Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Sioned Parry (Cynrychiolydd Cyflogwr)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

a)    TREFNIADAU AIL BENODI AELODAU I’R BWRDD PENSIWN

 

Nodwyd bod trefniadau ail benodi aelodau i’r Bwrdd Pensiwn wedi dechrau gyda thri Aelod presennol wedi gwneud cais i ddychwelyd. Mynegwyd nad oedd angen i’r Cyng. Beca Roberts wneud cais fel Cynrychiolydd Cyngor Gwynedd, gan fod y penodiad yn un diweddar iawn ac wedi ei warchod. Amlygwyd bod Mrs Sharon Warnes wedi dewis peidio gwneud cais i barhau fel Aelod, fel bod modd iddi roi ei hamser i bwyllgorau eraill a chyfle i Aelodau newydd ddod ymlaen. Nododd ei bod wedi mwynhau ei chyfnod ar y Bwrdd Pensiwn ac ategodd Cyfarwyddwr y Gronfa ei ddiolch diffuant iddi am ei hymroddiad amhrisiadwy i waith y Bwrdd ers sefydlu yn 2015. Nododd Cadeirydd y Bwrdd ei ddiolch ar ran y Bwrdd am gyfraniad gwerthfawr Sharon i waith y Bwrdd a dymunwyd y gorau iddi i’r dyfodol.

 

b)    Llongyfarchwyd y Cyng. Beca Roberts ar ennill gwobr Seren y Dyfodol yng nghynhadledd Plaid Cymru, Llanelli 2023.

 

c)    Dymunwyd ymddeoliad hapus i Mr Dafydd Edwards, Cyfarwyddwr y Gronfa. Nodwyd bod Mr Dafydd Edwards wedi bod yn gyfrifol am y Gronfa ers 20 mlynedd - ei gyfraniad a’i waith da yn cael ei gydnabod yng Ngwynedd a thu hwnt.  Diolchodd Mr D Edwards am y geiriau caredig ac i’r tîm am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 232 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y Bwrdd a gynhaliwyd 18 Ionawr 2023 fel rhai cywir.

 

5.

COFNODION Y PWYLLGOR PENSIYNAU pdf eicon PDF 294 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 18 Ionawr 2023

 

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y Bwrdd a gynhaliwyd 18 Ionawr 2023 fel rhai cywir.

 

6.

DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO pdf eicon PDF 183 KB

I ystyried ac adolygu’r Datganiad Strategaeth Cyllido

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn egluro’r gofyn sydd ar y Gronfa i adolygu’r Datganiad Strategaeth Cyllido pob tair blynedd, a hynny ar ôl y prisiad teirblynyddol. Y bwriad yw cyhoeddi’r Datganiad Strategaeth Cyllido erbyn 31 Mawrth 2023.

 

Amlygwyd mai prif bwrpas y datganiad yw adlewyrchu ffactorau’r prisiad gan bwyso a mesur fforddiadwyedd i’r cyflogwyr gydag amcanion hylifedd hir-dymor y Gronfa. Eglurwyd, fel rhan o’r adolygiad, rhaid i’r awdurdod gweinyddol ymgynghori gyda phob cyflogwr sydd yn rhan o’r cynllun, gydag actiwari ac ymgynghorwyr y gronfa, ac unrhyw bersonau eraill y maent yn eu hystyried yn addas. Cyflwynwyd y Datganiad (drafft) i’r Bwrdd fel rhan o’r ymgynghoriad cyn ei fabwysiadu’n ffurfiol gan y Pwyllgor Pensiynau ddiwedd y mis.

 

Nodwyd bod y Datganiad yn ddogfen faith a thechnegol, ac wedi ei pharatoi mewn ymgynghoriad manwl gyda Hymans a swyddogion y Gronfa. Cyfeiriwyd at y datganiad ynghyd â nifer o bolisïau ategol. Eglurwyd roedd y polisïau ategol yn flaenorol wedi eu hymgorffori yn y ddogfen, ond y tro hwn fod y Strategaeth yn cyfeirio at y polisïau sydd mewn atodiadau. Bydd hyn yn eu gwneud yn haws i’w canfod / addasu, pryd bydd angen cyrraedd at wybodaeth neu ddiweddaru’r polisïau, heb orfod addasu’r Strategaeth i gyd.

