Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Osian Richards (Cynrychiolydd Aelodau) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 18-12-23 fel
rhai cywir. |
|
COFNODION CYFARFOD PENSIYNAU Cyflwyno,
er gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 22ain Ionawr 2024 Cofnod: Cyflwynwyd
er gwybodaeth gofnodion Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 22-01-2024 Bu i
Anthony Deakin fynychu’r cyfarfod ar ran y Bwrdd Pensiwn. Gofynnodd
y cwestiynau canlynol. ·
Caffael System Weinyddol - o weld Cronfeydd Pensiwn
eraill yn defnyddio'r un system, a fydd opsiwn i’r dyfodol i ystyried caffael
system ar y cyd? ·
Rheolaeth Trysorlys - Benthyciadau Awdurdodau Lleol
- a oes risg i hyn o ystyried bod Awdurdodau Lleol ar draws y wlad yn mynegi
diffygion ariannol a photensial o gyhoeddi hysbysiad adran 114? ·
Yng nghyd-destun Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC),
gofynnwyd o ran diddordeb, os oedd strategaeth materion ariannol yn unig wedi
cael ei hystyried o gymharu â strategaeth sydd a’r nod o geisio sicrhau balans
rhwng egwyddorion megis, dychweliadau da, materion hinsawdd, gwleidyddiaeth
ayyb? Mewn
ymateb i’r sylwadau uchod: ·
Caffael System Weinyddol - nododd y Rheolwr
Pensiynau mai’r rhwystr fwyaf sy’n atal cytundeb ar y cyd yw bod cytundebau
pawb yn dod i ben ar ddyddiad gwahanol - anodd cael yr un dyddiad ar gyfer ail
dendro Mewn
ymateb i gwestiwn ategol, a oes sicrwydd gwerth am arian a bwriad cynnal proses
gaffael llawn, nodwyd bod y cwmni presennol yn derbyn cytundeb 5 mlynedd ac y
byddai tendr llawn yn cael ei roi allan yn 2029. ·
Rheolaeth Trysorlys Benthyciadau Awdurdodau Lleol -
eglurodd y Pennaeth Cyllid, yn unol â chyngor Arlingclose, bod cyfleodd da i
Awdurdodau Lleol roi benthyg arian i Awdurdodau eraill oherwydd bod y gyfradd
llog tymor byr yn uwch na chyfraddau llog y banc a hyd yn oed os yw’r awdurdod
wedi cyhoeddi hysbysiad adran 114, bod rhaid i’r arian, yn unol â gofyn
statudol, gael ei dalu yn ôl. Nododd hefyd bod Arlingclose yn monitro'r
sefyllfa yn rheolaidd ac yn anfon rhybuddion ymlaen llaw i’r Cyngor sy’n
argymell, fel y buasent yn gwneud gyda banciau, pa Awdurdodau Lleol i’w hosgoi. ·
PPC - Er derbyn sylw bod modd llunio strategaeth
fyddai yn sicrhau dychweliadau gwell, nododd Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau bod
rhaid sicrhau balans ac osgoi peryglu swyddogaeth / perfformiad y gronfa, sydd
ar hyn o bryd ymysg y 10% uchaf yn y DU. Ategodd nad oedd angen cymryd risgiau,
ond gwneud penderfyniadau buddsoddi doeth yn seiliedig ar wybodaeth gywir. |
|
CYLLIDEB 2024-25 PENSIYNAU A RHEOLAETH TRYSORLYS Cofnod: Cyflwynodd
y Rheolwr Buddsoddi, er gwybodaeth, gyllideb ar gyfer yr Uned Gweinyddu
Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024–2025. Nodwyd bod
y gyllideb wedi ei chymeradwyo gan y Pwyllgor Pensiynau 22-01-2024. Cyfeiriwyd
at gyllideb yr Uned Gweinyddu, gan adrodd bod 24 aelod o staff yn gyflogedig o
fewn yr Uned ynghyd a chostau systemau, argraffu, ac ad-daliadau canolog.
