Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2021/22 Cofnod: Penderfynwyd ethol
y Cynghorydd Aled Evans yn Gadeirydd y Bwrdd ar gyfer 2021-22 Diolchwyd i Mr
Osian Richards am ei waith fel Cadeirydd y Bwrdd dros y ddwy flynedd diwethaf
ac er y cyfnod covid ei fod wedi gwneud y gwaith mewn
modd ymroddgar a chydwybodol. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd
ar gyfer 2021 /22 Cofnod: Penderfynwyd ethol Mr Eifion Jones yn Is-Gadeirydd
y Bwrdd ar gyfer 2021-22 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19
Ebrill 2021 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19 Ebrill
2021 fel rhai cywir. |
|
MATERION YN CODI O'R PWYLLGOR PENSIYNAU I ystyried
materion yn codi o Pwyllgor Pensiynau 24-06-21 Cofnod: Cyfeiriodd y
Cynghorydd Peredur Jenkins (Cadeirydd y Pwyllgor) at eitem a drafodwyd yn y Pwyllgor (a oedd hefyd
wedi ei gynnwys ar raglen y Bwrdd). Mynegodd bod diddordeb cyhoeddus wedi codi
ar y mater ‘buddsoddi cyfrifol’ gyda chwestiynau gan etholwyr Môn, Conwy a Gwynedd
wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor. Gwahoddwyd yr etholwyr i’r Pwyllgor a rhoddwyd
ymateb llawn i’r cwestiynau. Ers y Pwyllgor, nodwyd nad oedd ymateb
uniongyrchol wedi ei dderbyn gan yr etholwyr (aelodau o grwp Divest Gwynedd) ond nodwyd eu bod yn cynnal protest fel
ymateb i’r ymatebion a gawsant. Nodwyd bod Swyddogion ar ran y Pwyllgor
Pensiynau wedi darparu datganiad fel ymateb pellach a’r Pwyllgor yn awyddus i’r
Bwrdd drafod yr eitem a chefnogi’r datganiad. |
|
CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2021 I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu
manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth
i ben Mawrth 31ain 2021. Fel y Swyddog Cyllidol Cyfrifol, nododd y Pennaeth
Cyllid ei fod eisoes wedi ardystio’r cyfrifon drafft a bod y cyfrifon bellach
yn destun archwiliad sy’n cael ei weithredu gan Archwilio Cymru Adroddwyd bod y
cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sy’n
cael ei gyflwyno yn y cyfrifon. Atgoffwyd yr Aelodau bod cyfrifon y llynedd,
wedi eu harwyddo gyda pharagraff ‘emphasis of matter’ oherwydd yr ansicrwydd gyda phrisiadau eiddo.
Amlygwyd bod y pedwar Rheolwr Eiddo wedi datgan nad oes ansicrwydd eleni.
Tynnwyd sylw at Gyfrif y Gronfa gan nodi blwyddyn arferol i gyfraniadau a
buddion heb newid sylweddol. Er hynny, adroddwyd newid sylweddol mewn costau
rheoli a chyfeiriwyd at nodyn 12a oedd yn egluro mai cynnydd yn ffioedd
perfformiad Ecwiti Preifat (Partners) oedd yn
gyfrifol am y cynnydd gyda pherfformiad cryf mewn 3 cronfa yn benodol.
(Derbyniwyd eglurhad llawn gan y Rheolwyr pan heriwyd eu ffioedd). Yng nghyd-destun datganiad asedau net, tynnwyd sylw at y newid yn yr
asedau buddsoddi (Nodyn 14a) sydd bellach wedi cyrraedd £2.5 biliwn gyda
chynnydd sylweddol ym Mhartneriaeth Pensiwn Cymru wedi i gyfran o Fidelity ac Insight drosglwyddo
i’r cronfeydd incwm sefydlog yn ystod y flwyddyn. Diolchwyd am fanylder yr adroddiad. Derbyniwyd bod y
cynnydd mewn costau wedi eu cyfiawnhau ac mai perfformiad da oedd sail y
cynnydd, ond gofynnwyd, beth fyddai yn digwydd petai'r perfformiad yn lleihau?
