Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Beca Roberts (Cynrychiolydd Cyflogwr)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

a)    TREFNIADAU STATUDOL O AIL-ETHOL AELODAU I’R BWRDD

 

Hysbyswyd yr aelodau bod Mr Huw Trainor wedi derbyn swydd newydd gyda Grŵp Llandrillo Menai ac o ganlyniad byddai angen ethol cynrychiolydd cyflogwr newydd i’r Bwrdd. Diolchwyd i Huw am ei ymroddiad i waith y Bwrdd ers ei sefydlu yn 2015 a dymunwyd y gorau iddo yn ei swydd newydd.

 

Yn unol â threfn statudol o ethol aelodau i’r Bwrdd, amlygwyd bod tymor cyntaf rhai o aelodau’r Bwrdd yn dod i ben, ac er gellir ail-benodi unrhyw gynrychiolydd am gyfnod pellach yn y swydd, yn amodol ar eu hail-enwebu yn ôl yr angen, bod angen gwneud hynny yn ffurfiol. Yn sgil cyhoeddiad Mr Huw Trainor, ystyriwyd mai amserol fyddai dechrau’r broses o ail benodi yn ehangach yn Chwefror 2023. Ategwyd y byddai’r aelodau presennol yn cael eu hysbysu o drefniadau’r broses gyhoeddus ac o’r bwriad i benodi pum aelod (nodwyd eithriad i gynrychiolydd Cyngor Gwynedd gan fod y penodiad yn un diweddar iawn ac wedi ei warchod).

 

b)    DIGWYDDIADAU 2023

 

Cynhadledd Carden Park, 30-31 Mawrth 2023

 

Enwebwyd Sioned Parry i fynychu ar ran y Bwrdd

 

 

 

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 214 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 3ydd o Hydref 2022 fel rhai cywir

5.

COFNODION PWYLLGOR PENSIYNAU A MATERION YN CODI pdf eicon PDF 235 KB

·         Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 21 Tachwedd 2022.

 

 

·         Materion yn codi o’r Pwyllgor Pensiynau ar 21 Tachwedd 2022

 

Nodi'r wybodaeth a'r penderfyniadau a wnaed

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth gofnodion Pwyllgor Pensiynau 21 Tachwedd 2022

 

Materion yn codi o’r Pwyllgor.

 

Adroddwyd bod nifer o benderfyniadau arwyddocaol wedi eu gwneud yn y Pwyllgor fyddai’n effeithio’r Gronfa i’r dyfodol. Gofynnwyd i’r Bwrdd nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd, craffu’r penderfyniadau a chynnig sylwadau

6.

PWYLLGOR PENSIYNAU YMGYNGHORIAD TCFD pdf eicon PDF 185 KB

I nodi’r wybodaeth

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd ymateb Cronfa Bensiwn Gwynedd i ymgynghoriad Llywodraeth San Steffan ar gynigion ar ofynion newydd ar awdurdodau gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL). Nodwyd bod yr ymateb wedi ei baratoi gyda mewnbwn Hymans Robertson (ymgynghorwyr y Gronfa) ac wedi ei lunio mewn modd adeiladol.

 

Yn ôl y disgwyl, bydd y cynigion yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gweinyddol y CPLlL asesu, rheoli ac adrodd ar risgiau sy’n ymwneud â’r hinsawdd, yn unol ag argymhellion y Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol Cysylltiedig â’r Hinsawdd (‘TCFD’). Disgwylir i’r rheoliadau ddod i rym erbyn Ebrill 2023.

 

7.

RHAGFANTOLI ARIAN CYFRED pdf eicon PDF 181 KB

I nodi’r wybodaeth

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gwnaed penderfyniad yn y Pwyllgor i ragfantoli arian cyfred dros dro a grymuso swyddogion ac ymgynghorydd y Gronfa i sefydlu trefniadau rhagfantoli arian mewn perthynas â chronfeydd ecwiti byd-eang Gwynedd gyda Black Rock. Roedd y penderfyniad yn un oedd yn ymateb i gyfle i amddiffyn rhai enillion diweddar rhag cynnydd yng ngwerth Sterling yn y dyfodol. Ategwyd mai’r bwriad fyddai manteisio ar gwymp y bunt yn erbyn y ddoler, ond dileu’r warchodaeth (hedging) pan fydd y Sterling yn symud o fewn efallai 20% o'i gyfradd gyfnewid gyfartalog hirdymor.

