Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol cadeirydd am y flwyddyn 2016/17. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol T. Victor Jones yn Gadeirydd am y flwyddyn 2016/17. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol is-gadeirydd am y flwyddyn 2016/17. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Angela Russell yn Is-gadeirydd am y flwyddyn 2016/17. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Gareth Roberts, Hedd Rhys (NFU Cymru), Laura Hughes (Ymddiriedolaeth Genedlaethol) ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2015, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2015, fel rhai cywir. |
|
TIRWEDDAU'R DYFODOL CYMRU PDF 468 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad
o ran yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Adroddwyd mai’r cam nesaf fyddai i
Gadeirydd rhaglen ddatblygu Tirweddau Dynodedig Cymru grynhoi’r holl gasgliadau ac argymhellion a’u cyflwyno i
Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd
a Materion Gwledig, am ystyriaeth bellach. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau
roi sylwadau, ymatebodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn i’r sylwadau fel
a ganlyn: ·
Ei fod yn debygol y byddai
ymgynghoriad pellach ar ôl i’r
Ysgrifennydd Cabinet ystyried
y wybodaeth; ·
Mai addasiadau yn hytrach na
newidiadau mawr y byddai’n deillio o’r gwaith ac fe
roddir trefn blaenoriaeth o ran gweithredu – Tymor Byr, Canolig
a Hir; ·
Bod neges
wedi ei gyfleu
yn ystod y trafodaethau o ran yr angen am adnoddau cyllidol uwch na
hyn a dderbynnir yn bresennol a sicrwydd ariannol ar gyfer y dyfodol; ·
Yr anfonir neges i Arglwydd Dafydd
Ellis-Thomas, Cadeirydd y rhaglen
datblygu o ran yr angen i ystyried
Tir y Goron; ·
Ei fod yn anhebygol y byddai rheolaeth y Parciau Cenedlaethol a’r AHNEau yn
uno ond fe
ystyrir rhoi un brand ymbarel ar draws y ddau ddynodiad; ·
Ni ragwelir
newid deddfwriaeth yn y tymor byr/canolig; ·
Bod casgliadau’r
rhaglen ddatblygu yn debyg i’r
hyn a nodwyd yn adroddiad yr
Adolygiad o Dirweddau Dynodedig. PENDERFYNWYD: (i)
derbyn yr adroddiad; (ii)
bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn anfon neges i Arglwydd Dafydd Ellis-Thomas, Cadeirydd y rhaglen datblygu o ran yr angen i ystyried
Tir y Goron. |
|
CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD GWYNEDD A MÔN 2011-26 PDF 306 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad
ar broses mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn 2011-26. Nododd y trafodwyd y polisïau perthnasol i’r Ardal o Harddwch
o’r Cynllun Adnau Drafft yng
nghyfarfod y Cyd-Bwyllgor ar 25 Mawrth 2015 ac fe anfonwyd ymateb
y Cyd-Bwyllgor i’r ymgynghoriad i’r Uned Polisi Cynllunio
ar y Cyd. Adroddwyd mai’r cam nesaf yn y broses byddai cynnal Archwiliad Annibynnol gyda 2 Arolygydd annibynnol yn ystyried yr
holl wrthwynebiadau oedd heb eu
datrys. Nodwyd yr ymdrinnir â’r sylwadau trwy
drefn ysgrifenedig neu wrandawiad, yn ddibynnol ar
ddymuniad y rhai a gyflwynodd sylwadau. Nododd aelod y dylid cyflwyno
sylwadau’r Cyd-Bwyllgor trwy drefn o wrandawiad
gan y gellir rhoi’r achos drosodd
yn gryfach. Tywysodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yr aelodau
