Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
CROESO Cofnod: Croesawyd Alun Price (Cyfoeth Naturiol Cymru) i’w gyfarfod cyntaf.
|
|
CADEIRYDD I ethol cadeirydd am y flwyddyn 2015/16. Cofnod: Adroddwyd bod cyfansoddiad
y Cydbwyllgor wedi ei ddiwygio o dan
hawliau dirprwyedig yr Aelod Cabinet – Cynllunio a Rheoleiddio fel y gall unrhyw aelod o’r Cydbwyllgor
weithredu fel Cadeirydd. PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Gruffydd Williams yn Gadeirydd am y flwyddyn 2015/16. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol is-gadeirydd am y flwyddyn 2015/16. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol T. Victor Jones yn Is-gadeirydd am y flwyddyn 2015/16. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Noel Davey (Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig), Morgan Jones-Parry (Fforwm Mynediad Arfon a Dwyfor), Hedd Rhys (NFU Cymru), Gillian Walker (Cyngor Cymuned Botwnnog), John Eric Williams (Cyfeillion Llŷn), Wenda Williams (Cyngor Cymuned Aberdaron) a John Lloyd Jones, Panel Adolygu Tirluniau Dynodedig Cymru. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 Mawrth, 2015, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2015, fel rhai cywir yn
ddarostyngedig i ddiwygio o dan ymddiheuriadau Arfon Jones (Cyngor Tref Nefyn)
i Arfon Hughes. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Nododd
Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod Uned AHNE Llŷn yn cael
ei ystyried fel rhan o’r
toriadau posib gan y Cyngor. Gofynnwyd am gefnogaeth yr aelodau
i’r Uned os ystyrir yr
Uned fel rhan o’r ymgynghoriad
cyhoeddus ar doriadau. |
|
ADOLYGIAD O DIRWEDDAU GWARCHODEDIG CYMRU – CAM 2 PDF 305 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn a oedd yn
nodi’r sefyllfa ddiweddaraf o ran adolygiad Llywodraeth Cymru i Dirweddau Dynodedig. Adroddwyd bod ymateb i Gam 2 o’r adolygiad wedi
ei anfon at Banel yr adolygiad
gan Gyngor Gwynedd fel sefydliad. Tynnwyd sylw i lythyr a dderbyniwyd
gan Yr Athro
Terry Marsden, Cadeirydd yr
Adolygiad o Dirweddau Dynodedig Cymru, a oedd yn cyflwyno
Cam 2 o’r adolygiad ac yn rhoi cyfle
i sefydliadau gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ynghylch trefniadau llywodraethu'r tirweddau dynodedig. Amlygwyd y cwestiynau penodol a ofynnir
er mwyn helpu’r
Adolygiad i adnabod a chasglu’r dystiolaeth angenrheidiol i ddod i
gasgliad ar gyfer Cam 2. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau
gynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y prif bwyntiau canlynol: ·
Yn yr hinsawdd ariannol bresennol y byddai’n fwy cost effeithiol cael un corff ar
gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio
sef Cyngor Gwynedd; ·
Bod diffyg ymwybyddiaeth o’r AHNE a dylid sicrhau trefniadau
cynllunio cryfach er mwyn gwarchod
yr AHNE pan benderfynir ar geisiadau cynllunio; ·
Bod angen cydbwysedd gwell o ran prydferthwch a’r economi gan fod
cynifer o bobl ifanc yn gadael
yr ardal; ·
Bod twristiaid yn ymweld â’r
ardal oherwydd y prydferthwch a bod angen cydbwyso gwerth datblygiadau economaidd a chadwraeth. Golygai hyn bod rhaid gwrthod
datblygiadau sydd ddim yn cyd-fynd
efo’r harddwch naturiol yn enwedig
oherwydd y ddyletswydd i sicrhau/gwarchod
y prydferthwch o dan y Ddeddf Cefn Gwlad
a Hawliau Tramwy 2000; ·
Y byddai codi ymwybyddiaeth o’r AHNE fel y Parciau Cenedlaethol yn ysgogi mwy
o bobl i ddod i’r AHNE; ·
Nododd aelod ei phryder os