 

Nodwyd, ers pryd trafodwyd y cynnig yn y Pwyllgor a pharatoi’r cyfleuster, roedd y gyfradd wedi cynyddu ac felly’r posibilrwydd o weithredu yn ormod o risg, a’r cyfle wedi ei golli am y tro. Er hynny, ategwyd bod trefn bellach yn ei lle fel bod modd ymateb a gweithredu ar fyr rybudd pe bai cyfle eto.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:

·         Bod trefn yn ei lle ar gyfer ymateb i gyfle yn y dyfodol

·         Bod y drafodaeth yn y Pwyllgor wedi bod yn fuddiol a’r Pwyllgor wedi sefydlu trefn

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r amser y byddai yn cymryd i ddadfuddsoddi arian cyfred petai'r farchnad yn gyfnewidiol, nodwyd, gyda phrotocol a threfniadau rhagfantoli gyda chronfeydd Black Rock bellach wedi eu sefydlu, bod posib gweithredu mewn un diwrnod.

 

 

7a

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol   (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor ac felly gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau hyn mae’r mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Mae’r paragraff yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd parti ac yn gallu tanseilio hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor ac felly gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau.

 

8.

PROSIECT YNNI GLAN YNG NGHYMRU (PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU)

Copi i’r Aelodau yn unig

Cofnod:

Gwnaed penderfyniad yn y Pwyllgor i gymeradwyo dyraniad ariannol (o oddeutu £9m - £10m) i fuddsoddi mewn prosiectau ynni glan uniongyrchol yng Nghymru, gan nodi bwriad Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) i gynnal diwydrwydd dyledus.

 

Mewn ymateb, nododd y Bwrdd eu bod yn deall rhesymeg a chefnogaeth y Pwyllgor i’r prosiect ynni glan ac yn unol â sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor bod cyfle da yma i fuddsoddi yng Nghymru mewn menter sydd yn cyd-fynd a pholisi buddsoddi cyfrifol y Gronfa.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chefndir hanesyddol y cwmni dan sylw, nodwyd bod y Pwyllgor wedi amlygu pryderon ac wedi gofyn am wybodaeth bellach. Ategwyd bod yr ymateb i’r pryderon wedi bod yn ffafriol, bod mwy o waith paratoi i’w gwblhau gan PPC, ond bod cefnogaeth y Pwyllgor i’r prosiect wedi ei sefydlu.

 

9.

ADOLYGIAD O DDYRANIAD ASEDAU STRATEGOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD

Copi i’r Aelodau yn unig

 

Cofnod:

Amlygwyd bod cymeradwyo dyraniad strategol diwygiedig y Gronfa yn un o benderfyniadau pwysicaf y Pwyllgor am y tair blynedd nesaf. Comisiynwyd Hymans Robertson i gyflwyno opsiynau ac fe gymeradwywyd opsiwn 2 fel un i symud y strategaeth fuddsoddi ymlaen.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phwy sydd yn dewis y bondiau corfforaethol ac os oedd polisi yn ei le i reoli’r drefn, nodwyd mai rheolwyr is-gronfeydd PPC (Russell Investment a Fidelity) fydd yn dewis y cwmnïau, ond bod cymwysterau a ffactorau sy’n ymwneud ag elfennau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG) bellach yn cael eu hystyried ymhob sefyllfa.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:

·           Bod y Bwrdd yn derbyn cyfeiriad y Pwyllgor

·           Eu bod yn croesawu’r elfennau ESG

·           Yn diolch i’r swyddogion am eu gwaith

 

PENDERFYNWYD nodi’r holl wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Pensiynau.

