Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd R. H.
Wyn Williams, Arfon Hughes
(Cyngor Tref Nefyn), William I. Hughes (Undeb Amaethwyr Cymru) a John Eric
Williams (Cyfeillion Llŷn). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 24 Mehefin, 2015, fel rhai cywir. (copi ynghlwm). Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2015, fel rhai cywir. |
|
YMWELWYR YN CYFRANNU Cyflwyniad gan
Alun Fôn Williams, Uwch Swyddog Datblygu Twristiaeth. Cofnod: Derbyniwyd cyflwyniad gan yr Uwch
Swyddog Datblygu Twristiaeth ar gynlluniau posib i dderbyn cyfraniad
ariannol gan dwristiaid er mwyn
ei fuddsoddi mewn ardal benodol. Nododd bod dau
fath o gynllun posib, sef -Cynllun
Treth Ymwelwyr a Chynllun Rhodd Ymwelwyr. Nododd gan
nad oedd
gorfodaeth i gyfrannu mewn Cynllun
Rhodd Ymwelwyr ei fod yn
fwy deniadol na’r Cynllun Treth
Ymwelwyr. Adroddodd bod 25 cynllun o’r fath
yn weithredol yn y Deyrnas Unedig
gyda nifer o ffyrdd posib i
ymwelwyr gyfrannu megis: ·
biliau gwestai, ·
biliau bwytai, ·
tocynnau meysydd parcio; ·
tocynnau atyniadau, ·
drwy i-beacons. Nododd bod cynllun
peilot rhodd ymwelwyr yn dechrau
yn Llanberis mis Rhagfyr 2015 am gyfnod o flwyddyn ac os fyddai’n llwyddiannus
bwriedir lledaenu’r cynllun ar draws Gwynedd. Rhoddwyd cyfle
i’r aelodau ofyn cwestiynau, ymatebodd yr Uwch
Swyddog Datblygu Twristiaeth fel a ganlyn: ·
Bod gan gynlluniau o’r math potensial ond bod angen adnodd
dynol i gysylltu
â chwmnïau ynghyd â chyllideb sylfaenol er mwyn sicrhau
llwyddiant; ·
Bod rhaid cynnal cynllun peilot oherwydd rheolau cynllun grant LEADER; ·
Mai gwirfoddol fyddai’r
cyfraniad gydag opsiwn i optio
mewn neu allan; ·
Byddai cynllun o’r fath yn
cynnwys hyrwyddo’r Iaith Gymraeg a’r
diwylliant Cymreig; ·
Bod enghreifftiau gwahanol
o weinyddu cynlluniau o’r fath megis
drwy fenter gymdeithasol, gwirfoddolwyr a.y.y.b; ·
Ei fod yn
fwy na
parod i gysylltu
â Menter Môn a oedd yn cynnal y peilot
yn Llanberis yng nghyswllt sefydlu
cynllun yn yr AHNE. Diolchwyd i’r Uwch Swyddog Datblygu Twristiaeth am ei
gyflwyniad. |
|
PROSIECTAU DIWEDDAR UNED AHNE LLŶN PDF 386 KB Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynodd Swyddog Prosiectau
AHNE Llŷn adroddiad ar waith yr
Uned AHNE. Rhoddwyd cyflwyniad ar brosiectau
llwyddiannus diweddar a ariannwyd yn rhannol
gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Nodwyd bod dros £400,000 o grantiau wedi eu
dyrannu i dros 100 o brosiectau ers 2010. Mewn ymateb i sylw gan
aelod parthed cynllun tanddaearu gwifrau trydan yn yr AHNE, nododd
y Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn
bod lluniau/mapiau ar gael gan
yr uned. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad
ar faterion cynllunio perthnasol i ardal Llŷn
a’r AHNE. Nododd y Cadeirydd
ei fod yn
awyddus i drafod safbwynt y Cydbwyllgor ar ffermydd solar, o ystyried y nifer cynyddol o geisiadau, er mwyn
dod i
gonsensws os dylid mabwysiadu datganiad ar geisiadau
cynllunio o’r math yma neu beidio,
fel y gwnaed efo ceisiadau cynllunio
am dyrbinau gwynt. Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, nodwyd y prif bwyntiau
canlynol: ·
Bod angen ystyried effaith gronnus ceisiadau o’r math yma ar y dirwedd; ·
Ei fod o werth i’r
Cydbwyllgor roi sylwadau ar geisiadau
cynllunio; ·
Gan fod posibilrwydd
y byddai’r feed-in
tariff yn cael ei ddiddymu blwyddyn
nesaf efallai na fyddai cymaint
o geisiadau cynllunio; ·
Bod rhan fwyaf o’r ceisiadau a ganiatawyd eisoes wedi eu sgrinio’n
ddigonol; ·
Nad oedd yn
bosib sgrinio datblygiadau solar yn ystod tymor y Gaeaf; ·
Bod angen rhoi cyfyngiad ar faint cynlluniau paneli solar; ·
Nad oedd Canllawiau
Cynllunio Atodol i warchod yr
AHNE o or-ddatblygiadau o’r
math yma a ni fyddai rhai mewn
lle am gryn amser ar ôl
i’r Cyngor fabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd
2011-2026; ·
Y dylid rhoi trefn mewn lle
i allu galw
cyfarfod arbennig o’r Cyd-Bwyllgor i roi sylw
penodol ar geisiadau cynllunio unigol a fyddai’n niweidio’r AHNE; ·
Y dylid edrych ar y sefyllfa yn
yr ardaloedd o harddwch eraill; ·
Bod Gwasanaeth Archeolegol
Gwynedd wedi gwneud asesiad astudiaeth sylfaenol dros Gymru o ran capasiti ar gyfer datblygiadau
o’r math yma ac anfonir yr adroddiad
i’r Uned AHNE. Nododd Rheolwr
Gwasanaeth AHNE Llŷn y
byddai’n llunio adroddiad cynhwysfawr yng nghyswllt datblygiadau
solar i gyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor.