drwy’r atodiad a oedd yn cynnwys
manylion y sylwadau a wnaed gan y Cyd-Bwyllgor
ag ymateb swyddogion yr Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd i’r sylwadau,
ynghyd â dogfen ychwanegol a rannwyd yn ystod y cyfarfod
yn nodi’r newidiadau a wnaed i rannau perthnasol
o’r Cynllun yn dilyn yr
ymgynghoriad. Cafwyd trafodaeth ar y sylwadau ac os dylid mynd a’r
sylwadau ymlaen i wrandawiad. Nododd aelod siom bod cynifer o sylwadau ddim wedi
eu derbyn gan swyddogion yr Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd. Cyfeiriodd aelod at wybodaeth a gyflwynir gan Hanfod
yng nghyswllt effaith ar yr
Iaith Gymraeg. Nododd y dylid nodi cefnogaeth
y Cyd-Bwyllgor i’r wybodaeth a gyflwynir gan Hanfod i’r
archwiliad. Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y byddai’r gwrandawiadau yn gyhoeddus ac fe
fyddai’n anfon manylion trefniadau’r gwrandawiadau i’r aelodau. Nododd aelod fe
ddylid ystyried rhannu’r baich o ran cyflwyno’r sylwadau yn hytrach na
bod y cyfrifoldeb i gyd yn disgyn
ar y Cadeirydd. Mewn ymateb, nododd
y Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn
y byddai’n trafod y mater efo’r Cadeirydd pan ystyrir y wybodaeth i’w gyflwyno. PENDERFYNWYD: (i)
bod y Cadeirydd yn cyflwyno’r achos mewn gwrandawiad yng nghyswllt y materion canlynol: ·
Polisi ADN1 – ‘Ynni Gwynt ar y Tir’; ·
Polisi ADN2 – ‘Technoleg Ynni Adnewyddadwy Arall’ – gan
ymhelaethu ymhellach ar safbwynt y Cyd-Bwyllgor; ·
Polisi
TWR5 – ‘Safleoedd Carafanau Teithiol, Gwersylla a Llety Gwersylla Amgen dros
dro’; ·
Polisi Strategol PS16 – ‘Gwarchod a gwella'r Amgylchedd Naturiol’; ·
Polisi AMG3 – ‘Gwarchod yr Arfordir’. (ii)
bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn anfon manylion
trefniadau’r gwrandawiadau i’r aelodau. |
|
Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd Swyddog
Prosiect AHNE adroddiad oedd yn cynnwys
gwybodaeth gyffredinol am ddatblygiadau solar, gwybodaeth
am geisiadau cynllunio yn ardal Llŷn
a’r diweddaraf am y taliadau am gynhyrchu trydan trwy ddull
adnewyddol solar yn dilyn cais gan
y Cyd-Bwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf
ar 18 Tachwedd 2015. Mewn ymateb i sylwadau gan
aelodau fod rhai datblygiadau solar bychan heb eu
cynnwys, nodwyd bod yr Uned wedi
ceisio llunio rhestr o geisiadau datblygiadau solar cynhwysfawr ar gyfer y cyfnod
2000-16 ond nad
oedd bob un cais wedi ei restru.
Tynnwyd sylw mai un
fferm paneli solar a leolwyd yn yr
Ardal o Harddwch sef yn Nwyryd,
Rhoshirwaun. Nodwyd ei fod wedi ei leoli
ar dir yn
gogwyddo ar ochr a ddim ond
yn weladwy o dir uchel gan
ei fod wedi
ei sgrinio. Nododd aelod ei fod yn
annhebygol y byddai llawer o geisiadau newydd ar gyfer
y math yma o ddatblygiad gan fod y feed-in tariff yn dod i ben. Ychwanegodd yr angen i
lunio Canllaw Cynllunio Atodol i’r Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd ar gyfer
rheoli datblygiadau solar yng Ngwynedd a Môn. Mewn ymateb i sylw gan
aelod parthed datblygiadau solar o faint penodol,
nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y trafodir ceisiadau cynllunio ar gyfer
datblygiadau o’r math yma gyda’r Cadeirydd,
ac yn unol â phenderfyniad y Cyd-Bwyllgor yn ei gyfarfod
diwethaf, gall y Cadeirydd alw cyfarfod arbennig
