Lleoliad: Yn rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679 868
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Mr Ifor Hughes. |
|||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|||
MATERION BRYS I ystyried unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y
Cadeirydd. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|||
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Hydref, 2021 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12
Hydref, 2021 fel rhai cywir. |
|||
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL A GWEITHREDOL YR HARBWR PDF 363 KB Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Rheolwr Harbwr Pwllheli Chwyddiant Incwm 2022-2023 Ffioedd Morwrol Drafft 2022-2023 Pwyllgor Morwrol – Sefyllfa 28-2-22 Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: I nodi a
derbyn yr adroddiad Cofnod: Croesawyd
pawb ac amlygwyd balchder bod cymaint wedi gallu bod yn bresennol yn y
cyfarfod. Nodwyd bod y trefniant o
gyfarfod yn rhithiol wedi gweithio yn wych, ac wedi bod o gymorth i’r rhai nad
ydynt yn lleol i fedru mynychu cyfarfodydd yn haws. Serch hynny, cadarnhawyd y bydd yn braf cael
cyfarfod wyneb yn wyneb pan fydd hyn yn cael ei ganiatáu. Cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd wedi ei chreu ar y cyd
gan y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol a’r Rheolwr Hafan, gan adrodd fel a ganlyn : Cod
Diogelwch Harbwr Er mai Y Cynghorydd Gareth Thomas yw Deilydd Dyletswydd y
Cod Diogelwch, mae yn hynod bwysig derbyn mewnbwn Aelodau’r Pwyllgor i gyd i'r
Cod. Cadarnhawyd bod dau archwiliad wedi
eu cynnal gan Asiantaeth Gwylwyr y Glannau, oedd yn cadarnhau cydymffurfiaeth
angenrheidiol llawn gyda y Cod.
Crybwyllwyd yr adroddiad am y Ddamwain ar y Fenai fel sail i’r
pwysigrwydd i bawb edrych ar eu Cod ac ystyried pwysigrwydd y Cod a chyfrifoldebau
unigolion er sicrhau cydymffurfiaeth. Carthu’r
Sianel Cadarnhawyd bod y gwaith a wnaed gan gwmni ‘Royal Smalls’
wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda oddeutu 20,000 ciwb o ddefnydd llaid yn
llai yn yr harbwr mewnol y flwyddyn hon. Adroddwyd y cafodd rhan fwyaf o’r
llaid ei arllwys fewn y bwnd distyllu a bellach mae’r bwnd yn llawn ac fe fydd
angen cynllunio ar gyfer gwagio’r bwnd distyllu yn fuan. Nodwyd mai’r cam nesaf
fydd carthu basn Hafan ond yn gyntaf bydd angen cwblhau gwaith arbrofi’r llaid
sydd wedi setlo ar waelod y marina. Yn anffodus, nid oedd yr amserlen ar gyfer
2022 yn caniatáu i waith carthu pellach gael ei wneud yn y basn ac felly bydd
yn cael ei raglennu ar gyfer 2023/24.
Cyfeiriwyd at y cyfarfod oedd wedi ei gynnal gyda ‘Royal Smalls’ i
drafod yr opsiynau o ran beth i’w wneud gyda’r bwnd, gan fod y bwnd gwreiddiol
yn llawn, gan ystyried sut, pryd a faint fydd y gost i wagio y bwnd
distyllu. Atgoffwyd y Pwyllgor bod y
llaid yn y gorffennol wedi ei gludo i Harlech y tro cyntaf, ac wedi ei adael ar
tir cyfagos yr ail dro, ond erbyn hyn bod lefelau wedi cyrraedd uchder ble na
fyddai modd gwneud hyn eto. Rhagwelir byddai angen gwaredu 20,000 ciwb allan
o’r bwnd distyllu. Cyfeiriwyd hefyd at
opsiynau eraill megis cymysgu tywod a llaid at ddefnydd masnachol, ond wrth
gwrs mae hyn yn dod gyda ei heriau ei hun.
Yn y cyfarfod gyda ‘Royal Smalls’ trafodwyd yr opsiwn o leoli bagiau ar
y tir, ei brosesu a’i sychu ar y safle ac yna ei waredu. Bydd trafodaethau
pellach i ddilyn ar y mater. Ceg
yr Harbwr Atgoffwyd y Pwyllgor fod y gwaith carthu ar geg yr Harbwr yn digwydd pob blwyddyn, o gwmpas mis Mawrth a mis Ebrill. Eleni, mae’r Gwasanaeth wedi penderfynu byddai mis Mai yn llawer mwy effeithiol i ymgymryd a’r gwaith. Cadarnhawyd bydd y gwaith yn cael ei wneud drwy ddefnyddio peiriannau o’r tir gan storio’r tywod ar y safle bresennol. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|||
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli
ar 18 Hydref, 2022. Cofnod: Nodwyd y bydd y
cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 18 Hydref, 2022 am 6.00 pm
|