 

9a

AIL AGOR Y CYFARFOD I'R WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod y wasg a'r cyhoedd yn cael eu gwahodd yn ôl i’r cyfarfod

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail agor y cyfarfod i’r wasg a’r cyhoedd

10.

ADRODDIAD ARCHWILIO CYMRU Y GRONFA BENSIWN pdf eicon PDF 194 KB

I ystyried a nodi adroddiad yr archwilwyr

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Atgoffwyd yr Aelodau bod drafft o Ddatganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd 2021/22 wedi ei gyflwyno yng nghyfarfod Gorffennaf 2022, lle adroddwyd bod y Pennaeth Cyllid, yn ei rôl fel Swyddog Cyllidol Cyfrifol, wedi ardystio’r cyfrifon drafft a’u bod yn destun archwiliad.

 

Adroddwyd bod y cyfrifon bellach wedi cael eu harchwilio gan Archwilio Cymru a bod yr adroddiad ‘ISA260’ yn manylu ar ddarganfyddiadau'r archwiliad. Amlygwyd na chanfuwyd unrhyw gamddatganiadau perthnasol na hepgoriadau ac felly nid oedd unrhyw newid i’r cyfrifon a gyflwynwyd i’r Bwrdd ym mis Gorffennaf 2022.

 

Cymeradwywyd y cyfrifon gan y Pwyllgor Pensiynau ar yr 21ain o Dachwedd 2022.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a llongyfarchwyd y tîm am gyflwyno cyfrifon glan a hynny o fewn amserlen heriol

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth a nodi sylwadau’r Archwilwyr.

 

11.

DIWEDDARIAD ACHOS MCCLOUD pdf eicon PDF 258 KB

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn diweddaru’r Bwrdd ar y gwaith sydd yn cael ei wneud mewn ymateb i achos McCloud. Atgoffwyd yr Aelodau, pan ddiwygiwyd cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yn 2014 a 2015, cyflwynwyd mesurau diogelu ar gyfer aelodau hŷn i sicrhau na fyddai’r diwygiadau’n creu effaith negyddol ar eu pensiwn. Er hynny yn Rhagfyr 2018, dyfarnodd y Llys Apêl bod rhai aelodau wedi dioddef anffafriaeth oherwydd nad oedd yr amddiffyniadau yn berthnasol iddynt hwy. O ganlyniad, roedd rhaid i'r Llywodraeth ystyried rhoi amddiffyniad i aelodau iau sy'n gyfartal â'r amddiffyniad sylfaenol a ddarperir i aelodau hŷn er mwyn dileu'r anffafriaeth.

 

Cyfeirir at y gwaith o ddileu’r ‘anffafriaeth’ fel Prosiect McCloud ac er yn derbyn y bydd yn brosiect sylweddol i’r Gronfa a’r cyflogwyr, gydag ychydig iawn o newid i werth buddion aelodau ar ddiwedd y prosiect, bod cyfle gwych yma i sicrhau bod data cywir a chyfredol, yn cael ei gofnodi ar gyfer y Dashfwrdd Pensiynau.

 

Wrth gydweithio gyda Hymans Robertson adroddwyd bod oddeutu 11,500 o aelodau’r Gronfa wedi eu heffeithio gan achos Mc Cloud ac y bydd angen gweithredu rhyw fath o adolygiad arnynt.  Yn dilyn cais am wybodaeth gan 22 o gyflogwyr y Gronfa, adroddwyd bod y wybodaeth oedd eisoes wedi dod i law mewn cyflwr da.