o’r Cyd-Bwyllgor i roi sylw
penodol ar geisiadau cynllunio unigol a fyddai’n niweidio’r AHNE. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
CYNLLUN RHEOLI’R AHNE PDF 369 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad
ar y gwaith o ddiweddaru ac adolygu Cynllun Rheoli’r AHNE. Tywyswyd yr aelodau
trwy 2 bennod drafft o Ran 2 o’r cynllun rheoli sef ‘Tirlun ac Arfordir’ a ‘Mynediad, Mwynhau a Chyfrannu’ a oedd yn
atodiad i’r adroddiad. Nodwyd yr anelir i ddod a gweddill
penodau Rhan 2 o’r cynllun diwygiedig
gerbron cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor yn yr Hydref. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau
roi sylwadau, ymatebodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn i’r sylwadau fel
a ganlyn: ·
Bod cyfeiriad
at waith plwm a manganîs wedi ei
gynnwys mewn rhan arall o’r
cynllun ond fe ychwanegir cyfeiriad
at y gwaith o dan y pennawd ‘Nodweddion Arbennig’ ym mhennod
‘Tirlun ac Arfordir’; ·
Yr ymhelaethir ymhellach
o dan materion ffyrdd yr angen
i wneud man welliannau’r i’r A4417 rhwng Nefyn a Llanaelhaearn
a fyddai’n sympathetig i’r tirlun o dan
y pennawd ‘Materion Llosg’ ym mhennod
‘Tirlun ac Arfordir’; ·
Yr ychwanegir Tre’r Ceiri o dan y rhestr
o’r bryngaerau o dan y pennawd ‘Cymeriad y Tirlun’ ym mhennod ‘Tirlun
ac Arfordir’; ·
Bod cysylltiad
rhwng y Cynllun Rheoli a’r Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd a bod yr Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd bellach yn
derbyn yr angen am gyfeiriad at Gynllun Rheoli’r AHNE yn y cynllun ar
y cyd. Fe ychwanegir cyfeiriadau at y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn
y cynllun rheoli er mwyn ei
wneud yn gryfach; ·
Bod y wybodaeth a gynhwysir o ran tyrbinau gwynt o dan bolisi
TP8 yn fwriadol benagored er mwyn
gallu ymdrin â cheisiadau cynllunio yn unigol. Nodwyd
gan mai Cyngor
Gwynedd a fyddai’n mabwysiadu’r
Cynllun Rheoli y byddai’n rhaid iddo gyd-fynd efo’r
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
ond fe addasir
y cynnwys i adlewyrchu'r sylwadau a wnaed yng nghyswllt
y cynllun ar y cyd gan gyfeirio
at ddatganiad y Cyd-Bwyllgor
yng nghyswllt ceisiadau cynllunio am dyrbinau gwynt; ·
Yr edrychir ar yr opsiwn
o ddiwygio ffurf y cynllun o ran nodi’r wybodaeth gefndirol efo’i gilydd gan
fod mwy cynnil
o dan y polisïau; ·
Fe gysonir y fersiynau Cymraeg a Saesneg o ran defnydd iaith a defnyddio’r gair ‘oppose’ yn y Saesneg pan ddefnyddir gwrthsefyll yn y Gymraeg; ·
O ran polisi TP3 fe ddiwygir
y geiriad i nodi y gwrthsefyllir datblygiadau newydd arwyddocaol a fyddai’n cael effaith niweidiol
ar yr AHNE; ·
Fe gyfeirir at yr angen i
Lywodraeth Cymru weithredu ar yr
hawliau crwydro awtomatig a gynhwysir yn Neddf Cefn
Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 neu greu deddf newydd
o ran hawliau mynediad o dan y pennawd ‘Materion Llosg’ ym mhennod ‘Mynediad,
Mwynhau a Chyfrannu’ lle ymhelaethir ar effaith erydiad
arfordirol ar Lwybr yr Arfordir; ·
Fe ychwanegir
cyfeiriad at y potensial o wirfoddolwyr yn gwneud gwaith ar
lwybrau o dan y pennawd ‘Materion Llosg’ ym mhennod
‘Mynediad, Mwynhau a Chyfrannu’; · Nodir cyfeiriad penodol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |