Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd ar gyfer 2021/22. Penderfyniad: Etholwyd
y Cynghorydd Hefin Underwood fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Pwllheli ar gyfer y flwyddyn 2021/22. COFNODION: PENDERFYNWYD
Ethol y Cynghorydd Hefin Underwood yn Gadeirydd y
Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/22. |
|||
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2021/22. Penderfyniad: Etholwyd
Y Cynghorydd Peter Read fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli
ar gyfer y flwyddyn 2021/22. COFNODION: PENDERFYNWYD Ethol y
Cynghorydd Peter Read yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/22 yn
ei absenoldeb. |
|||
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Peter Read |
|||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|||
MATERION BRYS Ystyried unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd COFNODION: Nid oedd unrhyw
fater brys oedd angen trafodaeth yn y cyfarfod, ond nodwyd dymuniad rhai
aelodau o’r Pwyllgor i gael sgwrs gyda’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol i drafod
materion yn ymwneud a Harbwr Pwllheli yn ei gyfanrwydd |
|||
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Mawrth, 2021 fel rhai cywir. COFNODION: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Mawrth, 2021 fel
rhai cywir. |
|||
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 428 KB I
Dderbyn Adroddiad gan y Rheolwr Harbwr Pwllheli Atodiad 1 – Cymhariaeth Gwynedd i Eraill 2021 Atodiad 2 – Cymhariaeth Cychod Pŵer i Hwylio 2021 Atodiad 3 – Cymhariaeth Ystadegau Cwch ym Mhob Harbwr 2021 Atodiad 4 – Cymhariaeth Ystadegau Cychod Pwllheli 2021 Atodiad 5 – Ystadegau Pwyllgor Harbwr Pwllheli – Hydref 2021 Atodiad 6 – Cyfanswm Cofrestrau Cychod Pwer 2021 Atodiad 7 – Cyfanswm Cofrestrau Beiciau Dwr 2021 Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (1) Nodi
a derbyn yr adroddiad. (2)
Ymateb fel a ganlyn i bapur ymgynghori’r Adran
Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational
and personal watercraft”:- i.
Bod y pwyllgor hwn yn cefnogi opsiwn 3, sef
llunio deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a
Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach
1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a Badau Dwr
Personol. ii.
Pwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i
ddefnyddwyr a galw am godi’r terfyn oedran ar gyfer gyrru badau dŵr
hamdden a Badau Dwr Personol (3)
Hysbysu
defnyddwyr Llithrfa yr Hafan am yr angen i sicrhau bod pob Cwch Hamdden a Bad
Dwr Personol wedi cofrestru gyda Cyngor Gwynedd cyn lansio. Roedd hyn yn sgil
pryderon a godwyd am y defnydd presennol. COFNODION: Atgoffwyd Aelodau’r Pwyllgor mai pwrpas y Pwyllgor
oedd rhoi cyfle i godi pryderon a’i bod yn bwysig cael cyfraniadau yr holl randdeiliaid. Yn
sgil hyn, nodwyd y pryder bod nifer o aelodau y Pwyllgor yn absennol. Cyrff
Allanol Atgoffwyd Aelodau y Pwyllgor hefyd bod angen iddynt
gyflwyno cofnodion eu cyfarfodydd, ynghyd a chopi o’u cyfansoddiad, er mwyn
cwrdd â’r rheolau, a sicrhau bod y rhestr cynrychiolwyr yn gywir a chyfredol. Cod
Diogelwch Harbwr Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol at y papur roedd wedi ei gylchreded
ynglŷn â Chod Diogelwch Harbwr, gan nodi fod y papur y rhoi sicrwydd bod rhanddeiliaid yn cydymffurfio a'r Cod, a chyfeiriodd at y
cyfle sydd wedi codi i Aelodau y Pwyllgor fwydo i mewn i’r ymateb. Cadarnhaodd bod dau archwiliad wedi ei wneud
gan Asiantaeth Gwylwyr y Glannau a bod yr asesiadau risg yn eu lle ac mewn
trefn. Adolygiad
Strategol o Hafan a Harbwr Cadarnhawyd bod Grŵp Gwaith wedi ei sefydlu er
mwyn gallu trafod yr Hafan a Harbwr gyda busnesau lleol a chytuno ar y ffordd
ymlaen, gan fod Pwllheli yn uned hollol bwysig.
Cadarnhawyd mai y nod yw cael Prif Gynllun ar gyfer y dyfodol, i gynnwys
strwythur yr Hafan a Harbwr Pwllheli. Adolygiad o
waith 2019 Rhoddodd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a
Chymuned ddiweddariad gan nodi fod y Rhaglen wedi bod ar oediad a materion
eraill wedi cymryd blaenoriaeth, ond bod angen ail-afael yn y rhaglen
nawr. Cadarnhaodd bod mesurau tymor byr
wedi eu hadnabod i gynnwys · Strwythur Mewnol Hafan a Harbwr, yn sgil ymddeoliad
Rheolwr Cynorthwyol yr Hafan · Materion eiddo, cyfreithiol, ariannol sydd o dan
reolaeth yr Hafan ac yr Harbwr · Comisiynu Prif Gynllun i adnabod y weledigaeth · Strategaeth Carthu ac Ymdrin â’r gwaddod · Paratoi Strategaeth Buddsoddi yr Hafan a Harbwr ar
gyfer y tymor byr, hir a chanolig Cadarnhawyd y bydd
diweddariad ar gael yn y cyfarfod nesaf.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag amseriad newid mewn rheolaeth, cadarnhawyd ei bod yn
hynod bwysig bod y gwasanaeth yn parhau ac nad oes unrhyw newid i’r gwasanaeth,
ac mai newidiadau gweinyddol y byddent er mwyn gwella y gwasanaeth. Nodwyd nad oedd swydd Rheolwr Cynorthwyol yr
Hafan wedi ei llenwi. Y weledigaeth yw y byddai rhywun wedi ei benodi i'r swydd
Rheolwr Masnachol a Busnes Harbwr Pwllheli a bod y swyddog newydd yn y swydd
erbyn Mawrth 2022. Cadarnhawyd bod yr
amser wedi dod i gymryd golwg strategol ar Hafan a Harbwr a symud ymlaen i
gynnig gwell gwasanaeth. Holiwyd a oedd cynlluniau ar gyfer yr Hen Glwb Hwylio a chadarnhawyd bod yr adeilad o dan Reolaeth Plas Heli a’r gobaith fyddai cydweithio gyda Phlas Heli gydag unrhyw gynllun. Ategwyd yr angen i drafod cyn gynted â phosib, a chadarnhawyd fod y Clwb Hwylio wedi gosod ‘Portacabin’ ar y safle ar gyfer defnydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a defnydd i blant ar gyfer gwersi 1 i 1, ai fod wedi bod yn adnodd defnyddiol yn sgil cau Canolfan Frondeg. Cadarnhawyd y dymuniad hir dymor ... view the full COFNODION text for item 7. |
|||
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar 15 Mawrth, 2022 COFNODION: Nodwyd y bydd y
cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 15 Mawrth 2022 am 6.00 pm Dechreuodd y
cyfarfod am 6.00 pm a daeth i ben am 7.50 pm.
|