Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Plas Heli, Pwllheli, LL53 5YQ. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol cadeirydd am y flwyddyn 2017/18.

Cofnod:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd am y flwyddyn 2017-18. Nododd aelodau eu dymuniad i’r Cadeirydd presennol barhau. Eglurwyd mai blwyddyn oedd tymor Cadeirydd felly ni ellir ail-ethol.           

 

Nododd aelodau eu dymuniad i aros tan y cyfarfod nesaf i ethol Cadeirydd i roi cyfle i’r aelodau eraill nad oedd yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD ethol T. Victor Jones yn Gadeirydd am y cyfarfod yma. 

 

Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i’r cyn aelodau am eu cyfraniad i’r Cydbwyllgor a croesawodd yr aelodau newydd a oedd yn mynychu eu cyfarfod cyntaf.

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol is-gadeirydd am y flwyddyn 2017/18.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Anwen Davies, Simon Glyn a John Brynmor Hughes (Cyngor Gwynedd) ynghyd â Jina Gwyrfai (Cyngor Cymuned Llanaelhaearn), Gillian Walker (Cyfeillion Llŷn) a Wenda Williams (Cyngor Cymuned Aberdaron).

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd Gruffydd Williams (Cyngor Tref Nefyn) fuddiant personol yn eitem 8 ar y rhaglen oherwydd ei fod yn aelod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd. Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd yr ystafell yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 314 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Ebrill 2017, fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Ebrill 2017, fel rhai cywir.

 

Adroddodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn na allwyd gweithredu ar gais y Cydbwyllgor yn y cyfarfod diwethaf i’r Aelod Cabinet - Cynllunio a Rheoleiddio i ddiwygio cyfansoddiad y Cydbwyllgor i nodi y dyrennir seddi Aelodau Lleol yn unol â threfniadau Cydbwysedd Gwleidyddol y Cyngor ac i ddileu’r cymal “Aelodau Cyngor Gwynedd i gael eu cylchdroi yn dilyn etholiadau lleol”. Eglurodd o’r herwydd bod aelodau Cyngor Gwynedd ar y Cyd-Bwyllgor wedi eu cylchdroi.

 

Holodd aelod parthed adolygiad Tirweddau’r Dyfodol Cymru. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod y broses yn parhau ac fe gyflwynir adroddiad yn diweddaru’r aelodau ar yr adolygiad yn y cyfarfod nesaf.

7.

CYNLLUN RHEOLI’R AHNE pdf eicon PDF 260 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn cyflwyno Cynllun Rheoli’r AHNE diwygiedig drafft i sylw’r Cyd-Bwyllgor yn unol â’r penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod diwethaf i’w drafod cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Eglurwyd bod penodau Rhan 1 a 2 o’r cynllun wedi bod gerbron y Cyd-Bwyllgor am sylwadau dros nifer o gyfarfodydd. ’Roedd y cynllun diwygiedig cyflawn gerbron yn cynnwys y Rhaglen Weithredu sef y gweithredoedd a’r prosiectau manwl y bwriedir eu cyflawni yn ystod y blynyddoedd nesaf.

 

Gofynnwyd i’r Cyd-Bwyllgor ystyried y Cynllun Rheoli diwygiedig drafft, awgrymu newidiadau neu welliannau a derbyn y cynllun diwygiedig drafft fel sail ar gyfer ymgynghori cyhoeddus.

 

Nodwyd yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus bwriedir dychwelyd i’r Cyd-Bwyllgor gyda manylion o’r ymatebion a dderbyniwyd ac argymhellion i newid y Cynllun.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau, nodwyd y prif bwyntiau canlynol gan aelodau unigol:

·         Yr angen i ddiweddaru gwybodaeth yn y Cynllun;

·         Holodd aelod o ran oes y Cynllun, gan y nodir ei fod yn gynllun am y cyfnod 2015 i 2020 ond ni fabwysiedir tan 2017;

·         Y byddai cynnwys lluniau a graffiau yn y Cynllun yn ei fywiogi a’i wneud yn haws i’w ddarllen;

