Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2023/24. Penderfyniad: Penderfynwyd ethol Sian Parri
(Cyngor Cymuned Tudweiliog) yn gadeirydd ar gyfer y cyfnod 2023/24. Cofnod: Penderfynwyd
ethol Sian Parri (Cyngor Cymuned Tudweiliog) yn Gadeirydd ar gyfer y cyfnod
2023/24. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24. Penderfyniad: Penderfynwyd ethol T Victor Jones
yn Is-gadeirydd ar gyfer y cyfnod 2023/24. Cofnod: Penderfynwyd ethol T. Victor Jones yn Is-gadeirydd
ar gyfer y cyfnod 2023/24. |
|
YMDDIHEURIADAU To receive apologies for absence. Cofnod: Derbyniwyd datganiadau o ymddiheuriad gan Einir
Wyn (Cyngor Cymuned Llanengan), Euros Jones (FWAG Cymru), Cynghorydd
Dafydd Davies, Eirian
Allport (Cyngor Cymuned
Clynnog Fawr), Gillian Walker (Cyfeillion Llŷn) a Kevin Roberts (Warden Cefn Gwlad –
AHNE Llŷn) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL To receive any declaration of personal interest. Cofnod: Derbyniwyd datganiadau o fuddiant personol
gan Morgan Jones-Parry a Sianelen Pleming ar gyfer Eitem 9 gan fod Canolfan
Llithfaen yn cael ei drafod. Nid oeddent o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n
rhagfarnu a ni wnaethant adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem. Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan
y Cynghorydd Gareth Tudor Jones ar gyfer Eitem 8 gan ei fod yn un o
gyfarwyddwyr ‘O Ddrws i Ddrws’, sydd wedi derbyn arian gan y Gronfa Datblygu
Cynaliadwy. Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a ni wnaeth
adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem. |
|
MATERION BRYS To note any items that are a matter of urgency in the view of the Chairman for consideration. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2023 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r
Cydbwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2023, fel rhai cywir. |
|
Cyflwyno gwybodaeth
ar ymgyrch statws ‘Awyr Dywyll’ ardal Aberdaron. Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn er
gwybodaeth i’r Aelodau, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol: Atgoffwyd yr
Aelodau bod trafodaethau wedi codi yng nghyfarfod 29 Mawrth 2023 o’r Pwyllgor
hwn ynglŷn ag ymgeisio am ddynodiad ‘Awyr Dywyll’ i’r ardal AHNE, yn dilyn
llwyddiant Ynys Enlli i dderbyn y dynodiad o ‘Noddfa Awyr Dywyll’ yn ddiweddar.
Nodwyd mai canlyniad y trafodaethau hynny oedd ystyried ymgeisio am ddynodiad i
ardal Aberdaron o’r AHNE os oedd y gymuned yn cefnogi hynny. Diweddarwyd
bod swyddogion wedi cynnal trafodaethau gyda Chyngor Cymuned Aberdaron yn ystod
eu cyfarfod ym mis Gorffennaf.
