Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2019 - 20 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol Osian
Roberts yn Gadeirydd y Bwrdd Pensiwn 2019 – 2020 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is–gadeirydd
ar gyfer 2019 - 20 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Aled Evans yn Is-gadeirydd y Bwrdd Pensiwn am y cyfnod 2019-2020 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan Huw Trainor Amlygwyd y byddai sedd wag ar gyfer cynrychiolydd
cyflogwyr yn cael ei hysbysebu
cyn y cyfarfod nesaf. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Cynrychiolaeth Aelodau’r Bwrdd mewn Cynadleddau Cynhadledd Flynyddol y ‘Local Authority Pension Fund Forum’ (LAPFF) 4-6 Rhagfyr 2019, Yr Hilton, Bournemouth Osian Richards Cynhadledd Llywodraethu’r CPLlL, 23-24 Ionawr 2020, Y Principal Hotel, York Sharon Warnes |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 17 Mai
2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod hwn a gynhaliwyd ar 17 Mai 2019 fel rhai cywir.
|
|
COFNODION A MATERION YN CODI O'R PWYLLGOR PENSIYNAU Cyflwyno er gwybodaeth, cofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 29.7.19 ac ystyried unrhyw faterion yn codi Cofnod: Derbyniwyd, er gwybodaeth,
gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2019. Awgrymwyd
cynnwys adroddiad Datganiad o Gyfrifon 2019-20 ac adroddiad ISA260 yr
archwiliwr allanol i raglen y Bwrdd Medi
2020. Nid
oedd gan yr aelodau unrhyw sylwadau pellach i’w codi o’r cofnodion. |
|
GWEINYDDIAETH PENSIYNAU I ystyried adroddiad y Rheolwr Pensiynau Cofnod: Croesawyd Meirion Jones i’r cyfarfod yn
ei rôl newydd
fel Rheolwr Pensiynau. Amlygwyd bod Meirion yn olynydd i
Nic Hopkins, cyn Rheolwr Pensiynau, sydd ar gyfnod
o ymddeoliad hyblyg. Croesawyd hefyd Delyth
Jones-Thomas i’r cyfarfod. Eglurwyd bod Delyth yn olynydd i Caroline Roberts, cyn Rheolwr Buddsoddi,
sydd hefyd ar gyfnod o ymddeoliad
hyblyg. Llongyfarchwyd Meirion a Delyth ar eu penodiadau.
Diolchwyd i Nic a Caroline am eu gwasanaeth dros y blynyddoedd a dymunwyd ymddeoliad hapus i’r ddau Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr gan y Rheolwr Pensiynau
yn rhoi trosolwg
cyffredinol o weinyddu pensiwn dros y 6 mis diwethaf ynghyd
a gwybodaeth am y gwaith a gyflawnwyd dros y cyfnod, diweddariad ar amrywiol brosiectau
ynghyd a rhestr o’r heriau yr
oedd yr Uned
Weinyddu yn eu hwynebu o ddydd
i ddydd. Yn ystod y drafodaeth, nododd yr Aelodau y sylwadau canlynol: ·
Diolchwyd i’r staff am annog a chynnal trafodaethau gyda chyflogwyr i geisio cyflwyno
gwybodaeth cywir ac amserol. ·
Llongyfarchwyd y cyflogwyr am sicrhau data glan ac amserol ·
Bod angen gosod amserlen bendant ar gyfer
y cyflogwyr hynny sydd angen trosglwyddo
i ddefnyddio system i-connect. ·
Awgrymwyd cynnal cyfnod prawf
ar gyfer treialu’r wefan hunanwasanaeth PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth. |
|
PRISIAD ACTIWARAIDD TEIR-BLYNYDDOL 2019 I ystyried adroddiad
y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn darparu gwybodaeth
gyffredinol a throsolwg o’r broses prisio gyfredol ar gyfer
cynnal prisiad actiwaraidd teir-blynyddol, ynghyd ag amserlen
arfaethedig. Eglurwyd bod data’r prisiant wedi ei gyflwyno
i’r actwari ar y 16eg o Orffennaf a bod gwaith eisoes wedi
ei ddechau ar yr ymateb
i ymholiadau pellach a gafwyd gan Hymans. Y disgwyliad yw gwella ar
ganlyniad y prisiad 2016, sef cyfran ariannu
o 92% Nodwyd mai cyfrifoldeb y cyflogwyr yw cyflwyno
gwybodaeth gywir ac amserol i swyddogion
yr Uned Pensiynau.
