Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2015/16

Cofnod:

Penderfynwyd ethol Sharon Warnes yn gadeirydd y Bwrdd Pensiwn am 2015/16.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2015/16

Cofnod:

Penderfynwyd ethol Huw Trainor yn is-gadeirydd y Bwrdd Pensiwn am 2015/16.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

 

Dim i’w nodi 

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

 

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chysylltiadau â gweithwyr yn yr Adran Pensiynau ac Aelodau o’r Pwyllgor Pensiynau, awgrymwyd datgan buddiant os bydd mater penodol perthnasol yn codi neu yn cael ei drafod.

 

 

5.

CYLCH GORCHWYL pdf eicon PDF 222 KB

Mabwysiadu Cylch Gorchwyl a Llywodraethu ar gyfer Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Gwynedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd Cylch Gorchwyl ar gyfer Bwrdd Pensiwn Lleol Cronfa Bensiwn Gwynedd. Paratowyd y ddogfen ar y cyd gan Swyddogion o’r Adran Cyllid, Swyddogion o’r Adran Cyfreithiol a’r Aelod Cabinet perthnasol.  Adroddwyd bod y Cylch Gorchwyl wedi ei dderbyn yn y Cyngor Llawn ar 5.03.15 a bod gofyn i’r Bwrdd ei fabwysiadu. Amlinellwyd rôl y Bwrdd yn cynorthwyo rheolwyr y cynllun pensiwn gan dynnu sylw at baragraff 2.2 o’r adroddiad.

 

Bydd y Bwrdd Pensiwn yn sicrhau ei fod yn cydymffurfio yn effeithiol ac yn effeithlon gyda’r cod ymarfer ar lywodraethu a gweinyddu'r cynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus a gyhoeddir gan y Rheoleiddiwr Pensiynau. Bydd y Bwrdd Pensiwn hefyd yn cynorthwyo i sicrhau fod Cronfa Bensiwn Gwynedd yn cael ei rheoli a’i gweinyddu’n effeithiol ac yn effeithlon ac yn cydymffurfio gyda’r cod ymarfer ar lywodraethu a gweinyddu'r cynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus a gyhoeddir gan y Rheoleiddiwr Pensiynau’.

 

Cadarnhawyd mai Adran Cyllid Cyngor Gwynedd fydd rheolwyr y Cynllun, a’r pwyntiau cyswllt i’r Bwrdd fydd Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid), Caroline Roberts (Rheolwr Buddsoddi), Gareth Jones (Rheolwr Pensiynau), Nicholas Hopkins (Dirprwy Reolwr Pensiynau) a Meirion Jones (Swyddog Cyfathrebu - Pensiynau).

 

 

Trafodwyd y cylch gorchwyl fesul pennawd.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth;

-       Gan nad yw’r Cylch Gorchwyl yn caniatáu presenoldeb eilyddion yn lle aelodau’r Bwrdd, cadarnhawyd y byddai’r swyddogion yn fodlon derbyn sylwadau ymlaen llaw gan Aelodau petai ef/ hi yn methu a bod yn bresennol.

-       Nodir yn y Cylch Gorchwyl bod angen i’r Bwrdd Pensiwn gynnal o leiaf ddau gyfarfod ar wahân bob blwyddyn, ond petai angen sylw arbennig i unrhyw fater bydd modd trefnu cyfarfodydd ychwanegol. Y Bwrdd Pensiwn sydd a’r penderfyniad i amlder y cyfarfodydd.

-       Rôl y Bwrdd yw cysgodi gwaith a phenderfyniadau'r Pwyllgor Pensiynau. Petai cwestiwn / mater yn codi, fel arfer bydd y Bwrdd yn cyfeirio ystyriaethau drwy’r swyddogion.

-       Petai angen addasu’r Cylch Gorchwyl, yna bydd rhaid gwneud hynny drwy sêl bendith cyfarfod o’r Cyngor llawn.

 

Nodwyd bod y Bwrdd Pensiwn yn mabwysiadu’r Cylch Gorchwyl ac am ail ymweld â’r ddogfen petai unrhyw fater yn codi.

 

6.

SGILIAU A GWYBODAETH pdf eicon PDF 187 KB

Hysbysu’r Bwrdd Pensiynau am y trefniadau hyfforddi ar gyfer aelodau o’r Bwrdd

Cofnod:

Cyflwynwyd dogfen yn amlinellu trefniadau hyfforddi ar gyfer Aelodau’r Bwrdd Pensiwn. Amlinellwyd bod y Gronfa Bensiwn yn ceisio defnyddio unigolion gyda’r gallu a’r profiad perthnasol. I gynorthwyo Aelodau gyda gwybodaeth berthnasol / cyfredol, bydd y gronfa yn darparu hyfforddiant ar gyfer yr Aelodau, er mwyn eu galluogi i dderbyn a chynnal lefel briodol o arbenigedd. Amlinellwyd yn yr adroddiad y sesiynau hyfforddiant cychwynnol a'r adnoddau sydd i'w darparu.

