Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2019 - 20

Cofnod:

PENDERFYNWYD gohirio’r eitem yma a’i gynnwys ar raglen y cyfarfod nesaf – Medi 24ain 2019

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2019 - 20

Cofnod:

PENDERFYNWYD gohirio’r eitem yma a’i gynnwys ar raglen y cyfarfod nesaf – Medi 24ain 2019

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Sharon Warnes ac Osian Richards

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 73 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 13.03.2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod hwn a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2019 fel rhai cywir.

 

7.

MATERION YN CODI O'R PWYLLGOR PENSIYNAU 14.3.19 pdf eicon PDF 96 KB

Cyflwyno er gwybodaeth, cofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 14.3.19 ac ystyried unrhyw faterion yn codi

Cofnod:

 

Derbyniwyd, er gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2019. Nid oedd gan yr aelodau unrhyw fater i’w godi o’r cofnodion.

 

8.

ADRODDIAD (drafft) CADEIRYDD Y BWRDD PENSIYNAU AM 2018/19 pdf eicon PDF 153 KB

I ystyried yr adroddiad

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad drafft diwygiedig wedi ei baratoi ar y cyd gyda’r Cadeirydd oedd yn cynnwys y sylwadau a gyflwynodd aelodau’r Bwrdd yn eu cyfarfod Mawrth 2019. Atgoffwyd yr aelodau y byddai’r adroddiad yn cael ei gynnwys yn adroddiad cyffredinol blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad

 

9.

DIWEDDARIAD AR BERFFORMIAD BUDDSODDIAD

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Cofnod:

Cyflwynwyd tabl yn crynhoi perfformiad mandadau ecwiti a bondiau ac adroddwyd bod y mwyafrif yn perfformio uwchben y meincnodau. Eglurwyd nad oedd pob Cronfa wedi adrodd yn brydlon ar eu perfformiad ac felly amcangyfrifwyd y dychweliadau. Eglurwyd mai ychydig dros 6 wythnos o berfformiad oedd gan ddau is-gronfa Partneriaeth Pensiwn Cymru, sef y ‘WPP Global Growth Fund’ a’r ‘WPP Global Opportunities Fund’, ac felly derbyniwyd bod angen cyfnod estynedig cyn asesu’r perfformiad. Nodwyd bod monitro perfformiad yn broses tymor hir ym myd pensiynau ac y byddai’r sefyllfa yn cael ei fonitro a’i adolygu wrth symud ymlaen.

 

Gwnaed cais i amlygu canran o faint o arian sydd yn y pŵl Partneriaeth Pensiwn Cymru unwaith bydd pethau wedi sefydlogi, fel bod modd cael darlun clir wrth i asedau drosglwyddo.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

 

10.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 28 KB

I ystyried yr adroddiad a chraffu’r gofrestr risg a dod ac unrhyw sylwadau neu gynigion i’r cyfarfod

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd y gofrestr risg i’r Aelodau fel bod modd iddynt graffu’r fersiwn ddiweddaraf a chadarnhau bod y risgiau sydd wedi eu hadnabod yn cael eu monitro yn gywir. Nodwyd bod y gofrestr yn ddogfen weithredol gyda’r risgiau yn cael eu hadolygu yn rheolaidd a mesuriadau lliniaru yn eu lle.

 

Roedd yr Aelodau eisoes wedi gwneud cais i’r gofrestr risg fod yn eitem sefydlog ar gyfer pob cyfarfod, yn unol ag awgrym gan CIPFA. Cytunwyd y byddai’r eitem yn un i adrodd ar newidiadau yn unig ac nid yn agoriad i drafodaeth ar unrhyw agwedd.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

 

·         Awgrym i gynnwys risg ar gyfer cyfraith achosion (hyn yn codi o achos diweddar McCloud).

·         Mewn ymateb i fethiant cyflogwr, nodwyd bod cyfraniadau cyflogwyr yn cael eu casglu’n fisol. Byddai unrhyw bryderon yn cael ei monitro, ond bod gan y Gronfa warant gan gyn-gyflogwr.