Mewn ymateb nodwyd, ar wahân i berfformiad da, bod crisialu dychweliadau hefyd
yn ystyriaeth bwysig a bod gofyn i reolwyr asedau ystyried yr elfen
dychweliadau wrth fuddsoddi. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â gosod terfyn ar gyfnodau buddsoddi, nodwyd bod addasu
cyfnod buddsoddi ‘listed assets’
yn bosib, ond os nad ydynt wedi eu cofrestru / rhestru yna byddai ystyried
gwerthu yn annoeth. Nodwyd bod dyfalbarhau gyda Grŵp Partners
yn dderbyniol. DERBYNIWYD y
wybodaeth. |
|
I gymeradwyo’r
datganiad ac i’r Cadeirydd lofnodi'r datganiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r Aelodau o
ddiwygiadau i ddatganiad Buddsoddi Cyfrifol y Gronfa. Eglurwyd, ers cyflwyno
Datganiad Buddsoddi Cyfrifol ym mis Chwefror 2021, oedd yn darparu safbwynt y
Gronfa o ddad-fuddsoddi o danwydd ffosil, bod y
sefyllfa yn newid yn ddyddiol ac felly’r datganiad yn debygol o gael ei
ddiweddaru a’i gyflwyno yn aml i’r Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiwn i’w gymeradwyo. Diolchwyd am yr
adroddiad. Ystyriwyd bod yr addasiadau yn gam pwysig i’r cyfeiriad cywir. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag awgrym gan Hymans y gall
Cronfa Gwynedd osod eu targedau eu hunain, nododd y Pennaeth Cyllid bod rhai
Cronfeydd yn gosod targedau eu hunain ond heb ystyried sut i’w cyrraedd.
Amlygodd bod Cronfa Gwynedd wedi gwneud y penderfyniad o wir weithredu yn
hytrach na gosod targed ac nad yw peidio cael targed yn golygu dim cynnydd. O
ganlyniad, ystyriwyd bod cyfle i ymgyrchwyr ddylanwadu drwy weithredu yn
gyfrifol yn hytrach na gosod addewidion gwag. Mewn ymateb i gwestiwn ategol am
safbwynt Partneriaeth Pensiwn Cymru, nodwyd bod yr wyth awdurdod o fewn y
gronfa o blaid buddsoddi cyfrifol, ond bod pob Cronfa yn gosod cyfeiriad a
chyfnod amser / targed unigol. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod cyfleoedd parhaus i’r Gronfa e.e., isadeiledd
carbon ·
Gall ymgysylltu a thrafod egwyddorion yn agored
gyda chwmnïau arwain at wella sefyllfaoedd i’r dyfodol ·
Dylid manteisio ar ymdrechion Rheolwyr Buddsoddi -
e.e., egwyddor o blannu coed yn rhywbeth sydd yn cael ei drafod ·
Awgrym i bob Cronfa sefydlu Grŵp Tasg fyddai’n
adrodd a’r gymariaethau PENDERFYNWYD: Cymeradwyo’r
datganiad Cadeirydd y Bwrdd,
Y Cynghorydd Aled Evans i lofnodi’r datganiad |
|
PERFFORMIAD BUDDSODDI'R GRONFA BENSIWN 2020/2021 I hysbysu aelodau’r Bwrdd o berfformiad buddsoddiadau'r gronfa bensiwn Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn hysbysu’r Aelodau o’r
gwaith monitro chwarterol (a blynyddol) sydd yn cael ei wneud gan y Panel
Buddsoddi ar berfformiad buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn. Adroddwyd bod Cronfa
Bensiwn Gwynedd mewn sefyllfa gymharol iach gyda gwerth y gronfa wedi cynyddu
yn raddol ers 2011, ond gyda chwymp ar 31 Mawrth 2020 oherwydd effaith pandemig Covid19. Gwelwyd
dychweliadau positif iawn ar fuddsoddiadau ecwiti gyda’r marchnadoedd yn
bownsio nôl wedi cwymp chwarter olaf 2019/20 ynghyd a pherfformiad cryf iawn
gan gronfeydd Partneriaeth Pensiwn Cymru. Yng nghyd-destun perfformiad Rheolwyr
Buddsoddi Eiddo nodwyd bod dychweliadau eiddo wedi bod yn bositif gydag adferiad yn y gwerthoedd cyfalaf yn
adlewyrchu hyder cynyddol buddsoddwyr. Er hynny amlygwyd nad oedd y stryd fawr
wedi perfformio cystal oherwydd bod ansicrwydd yn parhau gyda dyfodol siopau a
swyddfeydd. Diolchwyd am yr
adroddiad a canmolwyd y ffigyrau Nododd Cadeirydd y
Pwyllgor Pensiynau bod Partneriaeth Pensiwn Cymru yn Uned gref Gymreig, gyda’r
Cynghorau yn cydweithio yn dda ymysg ei gilydd. Ategodd bod y perfformiad yn
adlewyrchu dychweliadau o fod a dewis ehangach o opsiynau posib. Ategodd y Pennaeth
Cyllid bod y sefyllfa yn un iach a bod y flwyddyn, o ystyried pandemig covid 19, wedi bod yn un
llwyddiannus. PENDERFYNWYD
derbyn y wybodaeth |
|
ADRODDIAD CADEIRYDD Y BWRDD PENSIWN AR GYFER ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA I
dderbyn fersiwn terfynol o’r adroddiad
blynyddol Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad Cadeirydd y Bwrdd Pensiynau am 2020/21 yn dilyn derbyn sylwadau gan yr
Aelodau yn y cyfarfod diwethaf. Atgoffwyd yr Aelodau ei bod yn ofynnol i
Gadeirydd y Bwrdd Pensiwn gyflwyno adroddiad blynyddol fel rhan o adroddiad
blynyddol y Gronfa Pensiwn ac fel rhan o gyfarfod blynyddol y Gronfa. Nodwyd
bod angen cyflwyno fersiwn terfynol o’r adroddiad erbyn 31/07/21. Eglurwyd bod gosodiad yr adroddiad yn gyfatebol i adroddiad 2019/20 ac yn
cynnig datganiadau ffeithiol oedd yn adlewyrchu’r pynciau a drafodwyd. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r adroddiad |
|
DATGANIAD POLISI LLYWODRAETHU Derbyn adborth gan y Bwrdd ar y Datganiad Polisi Llywodraethu newydd Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn amlygu’r gofyn i’r Gronfa gyhoeddi
Datganiad Llywodraethu a Chydymffurfio o dan Reoliad 55 Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol 2013 (fel y’i diwygiwyd) gan adolygu’r datganiad hwnnw yn
barhaus. Bwriad y datganiad yw nodi Strwythur Llywodraethu'r Gronfa, y cynllun
dirprwyo, a'r cylch gorchwyl ar gyfer ei Chyrff Llywodraethol, y Pwyllgor
Pensiynau a'r Bwrdd Pensiynau Lleol. Amlygwyd bod y
datganiad cyfredol mewn grym ers 2008 ac wrth baratoi ar gyfer Prosiect Llywodraethu
Da Bwrdd Cynghori’r Cynllun a ddaw i rym Ebrill 2022, nodwyd bod y gwasanaeth
wedi bod yn adolygu a diweddaru’r datganiad. Eglurwyd bod y prif newidiadau yn
cynnwys darparu mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau staff y gronfa bensiwn ynghyd
a chyflwyno rhan newydd i’r polisi mewn perthynas â rôl a chyfrifoldebau'r
Bwrdd Pensiwn. Diolchwyd am yr
adroddiad a chytunwyd bod angen cydymffurfio gyda’r Rheoliadau ac adrodd ar y
sefyllfa bresennol. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag os oedd bwriad agor y Pwyllgor i gynrychiolaeth o
aelodau’r Cynllun ( er derbyn bod cyfle i bawb gael mynychu cyfarfod blynyddol
y Gronfa nid yw’n fforwm addas ar gyfer gofyn cwestiynau), nododd y Pennaeth
Cyllid wrth sefydlu’r Bwrdd Pensiwn bod
bwriad sefydlu fforwm agored, iach
a thryloyw drwy wahodd aelodau o’r Bwrdd fel sylwedyddion i’r Pwyllgor
Pensiynau a Chadeirydd y Pwyllgor Pensiynau i’r Bwrdd. Ategwyd bod Partneriaeth
Pensiwn Cymru wedi ystyried y sefyllfa ac adroddwyd bod modd ail ymweld ar
strwythur ar drothwy Etholiad 2022 ynghyd a chyflwyno rheoliadau newydd
tebygol. PENDERFYNWYD
derbyn y wybodaeth |
