Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd datganiadau o ymddiheuriad gan
Robert Parkinson (Ymddiriedolaeth Genedlaethol), Morgan Jones-Parry (Fforwm
Mynediad Arfon a Dwyfor), Wenda Williams (Cyngor
Cymuned Aberdaron), Einir Wyn (Cyngor Cymuned Llanengan), Euros Jones (FWAG
Cymru), Lea Elin Connelly (Arweinydd Tîm Bioamrywiaeth), Sian Parry (Cyngor
Cymuned Tudweiliog) a’r Cynghorydd Dafydd Davies. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. COFNODION: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS I nodi
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellr eu hystyried. COFNODION: Atgoffwyd yr aelodau bod ‘Llygad Llŷn’,
newyddlen flynyddol yr AHNE yn cael ei gyhoeddi dros yr wythnosau nesaf a
gofynnwyd am gymorth yr aelodau i godi ymwybyddiaeth amdano. Hysbyswyd yr
aelodau bod Wyn Williams (Rheolwr Cefn Gwlad) yn ymddeol mewn rhai wythnosau.
Cytunwyd i yrru diolchiadau aelodau’r pwyllgor ato cyn ei ymddeoliad. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2022, fel rhai cywir. COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r
Cydbwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2022, fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN GWEITHREDU ADFER NATUR I rannu Gwybodaeth ag Aelodau o amcanion
sydd wedi eu cynnwys oddi
fewn Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cyngor Gwynedd ac AHNE Llŷn.
Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad gan nodi sylwadau a godwyd yn
y drafodaeth. COFNODION: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn er
gwybodaeth i’r Aelodau. Eglurwyd bod cynllun gweithredu adfer natur yn
weithredol ar draws awdurdodau lleol Cymru a bod ymgynghorydd wedi cael ei
benodi er mwyn cynorthwyo i baratoi’r cynllun yng Ngwynedd yn unol â dyletswydd
y Cyngor. Adroddwyd bod
cyfnod ymgynghorol y cynllun yn dechrau dros yr wythnosau nesaf ac anogir ir
aelodau gwblhau’r ymgynghoriad yn ogystal ag annog unigolion o fewn eu
cymunedau i’w gwblhau. Cadarnhawyd
byddai’r holiadur ymgynghorol hwn hefyd yn cael ei ddosbarthu yn ystod Sioe
Nefyn a gynhelir ar y 1af o Fai eleni er
mwyn derbyn barn y cyhoedd ar yr argyfwng byd natur o fewn Gwynedd ac o fewn yr
AHNE. Rhannwyd
nifer o safbwyntiau gwahanol am flaenoriaethau a phrosesau adfer natur a
rhoddwyd sylw i amrywiol syniadau. Pwysleisiwyd yr angen i’r Aelodau gwblhau’r
holiadur ymgynghorol er mwyn sicrhau bod eu safbwyntiau yn cael eu hystyried ar
y cyd gyda safbwyntiau’r cyhoedd. PENDERFYNIAD Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad gan nodi
sylwadau a godwyd yn y drafodaeth. |
|
CYNLLUN STRATEGOL AR GYFER YR ECONOMI YMWELD. Bleddyn
Jones, Swyddog AHNE, i gyflwyno adroddiad ar Gynllun Strategol ar gyfer Yr Economi Ymweld. Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog AHNE
Llŷn er gwybodaeth i’r Aelodau.
Eglurwyd bod Cyngor Gwynedd wedi bod yn cydweithio gyda Pharc Cenedlaethol
Eryri er mwyn creu cynllun strategol i wireddu gweledigaeth ac egwyddorion
Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035. Adroddwyd bod effeithiau twristiaeth o
ganlyniad i Pandemig Covid-19 wedi cynyddu’r effaith ar ddiwylliant ac yr
amgylchedd. Ystyriwyd bod effeithiau pryderus i’r iaith, trafnidiaeth ac
economi wledig yn ogystal â thensiynau mewn rhai ardaloedd oherwydd niferoedd
digynsail o ymwelwyr. Cadarnhawyd bod Cyngor Gwynedd wedi
cymeradwyo’r cynllun strategol yn dilyn cyfnod o ymgynghoriad o’r pryderon ar y
cyd gyda Parc Cenedlaethol Eryri. Eglurwyd mai’r weledigaeth a osodwyd ar gyfer
Cynllun Strategol Gwynedd ac Eryri yw ‘Economi ymweld er budd a lles pobl,
amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri’. Manylwyd ar egwyddorion ac amcanion y
cynllun sef: 1. Dathlu, Parchu a Gwarchod ein Cymunedau, Iaith, Diwylliant a
Threftadaeth. 2. Cynnal a Pharchu ein Hamgylchedd. 3. Sicrhau bod cymunedau Gwynedd ac Eryri’n cael mwy o fantais nac
anfantais. Cadarnhawyd
bod copi llawn o’r cynllun strategol i’w weld ar wefan y Cyngor. Mewn
ymateb i ymholiad am rôl yr AHNE wrth weithredu’r cynllun, cadarnhaodd Swyddog
AHNE Llŷn bod yr uned wedi bod yn rhan o grŵp tasg a oedd yn
cydweithio i i’w baratoi. Er mwyn cael eglurder ar rôl yr AHNE wrth weithredu’r
cynllun, bydd swyddogion yn trafod gyda’r Tîm Twristiaeth ac yna adrodd yn ôl
i’r Aelodau. PENDERFYNIAD Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
PROSIECT TIRWEDDAU CYNALIADWY LLEOEDD CYNALIADWY. Bleddyn
Jones, Swyddog AHNE i gyflwyno adroddiad ar Brosiect Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy. Penderfyniad: a)
Derbyn yr adroddiad ar Aelodaeth y Cydbwyllgor Ymgynghorol. b)
Ystyried aelodaeth Panel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yng
nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor. COFNODION: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn er
gwybodaeth i’r Aelodau. Eglurwyd mai gwybodaeth am brosiectau cyfalaf yn unig
sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac
bod nhw wedi cael eu ariannu drwy gynllun Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd
Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Eglurwyd bod
Tirwedd Dynodedig Cymru wedi cyflwyno prosiectau ar gyfer y cyfnod 2022-25.
Manylwyd bod rhain wedi cael eu cyflwyno o fewn y themâu a osodwyd sef:
Bioamrywiaeth ac adfer natur, Dad-garboneiddio, Cymunedau gwydn a gwyrdd a
Thwristiaeth Gynaliadwy. Cadarnhawyd mai’r prosiectau ar gyfer AHNE Llŷn
oedd: -
Cylchdaith Gyrn
Goch -
Fan drydan
Warden yr AHNE -
Tir Comin Rhos
Botwnnog, Foel Gron Mynytho a Horeb/Mynytho -
Canolfan
Llithfaen -
Gwelliannau
Mynediad i safleoedd Mynydd Tir y Cwmwd, Porth Ysgo a
Phorthor ar y cyd gyda Llwybr Arfordir Cymru. -
Terfynau
Traddodiadol (waliau cerrig, cloddiau a gwrychoedd) -
Yr Awyr Dywyll Soniwyd bod
prosiectau eraill wedi cael eu datblygu drwy arian a dderbyniwyd gan Gyngor
Gwynedd a Chyfoeth Naturiol Cymru. Trafodwyd gwaith cadarnhaol gyda
gwirfoddolwyr yn ddiweddar i ail-sefydlu llwybrau a chodi sbwriel. Nodwyd bod
swyddogion yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o’r AHNE megis drwy rannu
diweddariadau ar y wefan, cyfryngau cymdeithasol ac yng nghylchgrawn ‘Llygad
Llŷn’. PENDERFYNIAD Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
Y GRONFA DATBLYGU CYNALIADWY Morus Llwyd
Dafydd, Swyddog Prosiect
AHNE i roi diweddariad ar Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Penderfyniad: a) To
accept the report on the Membership of the Consultative Joint Advisory
Committee. b)
To consider the membership of the Sustainable
Development Fund Panel at the next meeting of the Joint Committee COFNODION: The report was submitted by the
Llŷn AONB Officer for Members' information. It Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog
Prosiectau AHNE Llŷn er gwybodaeth
i’r Aelodau. Adroddwyd bod £100,000 yn y Gronfa Datblygu Cynaliadwy ar ddechrau
blwyddyn ariannol 2022/23 ac llwyddwyd i ddyrannu £92,149.52 ohono i brosiectau
teilwng. Eglurwyd bod hyn yn arwain at tanwariant bychan o £7,850.48. Cadarnhawyd
mai’r prosiectau a gefnogwyd yn ystod y flwyddyn diwethaf yw: - Amgueddfa Forwrol Llŷn - Bws Fflecsi
Llŷn - Giât Mynwent Llandegwnning - Gŵyl R S Thomas - Eglwys Newydd Aberdaron - Arddangosfa Sarn - Clwb Hwylio Aberdaron - Cae Chwarae Llithfaen - Ffenestri Hafod Ceiri - Arolwg Archeolegol Coedlan Carl - Maes Parcio Aberdesach - Melin Daron - Sied Plas Carmel - Hysbysfyrddau Cymuned Aberdaron - Cyflenwyr Dosbarthu Bagiau Baw
Cŵn - Neuadd Abersoch. Cadarnhawyd bod cyllideb i ariannu prosiectau dros gyfnod o ddwy flynedd
yn hytrach na blwyddyn (rhwng 2023-25), os oes angen, gan bod cyllid o £100,000
ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 ac £100,000 arall wedi ei ganiatáu
ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Nodwyd bod canllawiau mwyaf diweddar Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o
bwyslais ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac oherwydd hyn
yn rhoi blaenoriaeth i brosiectau sydd yn cyd fynd â themâu ‘adfer natur’ a
‘dad-garboneiddio’. Pwysleisiwyd bod y gwaith o hyrwyddo’r cyfle i ymgeisio am grant o’r Gronfa
Cynaliadwy eisoes wedi dechrau ac anogwyd yr aelodau i rannu gwybodaeth am y
cyfleoedd ymhellach. Rhoddwyd
cyfle i aelodau Panel y Gronfa Cynaliadwy i sefyll i lawr er mwyn rhoi cyfle i
aelodau eraill o’r Cyd-bwyllgor os dymunent. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan yr Aelodau: - Bu i gynrychiolwyr Ymgyrch
Diogelu Cymru Wledig a Chyngor Cymuned Clynnog Fawr gynnig sefyll i lawr o
Banel y Gronfa Cynaliadwy os oedd unrhyw un yn awyddus i fod yn rhan ohono. - Ystyriwyd os oes modd denu sefydliadau
gwahanol i fod yn aelodau o’r Panel er mwyn sicrhau trawstoriad eang wrth
ystyried ceisiadau. Mewn ymateb, nodwyd: - Bod nifer o sefydliadau yn rhan
o Aelodaeth y Cyd-bwyllgor hwn. Atgoffwyd bod aelodaeth y Panel yn aelodau’r
Cyd-bwyllgor ac felly bydd unrhyw drawstoriad yn deillio o sefydliadau sy’n
rhan o’r Cyd-bwyllgor. - Diolchwyd i’r ddau
gynrychiolydd am gynnig sefyll i lawr. Penderfynwyd ail-ymweld ag aelodaeth y