·         Gyda’r Pwyllgor Pensiynau wedi cytuno buddsoddiad ychwanegol mewn adnoddau staff i’r Gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau, a ddylai sgôr y risg ‘adnoddau staff digonol’ gael ei ostwng? Mewn ymateb nodwyd bod pwysau sylweddol yn parhau ar Wasanaeth Buddsoddi’r Gronfa, ar gysoni trosglwyddiadau i’r pŵl Partneriaeth Pensiwn Cymru, ac y byddai modd adolygu’r sefyllfa ymhen 12mis.

·         Nododd swyddogion bod y Gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau wedi derbyn gwybodaeth yn amserol gan gyflogwyr eleni sydd yn welliant sylweddol, ond nad oedd cywirdeb y wybodaeth wedi ei wirio eto. Gyda datblygiad a defnydd o system i-Connect, roedd y swyddogion yn rhagweld gwelliant pellach i’r dyfodol. Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith o gryfhau’r broses gyfathrebu ac ymgysylltu gyda chyflogwyr.

 

PENDERFYNWYD derbyn cynnwys y gofrestr risg ac ychwanegu’r cynigion uchod.

 

11.

YMGYNGHORIAD POLISI'R WEINYDDIAETH TAI, CYMUNEDAU A LLYWODRAETH LEOL (MHCLG) - 'CYNLLUN PENSIWN LLYWODRAETH LEOL: pdf eicon PDF 47 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth adroddiad yn amlygu bod Polisi’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) yn cynnal ymgynghoriad - Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol: Newidiadau i’r cylch prisio lleol a pholisi rheolaeth risg cyflogwyr. Amlygwyd bod Llywodraeth San Steffan yn cynnig diwygio rheoliadau fel bydd prisiadau cronfeydd y C.PLl.L. yn newid o gylch tair blynedd i gylch pedair blynedd.

 

Adroddwyd bod cylch tair blynedd yn addas ar gyfer cynlluniau sydd wedi’u ariannu, fel Cronfa Gwynedd, a mynegwyd mai’r ddadl gychwynnol yw mai esgeulus fyddai newid i gyfnod 4 blynedd oherwydd rhesymau cyfleustra a chysoni trefniadau cenedlaethol Llywodraeth y DU. Ategwyd nad oedd rhesymau clir dros y newid arfaethedig, ac nad oedd achos busnes i’w gyfiawnhau.

 

Eglurwyd bod yr ymgynghoriad yn cau ar y 31ain o Orffennaf 2019 ac y byddai’r swyddogion yn ceisio arweiniad gan actiwari’r Gronfa a chyrff proffesiynol eraill. Nodwyd mai’r bwriad yw paratoi ymateb drafft mewn ymgynghoriad gyda Chadeirydd y Pwyllgor Pensiynau a chyflwyno’r ymateb hwnnw i’r Pwyllgor Pensiynau ei gymeradwyo ar y 29ain o Orffennaf 2019.

 

Mewn ymateb nodwyd bod y drefn bresennol yn effeithiol ac felly cwestiynwyd yr angen i newid – y rhesymau heb eu hamlygu yn glir gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) a bod dim achos busnes ganddynt. Gwnaed cais i’r swyddogion Cyllid rannu copi o’r arweiniad y bydd actiwari’r Gronfa, Hymans Robertson yn ei gynnig, ynghyd â’r ymateb drafft ar ran Cronfa Gwynedd.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth a chefnogi’r swyddogion yn eu hymateb i’r ymgynghoriad

 

12.

PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - YMGYSYLLTU GYDA CADEIRYDDION BWRDD PENSIWN pdf eicon PDF 33 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, manylion a chofnodion cyfarfod Partneriaeth Pensiwn Cymru