Cadarnhawyd bod y gymuned yn awyddus i ymgeisio am y dynodiad ‘Awyr
Dywyll’ ac felly mae’r gwaith paratoi ar gyfer y cais wedi cychwyn. Pwysleisiwyd
bydd y cais am ddynodiad Awyr Dywyll yn berthnasol i ffiniau ardal Cyngor
Cymuned Aberdaron yn unig. Cadarnhawyd
bod swyddogion yn cydweithio gyda Prosiect NOS er mwyn casglu data i adeiladu
cais am ddynodiad Awyr Dywyll. Amcangyfrifwyd byddai’r gwaith hwn yn cymryd
rhwng 1 a 2 mlynedd i’w gwblhau cyn derbyn dynodiad. Manylwyd bod swyddogion
hefyd wedi bod yn mesur tywyllwch yr awyr yn ddiweddar gan ddefnyddio ‘Sky
Quality Meter’ ar nosweithiau clir di-leuad. Cadarnhawyd y bwriedir gwneud hyn
mewn gwahanol rannau o ardal y dynodiad dwywaith y flwyddyn. Eglurwyd bod
swyddogion yn cydweithio gyda AHNEau eraill yn ogystal â’r Parc Cenedlaethol
drwy gydol y broses. Manylwyd bod swyddogion wedi bod yn cydweithio gyda chwmni
Ridge er mwyn adnabod ardaloedd o fewn ardal AHNE Llŷn ble mae llawer o
lygredd golau er mwyn ceisio cynorthwyo datrysiadau i’r llygredd hwnnw gyda’r
sefydliadau. Esboniwyd bod y cwmni wedi edrych ar oddeutu 20 sefydliad o fewn
yr AHNE ble mae llygredd golau a nodwyd mai’r prif sefydliadau sydd wedi cael
eu blaenoriaethau yw: ·
Nant Gwrtheyrn ·
Clwb Golff Nefyn ·
Neuadd Sarn Mellteyrn ·
Ysgol Crud y Werin, Aberdaron Eglurwyd nad
ydi’r lleoliadau sydd wedi cael eu cynnwys gan gwmni Ridge yn cynnwys anheddau
preswyl, ail dai neu dai gwyliau oherwydd nid oes gan y Cyngor awdurdod i’w
reoli. Er hyn, nodwyd bod swyddogion yn cael trafodaethau gyda’r adran
gynllunio er mwyn ystyried gosod amodau ar dai newydd i geisio datrys y broblem
o lygredd golau. PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd. |
|
Y GRONFA DATBLYGU CYNALIADWY PDF 83 KB Cyflwyno
gwybodaeth i’r aelodau am sefyllfa presennol y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog
Prosiectau AHNE Llŷn er gwybodaeth
i’r Aelodau, a thynnwyd sylw’n fras i’r prif bwyntiau canlynol: Atgoffwyd yr aelodau bod
£100,000 ar gael ar gyfer Cronfa'r Datblygiadau Cynaliadwy ar ddechrau’r
flwyddyn ariannol gyfredol. Cadarnhawyd mai’r prosiectau canlynol sydd wedi
derbyn cefnogaeth y Gronfa hyd yma eleni: ·
Amgueddfa
Forwrol Llŷn ·
Bws Fflecsi
Llŷn ·
Balchder a
chelf Llŷn ·
Storws
Enlli ·
Diogelu
Enwau Llanengan ·
Llyfrgell
Pethau Llŷn ·
Gŵyl R
S Thomas ·
Arddangosfa Melinau Gwlân Llŷn ·
Arddangosfa
Berwyn Jones ·
Cae Chwarae
Rhydyclafdy ·
Menter
Raber Eglurwyd
bod £4,833 yn weddill o’r Gronfa. Nodwyd bod modd derbyn ceisiadau am yr arian
hwn, ond bod unrhyw brosiect sy’n derbyn yr arian yn ei ddefnyddio cyn diwedd
mis Mawrth 2024. Nodwyd bydd adroddiadau cyffelyb yn y dyfodol yn cynnwys
prosiectau sydd wedi derbyn cefnogaeth y Gronfa yn y flwyddyn ariannol gyfredol
a’r ddwy flynedd flaenorol er mwyn cael darlun o’r mathau o brosiectau sy’n
ymgeisio am ddyraniad o’r gyllideb. Tynnwyd sylw at brosiectau
‘Storws Enlli’ a ‘Bws Fflecsi’ yn benodol oherwydd eu bod wedi derbyn £30,000
yr un o ddyraniad y Gronfa. Darparwyd diweddariad ar y prosiectau gan nodi eu
bod wedi bod yn llwyddiant mawr, gyda’r Storws wedi cael ei adfer i safon
ardderchog a’r Bws Fflecsi wedi cludo mwy o deithwyr eleni. Sicrhawyd bod cyllideb o
£100,000 wedi cael ei gadarnhau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25 ac anogwyd
yr aelodau i hysbysu cymunedau Llŷn o’r cyfleon mae’r Gronfa yn ei
ddarparu. Atgoffwyd yr aelodau bod gwybodaeth ychwanegol am y Gronfa ar gael
i’r cyhoedd ar wefan yr AHNE. Nodwyd bod canllawiau mwyaf
diweddar Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn rhoi blaenoriaeth i brosiectau sydd yn gyd fynd â’r
themâu ‘Adfer Natur’ a ‘Dad-garboneiddio’. Atgoffwyd bod naw Aelod ar
Banel y Gronfa ar hyn o bryd. Nodwyd bod yr Aelod dros Gyngor Cymuned Clynnog
Fawr wedi datgan diddordeb i gamu i lawr o’r Panel. Etholwyd y Cynghorydd John
Brynmor Hughes fel Aelod o’r Panel yn ei lle. Yn dilyn y
drafodaeth ar yr eitem yma, tynnwyd sylw at drafferthion sy’n codi o ddiffyg
bysiau hwyrol sy’n bodoli ar hyn o bryd mewn ardaloedd gwledig yr AHNE.