byddai’r Parciau Cenedlaethol a’r AHNEau yn cael
eu llywodraethu o dan yr un drefn
y byddai’r AHNE yn cael ei lyncu
gan y Parc; ·
Bod diffyg adnoddau a phroffil isel o fewn y Cyngor
a Gwynedd yn ei gyfanrwydd; ·
Dylai’r AHNE dderbyn adnoddau/cefnogaeth debyg o ran lefel a’r Parciau Cenedlaethol
gan gadw annibyniaeth leol. Nododd aelod bod Stad y Goron yn
derbyn arian
sylweddol o Gymru yn flynyddol a’i
fod yn annheg. Tynnodd aelod sylw at gynllun lleol sicrhau ansawdd
yn Ardal y Llynnoedd lle codir
ffi ychwanegol ar ymwelwyr gan
ddefnyddio’r arian
ar gyfer marchnata a chynnal a chadw’r ardal a’i
fod mewn cysylltiad efo’r Cyngor o ran sefydlu trefn o’r fath
yng Ngwynedd. Nododd y byddai sefydlu cynllun peilot yn cymryd cryn
amser ond byddai o werth sylweddol i’r ardal. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn ei fod wedi
bod mewn cysylltiad â’r Uned Twristiaeth,
Marchnata a Gofal Cwsmer a oedd
yn edrych i mewn i
sefydlu trefn o’r fath. Ychwanegodd Rheolwr
Cefn Gwlad a Mynediad ei fod
yn fater cymhleth a bod angen adnoddau i sefydlu
a gweinyddu trefn o’r fath a fyddai’n
gorfod bod yn annibynnol o’r Cyngor. PENDERFYNWYD: (i) derbyn yr
adroddiad; (ii)
bod Rheolwr Gwasanaeth
AHNE Llŷn yn crynhoi’r drafodaeth a’i anfon at y Panel. |
|
DIWEDDARIAD AR BROSIECTAU PDF 345 KB Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad ar waith
yr Uned AHNE, nodwyd bod Catrin Glyn, Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn Dros Dro wedi derbyn
swydd newydd a dymunwyd yn dda
iddi. Prosiectau Ardaloedd Cadwraeth
Llŷn Nodwyd
y derbyniwyd yr adroddiad terfynol ac mai cam nesaf y gwaith, os bydd
adnoddau yn caniatáu, fydd ceisio gwireddu argymhellion yr adroddiad a gwella cyflwr yr Ardaloedd
Cadwraeth yn yr AHNE trwy gydweithio
a sicrhau cyllid. Mewn
ymateb i sylw gan aelod,
nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yr anogir perchnogion
adeiladau yn yr Ardaloedd Cadwraeth
i warchod a gwella golwg a chymeriad yr ardaloedd. Datganodd aelod ei bryder am ddodrefn ar y stryd (gan fusnesau
preifat) nad
oedd yn cydweddu.
Nododd aelod ei farn nad
oedd sylwadau Cynghorau Cymuned ar geisiadau cynllunio
yn derbyn ystyriaeth deg. Nododd
aelod bod Swyddogion Cadwraeth, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi llwyddo
i ddenu grantiau
ar gyfer cynnal cadwraeth yn Nolgellau a bod angen mwy o ystyriaeth
i’r Ardaloedd Cadwraeth pan benderfynir ar geisiadau cynllunio
yng Ngwynedd. Prosiect y Rhyfeloedd Byd Nodwyd bod Elfed Gruffydd wedi cwblhau
ei waith ymchwil o ran y Rhyfel Byd Cyntaf yng
nghyswllt effaith a dylanwad y Rhyfeloedd Byd ar amgylchedd
a chymdeithas yr ardal, a’i fod
rŵan yn edrych ar Ail Ryfel
Byd. Tynnwyd sylw at grynodeb
o’r gwaith a nodwyd y cyflwynir yr adroddiad cyflawn
gerbron y Cydbwyllgor. Nododd aelod ei ddiolch i
Elfed Gruffydd am y gwaith a’i obaith
y byddai’r wybodaeth yn cael ei
gyhoeddi. Mewn ymateb, nododd
Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y byddai’n pasio gwerthfawrogiad yr aelod i
Elfed Gruffydd. Ychwanegodd y bwriedir cyhoeddi’r adroddiad ar y we. Gwŷl yr Arfordir a Theithiau
Cerdded Adroddwyd
y cynhelir Gwŷl yr Arfordir yn
ystod yr haf a threfnwyd teithiau cerdded gan yr Uned
AHNE ar gyfer mis Medi. PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad. |
|
SEFYDLU IS-GRŴP CYNLLUNIO PDF 417 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn cloriannu / pwyso a mesur y sefyllfa o ran sefydlu Is-grŵp Materion Cynllunio yn unol