Panel yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor er mwyn cynnal y drafodaeth ble mae mwy
o’r cynrychiolwyr yn bresennol. PENDERFYNIAD a) Derbyn yr adroddiad ar
Aelodaeth y Cydbwyllgor Ymgynghorol. b)
Ystyried aelodaeth Panel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yng
nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor. |
|
DYNODIAD AWYR DYWYLL Morus Llwyd
Dafydd, Swyddog Prosiect AHNE i gyflwyno Gwybodaeth ar y bwriad o weithio tuag
at cais statws Awyr Dywyll i ardal Pen draw Llŷn. Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad a chefnogi bwriad yr Uned AHNE
i weithio tuag at wneud cais am ddynodiad Awyr Dywyll i ardal Pen draw
Llŷn, gyda ymgynghoriaeth â chymunedau Pen draw Llŷn. COFNODION: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn
gan nodi bod Uned AHNE wedi bod yn gweithio ers peth amser i ymgeisio am
statws Awyr Dywyll Rhyngwladol ar gyfer Llŷn. Eglurwyd bod casglu data yn sialens fawr gan bod ardal
AHNE Llŷn yn eang iawn. Manylwyd bod yr uned yn canolbwyntio ar ardal Pen
draw Llŷn ar drwyn y penrhyn er mwyn derbyn y dynodiad Awyr Dywyll
Rhyngwladol yn hytrach na’r ardal gyfan. Cadarnhawyd
bod Ynys Enlli wedi ei ddynodi’n Noddfa Awyr Dywyll ym mis Chwefror Eleni ac
mai’r fan honno yw’r cyntaf yn Ewrop i dderbyn y dynodiad. Adroddwyd bod
newyddion o’r dynodiad yma wedi codi ymwybyddiaeth pobl am yr ynys ac ardal
Llŷn ac gobeithir byddai dynodiad Awyr Dywyll yn fuddiol i ardal Pen draw
Llŷn yn yr un modd. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan yr Aelodau: -
Holiwyd os yw’r
mater hwn wedi cael ei drafod yng nghyfarfod Cyngor Cymuned Aberdaron. -
Manylwyd ar
faterion eraill i’w hystyried megis diogelwch a’r angen i gael goleuadau penodo
mewn rhai mannau o’r ardal. Mewn ymateb, nodwyd: -
Bod y
swyddogion yn gobeithio derbyn cefnogaeth y Cyd-bwyllgor i weithio tuag at
gwblhau cais am Ddynodiad Awyr Dywyll. Cadarnhawyd nad oes unrhyw waith wedi
cael ei gwblhau i weithio tuag at y dynodiad hwn ar hyn o bryd na unrhyw gais
wedi cael ei gwblhau. Manylwyd bod ymgynghori gyda’r gymuned yn elfen bwysig
o’r gwaith ac felly bydd trafodaethau yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned
Aberdaron yn allweddol i weld os bydd y gymuned yn cefnogi’r bwriad i wneud
cais am ddynodiad neu beidio. -
Sicrhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn sicrhau
iechyd a diogelwch ym mhob sefyllfa. Trafodwyd bod Prosiect Nos yn cydweithio
yn dda gydag amryw o fusnesau a sefydliadau i addysgu am lygredd golau a’r
dulliau i’w leihau gan barhau i oleuo lleoliadau yn effeithiol. -
Ymhelaethwyd
bod cydweithio clos yn digwydd rhwng yr Uned AHNE a swyddogion cynllunio Cyngor
Gwynedd er mwyn gosod amodau sy’n ymwneud â goleuo ar geisiadau newydd pan fo’n
addas. Eglurwyd er bod yr amodau hyn yn cael eu gosod mae diffygion recriwtio
diweddar wedi arwain at lai o swyddogion gorfodaeth ac yn golygu bod rhai
problemau yn parhau i godi. Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad a chefnogi bwriad yr Uned AHNE
i weithio tuag at wneud cais am ddynodiad Awyr Dywyll i ardal Pen draw
Llŷn, gyda ymgynghoriaeth â chymunedau Pen draw Llŷn. |