Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Gareth Roberts ac Owain Williams, ynghyd â Gillian Walker (Cyngor Cymuned Botwnnog). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Cyfeiriodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn at ymholiad cyn cyflwyno cais
a gyflwynwyd i’r Gwasanaeth Cynllunio yng nghyswllt gosod cabanau glan y môr a
chynllun twristiaeth ar safle Mynydd Tir y Cwmwd, Llanbedrog (cais rhif
C16/1094/38/YM). Nododd bod yr Uned AHNE wedi cyflwyno sylwadau yn datgan
pryder sylweddol am y bwriad o ran yr AHNE. Nododd aelodau eu pryderon o ran y bwriad a’i effaith ar yr AHNE.
Cyfeiriodd aelod at gais cynllunio rhif C16/1226/39/LL – Castellmarch, Abersoch
a oedd gerbron y Pwyllgor Cynllunio ar 28 Tachwedd 2016 gan dynnu sylw nad oedd
cyfeiriad at yr Uned AHNE fel ymgynghorai statudol yn yr adroddiad a gyflwynir
i’r Pwyllgor. Mewn ymateb, nododd
Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn ei fod yn credu fod y safle tu allan i
ffin yr AHNE ond y byddai’n gwneud ymholiadau efo’r Gwasanaeth Cynllunio. Cyfeiriwyd at benderfyniad y Cyd-Bwyllgor yn ei gyfarfod ar 24 Mehefin
2015: “…bod trefniadau yn cael eu
gwneud i ddiwygio’r cyfansoddiad er galluogi bob Aelod Lleol i
fod yn aelod
o’r Cydbwyllgor erbyn Mai 2017.” Nodwyd gan na fyddai ffiniau etholiadol yn cael eu diwygio bellach ar gyfer
etholiad Cynghorau Lleol yn Mai 2017 fe gyflwynir adroddiad ar y mater i’r
cyfarfod nesaf. Tynnwyd sylw bod adeilad Frondeg fel rhan o’r
drefn doriadau yn cau ond nad oedd cadarnhad o ran dyddiad cau. Nodwyd y cynhelir
cyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor pan fu’r adeilad yn cau mwyaf tebygol ym Mhwllheli. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf, 2016, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion
y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2016, fel rhai cywir. |
|
YMWELWYR YN CYFRANNU Derbyn cyflwyniad gan Rhian Hughes, Arloesi Gwynedd Wledig. Cofnod: Atgoffwyd yr aelodau y derbyniwyd
cyflwyniad gan yr Uwch Swyddog
Datblygu Twristiaeth yng nghyfarfod y Cyd-Bwyllgor ar 18 Tachwedd 2015 ar gynlluniau posib i dderbyn cyfraniad
ariannol gan dwristiaid er mwyn
ei fuddsoddi mewn ardal benodol. Croesawyd Rhian Hughes (Swyddog Thematic Arloesi Gwynedd Wledig, Menter Môn) ac Alun Fôn Williams (Uwch Swyddog Datblygu Twristiaeth, Cyngor Gwynedd) i’r cyfarfod. Derbyniwyd cyflwyniad ar gynllun
peilot rhodd ymwelwyr a sefydlwyd yn ardal Eryri
gan Bartneriaeth Eryri sef Rhodd
Eryri. Nodwyd bod Menter Môn wedi
cael tendr i dreialu’r cynllun
drwy gynllun grant LEADER sydd yn ariannu
peilota prosiectau arloesol. Adroddwyd bod 25 busnes yn
rhan o’r cynllun Rhodd Eryri
ac y gobeithir y bydd rhagor yn y dyfodol. Dangoswyd ffilm fer a
oedd yn hyrwyddo
cynllun Rhodd Eryri. Nodwyd bod potensial ar gyfer
cynllun o’r fath yn ardal
Llŷn ac fe
fyddai Menter Môn yn gallu peilota’r
cynllun am oddeutu £5,000. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau, ymatebwyd fel a ganlyn: ·
Bod peilot cynllun Rhodd Eryri
yn rhedeg o fis Gorffennaf 2016 tan fis Medi 2017 er
mwyn cynnwys yr holl dymhorau.