 

Adroddwyd bu ymatebion positif gan sawl cyflogwr, a’u bod yn gwerthfawrogi’r gostyngiad yn eu cyfraniadau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad. Croesawyd fframwaith newydd i’r Strategaeth – er yn ddogfen fanwl a thechnegol, y drefn yn haws i’w ddilyn.

 

Derbyniwyd awgrym bod angen cyfeirio at faterion hinsawdd yn y Datganiad Strategaeth Cyllido, er mwyn amlygu bod  Cronfa Bensiwn Gwynedd yn ddarbodus wrth ystyried materion hinsawdd, sydd erbyn hyn yn faes blaenoriaeth ym myd buddsoddi cyfrifol.  Mewn ymateb i’r sylw, nododd Cyfarwyddwr y Gronfa byddai mwy am fuddsoddi cyfrifol yn y Datganiad Strategaeth Buddsoddi fydd yn cael ei gyflwyno wrth ochr y Datganiad hwn, ond cytunwyd i ychwanegu  cyfeiriad at fuddsoddi cyfrifol a materion hinsawdd yn rhan 1.4 o’r Datganiad Strategaeth Cyllido hefyd, cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Pensiynau 27 Mawrth 2023.

 

PENDERFYNWYD cefnogi’r Datganiad gyda’r ychwanegiad am fuddsoddi cyfrifol.

 

7.

CYMERADWYO CYLLIDEB 2023/24 pdf eicon PDF 213 KB

I ystyried a nodi cyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Buddsoddi, er gwybodaeth, gyllideb ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023–2024. Nodwyd bod y gyllideb wedi ei chymeradwyo gan y Pwyllgor Pensiynau 18 Ionawr 2023.

 

Cyfeiriwyd at un addasiad i Gyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau o ailraddio un swydd ac incrementau staff eraill. Nodwyd nad oedd y gyllideb yn cynnwys ffioedd Rheolwyr Buddsoddi nac Ymgynghorwyr, gan ei fod yn wariant newidiol. Er hynny, nodwyd bod bwriad edrych ar yr elfen yma o’r gwaith wrth fynd allan i dendro ar gyfer contractau / ffioedd ymgynghorwyr ac actiwari i’r dyfodol, ac os bydd patrwm i’r costau, byddai modd sefydlu cyllideb i’r costau hyn.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnwys cyllideb costau Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn y gyllideb, nodwyd y bydd Cynllun Busnes PPC yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Pensiynau fydd yn cynnwys swm cyfraniad cyfartal y mae pob Cronfa yn ei dalu i gynnal a gweinyddu’r Bartneriaeth yn unig, tra byddai cost ffioedd rheolwyr asedau yn amrywio gyda maint a perfformiad ein buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

 

8.

POLISI AR ADRODD TORRI'R GYFRAITH pdf eicon PDF 159 KB

I ystyried yr adroddiad a chynnig adborth ar y polisi cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Pensiynau i'w gymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn mynegi, fel rhan o'r prosiect Llywodraethu Da, ei bod yn ofynnol i'r Gronfa gynhyrchu polisi mewn perthynas â Chofnodi Torri'r Gyfraith. Nodwyd bod y polisi wedi’i ddrafftio gan Hymans Robertson ar y cyd gyda swyddogion y Gronfa, a bu ymgynghoriad gyda Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd.

 

Amlygwyd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y polisi a’r gweithdrefnau ar gyfer darganfod, monitro a, lle bo’n briodol, adrodd am achosion o dorri’r gyfraith fel sy’n ofynnol yn Neddf Pensiynau 2004 ac y manylir arnynt yng Nghod Ymarfer Rhif 14 y Rheoleiddiwr Pensiynau - Llywodraethu a gweinyddu cynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i sylwadau ac adborth gan aelodau, nodwyd: -

 

·         Yng nghyd-destun ‘cyfrifoldeb aelodau etholedig y Cyngor’ mynegwyd yr angen i sicrhau eglurder y geiriad ac i holi Hymans os yw’n berthnasol i aelodau cyfetholedig sydd yn Aelodau ar y Pwyllgor Pensiynau. Nodwyd hefyd yr angen i sicrhau cysondeb yn nefnydd y gair Cyngor Gwynedd ("y Cyngor").

·         Mewn ymateb i awgrym i ychwanegu paragraff fyddai’n cyfeirio at gydweithio gyda’r Heddlu a’r tebygolrwydd o’u galw i mewn i achos o dor cyfraith, nododd y Pennaeth Cyllid byddai angen yn y lle cyntaf adnabod ynteu achos torcyfraith neu achos tor cyfraith droseddol oedd wedi cymryd lle. Byddai achos o dwyll er enghraifft yn cael ei ystyried o dan Reoliadau Gweithdrefn Ariannol. Derbyniwyd yr angen i gyfeirio at y Rheoliadau Ariannol yn y polisi polisi Adrodd Torri'r Gyfraith, ac amlygu bod angen darllen y Rheoliadau law yn llaw â’r Polisi.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth a nodi’r sylwadau gan argymell bod yr addasiadau i’r Polisi yn cael eu gweithredu cyn cyflwyno’r Polisi terfynol i’r Pwyllgor Pensiynau 27-03-23

 

9.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 139 KB

I graffu’r gofrestr risg

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd cofrestr risg i’r Bwrdd fel bod modd iddynt graffu a deall y risgiau perthnasol sydd i’r Gronfa Bensiwn. Cyflwynwyd y gofrestr risg gyntaf i’r Bwrdd yn 2017 gyda bwriad o adolygu yn rheolaidd. Gan nad oedd y gofrestr wedi ei chyflwyno ers 2019, penderfynwyd gwneud adolygiad manwl o’r gofrestr. Adroddwyd, yn dilyn nifer o newidiadau diweddar ym myd pensiynau bod adolygu’r gofrestr wedi golygu addasu rhai sgoriau, cyflwyno risgiau newydd ac archifo rhai risgiau hanesyddol. Ategwyd bod y gofrestr yn ddogfen weithredol, a’r bwriad yw ei hadolygu’n rheolaidd gan gyflwyno diweddariad i’r Bwrdd pan fydd risgiau yn codi.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y materion canlynol fel rhai oedd angen sylw:

·         Bod angen ychwanegu hyfforddiant fel un o’r camau lliniaru i risg 2.1 Aelodau'r Pwyllgor a'r Swyddogion Buddsoddi yn gwneud penderfyniadau amhriodol o ganlyniad i wybodaeth annigonol o farchnadoedd a buddsoddi a chyngor actiwarïaid annigonol

·         Dileu Cyngor Sir Ddinbych a chynnwys Cyngor Gwynedd yn 7.2 Mae'r holl drafodion yn cydymffurfio â rheoliadau ariannol Cyngor Sir Ddinbych ac maent yn destun awdurdodiad annibynnol.

·         Bod angen cyfeiriad at effeithiau hirdymor, e.e. yr economi - er yn agwedd gyda chyfnod hirach i’w reoli, gall gael effaith ar fuddsoddi. Mewn ymateb, er bod rhan 2 o’r gofrestr yn cyfarch dychweliadau, cytunwyd ychwanegu’r awgrym fel pwynt lliniaru.

·         Cytunwyd bod risgiau 2.3, 2.15 a 4.1 i’w harchifo.

·         Cynnig bod y Bwrdd yn derbyn diweddariad bob 6 mis ac os oes mater yn codi yn y cyfamser bod hynny yn cael sylw’r Bwrdd.

 

PENDERFYNWYD

·         Derbyn a nodi’r wybodaeth

·         Bod y gofrestr yn cael ei chyflwyno i’r Bwrdd bob 6 mis (unrhyw fater yn codi yn y cyfamser i gael sylw’r Bwrdd)

 

10.

