Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Kim Jones, Annwen Hughes a Rhys Tudur.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirdd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 161 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2023 fel rhai cywir. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2023, fel rhai cywir.

 

5.

DIWEDDARIAD BLYNYDDOL GAN Y BARTNERIAETH DIOGEWLCH CYMUNEDOL (GWYNEDD A MÔN) pdf eicon PDF 264 KB

I roi trosolwg i Aelodau o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) Gwynedd a Môn am y cyfnod 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Derbyn yr adroddiad a’r dogfennau atodol gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

2.    Cefnogi’r blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i’r dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn a Phennaeth Cynorthwyol Diogelu, Sicrwydd Ansawdd, Iechyd Meddwl a Diogelwch Cymunedol. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr Aelodau o’r angen i graffu gwaith y Bartneriaeth yn ei gyfanrwydd yn hytrach na manylu ar unrhyw gorff neu sefydliad penodol.

 

Eglurwyd bod y bartneriaeth wedi ei ffurfio yn unol â Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998 sy’n gosod dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol i weithio mewn partneriaeth gyda’r Heddlu, Gwasanaeth Iechyd, Gwasanaeth Prawf a Gwasanaeth Tân ac Achub i roi sylw i agenda diogelwch cymunedol lleol. Mae prif gyfrifoldebau’r bartneriaeth yn cynnwys: Trosedd ac Anrhefn, Camddefnyddio Sylweddau, Lleihau Aildroseddu, lleihau trais difrifol a sefydlu Adolygiadau Dynladdiad Domestig (DHR).

 

Nodwyd nad oes gan y bartneriaeth gyllid penodol ac yn ddibynnol ar grantiau rhanbarthol a chenedlaethol. Eglurwyd mai’r unig gomisiynu a wneir gan y bartneriaeth yw cynnal yr Adolygiadau Dynladdiad Domestig. Yn anffodus, esboniwyd bod y bartneriaeth yn gweithio ar 5 Adolygiad Dynladdiad Domestig eleni a nodwyd ei fod yn anochel bod gan y gwaith oblygiadau sylweddol a pharhaus ar adnoddau’r bartneriaeth.

 

Cydnabuwyd mai’r brif her sy’n wynebu’r bartneriaeth ar hyn o bryd ydi’r gwahanol fathau o droseddau sy’n digwydd o fewn ein cymunedau. Manylwyd bod datblygiadau technolegol wedi cynyddu’r cyfleoedd ble all pobl gael eu cam fanteisio gan Grwpiau Trosedd Cyfundrefnol. Ymhellach, ystyriwyd bod yr argyfwng costau byw yn cyfrannu at ffigyrau troseddau o fewn y maes diogelwch cymunedol.

 

Cadarnhawyd bod y Bartneriaeth yn gweithredu yn unol â chynllun blynyddol, sy’n seiliedig ar flaenoriaethau Strategaeth Bwrdd Gogledd Cymru Mwy Diogel. Nodwyd mai’r blaenoriaethau ar gyfer cynllun blynyddol 2023/24 ydi:

·       Atal Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

·       Mynd i’r Afael â Throseddau Treisgar

·       Mynd i’r Afael â Throseddau Cyfundrefnol Difrifol

·       Diogelu ac adeiladu cymunedau gwydn a chynnal diogelwch y cyhoedd.

 

Cyfeiriwyd at ffigyrau troseddu cyfredol gan nodi bod trais yn erbyn person wedi gostwng yn gyffredinol yng Ngwynedd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Nodwyd hefyd bod cynnydd o 15.4% yn nhroseddau ‘Dwyn a thrin’ o’i gymharu â llynedd, ac ystyriwyd bod hyn yn ganlyniad i fwy o achosion troseddau manwerthu. Eglurwyd bod hyn yn dilyn yr ystadegyn bod lladrata o siopa wedi cynyddu 43% eleni o’i gymharu â llynedd, gyda chynnydd cyffredinol o 35% ar draws y rhanbarth. Manylwyd bod yr argyfwng costau byw yn cael ei ystyried fel un o’r ffactorau mwyaf blaenllaw dros y cynnydd hwn. Cydnabuwyd bod troseddau manwerthu bellach yn flaenoriaeth i’r heddlu ac mae gwaith sylweddol ar droed er mwyn sicrhau bod y ffigyrau hyn yn gwella. Sicrhawyd bod trigolion yn cael eu hysbysu o unrhyw gymorth sydd ar gael, a banciau bwyd lleol ble mae’n briodol.

