Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Yn dilyn cyhoeddi ymgynghoriad gan y Trysorlys, adroddwyd bod yr MHCLG wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar y diwygiadau arfaethedig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol mewn ymateb i’r farn yn achos McCloud. Adroddwyd y byddai’r Pennaeth Cyllid, y Rheolwr Pensiynau a'r Rheolwr Buddsoddi yn llunio ymateb drafft mewn ymgynghoriad gyda Chadeiryddion y Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiwn (dyddiad cau 11eg Hydref 2020). Ategwyd bod y Rheolwr Pensiynau yn cydweithio gyda Hymans i geisio’r nifer o gofnodion fydd angen eu diwygio. Er nad oes amserlen wedi ei rhyddhau, nodwyd bod y gwaith yn waith gweinyddol ychwanegol sylweddol ac y byddai’n cael ei weithredu yn dilyn cwblhau’r ymgynghoriad a derbyn y gorchymyn. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 03.03.20 fel rhai cywir Cofnod: Cadarnhaodd y Cadeirydd bod y cofnod yn gofnod priodol o’r cyfarfod hwn a gynhaliwyd 3ydd o Chwefror 2020 fel rhai cywir yn ddarostyngedig i nodi bod sylw wedi ei wneud i ychwanegu effaith y coronafirws i’r gofrestr risg. |
|
COFNODION PWYLLGOR PENSIYNAU Cyflwyno er gwybodaeth, cofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 18 o Fawrth 2020 ac ystyried unrhyw faterion yn codi Cofnod: Derbyniwyd, er
gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2020. Nid oedd gan yr aelodau unrhyw sylwadau pellach i’w codi o’r cofnodion |
|
CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2020 I ystyried
adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan y Pennaeth Cyllid yn darparu
manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod
y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2020. Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun
archwiliad a bod yr archwiliad yn cael
ei weithredu gan gwmni Deloitte. Yn dilyn penderfyniad
gan Archwilio Cymru bod cyfrifon yn agored i
archwiliad cyhoeddus hyd ddechrau Medi, bydd y cyfrifon terfynol yn cael
eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio
a Llywodraethu ar y 14eg o Fedi 2020. Adroddwyd bod gwerth
y Gronfa i lawr £143m ar y 31ain o Fawrth a hynny oherwydd goblygiadau pandemig covid 19. Nodwyd bod cwymp sylweddol yng ngwerth
y farchnad yn cael ei adlewyrchu
ddiwedd Mawrth ond bellach y gwerthoedd wedi codi ac yn parhau
yn sefydlog. Cyfeiriwyd at Nodyn
12, 13 ac 14 lle nodi’r gwybodaeth ehangach ar gostau buddsoddi
oherwydd ymglymiad Cronfa Gwynedd a threfniant pwlio buddsoddiadau cyfunol Partneriaeth Pensiwn Cymru. DERBYNIWYD y wybodaeth. |
|
DATGANIAD STRATEGAETH BUDDSODDI I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad er gwybodaeth
gan y Rheolwr Buddsoddi. Adroddwyd bod y datganiad yn cael
ei adolygu bob 3 mlynedd yn
dilyn y prisiant a’i fod wedi
ei drafod gyda’r Panel Buddsoddi ym mis Mai 2020. Byddai’n cael ei