Nodwyd y cynhelir digwyddiad ym mis
Ionawr lle cyhoeddir y cyfanswm a gasglwyd hyd yn
hyn. ·
Bod cynllun tebyg yn Ardal
y Llynnoedd yn creu incwm o oddeutu
£100,000 y flwyddyn gydag ond llefydd gwely
a brecwast a gwestai yn rhan o’r
cynllun. Nodwyd bod cynllun Rhodd Eryri
yn cynnwys atyniadau a digwyddiadau yn ogystal. ·
Bod cynllun grant LEADER yn parhau am gyfnod o 5 mlynedd felly fe
ellir aros dan ddiwedd peilot
Rhodd Eryri cyn penderfynu os am dreialu cynllun
o’r fath yn ardal Llŷn. ·
Pwysleisiwyd bod angen grŵp i redeg y peilot
ond fe
fyddai Menter Môn yn cefnogi’r grŵp
ac fe ellir cadw'r costau i
lawr gan ddefnyddio'r un brandio a thempled gwefan a grëwyd ar gyfer
Rhodd Eryri gan ei deilwra
i ardal Llŷn. ·
Nid oedd gorfodaeth i gyfrannu a’i
fod i fyny
i’r ymwelydd os am gyfrannu neu beidio. ·
Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad i’r bwriad gan fusnesau
yn Ardal Eryri ond roedd
rhai ddim yn siŵr os
oeddent eisiau bod yn rhan o’r
peilot. Gwahoddir busnesau sydd yn
rhan o’r cynllun ynghyd â busnesau sydd ddim
a’r wasg i’r digwyddiad ym mis Ionawr
ac fe obeithir
y bydd yn ysbrydoli busnesau eraill i ddod
yn rhan o’r
peilot. Diolchodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn am y diweddariad
gan nodi ei fod yn
syniad i’w ystyried a bod angen pwyso a mesur yr
oblygiadau a thrafod efo eraill megis
Tîm Llwybr yr Arfordir o ran peilota cynllun o’r fath yn
ardal Llŷn. Nododd aelod ei fod
yn syniad y dylid ei ystyried
ar ddiwedd peilot Rhodd Eryri
er mwyn asesu
ei lwyddiant. Ychwanegodd aelod y dylid derbyn
adroddiad yng nghyswllt sefydlu cynllun o’r fath
yn Llŷn. Diolchodd y Cadeirydd am y cyflwyniad gan ofyn a fyddai’n ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn yn manylu ar
weithgareddau Gŵyl Arfordir Llŷn 2016. Adroddwyd bod y Gwasanaeth AHNE wedi cydweithio efo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Forwrol Llŷn a Phlas Heli. Nodwyd bod y Gwasanaeth AHNE wedi cynnal tair taith
fel rhan o’r Ŵyl yn
ardaloedd Rhiw, Llanbedrog
a Nant Gwrtheyrn. Nodwyd y byddai’r partneriaid yn cyfarfod o fewn
yr wythnosau nesaf i drafod
Gŵyl 2017 ac fe dderbyniwyd cais gan gydlynwyr Marchnad
Cynnyrch Llŷn i fod yn
rhan o’r trafodaethau er mwyn adnabod cyfleoedd
i gydweithio. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth. |
|
CYNLLUN DATBLYGU LLEOL GWYNEDD A MÔN 2011-26 PDF 138 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad
ar y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn 2011-26. Nododd y trafodwyd y polisïau perthnasol i’r Ardal o Harddwch
o’r Cynllun Adnau Drafft yng
nghyfarfod y Cyd-Bwyllgor ar 25 Mawrth 2015 ac fe anfonwyd ymateb
y Cyd-Bwyllgor i’r ymgynghoriad i’r Uned Polisi Cynllunio
ar y Cyd. Adroddwyd bod y Cyd-Bwyllgor yn ei gyfarfod ar
13 Gorffennaf 2016 wedi penderfynu cyflwyno’r achos mewn gwrandawiad
o’r Archwiliad Annibynnol, gyda 2 Arolygydd annibynnol yn ystyried yr
holl wrthwynebiadau oedd heb eu
datrys, yng
nghyswllt y materion canlynol: ·
Polisi ADN1 – ‘Ynni
Gwynt ar y Tir’; ·
Polisi ADN2 – ‘Technoleg Ynni Adnewyddadwy Arall’; ·
Polisi TWR5 – ‘Safleoedd Carafanau Teithiol,
Gwersylla a Llety Gwersylla Amgen dros dro’; ·
Polisi Strategol PS16 – ‘Gwarchod
a gwella'r Amgylchedd Naturiol’; ·
Polisi AMG3 – ‘Gwarchod
yr Arfordir’. Nodwyd
bod y Cadeirydd wedi cynrychioli’r Cyd-Bwyllgor mewn gwrandawiad ar faterion yn
ymwneud â’r Amgylchedd Naturiol/Adeiledig a’r Economi
a’r Is-gadeirydd yn y gwrandawiad ar faterion Ynni
Adnewyddol. Nododd
y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd eu bod wedi derbyn gwrandawiad
teg wrth gyflwyno sylwadau’r Cyd-Bwyllgor. Nododd aelod ei ddiolch
i’r cyfieithydd a oedd yn
bresennol yng nghyfarfodydd y gwrandawiad gan nodi bod canmoliaeth
i safon y cyfieithu. Nododd aelod nad oedd
symudiad o ran tyrbinau gwynt yn yr
AHNE yn y gwrandawiad felly
fe ddylid sicrhau fod safbwynt
y Cyd-Bwyllgor yn cael ei nodi’n
gryf yng Nghynllun Rheoli’r AHNE. Tynnodd sylw bod astudiaethau mwy cyfredol o ran ffermydd gwynt a ffermydd solar yn nodi bod y clystyrau
gwynt a argymhellwyd gan gwmni ARUP Associates yn 2012 ddim yn
gywir oherwydd ni ddefnyddiwyd yr ardaloedd chwilio