 

Adroddwyd bod nifer o gymunedau Gwynedd yn tan-adrodd ar y digwyddiadau o fewn eu cymunedau. Cydnabuwyd bod hyn yn her i’r bartneriaeth mewn sawl maes megis trais yn y cartref, ble mae sawl digwyddiad yn mynd heibio cyn i ddioddefwyr chwilio am gefnogaeth. Pwysleisiwyd ei fod yn allweddol bod pobl  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

STRATEGAETH LLIFOGYDD LLEOL pdf eicon PDF 178 KB

I gyflwyno copi drafft o’r Strategaeth Llifogydd Lleol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan argymell:

·       Bod angen cynnwys mwy o wybodaeth am raglen waith cynnal a chadw rhigolau a cheuffosydd yn y Strategaeth.

·       Dylid ystyried addasu’r ddogfen fel bod y wybodaeth gyfredol yn unig yn cael ei nodi am y Cynlluniau Datblygu Lleol o dan pwyntiau 4.1.4 a 4.1.5.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC), Steffan Jones (Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC), Rhydian Roberts (Prif Beiriannydd) a Rob Williams (Rheolwr Gwasanaeth Dŵr ac Amgylchedd).Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr aelodau bod rhannau o’r strategaeth llifogydd lleol drafft wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yng nghyfarfod 30 Tachwedd 2023. Mewn ymateb i sylwadau’r Pwyllgor ble awgrymwyd y gallai risg o lifogydd priffyrdd gael effaith sylweddol ar ein cymunedau a bod angen i’r Strategaeth fynd i’r afael â’r risgiau hyn yn ddigonol, tynnwyd sylw bod cam gweithredu newydd wedi cael ei ychwanegu i’r strategaeth, sef Cam Gweithredu 2.3A. Cadarnhawyd byddai ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth  am gyfnod o chwe wythnos, gan gychwyn ar 26 Chwefror 2024. Sicrhawyd bod yr adran mewn cyswllt gyda’r gwasanaeth Cyfathrebu er mwyn sicrhau fod gymaint o bobl yn ymateb i’r ymgynghoriad â phosib, er mwyn rhannu gwybodaeth leol drwy holiadur neu alwad ffôn. Gobeithir bydd trigolion yn gweld yr ymgynghoriad yn cael ei hysbysebu yn eu papur bro ac ar y cyfryngau cymdeithasol, byddai hefyd yn cael ei roi ar wefan yr Aelodau er mwyn iddynt ei rannu gyda’u hetholwyr.

 

Eglurwyd bod datblygu Strategaeth Llifogydd Lleol yn un o ofynion Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Manylwyd hefyd bod angen i’r strategaeth fod yn gyson â’r Strategaeth Llifogydd Cenedlaethol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2023.

 

Atgoffwyd yr aelodau bod yr adran wedi cyflwyno’r bwriad o ystyried risgiau llifogydd mewndirol ac arfordirol ar wahân o fewn y Strategaeth newydd, yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 27 Hydref 2022. Esboniwyd eu bod yn cael eu hystyried ar wahân oherwydd:

·       Natur y risg a’r gallu i’w lliniaru

·       Gwahaniaeth mewn rolau/cyfrifoldebau statudol a goddefol

·       Polisïau a strategaethau ynghyd a gwahaniaethau yn strwythur ariannu prosiectau gan Lywodraeth Cymru.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy’r Strategaeth gan dynnu sylw at faterion hanesyddol, cynlluniau ardaloedd, rhaniad cyfrifoldebau cyrff cyhoeddus, camau gweithredu, materion ariannol a’r amcanion strategol o wella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o risgiau llifogydd.