dderbyn yn swyddogol gan y Pwyllgor Pensiynau ar y 23ain o Orffennaf 2020. Tynnwyd sylw yn benodol
at ddyraniad y Gronfa sydd yn adlewyrchu
trosglwyddiad o ecwiti byd-eang i gronfa
Credyd Aml Asedau Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) - sydd erbyn hyn
yn ffurfio rhan sylweddol o fuddsoddiadau Cronfa Gwynedd. Diolchwyd am y wybodaeth. Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Nad oedd
y ddogfen yn amlygu’r risgiau / gwersi a ddysgwyd o effaith pandemig covid 19 a digwyddiadau diweddar yn Tsiena
- awgrym y dylid ychwanegu brawddeg i baragraff Rheolwyr
(tud 57) i adlewyrchu bod yr ymateb wedi
bod yn bositif ·
Bod angen
adolygu’r strategaeth yn amlach o ystyried
digwyddiadau diweddar ar effaith uniongyrchol
maent yn cael ar fuddsoddiadau. ·
Bod cyfrifoldeb
ar y Pwyllgor i fonitro’r strategaeth
yn barhaus ·
Angen amlygu’r
newidiadau o gymharu â
2019/20 Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Pennaeth Cyllid bod Rheolwyr yn gyffredinol,
wedi ymateb i’r newid. Er
y pryderon o fuddsoddi mewn eiddo ac is adeiladwaith i’r dyfodol (stryd fawr ‘yn cau’
/ dim defnydd o swyddfeydd ayyb), amlygwyd bod y dosbarthiadau ased hyn yn ehangach
na’r stryd fawr a blociau o swyddfeydd. (Cyfeiriwyd at yr ysbytai, sydd
yn rhan o ddosbarth ased is adeiladwaith a lletyai myfyrwyr fel rhan
o ddosbarth ased eiddo) Ategwyd bod dyraniad eiddo heb ei addasu
ers blynyddoedd a bod modd edrych i
ychwanegu at y dosbarth ased hwn drwy
efallai fuddsoddi mewn eiddo tu
allan i
Brydain o ystyried cryfder y $ v £. Adroddwyd mai gosod fframwaith yw diben
y Strategaeth ac nad yw yn
cyfyngu gwaith mewn unrhyw fodd.
Ategwyd bod buddsoddiadau yn cael eu
hadolygu yn ddyddiol, bod Rheolwyr yn cynnig arweiniad
yn rheolaidd a’r Pwyllgor yn adolygu’r buddsoddiadau
yn chwarterol yn y panel buddsoddi. Atgoffwyd yr Aelodau hefyd bod y Cyfansoddiad yn galluogi’r Pennaeth
Cyllid i gymryd penderfyniad mewn trafodaeth gyda Chadeirydd y Pwyllgor Pensiynau. DERBYNIWYD y
wybodaeth |
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi
ers sefydlu’r bartneriaeth yn 2017, bod y Bartneriaeth yn mynd o nerth i
nerth gyda swyddogion yn cyfarfod
yn aml. Yn
ystod cyfnod pandemig covid 19, nodwyd bod swyddogion wedi bod yn cyfarfod
pob pythefnos ar gyfrwng Teams gyda chyfarfod llawn wedi ei
raglennu ar gyfer 24ain o Orffennaf 2020. Tynnwyd sylw
at berfformiad y Gronfa, ac
er gwaethaf y pandemig ymddengys bod y farchnad wedi adfer
yn dda iawn.
Cyfeiriwyd at berfformiad Pzena oedd wedi
cyfrannu at danberfformiad Cronfa Twf Byd
Eang hyd at 31ain Mawrth 2020 ond sydd erbyn hyn
yn gyfrifol am y cynnydd yn y gronfa
oherwydd eu dulliau buddsoddi. Cyfeiriwyd at y trosglwyddiad incwm sefydlog oedd i’w
drosglwyddo diwedd Ebrill ond sydd
erbyn hyn i’w drosglwyddo ddiwedd mis Gorffennaf
2020. Yng nghyd-destun Marchnadoedd Preifat, nodwyd bod grŵp wedi ei sefydlu
i edrych ar opsiynau posib
o gyfuno asedau i’r categori yma.