Nodwyd bod y costau yn gyson ar wahân i ffigwr chwyddiant, gydag addasiad o
£28,600 ar gyfer cynnydd mewn cyflenwadau a gwasanaethau - hyn yn ganlyniad i adnewyddu cytundeb
systemau yn ystod y flwyddyn gyda chynnydd yng nghost y cytundeb (sydd wedi ei
gymeradwyo gan y Pwyllgor Pensiynau 22-01-24). Cyfeiriwyd
ar yr Uned Buddsoddi sydd a thri aelod a chostau yn cael eu rhannu rhwng y
Gronfa a Chyngor Gwynedd gan fod yr Uned hefyd yn gyfrifol am Reolaeth
Trysorlys. Ategwyd bod costau ymgynghorwyr a chostau rheolwyr buddsoddi yn rhan
o’i chyfrifoldeb ond bod y rhain yn amrywio yn ddibynnol ar berfformiad y buddsoddiadau
a’r gwaith sydd angen ei gyflawni gan yr ymgynghorwyr. Ystyriwyd na fyddai
gosod cyllideb fanwl ar gyfer ffioedd rheolwyr buddsoddi ac ymgynghorwyr o fudd
gan fod y gwariant yn amrywio, ond bod asiantaethau megis Pensions &
Investment Research Consultants (PIRC) yn edrych ar werth mewn
arian ar draws y Cronfeydd. Yn ogystal, ategwyd, wrth fynd i dendro ar gyfer contractau ymgynghorwyr a
actiwari yn y dyfodol agos, bydd cyllideb ar gyfer y ffioedd yn cael ei
hystyried. Diolchwyd
am yr adroddiad Penderfynwyd
derbyn yr adroddiad er gwybodaeth, a nodi cyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau
a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25 |
|
AMCANION YMGHYNGORWYR 2023 I ystyried yr adroddiad, nodi’r cynnydd yn
erbyn yr amcanion presennol a nodi’r amcanion i’r dyfodol Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar y cynnydd yn erbyn yr amcanion
cyfredol, ynghyd a chais i’r Bwrdd nodi’r cynnydd a’r amcanion ar gyfer 2024.
Adroddwyd, yn dilyn adolygiad o’r marchnadoedd ymgynghori buddsoddi a rheoli
ymddiriedol, bu i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd nodi’r angen i
Ymddiriedolwyr Cronfeydd Pensiwn osod amcanion i’w ymgynghorwyr buddsoddi gan
nodi yn glir yr hyn ddisgwylir ganddynt. Adroddwyd
ers nifer o flynyddoedd bellach, bod y Gronfa wedi gosod amcanion i’r
ymgynghorwyr presennol, Hymans Robertson a hynny i wneud yn siwr bod y gwaith
maent yn ei gyflawni yn cyd fynd gydag amcanion strategol y gronfa, ac yn
ogystal yn rhan o lywodraethu da. Er hynny, yn ystod y 6 mis nesaf bydd y
Cyngor yn cyhoeddi tendr am y gwaith ymgynghorol gan sefydlu cytundeb penodol
(fydd hefyd yn cynnwys cyfnod trosiannol). Ategwyd bod hwn yn gam priodol i’w
gymryd a byddai’n gyfle i edrych beth sydd gan y farchnad i’w gynnig ac yn
ychwanegu elfen gystadleuol. Adroddwyd
bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un prysur gydag ymgynghorwyr yn darparu
cyngor ar y strategaeth buddsoddi wrth ail asesu'r lefel cyllido yn ddiweddar,
yn cynorthwyo gyda phenderfynu ar y lefel priodol o ymrwymiadau i’r
marchnadoedd preifat a sicrhau bod llif arian digonol gan y Gronfa i dalu’r
pensiynwyr yn fisol. Ategwyd bod Hymans hefyd wedi cydweithio gyda’r swyddogion
i adolygu polisïau mewnol a sicrhau cydymffurfiaeth gydag unrhyw reoliadau
pensiwn perthnasol. Er nad yw
Hymans yn darparu hyfforddiant drwy gytundeb uniongyrchol gyda Chronfa Gwynedd,
bod hyfforddiant amserol ar gael drwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru, gyda
chyfraniadau sylweddol gan Hymans. Er derbyn hefyd bod y ffioedd yn uchel (sydd
yn wir hefyd am rai cwmnïau eraill yn y farchnad), bod Hymans wedi cydweithio
yn dda drwy’r flwyddyn gyda’r holl bartneriaid e.e. yr actiwari a Phartneriaeth
Pensiwn Cymru. Wrth
gyfeirio at amcanion ar gyfer y flwyddyn nesaf, amlygwyd bod yr amcanion
presennol wedi eu cyfuno i 10 amcan allweddol ar gyfer y dyfodol a bod yr
ymgynghorwyr buddsoddi yn ymwybodol o gefnogaeth fydd y Gronfa ei angen i
weithredu prosiectau ychwanegol yn 2024. Diolchwyd
am yr adroddiad ac am ddiweddaru’r amcanion Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r cwmnïau posib sydd ar gael i gyflawni’r
