Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd John Pughe Roberts (Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau). Roedd yr aelodau yn dymuno anfon eu cofion gorau at y Cynghorydd John Pughe Roberts a’i bartner Rhian sydd ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth yn ysbyty Abertawe

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 90 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 13.12.18 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod hwn a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2018 fel rhai cywir.

 

5.

COFNODION Y PWYLLGOR PENSIYNAU pdf eicon PDF 88 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 21.01.2019

 

 

Cofnod:

Derbyniwyd, er gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2019.

 

Benthyg gwarant:

Amlygwyd bod Mr Hywel Eifion Jones wedi holi ynglŷn â chyfyngu swm buddsoddiad perthnasol y Gronfa, ac os oedd uchafswm wedi ei osod. Nodwyd y byddai’r cwestiwn yn cael ei ofyn yng nghyfarfod Cydbwyllgor Partneriaeth Pensiynau Cymru 27.3.19.

 

Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun: Rheoli Costau

Mewn ymateb i argymhellion arfaethedig  Bwrdd Cynghori’r Cynllun fyddai’n dychwelyd cyfanswm cost y cynllun at ei darged cost o 19.5%, cytunodd yr aelodau gyda sylwadau’r Pwyllgor Pensiynau gan amlygu bod rhaid i’r cynllun fod yn fforddiadwy i bawb. Ategwyd bod achos McCloud bellach wedi arafu’r broses ac y byddai’r Bwrdd Ymgynghorol cenedlaethol y CPLlL yn ail ystyried yn dilyn canlyniad yr achos.

 

Staffio Uned Weinyddol Pensiynau:

Mewn ymateb i’r wybodaeth am ail strwythuro’r uned weinyddol, croesawyd y ffaith nad oedd toriadau i Weinyddiaeth y Gronfa Bensiwn, a gwerthfawrogwyd dealltwriaeth clir yma yng Ngwynedd fod y Gronfa a chyllideb yr awdurdod gweinyddu yn parhau i gael ei ariannu ar wahân i gyllideb y Cyngor.

 

6.

PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU: BUDDSODDIADAU ECWITI pdf eicon PDF 59 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn hysbysu’r aelodau am drosglwyddiad portffolio ecwiti Cronfa Gwynedd i gronfeydd newydd Partneriaeth Cymru. Trosglwyddwyd symiau cyfartal i ddwy gronfa ym mis Ionawr 2019,

 

·         LF Wales PP Global Growth Fund (Class A Income)

            (Baillie Gifford, Veritas a Pzena)

·         LF Wales PP Global Opportunities Equity Fund (Class A Income)

(Morgan Stanley, Numeric, Sanders, Jacobs Levy, SW Mitchell, NWG ac Oaktree)

 

Ategwyd bod yr ymarfer wedi bod yn rhwydd gyda buddsoddiadau i’r ddwy gronfa wedi cadw eu gwerth yn ystod y trosglwyddiad.

 

Adroddwyd bod y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol o Lywodraeth San Steffan yn cynnal ymgynghoriad ar ganllawiau rheoli a gweinyddu Partneriaethau. Amlygwyd bod ymateb Partneriaeth Cymru yn cael ei baratoi ac i’w drafod yn derfynol yng nghyfarfod nesaf Cydbwyllgor Partneriaeth Pensiynau Cymru 27.3.19.  Awgrymodd y Pennaeth Cyllid, os yn ymarferol, byddai’n rhannu’r ymateb drafft terfynol gyda Chadeirydd ac Aelodau’r Bwrdd, fel byddai modd derbyn eu  sylwadau cyn cyflwyno ymateb terfynol i’r Llywodraeth ar 28.3.19.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag adolygu’r perfformiad buddsoddi, nodwyd bod hyn yn gynamserol a byddai trefniadau adrodd a perfformiad yn cael eu trafod gyda Link a Russell Investments yng nghyfarfodydd buan y Bartneriaeth. Yng nghyd-       destun ffioedd sydd yn cael eu talu, cadarnhawyd byddai ffioedd y cwmnïau rheoli asedau sylfaenol yn llai o dan y drefn newydd, ond wrth gwrs bydd angen talu  ffioedd rheoli Link a Russell.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag amserlen y trosglwyddiadau, nodwyd mai’r categori asedau incwm sefydlog fydd yn trosglwyddo nesaf yng Ngwynedd yn ystod Haf 2019. Ategwyd bod trafodaethau eisoes wedi eu cynnal yn y Panel Buddsoddi am y trosglwyddiadau hyn a bod diddordeb wedi ei ennyn mewn dau o is-gronfeydd Partneriaeth Pensiynau Cymru .

