Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfa'r Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5AA
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Cynghorwyr Dylan Bullard a Peter
Read ynghyd â’r Cynghorydd Mici
Plwm (Cyngor Tref Pwllheli), Alwyn Roberts (Sefydliad y Bad Achub) a’r
Cynghorydd Ioan Thomas (Aelod Cabinet – Datblygu’r Economi). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y
Cadeirydd. Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2018, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Hydref, 2018,
fel rhai cywir yn ddarostyngedig i ddiwygio’r frawddeg gyntaf yn ail baragraff
ar dudalen 8 o fersiwn Saesneg y cofnodion i ddarllen: “In response to
an observation by a member regarding depositing the materials removed from the
harbour basin directly on Abererch beach, the Economy and Community Senior
Manager explained that excessive fine silts were detected in material samples
removed from the basin.” |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 106 KB (a) Cyflwyno adroddiad Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. (b)
Cyflwyno adroddiad Rheolwr Harbwr a Hafan Pwllheli. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a) Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r
adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol: ·
Bod cyfansoddiad y
Pwyllgorau Harbwr yn nodi eu haelodaeth a bod gofyn i fudiadau gadarnhau yn
flynyddol eu cynrychiolydd ynghyd ag anfon copi o gyfansoddiad a chofnodion
cyfarfod blynyddol y mudiadau. ·
Bod Prif Archwiliwr
Arolygaeth Asiantaeth Forwrol a Gwarchodwyr y Glannau wedi cynnal adolygiad
dilynol o drefniadau a systemau diogelwch harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd er
sicrhau cydymffurfiaeth lawn â’r Cod Diogelwch Porthladdoedd ar 5-6 Mawrth
2019. O safbwynt Hafan a Harbwr Pwllheli, bod y Prif Archwiliwr wedi nodi’r
angen i edrych ar y sianel. ·
Nid oedd unrhyw fater
neu achos o bryder wedi ei gyflwyno at sylw’r gwasanaeth gan Aelodau o’r
Pwyllgor Harbwr yn gysylltiedig â chyfrifoldebau a dyletswyddau statudol yr
Harbwr, yn ystod 2018. Roedd y Cod Diogelwch yn cael ei adolygu ac fe anfonir
copi o’r Cod i’r aelodau cyn y cyfarfod nesaf ac mi fyddai ar gael ar wefan y
Cyngor. ·
Cyfeiriwyd at grynodeb
bras o gyllidebau'r Harbwr a’r Hafan a'r sefyllfa ariannol bresennol hyd at
ddiwedd Chwefror 2019. Bod perfformiad incwm yr Hafan yn £1,198,506 yn erbyn y
targed incwm o £1,351,780, yn galonogol o ystyried y nifer o angorfeydd a oedd
heb eu dyrannu. Roedd y cyllidebau ar y cyfan yn bositif gyda’r Hafan yn gwneud
gwarged er yr holl waith angenrheidiol a thoriadau i’r cyllidebau. ·
Bod ffioedd a thaliadau
2019/20 wedi eu cyhoeddi yn y llawlyfr ac ar wefan y Cyngor yn Nhachwedd 2018.
Er cwrdd â her cyllideb a tharged incwm y gwasanaeth roedd ffioedd Harbwr
Pwllheli a’r Hafan yn cynyddu 3% ar gyfartaledd ar gyfer blwyddyn ariannol
2019/20. Ni fyddai cynnydd yn ffioedd angora yn yr Harbwr Allanol. ·
Bod cynlluniau manwl
Grwyn y Crud wedi eu cwblhau a bod yr amcan bris cychwynnol a gyflwynwyd yn
rhagweld byddai cost adnewyddu’r grwyn oddeutu £200,000. Roedd gwaith
angenrheidiol ar gyfer cyflwyno Trwydded Forol wedi ei gwblhau a’r cais wedi ei
gyflwyno i Gyfoeth Naturiol Cymru. Adroddwyd y disgwyliwyd canlyniad y cais cyn
27 Mehefin 2019 a byddai’r cyfnod ymgynghori yn bedwar mis. Eglurwyd ei fod yn
hanfodol bod y Cyngor yn cyflwyno cais Trwydded Forol oherwydd bod ôl troed y
grwyn yn ymestyn ymhellach na’i ôl troed presennol. Byddai’r Cyngor yn
hysbysebu’r gwaith ac yn gwahodd tendrau gan gontractwyr cymwys ar wefan
Gwerthwch i Gymru. Rhagwelwyd y byddai gwaith adnewyddu’r grwyn yn cychwyn ym
mis Medi 2019. ·
Gwagiwyd y lagŵn
distyllu yn ystod misoedd Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019. Cwblheir gwaith i godi
uchder y bibell i adael mwy o laid i mewn i’r lagŵn distyllu gan gymryd
sampl o’r llaid i mewn ac allan o’r bibell er mwyn gweld faint oedd wedi setlo
a faint oedd wedi mynd allan. Roedd angen gwneud gwaith torri tyfiant o amgylch
y bwnd cyn cychwyn ar y gwaith carthu ynghyd â gwaith ar y ffens diogelwch. · Bod adolygiad hydrograffeg wedi ei gynnal ar 8 Mawrth 2019 ac fe fyddai’r canlyniadau yn cael eu rhyddhau i’r aelodau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADOLYGIAD HAFAN A HARBWR PWLLHELI Derbyn cyflwyniad gan yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned. Cofnod: Derbyniwyd
diweddariad gan yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned ar adolygiad model rheoli ar
gyfer yr Harbwr a’r Hafan. Nodwyd yn dilyn gwahodd tendrau yn Ionawr 2019, bod
Strategic Leisure wedi eu penodi i wneud y gwaith manwl o asesu’r 5 opsiwn a
nodwyd yn y rhestr fer a datblygu achos busnes amlinellol fel rhan o gam 2.