cywir a bod symudiad tuag at ddynodi’r ardal o gwmpas Rhoslan fel yr
unig ardal yn Nwyfor ar
gyfer ffermydd solar oherwydd materion tirwedd a capasiti’r grid cenedlaethol. Mewn ymateb i sylw gan
aelod, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y byddai ymgynghoriad ar y pwyntiau gweithredu yn codi o’r
gwrandawiad yn cychwyn ym mis
Ionawr 2017 ac nad
oedd disgwyl newid mawr. Ychwanegwyd y byddai
adroddiad yr Arolygwyr yn cael
ei rhyddhau yn Mawrth 2017. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth. |
|
TIRWEDDAU'R DYFODOL CYMRU PDF 395 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi
diweddariad o ran yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd bod grŵp bychan
wedi bod yn gweithio ar dynnu
holl waith rhaglen Tirweddau’r Dyfodol Cymru at ei gilydd mewn
dogfen a fyddai’n gosod cyfeiriad at y dyfodol a mesurau ar gyfer y meysydd
gwaith. Adroddwyd bod Adroddiad Terfynol Drafft wedi ei chyhoeddi
a bod copïau ar gael i’r
aelodau gan y Gwasanaeth AHNE pe dymunent gopi. Nodwyd bod y Gweithgor a sefydlwyd wedi ystyried yr adroddiad
ac wedi dod
i’r farn ei fod yn
rhy gyffredinol ac o ganlyniad fod angen
ail-edrych arno cyn ei gyhoeddi
yn mis Ionawr
2017. Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yr anfonwyd
neges i Arglwydd Dafydd
Ellis-Thomas, Cadeirydd y rhaglen
datblygu o ran yr angen i ystyried
Tir y Goron ond ni dderbyniwyd ymateb hyd yma. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth. |
|
Y GRONFA DATBLYGU CYNALIADWY PDF 273 KB Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn yn manylu ar
sefyllfa’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy a datblygiadau ar y gweill. Nodwyd mai £55,000 oedd
swm y Gronfa ar ddechrau’r flwyddyn
ariannol bresennol gyda £173.67 yn weddill. Nododd aelodau eu pryderon
nad oedd
prosiect Cae Chwarae Aberdaron wedi hawlio'r cyfraniad
sylweddol a gynigwyd iddynt a bod amser yn brin i
ddosrannu’r arian i unrhyw brosiectau
eraill o ystyried bod angen i bob prosiect
gael ei gwblhau
a hawlio’r arian cyn diwedd Chwefror
2017. Mewn ymateb i’r pryderon,
nododd Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn y cynhelir cyfarfod efo cynrychiolwyr Cae Chwarae Aberdaron
cyn y Nadolig i gael cadarnhad o’r sefyllfa.
Nodwyd pe na fyddai’r
prosiect yn hawlio’r cyfraniad a gynigwyd nad oedd
yn pryderu o ran dosrannu’r arian i brosiectau eraill
gan y derbyniwyd ceisiadau drafft eraill eisoes ac fe barheir i
hyrwyddo’r gronfa. Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y derbynnir cadarnhad o ran swm y gronfa ar gyfer
y flwyddyn ariannol ddilynol fel arfer
yn ystod mis Ebrill. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth. |
|
CYNLLUN RHEOLI’R AHNE PDF 362 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad
ar y gwaith o ddiweddaru ac adolygu Cynllun Rheoli’r AHNE. Tywyswyd yr aelodau
trwy 2 bennod drafft o Ran 2 o’r cynllun rheoli sef ‘Iaith a Diwylliant’
a ‘Yr Amgylchedd Hanesyddol’ a oedd
yn atodiad i’r adroddiad. Nodwyd yr anelir i
ddod a gweddill penodau Rhan 2 o’r cynllun diwygiedig
gerbron cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau,
ymatebodd y swyddogion i’r sylwadau fel
a ganlyn: Iaith a Diwylliant ·
Fe nodir
yn y tabl ‘Nifer o siaradwyr Cymraeg, Cymunedau’r AHNE’ mai canrannau yw’r ffigyrau. ·
Y cynhwysir cyfeiriad at hanes yr iaith a chefndir
sefydlu Plaid Cymru. ·
Fe nodir fel pwnc llosg,
newidiadau i enwau traddodiadol tai a llefydd gyda
pholisi i ymateb. Yr Amgylchedd Hanesyddol ·
Fe ddiwygir brawddeg o dan fwyngloddio o dan y pennawd ‘Y Cyfnod Ol-Ganoloesol (1500-1800) i ddarllen ‘Dechreuodd gwaith manganîs Rhiw yn 1840 ac erbyn 1927
roedd 50 yn gweithio yno.’ ·
Croesawir derbyn nodiadau technegol a gwybodaeth ychwanegol gan gynrychiolydd Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd o ran hanes milwrol diweddar a.y.b. a gosod y wybodaeth ym mhennod
‘Yr Amgylchedd Hanesyddol’ yng nghyd-destun Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol
(Cymru) 2016. PENDERFYNWYD: (i)
derbyn yr adroddiad; (ii)
bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn diwygio’r
penodau drafft yn unol â sylwadau’r
Cyd-Bwyllgor. |