·         O ran ffigyrau twristiaeth, roedd ffigyrau 2011 STEAM wedi eu cynnwys ond bod ffigyrau 2015 ar gael. Tynnwyd sylw yn y cyfarfod diwethaf bod y ffigyrau yn gamarweiniol gan na ellir cael dadansoddiad mor fanwl;

·         Y dylid ystyried cyfeirio mwy at Lwybr yr Arfordir, roedd yn denu mwy o bobl i’r ardal ac fe fyddai cyfeirio at y llwybr yn rhoi pwysau ar yr angen i fuddsoddi mewn llwybrau eraill, er enghraifft, llwybrau cylchol;

·         Y dylid cynyddu’r cyfeiriadau yn y Cynllun at y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLL) gan gyfeirio at Bolisi AMG1 sy’n cyfeirio at Gynllun Rheoli’r AHNE;

·         Fe gyfeirir at nifer o astudiaethau yn y Cynllun, a fyddai’n bosib cynnwys llyfryddiaeth?

·         Nid oedd Botwnnog wedi ei gynnwys ar y map o’r AHNE;

·         Y dylid nodi lle trafodir tyrbinau gwynt bod y CDLL yn rhoi cyfyngder uchder o 15 medr a chynnwys crynhoad o faint o dyrbinau gwynt a dderbyniodd caniatâd cynllunio;

·         O ran planhigion ymledol, a adnabuwyd Jac y Neidiwr?

·         Pryder o ran effaith gronnol dymchwel ac adeiladu tŷ newydd gyda cheisiadau o’r fath o flaen cynllunio yn aml. Fyddai’n bosib i’r Cynllun gyfeirio at yr angen i arbed tai rhag cael eu dymchwel mewn llefydd fel Abersoch?

·         Pryder o ran effaith gronnol datblygiadau a’r angen i drafod efo perchnogion meysydd carafanau o ran y ffordd ymlaen yng nghyswllt sgrinio a chydweddu i’r ardal cyn difetha beth sy’n denu ymwelwyr i’r ardal;

·         Y dylid edrych i mewn i ‘Rollback Rights’ fel sydd yn Lloegr, yng nghyswllt llwybrau arfordir yn disgyn i’r môr gan fod y broses bresennol yng Nghymru yn hirwyntog ac fe gollir adnodd holl bwysig. Angen pwyso ar Lywodraeth Cymru;

·         Bod rhaid bod yn ofalus o ran ymestyn hawliau Llywodraeth Cymru o ran gorfodaeth ar dir arfordirol oherwydd yr effaith ar dirfeddianwyr gan gynnwys oblygiadau cyfrifoldebau atebolrwydd ac effaith cŵn yn ymyrryd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CAIS CYNLLUNIO - THE SHANTY, ABERSOCH pdf eicon PDF 409 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

 

Cofnod:

Nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod yr adroddiad yma gerbron y Cyd-Bwyllgor ar gais y Cadeirydd. Eglurwyd bod cais cynllunio 'The Shanty, Abersoch' (cais rhif C17/0159/39/LL) yn gais i ddymchwel tŷ a chodi tŷ newydd yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

Adroddodd bod y Gwasanaeth AHNE yn unol â chytundeb gwasanaeth wedi cyflwyno sylwadau ar y cais i’r Gwasanaeth Cynllunio. Tynnwyd sylw at y materion canlynol o ran ystyried yr effaith tebygol ar yr AHNE:

 

·         Lleoliad y safle ar yr arfordir yn yr AHNE

·         Pa mor weladwy yw’r safle o fannau cyhoeddus gerllaw

·         Fod adeiladau ar y safle ar hyn o bryd (heb eu rhestru)

·         Yr adeiladau eraill gerllaw (maint, dyluniad, deunyddiau)

·         Maint a dyluniad yr adeilad newydd arfaethedig

·         Y deunyddiau a fwriedir

·         Effaith posibl ar olygfeydd o’r Llwybr Arfordir uwchben y safle

 

Nododd bod y cais cynllunio wedi ei drafod mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio ar 3 Gorffennaf 2017 lle penderfynwyd gohirio penderfyniad er mwyn cynnal ymweliad safle. Tynnwyd sylw y byddai’r cais yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Cynllunio ar 25 Medi 2017 yn dilyn ymweliad safle.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau, nodwyd y prif bwyntiau canlynol gan aelodau unigol:

·         Y dyluniad ddim yn gweddu’n hanesyddol;

·         Dylid gwarchod y tŷ sydd ar y safle gan ei symud i leoliad arall oherwydd ei bwysigrwydd fel darn o hanes diweddar o’r 1950au;

·         Byddai’r tŷ bwriedig yn fwy gweledol o’r môr yn hytrach na o’r Llwybr Arfordir;

·         Pryder o ran effaith gronnol datblygiadau o’r fath ar yr ardal;

·         Byddai’r tŷ bwriedig oddeutu dwywaith ôl troed y tŷ presennol, felly’n gor-ddatblygiad o’r safle amlwg gan gael effaith weledol. Roedd Abersoch wedi colli ei gymeriad yn dilyn y ceisiadau cynllunio a ganiatawyd dros y blynyddoedd;

·         Ddim o blaid nac yn erbyn y bwriad. Nid oedd gan y Cyngor yr arian i amddiffyn apeliadau cynllunio ac roedd datblygiadau yn dod a gwaith i bobl leol. Yr angen i ystyried effaith caniatadau cynllunio i ddymchwel a chodi tŷ ar yr ardal;

·         Y bwriad yn groes i bolisïau cynllunio gan nad oedd y tŷ bwriedig yn dilyn yr un ôl troed;

·         Bod tŷ wrth ymyl y safle yn debyg i’r tŷ bwriedig;

·         Byddai caniatáu’r cais yn gosod cynsail a bod dyletswydd ar y Cyd-Bwyllgor i wrthwynebu’r cais.

 

PENDERFYNWYD cyflwyno’r sylwadau isod i sylw’r Gwasanaeth Cynllunio mewn perthynas â chais cynllunio ‘The Shanty, Abersoch’ (cais rhif C17/0159/39/LL):

 

Ø  Bod Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn yn gwrthwynebu’r cais ar sail:

·         Byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle amlwg hon gyda’r ôl troed yn sylweddol fwy na’r tŷ presennol.

·         Byddai’r datblygiad yn ymwthiol.

 

Ø  Bod y Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol yn pryderu o ran effaith gronnol datblygiadau o’r fath ar yr AHNE.

9.

ETHOL AELODAU NEWYDD I'R PANEL GRANTIAU pdf eicon PDF 378 KB

Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn yn amlinellu cefndir y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, sef ffynhonnell grant gan Lywodraeth Cymru i’r pum AHNE yng Nghymru i ddyrannu ar gyfer prosiectau cynaliadwy eu naws yn eu cymunedau.

 

Eglurodd bod ceisiadau am arian o’r Gronfa yn cael eu hasesu yn unol â meini prawf craidd, amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.

 

Nododd mai cyfanswm y Gronfa eleni oedd £55,000 i bob ardal, ac o ran AHNE Llŷn bod £32,806 yn weddill.

 

Eglurodd mai’r Uned AHNE a’r Panel Grantiau sy’n gyfrifol am weinyddu Cronfa ardal  Llŷn. Nododd bod y Panel Grantiau yn ymdrin â phenderfynu ar geisiadau grant dros £3,000.

 

Ymhelaethodd y swyddog ar rôl y Panel Grantiau, ac eglurodd fod angen ethol aelodau newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf, yn dilyn etholiadau fis Mai 2017.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed derbyn gwybodaeth o ran yr arian a ddyrannwyd eisoes, nododd Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn amlinelliad o’r prosiectau a ddyrannwyd arian o’r Gronfa eleni ac y byddai’n anfon y wybodaeth at aelodau’r Panel Grantiau.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     Derbyn yr adroddiad.

(ii)    Ethol yr aelodau canlynol i wasanaethu ar Banel Grantiau y Gronfa Datblygu Cynaliadwy am y 5 mlynedd nesaf:

Y Cynghorydd Gareth Williams, Eirian Allport, Noel Davey, John Gosling, T. Victor Jones, Morgan Jones-Parry, Sian Parri a Gruffydd Williams.