skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

 Ethol Cadeirydd ar gyfer 2021/22.

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd Hefin Underwood fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar gyfer y flwyddyn 2021/22.

 

Cofnod:

 PENDERFYNWYD Ethol y Cynghorydd Hefin Underwood yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/22.

 

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2021/22.

Penderfyniad:

Etholwyd Y Cynghorydd Peter Read fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar gyfer y flwyddyn 2021/22.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD Ethol y Cynghorydd Peter Read yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/22 yn ei absenoldeb.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Peter Read

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys oedd angen trafodaeth yn y cyfarfod, ond nodwyd dymuniad rhai aelodau o’r Pwyllgor i gael sgwrs gyda’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol i drafod materion yn ymwneud a Harbwr Pwllheli yn ei gyfanrwydd

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 226 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a   gynhaliwyd ar 16 Mawrth, 2021 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Mawrth, 2021 fel rhai cywir. 

 

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 428 KB

I Dderbyn Adroddiad gan y Rheolwr Harbwr Pwllheli

 

Atodiad 1 – Cymhariaeth Gwynedd i Eraill 2021

Atodiad 2 – Cymhariaeth Cychod Pŵer i Hwylio 2021

Atodiad 3 – Cymhariaeth Ystadegau Cwch ym Mhob Harbwr 2021

Atodiad 4 – Cymhariaeth Ystadegau Cychod Pwllheli 2021

Atodiad 5 – Ystadegau Pwyllgor Harbwr Pwllheli – Hydref 2021

Atodiad 6 – Cyfanswm Cofrestrau Cychod Pwer 2021

Atodiad 7 – Cyfanswm Cofrestrau Beiciau Dwr 2021

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(1)  Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

(2)   Ymateb fel a ganlyn i bapur ymgynghori’r Adran Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational and personal watercraft”:-

 

i.                Bod y pwyllgor hwn yn cefnogi opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a Badau Dwr Personol.

ii.              Pwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i ddefnyddwyr a galw am godi’r terfyn oedran ar gyfer gyrru badau dŵr hamdden a Badau Dwr Personol

 

(3)   Hysbysu defnyddwyr Llithrfa yr Hafan am yr angen i sicrhau bod pob Cwch Hamdden a Bad Dwr Personol wedi cofrestru gyda Cyngor Gwynedd cyn lansio. Roedd hyn yn sgil pryderon a godwyd am y defnydd presennol.

 

Cofnod:

Atgoffwyd Aelodau’r Pwyllgor mai pwrpas y Pwyllgor oedd rhoi cyfle i godi pryderon a’i bod yn bwysig cael cyfraniadau yr holl randdeiliaid.  Yn sgil hyn, nodwyd y pryder bod nifer o aelodau y Pwyllgor yn absennol.  

 

 

 

 

Cyrff Allanol

Atgoffwyd Aelodau y Pwyllgor hefyd bod angen iddynt gyflwyno cofnodion eu cyfarfodydd, ynghyd a chopi o’u cyfansoddiad, er mwyn cwrdd â’r rheolau, a sicrhau bod y rhestr cynrychiolwyr yn gywir a chyfredol.

 

Cod Diogelwch Harbwr

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth  Morwrol at y papur roedd wedi ei gylchreded ynglŷn â Chod Diogelwch Harbwr, gan nodi fod y papur y rhoi sicrwydd bod rhanddeiliaid yn cydymffurfio a'r Cod, a chyfeiriodd at y cyfle sydd wedi codi i Aelodau y Pwyllgor fwydo i mewn i’r ymateb.  Cadarnhaodd bod dau archwiliad wedi ei wneud gan Asiantaeth Gwylwyr y Glannau a bod yr asesiadau risg yn eu lle ac mewn trefn.

 

Adolygiad Strategol o Hafan a Harbwr

Cadarnhawyd bod Grŵp Gwaith wedi ei sefydlu er mwyn gallu trafod yr Hafan a Harbwr gyda busnesau lleol a chytuno ar y ffordd ymlaen, gan fod Pwllheli yn uned hollol bwysig.  Cadarnhawyd mai y nod yw cael Prif Gynllun ar gyfer y dyfodol, i gynnwys strwythur yr Hafan a Harbwr Pwllheli.

 

Adolygiad o waith 2019

Rhoddodd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned ddiweddariad gan nodi fod y Rhaglen wedi bod ar oediad a materion eraill wedi cymryd blaenoriaeth, ond bod angen ail-afael yn y rhaglen nawr.  Cadarnhaodd bod mesurau tymor byr wedi eu hadnabod i gynnwys

 

·       Strwythur Mewnol Hafan a Harbwr, yn sgil ymddeoliad Rheolwr Cynorthwyol yr Hafan

·       Materion eiddo, cyfreithiol, ariannol sydd o dan reolaeth yr Hafan ac yr Harbwr

·       Comisiynu Prif Gynllun i adnabod y weledigaeth

·       Strategaeth Carthu ac Ymdrin â’r gwaddod

·       Paratoi Strategaeth Buddsoddi yr Hafan a Harbwr ar gyfer y tymor byr, hir a chanolig

 

Cadarnhawyd y bydd diweddariad ar gael yn y cyfarfod nesaf. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag amseriad newid mewn rheolaeth, cadarnhawyd ei bod yn hynod bwysig bod y gwasanaeth yn parhau ac nad oes unrhyw newid i’r gwasanaeth, ac mai newidiadau gweinyddol y byddent er mwyn gwella y gwasanaeth.  Nodwyd nad oedd swydd Rheolwr Cynorthwyol yr Hafan wedi ei llenwi. Y weledigaeth yw y byddai rhywun wedi ei benodi i'r swydd Rheolwr Masnachol a Busnes Harbwr Pwllheli a bod y swyddog newydd yn y swydd erbyn Mawrth 2022.  Cadarnhawyd bod yr amser wedi dod i gymryd golwg strategol ar Hafan a Harbwr a symud ymlaen i gynnig gwell gwasanaeth.

 

Holiwyd a oedd cynlluniau ar gyfer yr Hen Glwb Hwylio a chadarnhawyd bod yr adeilad o dan Reolaeth Plas Heli a’r gobaith fyddai cydweithio gyda Phlas Heli gydag unrhyw gynllun.  Ategwyd yr angen i drafod cyn gynted â phosib, a chadarnhawyd fod y Clwb Hwylio wedi gosod ‘Portacabin’ ar y safle ar gyfer defnydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a defnydd i blant ar gyfer gwersi 1 i 1, ai fod wedi bod yn adnodd defnyddiol yn sgil cau Canolfan Frondeg.  Cadarnhawyd y dymuniad hir dymor  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar 15 Mawrth, 2022

Cofnod:

Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 15 Mawrth 2022 am 6.00 pm

 

Dechreuodd y cyfarfod am 6.00 pm a daeth i ben am 7.50 pm.

 

 

 

 

 

 

CADEIRYDD