Ystyriwyd os byddai modd ystyried y Bws Fflecsi fel rhan o ddatrysiad i’r
sefyllfa ond cydnabuwyd byddai hyn yn anodd gan ei fod yn wasanaeth tymhorol
gydag oriau cyfyngedig ar rai dyddiau’r wythnos. Cytunwyd bydd y Swyddog AHNE
yn cysylltu gyda Rheolwr Trafnidiaeth Gyhoeddus yn nodi bod yr Aelodau yn
datgan pryder am y sefyllfa bresennol. PENDERFYNIAD
|
|
PROSIECTAU CYFALAF AHNE LLŶN PDF 106 KB Cyflwyno Gwybodaeth
am brosiectau cyfalaf AHNE Llŷn. Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn er
gwybodaeth i’r Aelodau a thynnwyd sylw’n fras i’r prif bwyntiau canlynol: Eglurwyd bod
Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy (TCLC) yn gynllun grant gan Lywodraeth
Cymru i gefnogi prosiectau cyfalaf yn y Parciau Cenedlaethol a’r AHNE.
Cadarnhawyd bod y prosiectau yn yn cwmpasu tair
blynedd (2022-25). Esboniwyd bod
yr adroddiad yn manylu ar ddiweddariadau 2022/23 o brosiectau cyfalaf TCLC
Llŷn sef: ·
Adnewyddu grisiau Porth Ysgo ·
Tiroedd Comin Mynytho, Horeb a Rhos Botwnnog ·
Coed Cynhenid ·
Rhywogaethau ymledol estron ·
Canolfan Llithfaen Cadarnhawyd
bod yr AHNE yn derbyn oddeutu £200,000 yn flynyddol gan y Llywodraeth o fewn y
TCLC i’w wario ar y prosiectau hyn yn 2023/4. Soniwyd y bydd oddeutu £160,000
o’r arian hwn wedi cael ei wario ar waith cyfalaf (£60,000 yng Nghanolfan Llithfaen, £50,000 ym
Mhorth Ysgo, £30,000 i’r tiroedd comin a £20,000 ar
goed cynhenid). Sicrhawyd bod gwariant y prosiectau hyn yn hyblyg i anghenion
yr ardal ac bod swyddogion yn trafod y materion gyda’r Llywodraeth yn rheolaidd
er mwyn darparu diweddariadau. Nodwyd y bydd diweddariadau’r dyfodol i’r
Cyd-bwyllgor yn cynnwys gwybodaeth am wariant y prosiectau o fewn yr
adroddiadau. Trafodwyd bod
problemau rhododendron ar dir comin Mynydd Tir y Cwmwd, Llanbedrog, ond eglurwyd
bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn delio gyda’r sefyllfa hon felly nid oes angen i’r
AHNE weithredu yma. PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd. |
|
MATERION CENEDLAETHOL PDF 77 KB Cyflwyno Gwybodaeth
ar faterion Cenedlaethol. Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn
er gwybodaeth i’r Aelodau. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau
canlynol: Soniwyd bod
llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS wedi cyrraedd Arweinwyr
Awdurdodau Lleol a Pharciau Cenedlaethol yn ogystal â Chadeiryddion y Parciau
a’r Cydbwyllgorau AHNE yn ddiweddar. Manylwyd bod y llythyr yn nodi bod y
Llywodraeth wedi datblygu pecyn hyfforddiant ar-lein ar gyfer y cyrff
perthnasol er mwyn sicrhau bod gan arweinwyr ac aelodau’r sefydliadau y