 

Yng nghyd-destun ecwiti mewn rhanbarthau penodol, eglurwyd nad oedd gan Gronfa Bensiwn Gwynedd fandadau penodol ar wahân ar gyfer y rhanbarthau hynny, ond y byddai buddsoddiadau ecwiti Gwynedd mewn rhanbarthau marchnadoedd datblygol yn debygol o drosglwyddo yn Hydref 2019.

 

O ran effaith y trosglwyddiadau ar lwyth gwaith staff, nodwyd mai her fawr nesaf y gwasanaeth fydd cau cyfrifon 2018/19 yn Ebrill / Mai.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

7.

ADRODDIAD Y BWRDD AR GYFER ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA BENSIWN 2018/19 pdf eicon PDF 152 KB

I ystyried yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad drafft cychwynnol Cadeirydd y Bwrdd Pensiynau am 2018/19 yn gwahodd yr Aelodau i gyfrannu ychwanegiadau neu welliannau i’r adroddiad. Eglurwyd bod gosodiad yr adroddiad yn gyfatebol i adroddiad 2017/18 ac yn cynnig datganiadau ffeithiol sydd yn adlewyrchu’r pynciau a drafodwyd yn ystod blwyddyn 2018/19.

 

Ychwanegiadau ac addasiadau i’r drafft, yn codi o’r drafodaeth:

·         Bod angen i’r adroddiad adlewyrchu ymarfer positif rhagweithiol

·         Byddai’n synhwyrol cymharu ag adroddiadau cronfeydd eraill

·         O ran yrarolwg trefnangen amlygu’r farn yn ychwanegol i’r ateb yn unig

·         Olyniaeth staffio, materion risg a chostau cyflogwyr wedi bod yn faterion y mae’r Bwrdd wedi eu hamlygu i’r Pwyllgor weithredu arnynt.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad yn ddarostyngedig i gynnwys y sylwadau uchod.

 

 

8.

CYNHADLEDD LAPFF

I dderbyn adolygiad ar lafar o’r gynhadledd

 

Cofnod:

Nododd H. Eifion Jones ei fod wedi mynychu Cynhadledd Flynyddol Fforwm Cronfa Pensiwn Awdurdod Lleol yn Bournemouth ar 5 - 7 Rhagfyr 2018 a’i fod wedi anfon copi o gyflwyniadau PowerPoint o’r gynhadledd at y Pennaeth Cyllid a’r Cadeirydd. Ategodd y Pennaeth Cyllid ei fod wedi derbyn y cyflwyniadau ynghyd ag e-bost gan Hymans yn amgáu adroddiad yn crynhoi cyflwyniadau cynhadledd Bournemouth, ac y byddai’n ei anfon ymlaen i’r aelodau.

 

9.

RHAGLEN WAITH 2019/2020 pdf eicon PDF 397 KB

I ystyried adroddiad Arweinydd Tîm Cyfathrebu a Systemau

Cofnod:

Cyflwynwyd rhaglen waith drafft gan yr Arweinydd Tîm Cyfathrebu a Systemau, yn cynnwys materion ac eitemau i’w trafod yn ystod y flwyddyn.

 

Sylwadau ac awgrymiadau yn codi o’r drafodaeth:

·         Diweddariad ar fuddsoddi a gweinyddiaeth i ymddangos bob yn ail gyfarfod

·         Materion yn codi o’r Pwyllgor Pensiynau yn eitem ar gyfer pob cyfarfod

·         Cofrestr Risg fel eitem ar gyfer pob cyfarfod, yn unol ag awgrym gan CIPFA bod hyn yn ymarfer da. Cynnig yr eitem fel un i adrodd ar newidiadau yn unig, nid agoriad i drafodaeth ar unrhyw agwedd.

·         Y byddai disgwyliad i’r swyddogion adrodd ar dorcyfraith technegol i’r cyfarfod Bwrdd canlynol, petai un yn codi

·         Awgrym i gynnal trafodaeth ar ymgysylltu gyda phobl ifanc / hybu budd y gronfa

·         Y byddai diweddariad ar achos McCloud yn debygol o gael effaith ar waith a thrafodaethau’r gronfa yn ystod yn flwyddyn

·         Materion o’r Gynhadledd Llywodraethu CPLlL (Ionawr 2020) i’w drafod yng nghyfarfod Bwrdd mis Mawrth 2020

·         Dyddiadau cyfarfodydd i’w cadarnhau

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a diwygio’r rhaglen waith yn unol â’r sylwadau.