Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Derbyniodd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 7fed o
Fawrth 2022 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD DRAFFT CADEIRYDD Y BWRDD PENSIWN AR GYFER ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA I ystyried
yr adroddiad drafft Cofnod: Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad drafft oedd wedi ei baratoi ar gyfer
ei gynnwys yn adroddiad blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd, am sylwadau. Nodwyd
bod yr adroddiad drafft wedi ei ysgrifennu yn unol â gosodiad adroddiad 2021,
ond wedi ei ddiweddaru i gynnwys y pynciau a drafodwyd yn ystod y flwyddyn.
Gwnaed cais i’r Aelodau gyflwyno manylion sesiynau hyfforddiant yr oeddynt wedi
eu mynychu dros y flwyddyn – bydd cofnod o’r sesiynau hynny sydd wedi eu
mynychu gan fwyafrif o aelodau’r Bwrdd yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad. Cyfeiriwyd
at faterion yr oedd y Bwrdd wedi cynnig sylwadau arnynt ac awgrymwyd cynnwys
enghreifftiau at gyfraniadau penodol. Yn unol â dymuniad y Bwrdd i ychwanegu
cymal am fiduciary duty
yn y Polisi Buddsoddi Cyfrifol, awgrymwyd cyfeirio at hyn yn yr Adroddiad
Blynyddol. Cytunwyd ar y datganiad canlynol. Roedd y
Bwrdd yn cyfrannu i ddatblygiad polisi’r gronfa drwy flaen-graffu rhai polisïau
drafft a mireinio rhai agweddau cyn iddynt fynd i’r Pwyllgor am benderfyniad
i’w mabwysiadu, e.e. Ychwanegwyd cymal am “fiduciary duty” i’r Polisi Buddsoddi Cyfrifol ar ôl trafodaethau
manwl yng nghyfarfod y Bwrdd ar y 7fed o Fawrth 2022. Diolchwyd am yr adroddiad Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelod: ·
Awgrym y dylid cynnwys penodiad Osian Richards (Cynrychiolydd Aelodau Bwrdd
Pensiwn Gwynedd) fel cynrychiolydd aelodau ar gyd bwyllgor Partneriaeth Pensiwn
Cymru – hyn yn benodiad positif iawn PENDERFYNWYD
derbyn y wybodaeth |
|
POLISI CYNRYCHIOLAETH Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn ymateb i argymhellion
Adolygiad Llywodraethu Da i awdurdodau sicrhau bod angen i bob cronfa gynhyrchu
a chyhoeddi polisi ar gynrychiolaeth aelodau’r cynllun a chyflogwyr sydd ddim
yn rhan o’r awdurdod gweinyddu ar y Pwyllgorau, gan egluro trefniadau hawliau
pleidleisio pob plaid Amlygwyd bod y polisi yn cadarnhau safbwynt y Gronfa mewn perthynas â
phenodiadau a hawliau dirprwyaeth y Pwyllgor, yn ogystal â chyfansoddiad y
Bwrdd Pensiwn. Diolchwyd am yr adroddiad Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau; ·
Cywiro’r frawddeg sydd yn nodi bod
saith aelod etholedig Cyngor Gwynedd yn cael eu henwebu gan y Cyngor i nodi,
bod saith aelod etholedig Cyngor Gwynedd yn cael eu dyrannu ar sail cydbwysedd
gwleidyddol rhwng y gwahanol grwpiau o aelodau etholedig ar y Cyngor Llawn. ·
Bod angen tynnu sylw at
Partneriaeth Pensiwn Cymru gan nodi bod Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau yn
eistedd ar Gydbwyllgor Llywodraethu (CLl)
Partneriaeth Pensiwn Cymru ac y byddai gwahoddiad yn ymestyn i’r Is gadeirydd
os na fyddai’r Cadeirydd yn gallu mynychu. Mewn ymateb i awgrym y dylid ceisio annog merched i fod
yn aelodau ar y Pwyllgor Pensiynau (o gofio fod merched yn cynrychioli 60% o’r
gweithlu, yn talu pensiwn, a dymuniad i aelodaeth y Pwyllgor adlewyrchu
aelodaeth y cynllun pensiwn), nodwyd y gellid amlygu’r dymuniad yma i’r
pleidiau unigol wrth i adroddiad cydbwysedd gwleidyddol aelodaeth y Pwyllgorau
gael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ym mis Mai, tra hefyd yn amlygu’r manteision
pe bai sawl aelod cyfredol yn parhau ar y Pwyllgor Pensiynau (o gofio’r anghenion hyfforddiant sy’n arbennig i’r maes). |
|
RHAGLEN WAITH DIWYGIEDIG 2022/23 I ystyried y rhaglen waith ac awgrymu eitemau ychwanegol neu newidiadau. Cofnod: Cyflwynwyd rhaglen
waith diwygiedig ar gyfer 2022/23. Nodwyd bod y rhaglen yn cynnwys materion a
nodwyd yn dilyn ystyriaeth gan y Bwrdd mewn cyfarfodydd blaenorol a materion yn
codi. Amlygwyd hefyd bod cymariaethau wedi eu gwneud gyda rhaglenni Byrddau
Pensiwn eraill am bynciau trafod. Atgoffwyd yr Aelodau bod y ddogfen yn ddogfen
weithredol ac i’w addasu yn unol â’r gofyn. Awgrymwyd y pwnc
canlynol i’w gynnwys ar y rhaglen waith: ·
Diweddariad ar ddiogelwch seiber
yng nghyfarfod Hydref / Rhagfyr Diolchwyd am yr adroddiad – y rhaglen waith yn gosod trefn i waith y
Bwrdd Awgrymwyd dechrau pob cyfarfod am 1pm PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth Cymerodd y Cadeirydd,
y Cynghorydd Aled Evans y cyfle
i ddiolch am y gefnogaeth roedd wedi ei dderbyn
gan ei gyd-aelodau,
am gydweithrediad y Pwyllgor
Pensiynau ac i’r staff am eu cymorth parod
bob amser. Diolchwyd i’r Cynghorydd Aled Evans am ei gyfraniad i’r Bwrdd
Pensiwn dros y blynyddoedd a dymunwyd y gorau iddo i’r
dyfodol |