Ategwyd bod Russel Investments yn
arwain ar y gwaith o ddadansoddi’r hyn sydd ar
gael gyda’r portffolio cyfredol a datblygu a rheoli cronfeydd Partneriaeth Pensiwn Cymru i’r
dyfodol. Adroddwyd bod nifer
o gyhoeddiadau a pholisïau wedi eu datblygu
yn ystod y misoedd diwethaf ac i’w canfod ar
wefan y Bartneriaeth. Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol: • Braf gweld buddsoddiadau
yn dychwelyd a sefydlogi • Bod cyfleoedd hyd yn
oed mewn trychineb • Bod cyfle i fuddsoddi yn
y Farchnad Byd Eang - potensial am ddychweliadau da wrth fod yn rhan
o Gronfa fwy Derbyniwyd y wybodaeth |
|
ADRODDIAD DRAFFT CADEIRYDD Y BWRDD PENSIWN AR GYFER ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA I gynorthwyo’r Cadeirydd i ysgrifennu’r adroddiad blynyddol Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
drafft wedi ei baratoi ar
gyfer ei gynnwys yn adroddiad
cyffredinol blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd am sylwadau Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol: • Nad oedd cyfeiriad wedi ei wneud at y pandemig • Angen ychwanegu achos Mc Cloud i’r Cynllun Gwaith • Llawer o amser wedi ei
dreulio ar y pecyn hyfforddiant - cais i ychwanegu
brawddeg yn cyfleu hyn Mewn ymateb
i’r sylw am yr hyfforddiant oedd yn cael
ei gyflwyno ar-lein, adroddwyd nad oedd
yn fandadol. Mewn ymateb i
brawf a gwblhawyd gan yr Aelodau o’u gwybodaeth i Hymans, awgrymwyd y byddai dadansoddiad y prawf yn debygol
o amlygu meysydd y bydd angen hyfforddiant
arnynt. Nodwyd nad oedd
adborth / dadansoddiad wedi ei dderbyn
gan Hymans, ond gobeithio y bydd modd ei gyflwyno
i’r cyfarfod nesaf. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad |
|
DIWEDDARIAD GWAITH GWEINYDDOL - GWEITHIO O ADREF I ystyried
adroddiad y Rheolwr Pensiynau Cofnod: Derbyniwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn adrodd ar
ymateb y Gwasanaeth i weithio drwy pandemig covid 19. Adroddwyd bod y
Gwasanaeth wedi bod yn gweithio o adref yn llwyddiannus ers 25/03/2020.
Amlygwyd nad oedd y gwasanaeth wedi dioddef oherwydd y newid i batrwm gwaith ac
er yr heriau o fod yn hyblyg gyda rhai staff ac eraill yn trosglwyddo i
adrannau eraill, ymddengys bod y newid wedi bod yn llesol i’r adran weinyddol.
Blaenoriaethwyd y gwaith a gwnaed defnydd o’r cyfrwng Teams i gyfathrebu a
chadw cysylltiad yn lleol ac yn rhanbarthol. Nodwyd bod cynnydd yn nefnydd system hunanwasanaeth Aelodau
a bod yr argyfwng wedi annog y tîm i weithio yn ddi-bapur (hyn yn fwy
effeithiol, yn gynt ac yn rhatach). Ategwyd bod amryw o dasgau a phrosiectau
angen sylw a rheiny wedi cael ei hamserlennu ar gyfer y misoedd nesaf. Ategodd y Pennaeth Cyllid ei ddiolch i staff Cyngor Gwynedd
a Llywodraeth Leol am ymateb i’r her o dan yr amgylchiadau. Nododd bod y staff
wedi gweithio yn effeithiol a chydwybodol ac er bod y sefyllfa yn un
drychinebus, y gwaith i leihau’r effaith wedi bod yn ganmoladwy iawn. Diolchwyd am yr adroddiad Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol: • Diolchwyd
i’r staff am fod yn hyblyg ac am ymateb i’r her • A oedd
problemau wedi codi gyda’r cyflogwyr? • Trefniadau wedi eu rhoi yn eu lle - mwy
o alw / defnydd ar dechnoleg / llai o waith teithio - ydy hyn am barhau? Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chadw cysylltiad gyda
chyflogwyr, adroddwyd bod llawer o’r gwaith cysylltu yn cael ei wneud drwy
iconnect ac ar y cyfan nid oedd problemau wedi codi. Ategwyd mai drwy e-bost yn
bennaf y byddant yn cyfathrebu gyda chyflogwyr beth bynnag. Derbyniwyd y wybodaeth |