|
I ddiweddaru’r Bwrdd am wytnwch diogelwch seibr Cyngor Gwynedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Huw Ynyr - Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth i’r
cyfarfod Cyflwynwyd, er
gwybodaeth, adroddiad blaen gan y Rheolwr Pensiynau mewn ymateb i gais gan yr
Aelodau am ddiweddariad o wytnwch diogelwch y Cyngor. Eglurwyd, gan mai Cyngor
Gwynedd yw awdurdod gweinyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd mai’r Adran Technoleg
Gwybodaeth y Cyngor sydd yn amlwg yn gofalu a chynorthwyo gyda’r elfen
technoleg gwybodaeth. Amlygwyd bod y Cyngor yn cymryd diogelwch seibr o ddifrif a chyfeiriwyd at
adroddiad a baratowyd gan Bennaeth Cyllid Cynorthwyol - Technoleg Gwybodaeth
(ar gyfer y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu) yn manylu ar y ddarpariaeth sydd
mewn lle i liniaru’r risg o ymosodiad seibr. Trafodwyd y camau
hynny sydd yn eu lle i geisio atal ymosodiad seibr
ynghyd a’r rhai sydd yn ymateb yn effeithiol i’r risgiau hynny. Cyfeiriwyd at
achosion lleol diweddar oedd yn tystiolaethu bod ymosodiadau seibr yn fygythiad realistig ac felly’n herio’r Gwasanaeth
Technoleg Gwybodaeth i sicrhau gwytnwch eu hamddiffynfeydd a’u gallu i adfer eu
hunain o sefyllfa fregus petai’r amddiffynfeydd hynny yn methu. Ategwyd bod drwg weithredwyr yn addasu eu dulliau o ymosodiadau seibr yn rheolaidd ac felly’r Cyngor yn adolygu eu mesurau
yn gyson gyda chefnogaeth trydydd parti.
Nodwyd bod y Cyngor, yn bresennol, mewn lle da, ond bod elfen o risg yn
bodoli bob amser. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chynnydd mewn cyfarfodydd rhithiol a sut mae’r adran TG
yn sicrhau bod mynychwyr allanol i’r cyfarfodydd ‘yn saff’, nodwyd bod sawl cymal mewn
rhwydwaith yn rhoi gwarchodaeth DMZ (demilitarized zone) sy'n galluogi i sefydliadau amddiffyn eu
rhwydweithiau mewnol. Mewn ymateb i
gwestiwn os oes bodolaeth cynllun adfer trychineb, nodwyd bod cynllun yn bodoli
a bod y Cyngor hefyd yn rhan o’r Ymddiriedaeth Seibr
Hanfodol (Cyber Eessentials
Trust) sy’n eu cynorthwyo i warchod y sefydliad rhag
ymosodiad seibr. Ategwyd bod profion treiddiad (penetration
tests) hefyd yn cael eu cynnal yn rheolaidd. Mewn ymateb i
gwestiwn os oedd cyllideb ddigonol i amddiffyn rhag ymosodiadau ac a oedd modd
gwneud mwy i wella’r sefyllfa, nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod cadw ar ben y
sefyllfa yn waith llafurus ond bod rhaid cymryd y sefyllfa o ddifrif. Petai buddsoddiad annigonol yn y maes, byddai’
mater yn cael ei amlygu fel risg ac felly’n arwain at gynnal trafodaethau i
ganfod penderfyniad o fuddsoddi ymhellach. Yn ystod y drafodaeth ddilynol
nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Pwysig cadw llygad ar
sefyllfa sy’n ddibynnol ar arbenigedd yn y maes ·
Risg debygol fyddai colli
arbenigedd ·
Angen sicrhau bod pobl allweddol yn aros yng
Ngwynedd Penderfynwyd: Derbyn y wybodaeth Diolch i’r Adran Technoleg
Gwybodaeth am eu cefnogaeth |
|
ARSYLWI CYFARFODYD PWYLLGORAU PENSIWN 2021/22 Aelodau'r Bwrdd i
ystyried argaeledd ar gyfer arsylwi cyfarfodydd Pwyllgor Pensiwn 2021/22 21-10-21 17-01-22 24-03-22 Cofnod: 21-10-21 Sioned Parry 17-01-22 Eifion Jones 24-03-22 Osian Richards |