 

Ategwyd bod y gwaith yn un arbenigol a bod angen staff profiadol i ymgymryd â’r gwaith er cywirdeb. Yn Ionawr 2022 cymeradwywyd gwariant ar gyfer 3 swydd dros dro i gynorthwyo gyda’r gwaith, ond gyda recriwtio staff yn her i gronfeydd ledled y DU, nodwyd bod dwy o’r swyddi heb eu llenwi. Er hynny, yn dilyn ail-hysbysebu diweddar adroddwyd bod 12 cais wedi eu derbyn â bod hynny yn galonogol. Er gwaethaf y sefyllfa gyda’r swyddi, adroddwyd bod y gwaith wedi dechrau’n dda a bod yr Adran Pensiynau yn hyderus, gyda chydweithrediad y cyflogwyr, y gellid cwblhau’r gwaith yn llwyddiannus, unwaith y bydd tîm llawn yn ei le.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol

·         Croesawu nifer y ceisiadau am swydd

·         Diolch i’r tîm am eu gwaith - er yr ymroddiad clodwiw, ni fydd y gwaith ar brosiect McCloud yn debygol o ddod a budd i lawer

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

 

 

12.

RHAGLEN DASHFYRDDAU PENSIYNAU pdf eicon PDF 192 KB

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad oedd yn manylu ar y gwaith sydd angen ei wneud mewn ymateb i lansiad Rhaglen Dashfyrddau Pensiynau sy’n cael ei arwain gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Bwriad y Rhaglen Dashfyrddau Pensiynau yw cynnig gwasanaeth digidol ar gyfer rhannu gwybodaeth a chynorthwyo aelodau i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad gan gael mynediad at wybodaeth ddiogel mewn un lle. Ategwyd y byddai darparwyr dashfwrdd lluosog yn y farchnad yn rhoi cyfle i unigolion ddewis dashfwrdd a chyflwyno cais i weld gwybodaeth am eu pensiwn. Bydd rhaid i gynlluniau’r gwasanaethau cyhoeddus gysylltu â dashfwrdd erbyn Medi 30 2024.

 

Adroddwyd y byddai rhaid i weinyddwyr Cronfa Bensiwn Gwynedd,

 

·         benodi Darparwr Gwasanaeth Integredig (ISP) i gysylltu ag ecosystem y dashfwrdd pensiynau. Nodwyd bod Heywood Pensions Technologies (darparwr meddalwedd) wrthi yn datblygu ISP fyddai hefyd yn gweithio gyda phrosesau cyfredol y Cyngor.

·         ymateb i’r her o sicrhau bod y data sydd ar y system yn gywir. Er yn sgorio’n uchel yn sgorau data cyffredin a chynllun penodol y Rheoleiddiwr Pensiynau, bydd rhaid cydymffurfio â safon newydd, sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd mewn perthynas â’r rhaglen dashfwrdd pensiynau.

·         gomisiynu darparwr meddalwedd i ddarparu adroddiad Asesiad Parodrwydd Dashfyrddau Pensiynau - bwriad yr ymarfer yw derbyn canlyniadau cryno i geisio deall ansawdd y data a pha gamau y bydd angen eu cymryd i baratoi ar gyfer Dashfyrddau Pensiynau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ar amserlen, nodwyd bod cynlluniau’r cronfeydd i'w cofrestru ar amseroedd nodedig. Ategwyd mai amserlen nodedig Cronfa Gwynedd oedd rhwng Mawrth 2023 a Medi 2024.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ymateb cronfeydd eraill i’r gwaith, nodwyd bod pawb mewn sefyllfa debyg iawn, ac er fod gofynion yn gymhleth nad oedd problemau unigryw wedi codi. Ategwyd bod y gwaith yn cael ei drafod mewn fforymau gweinyddwyr pensiwn a bod rhannu ymarfer da a chynnig cefnogaeth yn rhan o’r trafodaethau hynny.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad

 

Diolchodd Cadeirydd y Bwrdd i’r Pwyllgor Pensiynau am eu gwaith, gan ategu bod y Bwrdd yn gefnogol i’r penderfyniadau pwysig a wnaethpwyd yn ddiweddar.  Mewn ymateb, nododd Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau bod y penderfyniadau yn ychwanegu gwerth i’r gwaith ac i’r Gronfa, a’u bod yn ymateb i wybodaeth dda gan swyddogion ac ymgynghorwyr