ADRODDIAD RHAGAMCANION MODELU LLIF ARIAN pdf eicon PDF 261 KB

I ystyried a nodi’r adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi mewn ymateb i’r angen i  ragamcanu llif arian disgwyliedig y Gronfa dros gyfnod hir-dymor, fel bod modd deall sensitifrwydd sefyllfa llif arian net y Gronfa mewn nifer o senarios chwyddiant.

 

Yng nghyd-destun asedau, adroddwyd bod y prisiad teirblynyddol wedi amlygu bydd y Gronfa mewn sefyllfa hynod iach o lif arian positif am 6 – 20 mlynedd. Nodwyd felly na fydd raid i’r Gronfa ystyried trosi rhai o’r buddsoddiadau i asedau fyddai’n talu incwm rheolaidd (a hynny er mwyn talu’r pensiynwyr). Tynnwyd sylw at y mathau o incwm a’r gwariant rheolaidd sydd yn digwydd o fewn y Gronfa, ynghyd a sefyllfa llif arian y blynyddoedd diweddar roedd yn amlygu’r sefyllfa bositif.

 

Cyfeiriwyd at adroddiad a ddarparwyd gan Hymans Robertson yn asesu’r sefyllfa ynghyd a scenario analysis yr oeddynt wedi ei wneud i ganfod pryd byddai’r Gronfa’n debygol o fod mewn sefyllfa llif arian negyddol. Ystyriwyd tri sefyllfa gwahanol, a daethpwyd i’r canlyniad mai'r flwyddyn gyntaf y gall y Gronfa wynebu sefyllfa negyddol yw 2029 a hynny pe byddai chwyddiant yn parhau ar lefel uchel iawn. Nodwyd bod hyn yn well sefyllfa na mwyafrif o gronfeydd eraill CPLlL ac yn newyddion da i’r Gronfa, er yn llwyr ymwybodol bod rhaid bod yn wyliadwrus o’r risgiau (megis monitro newid mewn aelodaeth, ystyried chwyddiant a chadw’r llif arian mewn cof wrth ystyried y strategaeth fuddsoddi).

 

Diolchwyd am yr adroddiad a gwerthfawrogwyd yr ymarferiad gan Hymans Robertson.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth

 

11.

ADOLYGU AMCANION STRATEGOL AR GYFER YMGYNGHORWYR BUDDSODDI'R GRONFA pdf eicon PDF 197 KB

I nodi’r adroddiad cynnydd yn erbyn amcanion cyfredol a nodi amcanion y dyfodol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar y cynnydd yn erbyn yr amcanion cyfredol ac amcanion i’r dyfodol. Adroddwyd, yn dilyn adolygiad o’r marchnadoedd ymgynghori buddsoddi a rheoli ymddiriedol, bu i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd nodi’r angen i Ymddiriedolwyr Cronfeydd Pensiwn osod amcanion i’w ymgynghorwyr buddsoddi gan nodi yn glir yr hyn ddisgwylir ganddynt. Ystyriwyd yr ymarfer hefyd yn elfen o lywodraethu da.

 

Adroddwyd bod Hymans yn cyflawni gwaith da, yn darparu adroddiadau chwarterol (sy’n cynnwys gradd buddsoddi cyfrifol ar gyfer pob rheolwr), adroddiadau cynhwysfawr ar gyfer y paneli buddsoddi, yn cynnig cyngor ymarferol ac yn perfformio yn unol â’r amcanion. Eglurwyd bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un prysur gyda’r ymgynghorwyr yn darparu cyngor pellach ar y strategaeth buddsoddi wrth ail strwythuro dyraniad asedau strategol y Gronfa yn dilyn y prisiad. Ategwyd bod hyn wedi bod yn ddarn o waith pwysig a manwl iawn a bu cydweithio da. Adroddwyd hefyd, gyda buddsoddi cyfrifol bellach yn faes blaenllaw, bod Hymans wedi cyd weithio gyda swyddogion y Gronfa i adolygu’r polisi buddsoddi cyfrifol, darparu cyngor ar fuddsoddiadau newydd a darparu ateb i’r ymgynghoriad TCFD gydag adroddiadau chwarterol yn cynnwys gradd buddsoddi cyfrifol ar gyfer pob Rheolwr.