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad er gwybodaeth yn amlinellu trefniadau ymgysylltu Partneriaeth Pensiwn Cymru gyda Chadeiryddion yr 8 Bwrdd Pensiwn C.PLl.L. Cymreig. Amlygodd y Cadeirydd bod yr awydd i gyfarfod wedi codi mewn ymateb i ganfod dull ymarferol o rannu a thrafod rhaglen waith yr awdurdod lletya, sir Gâr, ynghyd â phryderon oedd yn cael eu hamlygu. Er i ambell Gadeirydd Bwrdd Pensiwn gynnig y byddai modd amlygu pryderon drwy lythyru, penderfynwyd mai cynnal trafodaeth ddwyffordd mewn cyfarfod ar y cyd fyddai’r dull gorau o fynd i’r afael â'r materion. Cynhaliwyd cyfarfod yn Neuadd y Sir Caerdydd ar yr 2il o Ebrill 2019, lle roedd  y Pennaeth Cyllid a Cadeirydd Bwrdd Pensiwn Gwynedd yn bresennol, a chyfeiriwyd at y cofnodion oedd wedi eu hatodi gyda’r adroddiad.

 

Adroddwyd bod y cyfarfod wedi bod yn fuddiol iawn a datrysiadau wedi eu cynnig. Derbyniwyd y byddai problemau cychwynnol amlwg wrth sefydlu Partneriaeth o’r newydd:

 

Nododd y Cadeirydd y materion canlynol oedd wedi codi yn ystod y cyfarfod:

·         bod llawer o waith wedi cael ei wneud wrth drosglwyddo buddsoddiadau

·         bod gan yr awdurdod lletya gynllun gweithredu manwl yn ei le

·         derbyn yr angen am wella cyfathrebu a gwybodaeth ar y wefan

·         aelodaeth rhai o’r Byrddau yn wahanol, ac felly’n cyflwyno agweddau gwahanol o graffu a herio

·         cytundeb byddai’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob 6 mis – hyn yn galonogol.

 

Derbyniwyd y wybodaeth.

 

13.

CAP AR DALIADAU YMADAEL Y SECTOR CYHOEDDUS pdf eicon PDF 55 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth adroddiad yn amlygu bod Llywodraeth San Steffan yn ymgynghori ar gyfyngu taliadau ymadael yn y sector gyhoeddus – gweithredu cap taliad ymadael o £95k.

 

Nodwyd bod manylion yr adroddiad ychydig yn amwys a bod mwy o gwestiynau nac atebion yn amlygu eu hunain ar hyn o bryd gan nad oedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ar eu safbwynt ar y mater. Amlygwyd bod gan Weinidogion Cymru bwerau i lacio’r cyfyngiadau ac un awgrym o fewn llywodraeth leol Cymru yw na ddylai ‘cap ymadael’ ar gyfer Cymru gynnwys ‘straen’ pensiwn. Gall Llywodraeth Cymru lacio’r gofyn yn briodol, gan hefyd ystyried lleihau'r £95k.

 

Eglurwyd bod yr ymgynghoriad yn cau ar y 3ydd o Orffennaf 2019 ond nad oedd unrhyw gyfarwyddyd ar sut i weithredu wedi ei gyflwyno gan Lywodraeth San Steffan.

 

Cynigiwyd i’r ymateb nodi cefnogaeth i dynnu ‘straen’ pensiwn allan o’r cap ymadael ac y dylid amlygu pryder am gyfyngu’r hyblygrwydd. Gwnaed cais i’r swyddogion ymchwilio i’r nifer o weithwyr / aelodau y bydd hyn yn cael effaith arnynt, yn enwedig y nifer hynny fuasai yn derbyn dros £50k

 

PENDERFYNWYD annog cyflogwyr Cronfa Gwynedd i ymateb i’r ymgynghoriad.

 

14.

RECRIWTIO A PENODI AELOD I'R BWRDD

I dderbyn gwybodaeth ar lafar gan y Pennaeth Cyllid

Cofnod:

Y dilyn cyhoeddiad gan y Cadeirydd, Tony Deakin, ei fod yn ymddeol ar ddechrau mis Awst, amlygodd y Pennaeth Cyllid ei fod yn derbyn ei ymddiswyddiad ac felly yn dechrau ar y broses o recriwtio a phenodi cynrychiolydd cyflogwr newydd i’r Bwrdd Pensiwn drwy lythyru cyflogwyr.