 

Adroddwyd bod cynnal a chadw ceuffosydd a rhigolau yn allweddol er mwyn rheoli lefelau dŵr wrth ymyl ffyrdd a thai. Cadarnhawyd y rhaglennir i wagio’r ceuffosydd o leiaf unwaith y flwyddyn gyda sylw ychwanegol i leoliadau ble mae trafferthion wedi ymddangos yn rheolaidd yn y gorffennol. Manylwyd bod ceuffosydd rheolaeth risg llifogydd, sydd wedi eu lleoli tu hwnt i ardaloedd priffyrdd, yn derbyn sylw bob pythefnos yn y gaeaf a pob 4 wythnos yn yr haf. Diweddarwyd bod dwy o’r ceuffosydd yn cael eu monitro drwy gamerâu sydd wedi cael eu mewnosod, sy’n gyrru negeseuon pan mae lefelau dŵr wedi codi ac yn caniatáu iddynt dderbyn sylw yn amserol. Ymhelaethwyd bod hyn yn galluogi’r adran i weithredu’n amserol ac yn fwy penodol.

 

Eglurwyd bod gan yr adran gyfeiriad ebost penodol, ac app defnyddiol er mwyn tynnu sylw’r adran o unrhyw broblemau sy’n gysylltiedig â ceuffosydd a rhigolau yn lleol. Ystyriwyd y posibilrwydd o ddiweddaru lleoliadau ble mae’r adran wedi bod yn gweithio arnynt yn ddiweddar ar fap  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

TORRI GWAIR A CHYNNAL YMYLON FFYRDD SIROL pdf eicon PDF 909 KB

I gyflwyno adolygiad o drefniadau cynnal ymylon ffyrdd y Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

2.    Bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariad ymhen blwyddyn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC a’r Pennaeth Cynorthwyol. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod trefniadau presennol mewn lle er mwyn torri gwair a chynnal ymylon ffyrdd sirol ddwywaith y flwyddyn. Nodwyd bod yr Adran yn gweithredu mewn unrhyw ardal sydd gyda cyfyngiad ffordd o hyd at 30 milltir yr awr ac bod contractwyr allanol yn gweithredu ar gyfer ardaloedd eraill y Sir. Manylwyd bod y contract allanol hwn yn diweddu o fewn y flwyddyn ac bydd yr Adran yn ymchwilio i’w adnewyddu.

 

Tynnwyd sylw at nifer o ddyletswyddau statudol ar gyfer cynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu cydnerthedd ecosystemau, gan nodi bod angen i awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru eu bodloni. Manylwyd ar Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sy’n gosod dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i wneud bioamrywiaeth yn rhan naturiol ac annatod o bolisïau a phrosiectau. Eglurwyd bod yr Adran yn mynd y tu hwnt i’r gofynion hyn wrth sicrhau eu bod yn hadu fel rhan o dreialon bioamrywiaeth, gan nad oes gofyniad i wneud hynny.

 

Adroddwyd bod yr Adran wedi bod yn cydweithio gyda’r Gwasanaeth Bioamrywiaeth er mwyn cynnal treialon ar hyd ymylon ffyrdd yr A499 ac A497 yn Nwyfor ers Hydref 2022. Esboniwyd bod y treialon yn parhau yn yr ardal yma am dair blynedd er mwyn casglu data. Cadarnhawyd mai bwriad y treialon yw sicrhau bod newidiadau yn cael ei wneud er mwyn annog llystyfiant a bioamrywiaeth a hybu bywyd gwyllt yn yr ardal. Eglurwyd bod yr 8 lleoliad wedi eu dewis gan eu bod yn syth, llydan a hir a bod modd derbyn a dadansoddi data ystyrlon o’r treialon. Sicrhawyd bod y canlyniadau a dderbyniwyd hyd yma yn galonogol yn ogystal â’r ffaith fod yr Adran yn derbyn adborth cadarnhaol gan y cyhoedd. Pwysleisiwyd fod iechyd a diogelwch yn flaenoriaeth i’r Adran ac felly ni fydd oediad ar dorri gwair wrth ymyl unrhyw fynedfa neu gyffordd oherwydd y treialon gan fod ardaloedd y treialon wedi ei gyfyngu i ffyrdd hir, syth a llydan. Gwahoddwyd yr aelodau i gysylltu gyda’r adran os oes pryderon yn codi am unrhyw fynedfa neu gyffordd sydd angen ei dorri yn amlach na’r trefniant presennol o ddwywaith y flwyddyn.