 

Nodwyd bod yr Aelodau wedi derbyn sesiwn rhagarweiniol (gan Mr Stephen Lee o Investec) yn canolbwyntio ar rôl a chyfrifoldebau’r Bwrdd Pensiwn a’r prif feysydd o ddiddordeb ar y 13eg o Orffennaf 2015. Yn ychwanegol, nodwyd bydd cyfle i’r Aelodau fynychu sesiynau Hyfforddiant Hanfodion Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL). Nodwyd bod y sesiynau hyn yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol o’r CPLlL ac y bydd trefniadau'n cael eu gwneud gan Cyngor Gwynedd. Yn dilyn cwblhau'r Hyfforddiant Hanfodion (tri diwrnod), bydd holiadur yn cael ei gyflwyno i asesu  lefel cyfredol o ddealltwriaeth yr Aelodau. Yn dilyn yr asesiad, bydd rhaglen hyfforddi yn cael ei ddarparu i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau mewn sgiliau a gwybodaeth pob unigolyn. Cyfeiriwyd hefyd at gyfleoedd hyfforddiant ar wefan y Rheolydd Pensiynau sydd yn cynnig modiwlau am ddim.

 

Nodwyd y wybodaeth a gwnaed cais i’r Aelodau gysylltu gyda Caroline Roberts neu Meirion Jones i gofrestru ar y cwrs Hyfforddiant Hanfodion Ymddiriedolwyr CPLlL.

 

7.

RHAGLEN WAITH pdf eicon PDF 200 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Buddsoddi yn amlinellu angen y Bwrdd Pensiwn i osod strwythur i’w gwaith. Argymhellwyd yr angen i gytuno ar raglen o feysydd i’w harchwilio er mwyn i’r wybodaeth a’r adroddiadau gael eu darparu pan fydd angen. Yn ychwanegol i’r meysydd posib a restrwyd yn yr adroddiad, cynigiwyd y meysydd isod;

-       Deilliannau o’r hyfforddiant

-       Trafodaethau actwari

-       Cynnwys Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd - herio’r ystyriaethau a’r penderfyniadau

-       Adroddiadau i’r Pwyllgorau Pensiynau - herio’r ystyriaethau a’r penderfyniadau

-       Effaith cyllideb diweddar Llywodraeth San Steffan - Sut bydd hyn yn cael ei gyfathrebu?

-       Argymhellion perthnasol Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilio Mewnol - herio’r ystyriaethau a’r penderfyniadau

-       Craffu dulliau gweinyddu’r Cynllun - beth yw rôl a pherfformiad yr Uned Weinyddol?

-       Craffu a deall amrywiol ddulliau o fuddsoddi - beth yw portffolio buddsoddi'r gronfa?

-       Beth yw remit y Pwyllgor Pensiwn?

 

Mewn ymateb, nodwyd bod argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilio Mewnol yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio ond byddai modd paratoi crynodeb o’r argymhellion hynny ar gyfer y Bwrdd Pensiwn.

 

Nodwyd nad oedd cyfarfodydd ychwanegol wedi eu trefnu ar gyfer y flwyddyn, ond bod modd ystyried cyfarfod ym mis Rhagfyr (yn dilyn y gyfres hyfforddiant) a mis Mawrth. Ar gyfer cyfarfod mis Rhagfyr, penderfynwyd cyflwyno

-       Crynodeb o argymhellion y Pwyllgor Archwilio

-       Rôl yr Uned Weinyddol

-       Y Portffolio Buddsoddi

 

Cytunwyd ar y meysydd uchod fel cynnwys i’r rhaglen waith 2015/2016

 

8.

DYDDIADAU I'R DYFODOL pdf eicon PDF 188 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Cofnod:

Cyflwynwyd dogfen yn hysbysu’r aelodau o ddigwyddiadau perthnasol ynghyd â dyddiadau’r hyfforddiant sylfaenol i Ymddiriedolwyr. Gwnaed cais i’r Aelodau gyflwyno eu hunain i gyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn fydd yn cael ei gynnal ar yr 8fed o Fedi 2015. Rhestrwyd hefyd ddyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Pensiynau 2015/2016 a nodwyd bod modd i’r aelodau gysgodi’r Pwyllgorau hyn gan eu bod yn gyfarfodydd cyhoeddus.

 

Derbyniwyd y wybodaeth

 

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 3:10pm a daeth i ben 4:20pm