gwaith, nodwyd bod fframwaith i’r broses tendro a chwmnïau cymwys wedi arwyddo
i’r fframwaith honno (sy’n cynnwys 4 actiwari ac 8 ymgynghorydd). Er derbyn bod
rhai cwmnïau yn fwy adnabyddus na’i gilydd, bod y tendr yn edrych ar ddwy swyddogaeth
ac nid yn chwilio am gynnig pecyn cyfan i un cwmni. PENDERFYNWYD
nodi’r wybodaeth a derbyn y cynnydd a wnaed ar amcanion yr ymgynghorwyr yn
ystod 2023 |
|
HUNANWASANAETH AELLODAU - FY MHENSIWN ARLEIN I ystyried yr adroddiad a nodi’r wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd
diweddariad gan y Rheolwr Pensiynau ar y gwaith sydd wedi ei wneud i
uwchraddio’r system Fy Mhensiwn ar Lein. Adroddwyd bod y system yn ei ffurf
bresennol yn hen ffasiwn gyda nifer o aelodau yn cael problemau mewngofnodi i’r
safle sy’n golygu nid oes defnydd llawn yn cael ei wneud ohono. Datblygwyd
y fersiwn newydd gyda chefnogaeth Heywood Pension Technologies (darparwr
meddalwedd y Gronfa). Nodwyd bod gan y safle wedd hollol newydd, a gyda’r
dechnoleg newydd a ddefnyddir, golygir bod ymarferoldeb llawer gwell ar draws y
wefan gyda diweddariadau pellach ar y gweill i ymgysylltu’n well gyda’r
aelodau. Elfen
hanfodol i Gronfa Bensiwn Gwynedd yw sicrhau bod y safle newydd ar gael yn
ddwyieithog ac felly Gwynedd wedi arwain ar y gwaith o baratoi testun Cymraeg
ar gyfer y safle a sicrhau bod y Gymraeg yn safonol a chywir. Y gobaith yw bydd
gweddill cronfeydd Cymru yn manteisio ar y ddarpariaeth yma. Diolchwyd
am y diweddariad, am y gwaith da a braf gweld Gwynedd yn arwain y gad ar y
ddarpariaeth Gymraeg. Penderfynwyd
derbyn a nodi’r wybodaeth |
|
CYNLLUN HYFFORDDIANT CRONFA BENSIWN GWYNEDD I derbyn yr adroddiad a chraffu Cynllun
Hyfforddiant 2024/25 gan gynnig unrhyw argymhelliad i’r Pwyllgor Pensiynau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
diweddariad gan y Rheolwr Pensiynau ar y gwaith sydd wedi ei wneud i
uwchraddio’r system Fy Mhensiwn ar Lein. Adroddwyd bod y system yn ei ffurf
bresennol yn hen ffasiwn gyda nifer o aelodau yn cael problemau mewngofnodi i’r
safle sy’n golygu nid oes defnydd llawn yn cael ei wneud ohono. Datblygwyd
y fersiwn newydd gyda chefnogaeth Heywood Pension Technologies (darparwr
meddalwedd y Gronfa). Nodwyd bod gan y safle wedd hollol newydd, a gyda’r
dechnoleg newydd a ddefnyddir, golygir bod ymarferoldeb llawer gwell ar draws y
wefan gyda diweddariadau pellach ar y gweill i ymgysylltu’n well gyda’r
aelodau. Elfen
hanfodol i Gronfa Bensiwn Gwynedd yw sicrhau bod y safle newydd ar gael yn
ddwyieithog ac felly Gwynedd wedi arwain ar y gwaith o baratoi testun Cymraeg
ar gyfer y safle a sicrhau bod y Gymraeg yn safonol a chywir. Y gobaith yw bydd
gweddill cronfeydd Cymru yn manteisio ar y ddarpariaeth yma. Diolchwyd
am y diweddariad, am y gwaith da a braf gweld Gwynedd yn arwain y gad ar y
ddarpariaeth Gymraeg. Penderfynwyd
derbyn a nodi’r wybodaeth |
|
RHAGLEN WAITH BWRDD PENSIYNAU 24-25 I ystyried y rhaglen ac awgrymu eitemau ychwanegol neu newidiadau. Cofnod: Cyflwynwyd rhaglen
waith diwygiedig ar gyfer 2024/25. Nodwyd bod y rhaglen yn cynnwys materion a
nodwyd yn dilyn ystyriaeth gan y Bwrdd mewn cyfarfodydd blaenorol a materion yn
codi. Amlygwyd y gellid ychwanegu materion sy’n codi yn ystod y flwyddyn i’r
rhaglen yn unol ar angen ynghyd ag unrhyw faterion / syniadau fydd yn codi gan
aelodau wedi sesiynau hyfforddi a / neu ddigwyddiadau perthnasol. Nododd
Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau ei fod wedi cyflwyno adborth i Aelodau’r
Pwyllgor o gynhadledd LAPFF a fynychodd yn Bournemouth fis Rhagfyr 2023.
Amlygodd bod gwerth mewn rhannu gwybodaeth o’r cynadleddau / sesiynau hyfforddi
a’i fwriad oedd cynnig eitem reolaidd ar raglen y pwyllgor. Awgrymodd i
Aelodau’r Bwrdd wneud yr un peth. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth |