Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Yn dilyn cyhoeddi ymgynghoriad gan y Trysorlys, adroddwyd bod yr MHCLG wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar y diwygiadau arfaethedig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol mewn ymateb i’r farn yn achos McCloud. Adroddwyd y byddai’r Pennaeth Cyllid, y Rheolwr Pensiynau a'r Rheolwr Buddsoddi yn llunio ymateb drafft mewn ymgynghoriad gyda Chadeiryddion y Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiwn (dyddiad cau 11eg Hydref 2020). Ategwyd bod y Rheolwr Pensiynau yn cydweithio gyda Hymans i geisio’r nifer o gofnodion fydd angen eu diwygio. Er nad oes amserlen wedi ei rhyddhau, nodwyd bod y gwaith yn waith gweinyddol ychwanegol sylweddol ac y byddai’n cael ei weithredu yn dilyn cwblhau’r ymgynghoriad a derbyn y gorchymyn.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 230 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 03.03.20 fel rhai cywir  

Cofnod:

Cadarnhaodd y Cadeirydd bod y cofnod yn gofnod priodol o’r cyfarfod hwn a gynhaliwyd 3ydd o Chwefror 2020 fel rhai cywir yn ddarostyngedig i nodi bod sylw wedi ei wneud i ychwanegu effaith y coronafirws i’r gofrestr risg.

5.

COFNODION PWYLLGOR PENSIYNAU pdf eicon PDF 217 KB

Cyflwyno er gwybodaeth, cofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 18 o Fawrth 2020 ac ystyried unrhyw faterion yn codi

Cofnod:

Derbyniwyd, er gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2020.

 

Nid oedd gan yr aelodau unrhyw sylwadau pellach i’w codi o’r cofnodion

6.

CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2020 pdf eicon PDF 7 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2020. Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun archwiliad a bod yr archwiliad yn cael ei weithredu gan gwmni Deloitte. Yn dilyn penderfyniad gan Archwilio Cymru bod cyfrifon yn agored i archwiliad cyhoeddus hyd ddechrau Medi, bydd y cyfrifon terfynol yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar y 14eg o Fedi 2020.

 

Adroddwyd bod gwerth y Gronfa i lawr £143m ar y 31ain o Fawrth a hynny oherwydd goblygiadau pandemig covid 19. Nodwyd bod cwymp sylweddol yng ngwerth y farchnad yn cael ei adlewyrchu ddiwedd Mawrth ond bellach y gwerthoedd  wedi codi ac yn parhau yn sefydlog.

 

Cyfeiriwyd at Nodyn 12, 13 ac 14 lle nodi’r gwybodaeth ehangach ar gostau buddsoddi oherwydd ymglymiad Cronfa Gwynedd a threfniant pwlio buddsoddiadau cyfunol Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

DERBYNIWYD y wybodaeth.

7.

DATGANIAD STRATEGAETH BUDDSODDI pdf eicon PDF 93 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad er gwybodaeth gan y Rheolwr Buddsoddi. Adroddwyd bod y datganiad yn cael ei adolygu bob 3 mlynedd yn dilyn y prisiant a’i fod wedi ei drafod gyda’r Panel Buddsoddi ym mis Mai 2020. Byddai’n cael ei dderbyn yn swyddogol gan y Pwyllgor Pensiynau ar y 23ain o Orffennaf 2020.

 

Tynnwyd sylw yn benodol at ddyraniad y Gronfa sydd yn adlewyrchu trosglwyddiad o ecwiti byd-eang i gronfa Credyd Aml Asedau Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) - sydd erbyn hyn yn ffurfio rhan sylweddol o fuddsoddiadau Cronfa Gwynedd.

 

Diolchwyd am y wybodaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:

·         Nad oedd y ddogfen yn amlygu’r risgiau / gwersi a ddysgwyd o effaith pandemig covid 19 a digwyddiadau diweddar yn Tsiena - awgrym y dylid ychwanegu brawddeg i baragraff Rheolwyr (tud 57)  i adlewyrchu bod yr ymateb wedi bod yn bositif

·         Bod angen adolygu’r strategaeth yn amlach o ystyried digwyddiadau diweddar ar effaith uniongyrchol maent yn cael ar fuddsoddiadau.

·         Bod cyfrifoldeb ar y Pwyllgor i fonitro’r strategaeth yn barhaus

·         Angen amlygu’r newidiadau o gymharu â 2019/20

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Pennaeth Cyllid bod Rheolwyr yn gyffredinol, wedi ymateb i’r newid. Er y pryderon o fuddsoddi mewn eiddo ac is adeiladwaith i’r dyfodol (stryd fawryn cau’ / dim defnydd o swyddfeydd ayyb), amlygwyd bod y dosbarthiadau ased hyn yn ehangach na’r stryd fawr a blociau o swyddfeydd. (Cyfeiriwyd at yr ysbytai, sydd yn rhan o ddosbarth ased is adeiladwaith a lletyai myfyrwyr fel rhan o ddosbarth ased eiddo)

 

Ategwyd bod dyraniad eiddo heb ei addasu ers blynyddoedd a bod modd edrych i ychwanegu at y dosbarth ased hwn drwy efallai fuddsoddi mewn eiddo tu allan i Brydain o ystyried cryfder y $ v £. 

 

Adroddwyd mai gosod fframwaith yw diben y Strategaeth ac nad yw yn cyfyngu gwaith mewn unrhyw fodd. Ategwyd bod buddsoddiadau yn cael eu hadolygu yn ddyddiol, bod Rheolwyr yn cynnig arweiniad yn rheolaidd a’r  Pwyllgor yn adolygu’r buddsoddiadau yn chwarterol yn y panel buddsoddi. Atgoffwyd yr Aelodau hefyd bod y Cyfansoddiad yn galluogi’r Pennaeth Cyllid i gymryd penderfyniad mewn trafodaeth gyda Chadeirydd y Pwyllgor Pensiynau.

 

DERBYNIWYD y wybodaeth

 

 

 

8.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 238 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi ers sefydlu’r bartneriaeth yn 2017, bod y Bartneriaeth yn mynd o nerth i nerth gyda swyddogion yn cyfarfod yn aml. Yn ystod cyfnod pandemig covid 19, nodwyd bod swyddogion wedi bod yn cyfarfod pob pythefnos ar gyfrwng Teams gyda chyfarfod llawn wedi ei raglennu ar gyfer 24ain o Orffennaf 2020.

 

Tynnwyd sylw at berfformiad y Gronfa, ac er gwaethaf y pandemig ymddengys bod y farchnad wedi adfer yn dda iawn. Cyfeiriwyd at berfformiad Pzena oedd wedi cyfrannu at danberfformiad Cronfa Twf Byd Eang hyd at 31ain Mawrth 2020 ond sydd erbyn hyn yn gyfrifol am y cynnydd yn y gronfa oherwydd eu dulliau buddsoddi.

 

Cyfeiriwyd at y trosglwyddiad incwm sefydlog oedd i’w drosglwyddo diwedd Ebrill ond sydd erbyn hyn i’w drosglwyddo ddiwedd mis Gorffennaf 2020. Yng nghyd-destun Marchnadoedd Preifat, nodwyd bod grŵp wedi ei sefydlu i edrych ar opsiynau posib o gyfuno asedau i’r categori yma. Ategwyd bod Russel Investments yn arwain ar y gwaith o ddadansoddi’r hyn sydd ar gael gyda’r portffolio cyfredol a datblygu a rheoli cronfeydd Partneriaeth Pensiwn Cymru i’r dyfodol.

 

Adroddwyd bod nifer o gyhoeddiadau a pholisïau wedi eu datblygu yn ystod y misoedd diwethaf ac i’w canfod ar wefan y Bartneriaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:

 

           Braf gweld buddsoddiadau yn dychwelyd a sefydlogi

           Bod cyfleoedd hyd yn oed mewn trychineb

           Bod cyfle i fuddsoddi yn y Farchnad Byd Eang - potensial am ddychweliadau da wrth fod yn rhan o Gronfa fwy

 

Derbyniwyd y wybodaeth

9.

ADRODDIAD DRAFFT CADEIRYDD Y BWRDD PENSIWN AR GYFER ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA pdf eicon PDF 338 KB

I gynorthwyo’r Cadeirydd i ysgrifennu’r adroddiad blynyddol

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad drafft wedi ei baratoi ar gyfer ei gynnwys yn adroddiad cyffredinol blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd am sylwadau

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:

           Nad oedd cyfeiriad wedi ei wneud at y pandemig

           Angen ychwanegu achos Mc Cloud i’r Cynllun Gwaith

           Llawer o amser wedi ei dreulio ar y pecyn hyfforddiant - cais i ychwanegu brawddeg yn cyfleu hyn

 

Mewn ymateb i’r sylw am yr hyfforddiant oedd yn cael ei gyflwyno ar-lein, adroddwyd nad oedd yn fandadol. Mewn ymateb i brawf a gwblhawyd gan yr Aelodau o’u gwybodaeth i Hymans, awgrymwyd y byddai dadansoddiad y prawf yn debygol o amlygu meysydd y bydd angen hyfforddiant arnynt. Nodwyd nad oedd adborth / dadansoddiad wedi ei dderbyn gan Hymans, ond gobeithio y bydd modd ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf.

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad

10.

DIWEDDARIAD GWAITH GWEINYDDOL - GWEITHIO O ADREF pdf eicon PDF 380 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Pensiynau

Cofnod:

Derbyniwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn adrodd ar ymateb y Gwasanaeth i weithio drwy pandemig covid 19. Adroddwyd bod y Gwasanaeth wedi bod yn gweithio o adref yn llwyddiannus ers 25/03/2020. Amlygwyd nad oedd y gwasanaeth wedi dioddef oherwydd y newid i batrwm gwaith ac er yr heriau o fod yn hyblyg gyda rhai staff ac eraill yn trosglwyddo i adrannau eraill, ymddengys bod y newid wedi bod yn llesol i’r adran weinyddol. Blaenoriaethwyd y gwaith a gwnaed defnydd o’r cyfrwng Teams i gyfathrebu a chadw cysylltiad yn lleol ac yn rhanbarthol.

 

Nodwyd bod cynnydd yn nefnydd system hunanwasanaeth Aelodau a bod yr argyfwng wedi annog y tîm i weithio yn ddi-bapur (hyn yn fwy effeithiol, yn gynt ac yn rhatach). Ategwyd bod amryw o dasgau a phrosiectau angen sylw a rheiny wedi cael ei hamserlennu ar gyfer y misoedd nesaf.

 

Ategodd y Pennaeth Cyllid ei ddiolch i staff Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Leol am ymateb i’r her o dan yr amgylchiadau. Nododd bod y staff wedi gweithio yn effeithiol a chydwybodol ac er bod y sefyllfa yn un drychinebus, y gwaith i leihau’r effaith wedi bod yn ganmoladwy iawn.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:

           Diolchwyd i’r staff am fod yn hyblyg ac am ymateb i’r her

           A oedd problemau wedi codi gyda’r cyflogwyr?

           Trefniadau wedi eu rhoi yn eu lle - mwy o alw / defnydd ar dechnoleg / llai o waith teithio - ydy hyn am barhau?

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chadw cysylltiad gyda chyflogwyr, adroddwyd bod llawer o’r gwaith cysylltu yn cael ei wneud drwy iconnect ac ar y cyfan nid oedd problemau wedi codi. Ategwyd mai drwy e-bost yn bennaf y byddant yn cyfathrebu gyda chyflogwyr beth bynnag.

 

Derbyniwyd y wybodaeth