Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Cynghorydd Aled Evans (Cyngor
Gwynedd) Cynghorydd John Pughe Roberts (Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau) a Dafydd
Edwards (Pennaeth Cyllid) Anfonwyd
dymuniadau gorau am wellhad buan i’r Pennaeth Cyllid |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 24ain
o Fedi 2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod hwn a gynhaliwyd ar 24 Medi 2019 fel rhai cywir. Mewn ymateb i gais
am ddiweddariad ar y broses o recriwtio a
phenodi cynrychiolydd cyflogwr newydd i’r Bwrdd Pensiwn amlygwyd, yn dilyn
llythyru pob cyflogwr am geisiadau, bod ceisiadau wedi eu cyflwyno. Ategwyd mai
y 15fed o Ionawr 2020 yw’r dyddiad cau gyda bwriad cynnal cyfweliadau ar y 23ain o Ionawr 2020 |
|
COFNODION PWYLLGOR PENSIYNAU A CHYFARFOD BLYNYDDOL Y GRONFA BENSIWN Cyflwyno, er gwybodaeth - cofnodion cyfarfod Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 27ain o Orffennaf 2019 - cofnodion cyfarfod Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd a gynhaliwyd 24ain o Hydref 2019 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd, er gwybodaeth,
gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2019 ynghyd a chofnodion
cyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd 24 Hydref 2019. Nid
oedd gan yr aelodau unrhyw sylwadau pellach i’w codi o’r cofnodion. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg ar cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Er bod budd cyhoeddus mewn cael dealltwriaeth o weithredu’r gronfa bensiwn mae’r adroddiad yma ynglŷn â graddfeydd arfaethedig sydd yn cael eu rhannu fel rhag rhybudd gyda Cyflogwyr y Cynllun. Nid yw’r wybodaeth yma wedi ei rannu o fewn cyfundrefnau rheolaethol pob un o’r Cyflogwyr yma a gall ei gyhoeddi ar y pwynt yma gael ardrawiad ar fuddiannau’r Cyflogwyr drwy danseilio eu trefniadau adrodd a pharatoi cyllid. Ar falans, mae’r Swyddog Monitro yn fodlon nad yw’r budd cyhoeddus yn cefnogi cyhoeddi yr adroddiad yma. Cofnod: PENDERFYNWYD
cau
allan y wasg ar cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Er bod budd
cyhoeddus mewn cael dealltwriaeth o weithredu’r gronfa bensiwn mae’r adroddiad
yma ynglŷn â graddfeydd arfaethedig sydd yn cael eu rhannu fel rhag
rhybudd gyda Chyflogwyr y Cynllun. Nid yw’r wybodaeth yma wedi ei rannu o fewn
cyfundrefnau rheolaethol pob un o’r Cyflogwyr yma a gall ei gyhoeddi ar y pwynt
yma gael ardrawiad ar fuddiannau’r Cyflogwyr drwy danseilio eu trefniadau
adrodd a pharatoi cyllid. Ar falans, roedd y Swyddog Monitro yn fodlon nad oedd
budd cyhoeddus yn cefnogi cyhoeddi'r adroddiad yma. |
|
CANLYNIADAU PRISIANT Y GRONFA BENSIWN I ystyried yr adroddiad (copi arwahan i Aelodau’r
Bwrdd yn unig) Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn amlygu canlyniad prisiant y Gronfa
Bensiwn. Nodwyd bod gwellhad yn sefyllfa’r Gronfa gyda’r lefel cyllido wedi
cynyddu o 91% ar 31 Mawrth 2016 i 108% yn 31 Mawrth 2019. Nodwyd bod hyn yn
newyddion da iawn. Mewn ymateb i
gwestiwn, nodwyd bod pob cyflogwr sydd yn rhan o’r gronfa yn ymwybodol o’u
canlyniad unigol a bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda hwy. DERBYNIWYD y wybodaeth. |
|
AIL AGOR Y CYFARFOD I'R WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid ail agor y cyfarfod i’r wasg ar cyhoedd Cofnod: PENDERFYNWYD ail agor y cyfarfod i’r wasg ar cyhoedd |
|
DIWEDDARIAD AM BERFFORMIAD BUDDSODDI'R GRONFA BENSIWN 2019/20 I ystyried adroddiad
y Rheolwr Buddsoddi Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r Aelodau o’r gwaith monitro a
pherfformiad buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn. Amlygwyd bod y Gronfa mewn
sefyllfa gymharol iach gyda gwerth y gronfa wedi cynyddu yn raddol ers 2010
gyda pherfformiad buddsoddiadau’r gronfa wedi bod uwchben y meincnod ymhob un
o’r cyfnodau a fesurwyd. Adroddwyd bod dychweliadau
positif ar fondiau ac ecwiti ynghyd a dychweliadau eithaf cyson mewn
buddsoddiadau eiddo. Eglurwyd mai’r brif ffactor oedd yn effeithio’r sefyllfa
ariannu rhwng 2016 a 2019 oedd y cynnydd
o £505 miliwn o’r enillion buddsoddi. Nodwyd bod cyfran o’r cynnydd yn ganlyniad
i gyfraddau cyfnewid arian gan fod y Gronfa wedi’i brisio yn nhermau punnoedd,
ar asedau wedi’u rhestru yn nhermau arian tramor e.e. ewro a doleri. Ategwyd,
fodd bynnag, bod mwyafrif o symudiad yng ngwerth y Gronfa yn gynnydd gwirioneddol mewn
arian lleol oherwydd perfformiad ffafriol asedau'r Gronfa. Mynegwyd bod sefyllfa pob cyflogwr unigol o’r Gronfa
yn wahanol ond yn gyffredinol bod cryfder y Gronfa wedi caniatáu cymryd agwedd
hyblyg tuag at gyfraddau cyfraniadau cyflogwyr fydd yn effeithiol o Ebrill
2020. Diolchwyd am y wybodaeth. Nodwyd bod y sefyllfa yn
edrych yn dda iawn. DERBYNIWYD y
wybodaeth |
|
CYFATHREBU AG AELODAU NEWYDD AC IFANC I ysytried yr
adroddiad Cofnod: Mewn ymateb i
bryderon y Bwrdd bod aelodau ifanc yn optio allan o’r Cynllun Pensiwn cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn manylu ar y gwaith cyfathrebu sydd yn cael
ei wneud i ymgysylltu gydag Aelodau i geisio eu hannog i aros yn y Cynllun.
Trafodwyd y drefn ymuno ac optio allan ynghyd a sut mae’r Cynllun yn cael ei
hyrwyddo. Eglurwyd bod cais wedi ei wneud i adrannau Cyflogau Cynghorau
Gwynedd, Conwy a Môn am wybodaeth o’r nifer o staff sydd wedi optio allan o’r
Cynllun. Er mai un ymateb a dderbyniwyd a hwnnw gan Cyngor Gwynedd, roedd yn
rhoi darlun eithaf clir o’r sefyllfa. Yn ystod y drafodaeth,
nodwyd y materion canlynol fel rhai oedd angen sylw: ·
Cynnwys mwy o wybodaeth yn y pecyn ymuno gyda
manylion llawn o’r buddion ·
Cynnal ymgyrch i hybu staff o dan 40 oed i ymaelodi
gyda’r Cynllun Pensiwn ·
Awgrym bod angen anfon llythyr cyn y cyflog cyntaf
yn rhoi manylion swm y taliad ·
Cymharu sut mae cronfeydd eraill yn cyfathrebu gyda
staff - cais am enghreifftiau o’u llawlyfrau / pecyn ymuno ·
Holi staff sydd yn dewis optio allan am eu rhesymau
dros eu dewis PENDERFYNWYD -
derbyn y wybodaeth -
gwneud cais am ymateb i’r sylwadau uchod erbyn y
cyfarfod nesaf |
|
I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r Bwrdd ar effaith canlyniad
dyfarniad McCloud ar weinyddwyr cronfeydd a chyflogwyr sydd yn aelodau o’r
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Adroddwyd ers
penderfyniad y Goruchaf Lys (Mehefin 2019) i wadu hawl y Llywodraeth i apelio
i’r penderfyniad bod amddiffyniadau danategiad yn anghyfreithlon oherwydd
gwahaniaethu ar sail oedran, nid oedd arweiniad wedi ei gyflwyno o ganlyniad i
ddyfarniad y Llys Apêl. Ategwyd bod trafodaethau am yr effaith debygol yn cael
eu cynnal gyda’r ymgynghorydd buddsoddi, Hymans
Robertson. DERBYNIWYD y wybodaeth |
|
DETHOL CYNRYCHIOLWYR AR GYFER MYNYCHU DIGWYDDIADAU AR 16 IONAWR A 27 - 28 CHWEFROR I ystyried
adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yn hysbysu’r aelodau am gynadleddau a digwyddiadau
perthnasol er mwyn ceisio enwebiadau ar gyfer mynychu ar ran Cronfa Bensiwn
Gwynedd. PENDERFYNWYD ar y
canlynol Cyflwyniad Link a Russell 16 Ionawr 2020 Osian Richards, Hywel Eifion Jones a Sharon Warnes ‘LGC Investment
Seminar’, Carden Park, Swydd Gaer 27 – 28 Chwefror
2020 Hywel Eifion Jones, Huw Trainor a Sharon Warnes |
|
Y RHEOLYDD PENSIYNAU: AROLWG TREFN LLYWODRAETHOL GWSANAETH CYHOEDDUS 2019 Derbyn
adborth gan y Bwrdd er mwyn cwblhau’r arolwg Cofnod: Cyflwynwyd arolwg oedd wedi
ei gyhoeddi gan y Rheolydd Pensiynau ar gyfer
pob Rheolwr Cynllun Lleol. Amlygwyd mai Cyngor Gwynedd yw Rheolwr Cynllun
Lleol ar gyfer Cronfa Bensiwn
Gwynedd ac felly gyda chyfrifoldeb
i gwblhau’r arolwg ar y cyd
gyda Chadeirydd y Bwrdd Pensiynau. Eglurwyd mai’r dyddiad cau ar
gyfer ymatebion oedd 29 Tachwedd 2019, ond ymestynnwyd y terfyn amser gan
y Rheolydd er mwyn derbyn mewnbwn
y Bwrdd. Yn unol â phenderfyniad y Cadeirydd i dderbyn
mewnbwn Aelodau’r Bwrdd i’r arolwg,
cwblhawyd a chyflwynwyd yr arolwg ar-lein
i wefan y Rheolydd Pensiynau yn ystod y cyfarfod. Yn ystod
y drafodaeth, nodwyd y materion canlynol fel rhai oedd
angen sylw: ·
Bod angen
cofrestr o fuddiannau Aelodau’r Bwrdd Pensiwn (A2) ·
Bod angen
i Reolwr y Cynllun neu'r
Bwrdd Pensiwn gynnal
gwerthusiad swyddogol o’r wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau'r Bwrdd mewn perthynas â rhedeg y
Cynllun (A6). o
Awgrym trafod y Polisi
Cyfathrebu yn y cyfarfod nesaf. o
Strategaeth Weinyddol
o’r Cynllun - awgrym i edrych
ar esiamplau eraill. o
Angen diweddaru
polisïa - rhai dogfennau yn hanesyddol ·
Bod angen
cynnwys a chydnabod risg seibir ar
gofrestr risg y Cynllun (B4) ·
Bod angen
adrodd i’r Rheolydd Pensiynau y dyddiad cau a fethwyd ar gyfer cyhoeddi datganiadau aelodau gweithredol
(F2) ·
Bod
angen cofnodi rhesymeg dros beidio
adrodd ar unrhyw dor-cyfraith (F3). Cywirdeb yn bwysicach na chyrraedd targed. Ystyried eitem ar gyfer
y cyfarfod nesaf |