Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Peter Read (Cyngor Gwynedd). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2016, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor Ymgynghorol a gynhaliwyd ar 18 Hydref, 2016 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 145 KB Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Tywysodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw
at y prif bwyntiau canlynol: ·
Gofynnir i aelodau dynnu sylw’r Gwasanaeth i
faterion yng nghyswllt y Côd Diogelwch Morwrol. ·
Roedd y Gwasanaeth yn
disgwyl derbyn adolygiad o’r côd gan arbenigwr allanol Asiantaeth Gwylwyr y
Glannau ym mis Ionawr. Yn anffodus, oherwydd diffyg capasiti nid oedd yr
archwiliad wedi ei gynnal ac roedd y Gwasanaeth yn disgwyl i ail drefnu’r
adolygiad. Rhagwelwyd y cynhelir yr adolygiad ym mis Medi 2017. ·
Yn dilyn sylw a wnaed yn y cyfarfod blaenorol
roedd golau’r Bwi Tramwyo wedi ei newid fel bod y golau i’w weld ymhellach o’r
môr. Cyfeiriwyd at gryfder golau diogelwch cwmni Blue Water Marine, nododd
Cynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol y byddai’n codi’r mater efo’r
cwmni. ·
Bod y Gwasanaeth, ar y
cyd gyda Sefydliad y Bad Achub, wedi cychwyn ar waith cynnal adolygiad o
arwyddion diogelwch ardal yr Harbwr a thraethau Pwllheli. Fe fyddai’r
Gwasanaeth yn ymateb i ganlyniad yr archwiliad a gobeithir y byddai unrhyw
arwydd newydd yn cyfrannu at ddiogelwch ar y rhan yma o arfordir Gwynedd. ·
Manylwyd ar sefyllfa gyllidebol bresennol yr
Harbwr a’r Hafan gan nodi fod y Gwasanaeth yn ffyddiog y byddai’r gyllideb yn
unol â’r targed heblaw am ddiffyg yn incwm yr Hafan. ·
Yr
ail-edrychir ar sut cyflwynir gwybodaeth gyllidebol i’r Pwyllgor Ymgynghorol. ·
Bod y Cyngor wedi cefnogi cais y Gwasanaeth
i unioni trefn codi ffi yn yr Hafan. O’r 1af o Ebrill ymlaen fe
fyddai’r drefn codi ffi am angorfa pontŵn yn dychwelyd at drefniant
Uchafswm Hyd Cwch (LOA) yn Hafan Pwllheli. Rhagwelwyd y byddai hyn yn lleihau
cost angorfa flynyddol i 95% o’r cwsmeriaid oedd ar drefniant codi ffi
‘banding’ a gobeithir byddai hyn yn denu cwsmeriaid newydd i’r Hafan dros y
tair blynedd nesaf. ·
Bod rhaid i’r Cyngor ychwanegu ffi am bob angorfa ym mhob Harbwr o dan reolaeth y Cyngor yn 2017.
Eglurwyd bod y ffi wedi ei ychwanegu gan Ystad y Goron a fyddai’n hawlio £25.00
am bob angorfa yn yr Harbwr Allanol. Nodwyd bod gofyn ar y Cyngor, fel yr
Awdurdod Harbwr, i godi a chasglu’r ffi ar ran Ystad y Goron. Ychwanegwyd bod y ffi ychwanegol hefyd yn daladwy am
angorfeydd ymwelwyr ac fe fydd gofyniad i’r taliad hwn
gael ei ariannu drwy gyllideb yr Harbwr. Rhoddwyd
diweddariad ar y gwaith a fwriedir ei gwblhau yn unol â’r Strategaeth Carthu,
nodwyd y cynhelir archwiliad o’r sianel yn ystod y llanw isel mwyaf ffafriol
nesaf gan gynnal arolwg hydrograffeg er mwyn adnabod os byddai angen comisiynu
gwaith ‘bed levelling’ yn y sianel. Nodwyd y gwneir gwaith
carthu ceg yr harbwr yn ystod mis Ebrill cyn gwneud gwaith ‘bed levelling’ cyn
y Sulgwyn os oes angen. Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y
byddai’n anfon copi o’r Strategaeth Garthu i’r aelodau nad
oedd wedi derbyn copi. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o ran cynyddu maint y forddwyd, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y bwriedir dychwelyd y forddwyd i’w ffurf flaenorol. Nodwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar 17 Hydref 2017. Cofnod: Adroddwyd y byddai’r Swyddog Cefnogi Aelodau yn anfon at y sefydliadau/mudiadau ym mis
Mai i wneud cais am gyfansoddiadau / cofnodion cyfarfodydd blynyddol ynghyd â chadarnhad o’u cynrychiolydd. Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 17 Hydref, 2017. |