 

Ategodd ei ddiolch i Tony Deakin am ei wasanaeth fel aelod ac fel Cadeirydd y Bwrdd, ac fe’i longyfarchwyd ef a Chartrefi Conwy ar dderbyn gwobr yn seremoni Gwobrau Cyllid Cyhoeddus am fodelau amgen o ddarparu gwasanaeth gan ddod a chyfleoedd cyflogaeth i drigolion lleol.

 

Mynegodd y Cadeirydd Tony Deakin ei ddiolch i’r Pennaeth Cyllid a’r swyddogion am eu cefnogaeth ac hefyd i aelodau’r Bwrdd am eu gwaith da a’u parch tuag at y gwaith. Nododd ei fod wedi mwynhau’r cyfnod a’r holl brofiadau a dderbyniodd.

 

Diolchodd Mr Hywel Eifion Jones i’r Cadeirydd ar ran yr Aelodau gan ddymuno ymddeoliad hapus iddo.

 

 

15.

DYDDIADAU CYFAROFYDD PENSIWN pdf eicon PDF 46 KB

Cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau o ddyddiadau perthnasol ar gyfer cyfarfodydd

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth ddyddiadau cyfarfodydd Pensiynau hyd at Fai 2020 er mwyn galluogi’r aelodau i gynllunio’n briodol.

 

Tynnwyd sylw at addasiad posibl i un o’r dyddiadau. Adroddwyd gall Gydbwyllgor Partneriaeth Pensiwn Cymru gyfarfod ar y 4ydd o Fedi 2019 yn wahanol i’r 20fed o Fedi a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Yn unol ar drefn o enwebu aelod o’r Bwrdd i arsylwi mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Pensiynau, enwebwyd Mr Tony Deakin i fynychu cyfarfod y Pwyllgor 29.7.19.  Bydd angen ystyried enwebiadau pellach ar gyfer y cyfarfodydd eraill yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth ac adolygu presenoldeb aelodau’r Bwrdd yn y Pwyllgorau yn y cyfarfod nesaf

 

16.

PRESENOLDEB MEWN CYNADLEDDAU pdf eicon PDF 41 KB

I ethol cynrychiolwyr o’r Bwrdd Pensiwn i fynychu’r digwyddiadau

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn hysbysu’r aelodau am gynadleddau a digwyddiadau perthnasol er mwyn ceisio enwebiadau ar gyfer mynychu ar ran Cronfa Bensiwn Gwynedd.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol gan awgrymu ail drafod yn y cyfarfod nesaf am enwebiadau i’r digwyddiadau eraill.

 

Digwyddiad Blynyddol CPLlL i Aelodau Byrddau Pensiwn Lleol

26 Mehefin 2019

Osian Richards

 

Cynhadledd Flynyddol ‘Responsible Investor’s 12th Annual RI Europe Investment Conference

11 – 12 Mehefin 2019

Aled Evans

 

‘LGC Investment Seminar’, Carden Park, Swydd Gaer

27 – 28 Chwefror 2020

Hywel Eifion Jones

 

 

17.

RHAGLEN WAITH DIWYGIEDIG pdf eicon PDF 398 KB

I ystyried y rhaglen waith ac awgrymu eitemau ychwanegol neu newidiadau

Cofnod:

Cyflwynwyd rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2019/2020 yn dilyn sylwadau a dderbyniwyd yng nghyfarfod diwethaf o’r Bwrdd. Atgoffwyd yr Aelodau bod y ddogfen yn ddogfen weithredol ac i’w addasu yn unol â’r gofyn.

 

Awgrymwyd y materion canlynol i’w cynnwys ar y rhaglen waith:

 

·         Ymarferiad meincnodi yn unol â dangosyddion perfformiad allweddol CIPFA - ar hyn o bryd mae pryderon nad yw’r meddalwedd gweinyddu pensiynau, Altair, yn gallu darparu’r holl wybodaeth angenrheidiol yn y fformat sy’n dderbyniol i CIPFA. Cytunwyd i gais am ddiweddariad.

·         Diweddariad ar ddychweliadau diwedd blwyddyn – dadansoddi gwybodaeth am gywirdeb ac ansawdd y dychweliadau.