â phenderfyniad y Cydbwyllgor
yn ei gyfarfod
ar 22 Hydref 2014. Nodwyd bod sylwadau yn cael eu
cyflwyno ar geisiadau cynllunio perthnasol gan Reolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn ynghyd â datganiad y Cydbwyllgor pan gyfyd ceisiadau am dyrbinau gwynt. Nododd aelod y byddai sefydlu is-grŵp yn galluogi’r aelodau
i lunio sylwadau
mwy cynhwysfawr pan ystyrir fod cais
cynllunio am gael
effaith niweidiol ar yr AHNE. PENDERFYNWYD bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn cyflwyno adroddiad i’r cyfarfod nesaf yng nghyswllt sefydlu Is-grŵp Materion Cynllunio. |
|
APÊL CYNLLUNIO – TYRBIN GWYNT, CRUGERAN, SARN PDF 498 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yng nghyswllt Apêl
Cynllunio a gyflwynwyd yn dilyn gwrthod
hawl cynllunio i godi tyrbin
gwynt ychwanegol ar dir ger
Crugeran, Sarn Mellteyrn (Cais Cynllunio Rhif C14/0974/32/LL) yn dilyn cais
gan aelod i’r Cydbwyllgor ystyried y mater. Adroddwyd y gwnaed sylwadau ar y cais
gan Reolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn, oedd yn cynnwys
datganiad y Cydbwyllgor yng nghyswllt ceisiadau
am dyrbinau gwynt. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau
lunio sylwadau manwl ar yr
Apêl. Yn dilyn cais gan aelod, cytunodd
y Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn i anfon
copi o’r sylwadau a anfonir
at yr Arolygydd ar ran y Cydbwyllgor iddi ar e-bost.
PENDERFYNWYD awdurdodi’r Rheolwr
Gwasanaeth AHNE Llŷn i gyflwyno sylwadau
wedi eu selio
ar yr isod
ar yr apêl
i’r Arolygydd ar ran y Cydbwyllgor: ·
Bod y Cydbwyllgor yn ystyried byddai
caniatáu’r cais yn cael effaith
niweidiol sylweddol ar AHNE Llŷn. Ystyrir bod y bwriad yn groes i
ddyletswydd y Cydbwyllgor o
dan y ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau
Tramwy 2000. ·
Bod ceisiadau am dyrbinau
gwynt yn y cyffiniau wedi eu gwrthod a dylid
gwrthod yr apêl. ·
Bod y Cydbwyllgor yn
anghydweld a sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n nodi nad
ystyrir y byddai effaith niweidiol sylweddol. Gofynnir i’r Arolygydd gymryd
arbenigedd barn lleol y Cydbwyllgor sydd yn groes i
farn ymarferiad pen desg CNC. Teimlir bod anghysondeb yn sylwadau CNC ar faterion cynllunio. ·
Bod y ddogfen ymgynghorol
Cynllun Adnau Drafft Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn
2011-26 yn nodi na chaniateir tyrbin
gwynt mwy na 15 medr yn
Llŷn rhag achosi effaith niweidiol sylweddol i’r AHNE, sydd wedi ei gefnogi
gan sawl corff gan gynnwys
y Cydbwyllgor. ·
Credir nad yw’r
angen economaidd yn gorbwyso'r niwed
a achosir i’r AHNE. |
|
AELODAU LLEOL AR Y CYDBWYLLGOR YMGYNGHOROL PDF 378 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yng nghyswllt ystyried
newid cyfansoddiad y Cydbwyllgor mewn perthynas â’r nifer
o Aelodau Lleol (Cynghorwyr) ar y Cydbwyllgor yn dilyn cais gan
aelod i’r Cydbwyllgor ystyried y mater. Nodwyd yn y drefn bresennol bod aelodau lleol yn cael
eu cylchdroi bob cyfnod etholiadol gyda 5 Aelod Lleol
ar y Cydbwyllgor ar yr un
adeg. Nododd aelod y byddai ffiniau etholiadol yn cael
eu diwygio yn dilyn etholiad
Cynghorau Lleol yn Mai 2017 a dylid cadw’r drefn bresennol
tan fydd newid i’r ffiniau. PENDERFYNWYD cadw at y drefn bresennol am y tro ond bod trefniadau yn cael eu gwneud i ddiwygio’r cyfansoddiad er galluogi bob Aelod Lleol i fod yn aelod o’r Cydbwyllgor erbyn Mai 2017. |