 

Cadarnhawyd bod y treialon yn parhau i gael eu cynnal ac yn tyfu. Manylwyd bod ardaloedd eraill o fewn Gwynedd wedi cael eu hadnabod ar gyfer ymestyn y treialon i Feirionnydd. Tynnwyd sylw at y ffaith bod cyrff eraill yn mabwysiadu’r un egwyddorion er mwyn cydymffurfio â’r dyletswyddau statudol.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar ymwybyddiaeth y cyhoedd o risgiau newydd all godi megis ‘ticks’, cadarnhawyd bod hynny tu hwnt i gylch gorchwyl yr Adran ond byddai swyddogion yn cysylltu gyda’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd am wybodaeth ychwanegol.

 

Cydnabuwyd bod sbwriel sy’n cael ei daflu i ymylon ffordd yn parhau i fod yn heriol. Nodwyd bod trefniadau mewn lle er mwyn sicrhau bod y timau sy’n torri’r gwair yn rhannu eu rhaglenni gwaith gyda’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU pdf eicon PDF 195 KB

·       Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2023/24.

·       Cadarnhau trefniadau i adnabod eitemau i’w trafod yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mai 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod Blaenraglen Diwygiedig Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2023/24 wedi’i fabwysiadu yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 30 Tachwedd 2023.

 

Manylwyd bod eitem ‘Cyfarwyddyd Erthygl 4 - Ymgynghoriad Cyhoeddus’ wedi ei raglennu ar gyfer cyfarfod 18 Ebrill 2024. Pwysleisiwyd ei fod yn angenrheidiol rhoi ystyriaeth i’r hyn y bwriedir ei graffu oherwydd bod y cyfarfod yn cael ei gynnal yn ystod cyfnod cyn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, a gynhelir ar 02 Mai 2024. Cadarnhawyd bod y Swyddog Monitro wedi rhoi arweiniad na ddylid craffu’r mater yn ystod y cyfnod cyn etholiad oherwydd natur y drafodaeth yng nghyswllt cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.

 

Eglurwyd bod dyddiad wedi ei adnabod o fewn calendr drafft pwyllgorau 2024/25 a fydd yn darparu cyfle i graffu’n amserol cyn i’r Cabinet ddod i benderfyniad ar y mater. Nodwyd y bwriedir cynnal y cyfarfod ar 16 Mai 2024, ond eglurwyd bod hyn yn ddibynnol ar benderfyniad y Cyngor Llawn yng nghyfarfod 07 Mawrth 2024, pan fydd Aelodau yn ystyried y calendr pwyllgorau.

 

Yn sgil y newid hwn, cadarnhawyd bod yr Ymgynghorydd Craffu wedi ymgynghori gyda’r Cadeirydd er mwyn ail-raglennu eitem ‘Llawlyfr Cynnal Priffyrdd’ o’r cyfarfod hwn (22 Chwefror 2024), i’r cyfarfod a gynhelir ar 18 Ebrill. Eglurwyd bydd hyn yn darparu cyfle i roi sylw teg i’r eitemau gan fod tair eitem wedi ei raglennu ar gyfer pob cyfarfod.

 

Oherwydd y prinder amser rhwng cyfarfodydd 18 Ebrill ac 16 Mai 2024, cynigwyd bod y Cadeirydd ac Is-gadeirydd yn adnabod eitemau i’w trafod ynghyd â’r eitem ‘Cyfarwyddyd Erthygl 4 – Ymgynghoriad Cyhoeddus’ yng nghyfarfod fis Mai, yn eu cyfarfodydd cyswllt gyda Penaethiaid Adran ac Aelodau Cabinet perthnasol. Esboniwyd byddai hyn yn sicrhau amser digonol i’r Adrannau baratoi’r adroddiadau. Nodwyd y cyflwynir adroddiad gerbron y Pwyllgor ar 18 Ebrill 2024, er mwyn cadarnhau’r

eitemau i’w craffu yng nghyfarfod mis Mai.

 

Atgoffwyd yr aelodau o’r cyfle i flaenoriaethu eitemau i’w craffu ar gyfer gweddill cyfarfodydd 2024/25 yng Ngweithdy Blynyddol y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2023/24.

2.     Cadarnhau’r trefniadau i adnabod eitemau i’w trafod yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mai 2024.