda dibyniaeth ar y gwasanaethau lleol i gysylltu.

 

Amlygwyd bod buddsoddiad amser ac ymdrech wedi ei neilltuo ar gyfer casglu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu selio ar yr angen ac yn cael eu blaenoriaethu ar sail gwerth cymdeithasol. Casglwyd gwybodaeth drwy ffurf holiadur ac fe dderbyniwyd 2021 o ymatebion. Adroddwyd bod gwaith cychwynnol wedi ei wneud ar ddadansoddi’r ymatebion fydd yn sail i’r camau nesaf

-       adolygu addasrwydd y rhwydwaith cludiant presennol

-       sicrhau bod y gwasanaeth yn cwrdd ar angen yn y modd mwyaf cost effeithiol

-       blaenoriaethu’r siwrneiau / llwybr ar sail gwerth cymdeithasol (gwaith wedi ei gomisiynau gan Prifysgol Bangor)

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Gruffydd Williams bod Cynghorwyr Dwyfor, mewn ymateb i adolygiad blaenorol, wedi gwneud cais i warchod y gwasanaeth rhag toriadau a sicrhau cadw pobl yng nghefn gwlad, nododd Pennaeth yr Amgylchedd nad oedd bwriad torri cyllideb cludiant cyhoeddus. Ategodd, er yr heriau i gynnal y gwasanaeth, y prif nod yw cwrdd ar angen yn y modd mwyaf cost effeithiol.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·      Croesawu’r adolygiad strategol a’r weledigaeth o wella’r defnydd yn y gobaith o weld gwelliant yn y gwasanaeth cludiant cyhoeddus

·      Bod y dulliau casglu gwybodaeth wedi bod yn briodol a’r ymateb i’r holiaduron wedi bod yn galonogol - angen adeiladu ar hyn a dadansoddi’r data i gwrdd ar angen

·      Croesawu ystyriaeth defnyddio llai o fysiau mawr - hyn yn gam adeiladol ymlaen

·      Angen sicrhau bod trefniadau galw am wasanaeth yn hyblyg; bod datrysiadau i bob sefyllfa. Awgrym i dreialu’r trefniadau er mwyn sicrhau llwyddiant

·      Bod angen egluro a thrafod unrhyw ystyriaethau o newid gyda thrigolion yn eu cymunedau  - awgrym i rannu’r wybodaeth yn y papurau bro

·      Bod angen trefniadau marchnata effeithiol

·      Bod angen cydweithio a chefnogi gwasanaethau lleol, e.e., O Ddrws i Ddrws, a oes modd defnyddio tocyn mantais ar gyfer gwasanaethau lleol?

·      Bod angen ystyried effaith ôl troed carbon - hybu pobl i ddefnyddio bysiau

·      Rhaid sicrhau mai’r daith sydd yn flaenoriaeth ac nid y cerbyd / adnodd

·      Os defnyddio cerbydau llai, bydd angen ystyried yr effaith ar gwmnïau bysiau mawr

·      Angen sicrhau bod pob cefnogaeth ar gael i ddeiliaid tocyn mantais adnewyddu eu cardiau erbyn 1/1/2020

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r effaith ar gwmnïau bysiau, amlygwyd mai’r bysiau mawr fydd asgwrn cefn y gwasanaeth gyda cherbydau llai yn bwydo i mewn i’r gwasanaeth hwnnw.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag adnewyddu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

SEFYDLU GRWP TASG RHEOLI PARCIO pdf eicon PDF 71 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith

 

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Amgylchedd yn cynnwys cylch gorchwyl a rhaglen waith amlinellol ar gyfer Grŵp Tasg o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau i gynorthwyo’r Gwasanaeth gyda’r gwaith o ddadansoddi amrediad opsiynau ar gyfer rheoli parcio yng Ngwynedd. Amlygwyd mai’r bwriad yw asesu’r opsiynau posib ar gyfer cynyddu’r incwm o feysydd parcio gan ystyried a fuasai modd gwneud hynny heb gynyddu’r gost i drigolion Gwynedd.

 

Atgoffwyd yr aelodau bod pedwar aelod wedi eu hethol ar gyfer y Grŵp Tasg yng nghyfarfod o’r Pwyllgor 4ydd Gorffennaf 2019 - y Cynghorwyr Kevin Morris Jones (Arfon), Angela Russell (Dwyfor), Annwen Hughes a Gethin Glyn Williams (Meirionnydd).