Adroddwyd bod ansawdd y
data eleni yn dderbyniol ar yr
olwg gyntaf, a bod pob cyflogwr wedi
cwrdd gyda’r gofynion amser. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â phroffiliau risg y cyflogwyr, amlygodd y Pennaeth Cyllid bod cyflogwyr yn sefydlog a bod cyflogwyr / cwmnïau newydd i’r gronfa
bellach gyda gwarant. Diolchwyd am y wybodaeth a gwnaed sylw, wrth
ystyried yr amserlen, bod y broses o brisio yn amlwg yn flwyddyn o waith PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth |
|
RHAGDYBIAETHAU PRISIAD 2019 I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid er mwyn egluro
a chraffu rhagdybiaethau. Nodwyd bod y Pwyllgor Pensiynau wedi ystyried a chymeradwyo rhagdybiaethau yn y Crynodeb Gweithredol er mwyn gosod
targed ariannu ar gyfer prisiad
teir-blynyddol cyfredol y Gronfa fel ar
31 Mawrth 2019. Cyfeiriwyd
at fanylion llawn y rhagdybiaethau mewn adroddiad a dderbyniwyd gan Actwari’r Gronfa
oedd wedi ei gynnwys fel
atodiad i’r adroddiad. Adroddwyd mai un newid o sylwedd oedd i’r
rhagdybiaethau, sef rhagdybiaeth codiadau cyflog. Yn dilyn cyngor gan Hymans penderfynwyd addasu’r ffigwr i CPI +0.3% fyddai’n
ymateb i ddisgwyliadau codiadau cyflog tymor byr uwch, gan adlewyrchu’r
tueddiad diweddar. Ategwyd y byddai’r rhagdybiaethau yn cael eu gosod yn yr
adolygiad ar gyfer y prisiad ac y byddai trafodaethau a chyngor proffesiynol yn
cael ei dderbyn cyn addasu unrhyw ragdybiaethau i’r dyfodol. Bydd ymgynghoriad ffurfiol gyda’r cyflogwyr ar y
rhagdybiaethau ynghyd â diwygiadau eraill i’r Datganiad Strategaeth Gyllido o
brisiad 2019 yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Gwnaed sylw bod byw yn hŷn (hirhoedledd)
bellach wedi cyrraedd lefel sefydlog a bod angen efallai ail adolygu’r
fethodoleg. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth |
|
BUDDSODDIAD ECWITI CARBON ISEL I ystyried adroddiad
y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn amlinellu
penderfyniad y Pwyllgor (Gorffennaf 29ain
2019) i gadarnhau buddsoddiad carbon isel. Penderfynwyd buddsoddi 12% o gyfanswm y gronfa
bensiwn yng nghronfa ecwiti Carbon Isel Byd-eang BlackRock. Gan fod cronfeydd BlackRock yn rhan o broses o gaffaeliad ecwiti goddefol 2016 a gynhaliwyd gan Gronfeydd Pensiwn
Cymru, eglurwyd nad oedd
angen mynd trwy broses gaffael ffurfiol. Amlinellwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi dewis buddsoddi mewn cronfa a
reolir gan BlackRock i olrhain y Mynegai Carbon Isel
MSCI. Bydd y gronfa hon yn lleihau
amlygiad i gwmnïau sy’n allyrru carbon wrth olrhain Mynegai Byd-eang MSCI, gan
leihau amlygiad carbon hyd at 80%, yn hytrach na dad-fuddsoddi yn fympwyol.
Nodwyd bod Mynegai Carbon Isel MSCI yn feincnod ar gyfer buddsoddwyr sy'n
dymuno rheoli risgiau posibl sy'n gysylltiedig â'r trawsnewid i economi carbon
isel. Mae'r mynegai yn anelu at darged
gwall olrhain o 0.3% (30 pwynt sylfaen) wrth leihau'r amlygiad carbon. Trwy orbwyso mewn cwmnïau sydd ag allyriadau
carbon isel (o'i gymharu â gwerthiannau) ac mewn cwmnïau ag allyriadau carbon
potensial isel (fesul doler o gyfalaf ar y farchnad stoc), mae'r mynegai yn
adlewyrchu amlygiad carbon is nag un y farchnad eang. Ategwyd bod y buddsoddiad
yma yn un
cyfrifol ac yn ymateb i ofynion
y Cyngor ynghyd ag egwyddorion
buddsoddi'r Pwyllgor Pensiynau. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â chostau ffioedd trosglwyddo, amlygodd y Pennaeth Cyllid y byddai rhywfaint o gostau trosiannol, ond ddim swm sylweddol
yng nghyd-destun gwerth y buddsoddiad, a gyda’r buddsoddiad yn un tymor hir,
byddai’r costau yn lefelu allan. Amlygodd y Bwrdd eu bod yn
gefnogol i benderfyniad y Pwyllgor Pensiynau o ddewis buddsoddi mewn ecwiti carbon isel. Gyda sylw dyddiol
yn y wasg i Lywodraethau’r Byd ystyried elfennau
hinsawdd ac amgylcheddol, nodwyd bod y penderfyniad yma yn un
amserol a doeth. Ategwyd
bod elfennau economaidd, cymdeithasol a llywodraethu hefyd yn symud
ymlaen yn raddol ac y byddent yn croesawu ystyriaethau
cerbydau buddsoddi priodol ar gyfer
yr elfennau hyn i’r dyfodol. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth |
|
PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU - DIWEDDARIAD I dderbyn diweddariad ar lafar gan y Pennaeth Cyllid ar ddatblygiadau diweddar Cofnod: Cafwyd diweddariad ac arddangosiad gan y Pennaeth Cyllid ar wefan
newydd Partneriaeth
Pensiynau Cymru. Adroddwyd bod y wefan wedi ei lansio
Medi 2019 ac yn cynnwys gwybodaeth gychwynnol am waith y Bartneriaeth. Amlygwyd, erbyn dechrau 2020, bydd oddeutu 82% o gronfa Gwynedd wedi ei drosglwyddo
i gronfeydd Partneriaeth Pensiwn Cymru, sydd yn
gynnydd calonogol o gymharu â chronfeydd mewn sawl pŵl
yn Lloegr. Ategodd bod cydweithio da ymysg aelodau’r Bartneriaeth. Tynnwyd sylw at ddymuniad rhai i gael
cynrychiolaeth o’r Byrddau Pensiwn ar Gyd-Bwyllgor y Bartneriaeth, Awgrymodd y Pennaeth Cyllid bod nifer rhesymol o Aelodau a swyddogion eisoes ar y Cyd-Bwyllgor,
a bod cyfarfodydd ymgysylltu’n
cael eu cynnal
ar gyfer Cadeiryddion y Byrddau Pensiwn. Awgrymwyd bod y trefniant hwn, ar hyn o bryd,
yn ddigonol i sicrhau bod y byrddau Pensiwn ac aelodau’r cynllun yn cael cyfrannu
a chyflwyno barn. Gwnaed cais i fanylion
y wefan gael
ei rannu gyda’r Aelodau. Diolchwyd am y wybodaeth |