PENDERFYNWYD: (i) derbyn yr adroddiad; (ii) sefydlu trefn lle gall y Cadeirydd mewn ymgynghoriad a Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn galw cyfarfod
arbennig o’r Cyd-Bwyllgor i roi sylw penodol
ar geisiadau cynllunio unigol a fyddai’n niweidio’r AHNE; (iii) bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn cyflwyno adroddiad
yng nghyswllt datblygiadau solar i gyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor. |
|
CYNLLUN RHEOLI’R AHNE PDF 430 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad
ar y gwaith o ddiweddaru ac adolygu Cynllun Rheoli’r AHNE. Tywyswyd yr aelodau
trwy Rhan 1 o’r cynllun rheoli
oedd yn atodiad
i’r adroddiad. Nodwyd yr anelir
i ddod a Rhan 2 o’r cynllun
diwygiedig gerbron y Cyd-Bwyllgor yn ystod Gwanwyn 2016. Rhoddwyd cyfle
i’r aelodau roi sylwadau, ymatebodd
Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn i’r sylwadau
fel a ganlyn: ·
O ran effaith datblygiadau
ar y tirlun, byddai cyfeiriad penodol at ddatblygiadau megis tyrbinau gwynt a phaneli solar yn Rhan 2; ·
Bod polisïau cenedlaethol
ynghyd â Chynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) yn delio â materion
cynllunio ond byddai cyfeiriad yn Rhan 2 at dueddiadau
a pholisïau newydd oedd yn effeithio
ar yr AHNE; ·
Bod dynodiad Ardal Gwarchod y Dirwedd yn creu math o fyffer i warchod
gosodiad yr AHNE ynghyd a’r golygfeydd
i mewn ac allan o’r AHNE. Ychwanegodd bod y CDUG yn rhoi ystyriaeth i’r dynodiad; ·
Y byddai pwyslais yn y cynllun ar
greu tirlun byw a chynnal cymdeithas.