 

CYMERADWYWYD y cylch gorchwyl a’r rhaglen waith amlinellol ar gyfer y Grŵp Tasg

 

7.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL AWST 2017 - MAWRTH 2019 pdf eicon PDF 130 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith

 

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd yn gofyn i’r Aelodau gynnig sylwadau ar gasgliadau allweddol yr Adroddiad Monitro Blynyddol (Drafft) cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd, Y Cabinet ac yna Llywodraeth Cymru.

 

            Eglurwyd bod yr adroddiad monitro yn sail dystiolaeth bwysig ar gyfer adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol. Dros amser gall yr adroddiad monitro ddangos tueddiadau, adnabod unrhyw bolisïau sydd yn cyflawni ai peidio, ac amlygu unrhyw wagle neu ddiffyg o ran polisi. Nodwyd bod gan y Cynllun Datblygu Lleol fframwaith fonitro sydd wedi ei chytuno gyda’r Arolygydd yn ystod yr Archwiliad - ategwyd bod y fframwaith yn cynnwys 69 o ddangosyddion sydd yn adrodd ar 5 thema sydd yn y Cynllun.

 

            Cyfeiriwyd at gasgliadau allweddol yr adroddiad monitro ac adroddwyd, o’u hystyried, nid oedd tystiolaeth yn dangos bod angen adolygiad cynnar o’r Cynllun. Byddai adolygiad o’r Cynllun yn cael ei gynnal yn 2021 oni bai bod adroddiad monitro blynyddol yn nodi yn wahanol.

 

            Diolchwyd am y  wybodaeth

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Awgrym i gyflwyno cyfanswm y nifer tai sydd wedi ei hadeiladu fesul blwyddyn er mwyn rhoi cyd-destun i’r adroddiad

·         Bod angen adroddiad blaen, dealladwy yn crynhoi a symleiddio rhywfaint o’r wybodaeth dechnegol, ffeithiol

·         Bod angen rheolaeth o gynnydd mewn tai haf o ganlyniad i dai newydd yn cael eu hadeiladu. Er yn ymwybodol bod y Cabinet wedi cymeradwyo gwaith ymchwil all arwain at newidiadau i ddeddfwriaeth, awgrymwyd sicrhau bod cyswllt rhwng yr adolygiad monitro blynyddol a’r gwaith ymchwil

·         Bod yr adolygiad yn monitro adeiladau newydd ac nid y stoc tai

·         Bod angen adolygu niferoedd tai yn sgil penderfyniad Wylfa B. Nifer o’r dynodiadau bellach yn ‘ddi angen’

·         Angen cydlynu datblygiadau economaidd gyda datblygiadau tai yn well

·         Angen ystyried y term, ‘pobl leol’. Gwledydd eraill megis yr Eidal yn datblygu tai ar gyfer pobl leol yn unig – awgrym i edrych yn fanylach i gynlluniau tebyg

·         Rhaid rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg ar gyfer pob datblygiad ac nid ar gyfer adeiladu tai yn unig.

·         Bod angen ystyried sut i fesur effaith ar yr iaith Gymraeg

·         Cynnig bod datganiadau iaith yn cael eu cwblhau gan arbenigwyr cydnabyddedig priodol – awgrym i’r Cyngor roi arweiniad ar y rhai sydd yn gymwys i gwblhau datganiadau iaith

·         Awgrym i sefydlu gweithgor ymhen blwyddyn fel bod modd herio ymhellach a chael dadansoddi’n fanylach

·         Pwy fydd yn ymateb ar ran y Cyngor i’r ymgynghoriad ar y Fframwaith Cenedlaethol erbyn Tachwedd 1af 2019?

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn ar awgrym y dylai datganiadau iaith gael eu cwblhau gan arbenigwyr cydnabyddedig priodol, mynegodd Rheolwr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd bod y Canllaw Cynllunio Atodol, Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy, sydd y cynnwys arweiniad ar gynllunio a’r iaith Gymraeg, yn cyfeirio at yr angen i’r datganiadau gael ei gwneud gan unigolyn cymwys. Cydnabuwyd bod y canllaw yn cynnwys gwybodaeth newydd i bawb a bod bwriad cynnal sesiynau gydag Aelodau a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.