Adroddwyd y disgwyliwyd adroddiad o ran yr opsiwn ffafriedig ynghyd ag achos
busnes amlinellol erbyn diwedd mis Ebrill 2019. Nodwyd yr awydd i gynnal
cyfarfod gydag aelodau’r Pwyllgor o ran casgliadau’r adroddiad yn ystod mis
Mai. Nododd
cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli ei fod wedi cyflwyno gwybodaeth
ar e-bost i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ond nid oedd wedi ei gynnwys
yn y rhaglen. Mewn ymateb, ymddiheurodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig
nad oedd y wybodaeth wedi ei gynnwys yn y rhaglen ond ei fod wedi ei gamgymryd
fel datganiad a dim mater ar gyfer y rhaglen. Rhoddwyd cyfle
i’r cynrychiolydd gyflwyno’r wybodaeth, nododd: ·
Bod Cymdeithas Cychod
Harbwr Pwllheli yn bryderus iawn na chydymffurfir â Strategaeth Garthu Harbwr
Pwllheli. Roedd yn ymddangos bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn llesteirio gallu
Cyngor Gwynedd i gydymffurfio, gan arwain at ddyfnder dŵr cyfyngol ar
gyfer cychod. Bod Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli yn gofyn i Gyfoeth Naturiol
Cymru ddarparu, i Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli, gwybodaeth yn dilysu eu
safbwynt gyda dogfennaeth yn nodi eu gwrthwynebiadau i'r opsiynau gwaredu a
drafodwyd a'u gwrthod, gan gynnwys gwaredu dan reolaeth ar draethau cyfagos. ·
Bod arolwg diweddar
ar-lein o aelodau’r Gymdeithas yn dangos proffil pryderus o ran oedran deiliaid
angorfa blynyddol Hafan Pwllheli. Roedd y canlyniad yn gyson â'r materion a
godwyd gan adroddiad British Marine Federation Futures Report 2018 a
oedd yn codi nifer o heriau perthnasol i'r diwydiant. Gyda chefndir yr heriau,
ynghyd â thystiolaeth galed o niferoedd yn lleihau, ei fod yn bwysig adfer a
diogelu sail sylfaenol yr Hafan a'r Harbwr. Roedd angen hyn er mwyn rhoi
cyfleuster sefydlog a fyddai’n galluogi canolbwyntio ar y materion mwy cudd a
oedd yn wynebu'r busnes. Oni chymerir camau pendant i fynd i'r afael â'r
sefyllfa garthu, byddai’n gwneud yr Hafan yn anhyfyw mewn ychydig flynyddoedd,
gyda colled refeniw sylweddol i Dref Pwllheli a'r ardaloedd cyfagos. ·
Bod canlyniadau’r arolwg
wedi eu rhannu gyda’r Uwch Reolwr Economi a Chymuned a’r Swyddog Morwrol a
Pharciau Gwledig. Mewn ymateb,
nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned ei werthfawrogiad o dderbyn y
wybodaeth ddefnyddiol gan nodi ei fod wedi cael cipolwg ar ganlyniadau’r arolwg
a’i fod yn amlygu’r heriau oedd yn wynebu’r Hafan a’r Harbwr. Ychwanegodd y
byddai’r wybodaeth yn cael ei gyflwyno i’r ymgynghorwyr a bwriadwyd anfon copi
o ganlyniadau’r arolwg i aelodau’r Pwyllgor. PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir
y cyfarfod nesaf ar 15 Hydref 2019. Cofnod: Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 15 Hydref, 2019. |