wybodaeth a’r sgiliau cywir. Eglurwyd bod
dwy sesiwn hyfforddiant perthnasol i aelodau Cydbwyllgor AHNE Llŷn, gan
gynnwys: ·
Cyflwyniad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ·
Mynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd Cadarnhawyd
nad yw mynychu’r sesiynau hyfforddiant hyn yn orfodol ond mae anogaeth gref i’r
holl aelodau fynychu’r sesiynau. Eglurwyd bod y sesiynau yn 2 awr yr un ac yn
cael eu cynnal ar 02 Chwefror ac 16 Chwefror 2024 rhwng 2-4yh. Nodwyd mai’r
bwriad yw trefnu cyfarfod o’r Cydbwyllgor er mwyn cynnal yr hyfforddiant. Eglurwyd bod
y term ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ yn deillio o Ddeddf Parciau
Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 a'i fod wedi bod mewn defnydd ers
hynny. Er hyn, cydnabuwyd bod trafodaethau ynglŷn â’r enw wedi cael eu
cynnal dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd ei fod yn or-ddisgrifiadol, yn hir
ac ystyrir nad ydi’r AHNEau o’r un statws a’r Parciau
oherwydd nad yw’r enw yn cynnwys y gair ‘cenedlaethol’. Ymhelaethwyd
bod adolygiad o’r Parciau Cenedlaethol a’r AHNE yn Lloger wedi ei gynnal dan
arweiniad y newyddiadurwr Julian Glover ac un o’r
argymhellion oedd i newid yr enw gweithredol o ‘Ardaloedd o Harddwch Naturiol
Eithriadol’ i ‘Dirweddau Cenedlaethol’. Nodwyd bod nifer fawr o ardaloedd
Lloegr o blaid y newid hwn a rhannwyd pecynnau gwybodaeth, brandio a logos
newydd i gyd-fynd gydag hyn. Eglurwyd
hefyd bod Cymdeithas Cenedlaethol dros AHNE hefyd yn gefnogol ac am
newid ei enw i Gymdeithas Tirweddau Cenedlaethol. Sicrhawyd bod
trafodaeth ar y mater wedi bod yng Nghymru hefyd. Eglurwyd, yn gyffredinol, mai
cefnogaeth i’r bwriad sydd i’w weld mewn AHNE eraill ac mae Llywodraeth Cymru
hefyd yn gefnogol. Pwysleisiwyd nad oes gorfodaeth i ddefnyddio’r teitl newydd,
y brandio na’r logo sydd wedi ei ddatblygu. Cadarnhawyd bydd enw swyddogol
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn parhau. Rhannwyd
nifer o bryderon gan Aelodau am newid yr enw a’r logo presennol i’r fersiynau
newydd. Ystyrir bod y defnydd presennol yn eglur, addas i bwrpas ac yn gyfle i
ddangos i'r iaith Gymraeg. Cydnabuwyd nad oes modd creu cymdeithas ar wahân i
Gymru oherwydd dim ond 5 ardal sydd yng Nghymru a bod 37 yn Lloegr, ond nodwyd
bydd swyddogion yn cysylltu gydag ardaloedd AHNE eraill er mwyn lleisio gofidion. PENDERFYNIAD 1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 2.
Cytunwyd i beidio mabwysiadu teitl a logo cenedlaethol newydd ‘Tirweddau
Cenedlaethol’ gan barhau gyda ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ a’r logo
presennol. |