Nodwyd y rhoddir sylw i faterion
megis anghenion y gymuned leol, diwydiannau
traddodiadol, lles cymunedol a datblygiadau cynaliadwy. PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad. |
|
Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn manylu ar
drefniadau’r Cyngor yng nghyswllt ymgynghori
ar doriadau i wasanaethau. Nodwyd bod dileu’r Uned AHNE wedi ei gynnwys fel
toriad posibl. Ychwanegwyd y byddai dileu’r uned yn
arbed £39,150 i’r Cyngor. Nodwyd yr
ysgrifennwyd at aelodau’r Cyd-Bwyllgor a phartneriaid gwaith yr Uned
AHNE i dynnu sylw at y bygythiad i’r uned. Anogwyd
yr aelodau i lenwi holiadur
Her Gwynedd a nodwyd bod cyfnod
yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei ymestyn i
30 Tachwedd 2015. Nododd yr
Aelod Cabinet Rheoleiddio yr asesir ymatebion
i’r ymgynghoriad ar grynswth y wybodaeth
yn hytrach na nifer o unigolion
oedd wedi dewis pa bynnag opsiwn. Anogodd yr aelodau i
lenwi’r holiadur unai ar-lein neu
drwy lenwi’r holiadur papur. Ychwanegodd bod y toriadau
yn cael eu
gorfodi ar y Cyngor a byddai goblygiadau i nifer
o wasanaethau. Nododd bod oddeutu 65 o’r Cynghorwyr wedi asesu nifer o opsiynau
mewn gweithdai cyn i’r Cabinet benderfynu ar y rhestr toriadau sydd yn destun
yr ymgynghoriad. Nodwyd y cynhelir gweithdai pellach efo’r holl gynghorwyr
yn dechrau 2016 i drafod yr
ymatebion cyn i’r Cabinet ystyried y cynigion ac yna byddai’r Cyngor Llawn ar 3 Mawrth
2016 yn penderfynu ar y gyllideb ar
gyfer 2015-16. Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, nododd yr aelodau'r
prif bwyntiau canlynol: ·
Bod yr holiadur ddim yn bositif; ·
Ni ellir cyflwyno cynigion amgen; ·
Bod yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig yn cefnogi dynodiad
yr AHNE a’i werth cenedlaethol; ·
Bod yr adolygiad yn nodi y byddai
gweinyddiaeth yr AHNE yn parhau i
fod yn rhan
o’r Cyngor; ·
Bod gofyn statudol o
ran gwarchod yr ardal o harddwch; ·
Bod yr holiadur yn anodd
i’w lenwi ac yn rhy gymhleth; ·
Mai oddeutu 1,500 oedd
wedi llenwi’r holiadur hyd yma
a bod hyn yn siomedig o ystyried bod poblogaeth Gwynedd oddeutu
120,000; ·
Bod rhaid arbed y swm yn
llawn i allu
cyflwyno ymateb ar-lein ac felly bod unigolion ddim yn parhau
â’r holiadur gan olygu na
cheir syniadau da ym mlwch olaf
yr holiadur, lle gofynnir am unrhyw sylwadau arall, gan groesdoriad
o’r gymuned; ·
Y dylid cynnal mwy o drafodaethau efo’r Cynghorau Cymuned a grwpiau perthnasol; ·
Bod yr uned yn gweinyddu’r Gronfa Datblygu Gynaliadwy felly beth fyddai’r oblygiadau o ran dyrannu grantiau. Diolchwyd i’r
Aelod Cabinet Rheoleddio am
fynychu’r cyfarfod. Awgrymwyd y dylai’r
Cadeirydd anfon llythyr mewn ymateb
i’r ymgynghoriad yn nodi’r angen
i gadw’r Uned AHNE er mwyn
gwarchod y dynodiad. PENDERFYNWYD: (i) derbyn yr adroddiad; (ii) bod y Cadeirydd yn anfon llythyr mewn
ymateb i’r ymgynghoriad yn nodi’r angen i
gadw’r Uned AHNE er mwyn gwarchod
y dynodiad. |
|
ADOLYGIAD O DIRWEDDAU DYNODEDIG CYMRU PDF 383 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn gosod
cyd-destun yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig Cymru. Nodwyd bod yr adroddiad
terfynol oedd wedi ei gyflwyno
i Lywodraeth Cymru yn cynnwys
69 argymhelliad. Adroddwyd bod Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol wedi cyhoeddi datganiad
ar 29 Hydref 2015 yn nodi ei
fod yn sefydlu
gweithgor, dan arweinyddiaeth yr Arglwydd Dafydd Ellis-Thomas i ystyried yr
argymhellion gan gyflwyno eu canfyddiadau
mewn adroddiad y flwyddyn nesaf. Nodwyd y byddai’r
Cadeirydd a Rheolwr
Gwasanaeth AHNE Llŷn yn mynychu cyfarfod
cychwynnol y gweithgor ar yr 20fed o Dachwedd. Tywyswyd yr
aelodau drwy grynodeb o’r adroddiad
terfynol gan dynnu sylw at argymhellion
penodol. Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, nodwyd y prif sylwadau
canlynol: ·
Bod cadw enw’r dynodiadau Parciau Cenedlaethol ac AHNE gyda’r prif ddynodiad i’w adnabod fel
Tirweddau Cenedlaethol Cymru i’w gefnogi
gan y byddai’n helpu i godi
statws yr AHNE; ·
Er mwyn i’r
Parc Cenedlaethol a’r AHNE fod yn
ddynodiadau cyfwerth y byddai rhaid newid
deddf a gallai hynny gymryd oddeutu
4 neu 5 mlynedd; ·
Bod yr adroddiad yn gefnogol i
ddynodiad yr AHNE ac yn rhoi awdurdod
ac amlygrwydd iddo; ·
Bod sefydlu’r gweithgor
yn golygu oediad o ran gweithredu’r argymhellion; ·
Bod angen bod yn ofalus o ran colli’r gogwydd Gymraeg. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|