Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2015/16. Cofnod: PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Michael Sol Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor am 2015/16. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am 2015/16. Cofnod: PENDERFYNWYD ail-ethol
y Cynghorydd Peter Read yn
Is-gadeirydd y Pwyllgor am
2015/16. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Peter Read (Cyngor Gwynedd), Clive Moore
(Sefydliad y Bad Achub), Andrew Picken (Siambr
Fasnach Pwllheli) a’r Cynghorydd Mandy
Williams-Davies (Aelod Cabinet – Economi). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o'r Pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 31 Mawrth, 2015, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor Ymgynghorol a
gynhaliwyd ar 31 Mawrth, 2015 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 247 KB Cyflwyno adroddiad ysgrifenedig gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Tywysodd
y Swyddog ·
Bod lleihad yn y nifer o angorfeydd
blynyddol o gymharu â 2014,
oedd yn adlewyrchu’r
economi ehangach; ·
O ran y Cod Diogelwch ·
Y gwerthfawrogir sylwadau ar gynnwys y Cod gan yr aelodau; ·
Bod y gwasanaeth yn awyddus i
ddatblygu Mesuryddion Perfformiad mewn perthynas â rheolaeth yr harbyrau ac y gwahoddir syniadau neu awgrymiadau cychwynnol gan yr aelodau; ·
Cyfeiriwyd at absenoldeb aelod o staff oherwydd salwch a nodwyd bod Cymorthyddion Harbwr yn llenwi’r bwlch
er ceisio sicrhau gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos
ar gyfer defnyddwyr; ·
Bod oedi o ran symud y deunydd a garthwyd yn yr
Harbwr oherwydd y disgwylir am gadarnhad o gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd y gobeithir cwblhau’r gwaith erbyn diwedd
Mawrth 2016; ·
Ystyrir neilltuo cyllid o £50,000 yn flynyddol ar gyfer
gwneud gwaith carthu yng Ngheg
yr Harbwr a gobeithir gwneud y gwaith blwyddyn nesaf, yr un adeg
a symud y deunydd a garthwyd yn yr
Harbwr; ·
Manylwyd ar gyfrifon
2014-15 yr Harbwr a’r Hafan; ·
Bwriedir cynyddu ffioedd yr Hafan
ar gyfer blwyddyn ariannol 2015-16 yn unol â chwyddiant
a rhewi ffioedd yr Harbwr Allanol
er mwyn annog
unigolion i gymryd angorfa; ·
Bod pryderon o ran
diogelwch a chostau cynnal offer rheoli cwch yr harbwr
ac asesir opsiynau o ran ei newid; ·
Yn dilyn derbyn pryderon
o ran ansawdd y disel coch a ddarperir yn yr Harbwr
gan Gymdeithas Masnachwyr ·
Gwneir gwaith i leihau’r bwnd
a diffinio llwybr cyhoeddus wrth ymyl Plas Heli
gan osod ffens o ran diogelwch. Ymgynghorwyd efo Swyddog Llwybrau’r Cyngor a oedd yn
gefnogol i’r bwriad; ·
Aseswyd opsiynau talu ar
gyfer defnyddwyr yr Harbwr a ffafrir
Standing Order yn hytrach
na Debyd
Uniongyrchol. Nodwyd yr edrychir ar
yr opsiwn o dalu Standing Order dros gyfnod o 12 mis yn hytrach na 7 mis os arwyddir cytundeb
cyn canol mis Chwefror. Tynnodd
y Swyddog Gofynnwyd
yn ogystal i’r aelodau am eu barn o ran addasu ardal parth cyflymder
uchaf ardal traeth Glandon er hwyluso gweithgareddau
hamdden. Nododd yr aelodau bod angen bod yn ofalus
o ran diogelwch defnyddwyr
a dylid ystyried y posibilrwydd o greu ardaloedd nofio dynodedig. PENDERFYNWYD bod y Swyddog
|
|
ETHOL SYLWEDYDDION I ethol sylwedyddion i wasanaethu ar y canlynol – a) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi b) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw c) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog Cofnod: Adroddwyd bod angen ethol sylwedydd/ion
i wasanaethu ar Bwyllgorau Ymgynghorol
Harbwr Aberdyfi, Abermaw a Porthmadog. PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Michael Sol Owen i wasanaethu fel sylwedydd ar Bwyllgorau
Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi, Abermaw a Porthmadog. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I nodi
y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 22 Mawrth,
2016. Cofnod: Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar
22 Mawrth, 2016. |