 

Er nad yw Hymans yn darparu hyfforddiant drwy gytundeb uniongyrchol gyda Chronfa Gwynedd, nodwyd bod hyfforddiant amserol ar gael drwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru, gyda chyfraniadau sylweddol o hwnnw gan Hymans. Er derbyn hefyd bod y ffioedd yn uchel (sydd yn wir hefyd am rai cwmnïau eraill yn y farchnad), amlygwyd dymuniad o dderbyn amcangyfrifiad o gost y gwaith sy’n cael ei gytuno arno ymlaen llaw.

 

Cyfeiriwyd at yr amcanion cyfredol ynghyd â’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion hynny yn ystod 2022. Amlygwyd bod dau amcan newydd wedi eu hychwanegu a bod y Pwyllgor Pensiynau, yn ei gyfarfod ar y 18fed o Ionawr 2023 wedi cymeradwyo’r holl amcanion

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth

 

12.

CYNLLUN HYFFORDDIANT pdf eicon PDF 259 KB

I ystyried yr adroddiad a chraffu Cynllun Hyfforddiant 2023/24 gan gynnig unrhyw argymhelliad i’r Pwyllgor Pensiynau

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn rhoi crynodeb o’r hyfforddiant a gyflwynwyd i’r Aelodau yn ystod 2022/23 ynghyd a chais i graffu Cynllun Hyfforddiant 2023/24 ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd, cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Pensiynau 27 Mawrth 2023.

 

Ystyriwyd bod Cynllun Hyfforddiant 2022/23 wedi bod yn llwyddiannus a diolchwyd i’r Aelodau am fynychu’r amryw gynadleddau a sesiynau hyfforddi Partneriaeth Pensiwn Cymru - nodwyd bod y gyfradd mynychu ymysg yr Aelodau yn dda iawn. Ategwyd bod Cynllun Hyfforddiant 2023/24 yn dilyn yr un drefn a’r flwyddyn flaenorol ac y bydd pob ymgais yn cael ei wneud i adnabod anghenion hyfforddi perthnasol a phriodol - gwahoddiadau i’w hanfon allan i Aelodau yn fuan.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth

 

13.

Y RHEOLYDD PENSIYNAU: AROLWG TREFN LLYWODRAETHOL GWSANAETH CYHOEDDUS 2022/23 pdf eicon PDF 328 KB

I  gynnig adborth a chwblhau’r arolwg

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd Arolwg y Rheolydd Pensiynau er mwyn derbyn adborth y Bwrdd am drefniadau llywodraethu Cronfa Bensiwn Gwynedd. Eglurwyd mai’r dyddiad cau ar gyfer ymatebion oedd 17 Chwefror 2023, ond ymestynnwyd y terfyn amser gan y Rheolydd er mwyn derbyn mewnbwn y Bwrdd o’r cyfarfod hwn.

 

Eglurodd y Rheolwr Pensiynau fod ymateb drafft ar sail ymatebion y Bwrdd i’r Arolwg blaenorol wedi eu cyflwyno, ond bod gofyn i’r Aelodau gytuno, herio neu addasu’r ymateb i gyd-fynd a gweithgareddau a datblygiadau yn 2022/23.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y materion canlynol fel rhai oedd angen sylw:

·         Angen ateb ‘YES’ i A3 ac A4 - adnoddau bellach wedi eu derbyn ac felly diddymu tic B4 ‘diffyg adnodd/ amser’ ac ychwanegu tic i focsRemediation sydd ynghlwm a gwaith McCloud

·         Bod rhan G, H ac I yn ychwanegiadau newydd ac yn fodd o osod ffocws ar gyfer yr hyn sydd angen ei weithredu

 

Yn dilyn cwblhau’r addasiadau, gofynnwyd i’r Rheolwr Pensiynau gyflwyno’r Arolwg i’r Rheolydd.