skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6NL. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol cadeirydd am y flwyddyn 2018/19.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Morgan Jones-Parry yn Gadeirydd am y flwyddyn 2018/19.

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol is-gadeirydd am y flwyddyn 2018/19.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Gareth Williams yn Is-gadeirydd am y flwyddyn 2018/19.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

John Gosling (Partneriaeth Dwristiaeth Abersoch a Llŷn), Sianelen Pleming (Cyngor Cymuned Pistyll), Sian Parri (Cyngor Cymuned Tudweiliog), Alun Price (Cyfoeth Naturiol Cymru) a Gillian Walker (Cyfeillion Llŷn).

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn drwy ei amryfusedd nad oedd yr eitem ganlynol wedi ei gynnwys ar y rhaglen.

 

Tanddaearu gwifrau trydan

 

Croesawyd Alan Jones (SP Energy Networks) i’r cyfarfod. Rhoddodd gyflwyniad ar  gynllun tanddaearu gwifrau trydan yn yr AHNE gan nodi y cynhelir cyfarfodydd diweddaru efo swyddogion yr AHNE bob 6 mis. Manylodd ar y gwaith a gwblhawyd yn ystod y cyfnod 2010-15 yn Aberdesach, Rhiw a Llithfaen a’r gwaith a gwblhawyd ac oedd yn symud yn ei flaen ers 2015 ym Mynydd Cilan, Comin Mynytho, Sarn Bach, Dwyros a Bryncynan. Nododd bod cyllideb o £8 miliwn wedi ei glustnodi ar gyfer y 3 AHNE a’r Parciau Cenedlaethol yn y gogledd am y cyfnod 2015-22 a bod angen adnabod prosiectau ar gyfer y dyfodol.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan aelodau yng nghyswllt tirlithriad o ganlyniad i erydiad dŵr yn dilyn cwblhau gwaith tanddaearu yn Nant Gwrtheyrn a diogelwch y gwaith adfer, nododd cynrychiolydd SP Energy Networks y byddai’n edrych i mewn i’r mater.

 

Holodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn am y gwaith tanddaearu ar Gomin Mynytho. Mewn ymateb, nododd cynrychiolydd SP Energy Networks y byddai’r gwaith yn mynd yn ei flaen unwaith ceir hawl gan y tirfeddiannwr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt pwy oedd yn penderfynu o ran y safleoedd y gwneir gwaith tanddaearu gwifrau trydan, eglurodd cynrychiolydd SP Energy Networks bod swyddogion yr AHNE yn cynnig safleoedd posib a’i fod ef yn ystyried ymarferoldeb tanddaearu gwifrau trydan yn y safleoedd posib. Ymhelaethodd bod gweithredu ar safleoedd oedd yn ymarferol bosib i wneud y gwaith yn ddibynnol ar dderbyn hawl gan y tirfeddiannwr. Eglurodd bod tirfeddiannwr yn derbyn taliad way-leave am wifrau trydan uwchben y tir oherwydd eu heffaith ar waith amaethyddol o ddydd i ddydd a bod taliad llai ar gyfer gwifrau trydan wedi eu tanddaearu. Eglurodd ymhellach bod tirfeddiannwr yn gallu rhoi rhybudd i derfynu’r hawl os nad oedd hawddfraint ar y tir yn weithredol. Nododd mai anghyffredin oedd y defnydd o hawddfraint ar dir gan ei fod yn broses anoddach.

 

Holodd aelod faint oedd cyfanswm hyd gwifrau trydan uwchben y tir yn yr AHNE. Mewn ymateb, nododd cynrychiolydd SP Energy Networks mai cyfran fechan o’r rhwydwaith cyflawn oedd uwchben y tir. Ychwanegodd y canolbwyntir ar yr ardaloedd mwyaf ymarferol o ran tanddaearu gwifrau trydan.

 

Tynnodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn sylw bod erthygl wedi ei gynnwys yng nghylchgrawn ‘Llygad Llŷn’ ar y gwaith a gwblhawyd yng Nghilan.

 

Cyfeiriodd aelod at newidydd trydan nad oedd bellach yn weithredol ger cyn waith carthffosiaeth Nefyn a holodd o ran ei dynnu oddi yno. Nododd cynrychiolydd SP Energy Networks y byddai’n edrych i mewn i’r mater.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolydd SP Energy Networks am ei gyflwyniad.

 

Nododd cynrychiolydd SP Energy Networks y byddai’n cysylltu efo Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn o ran safleoedd posib ar gyfer tanddaearu gwifrau trydan.

 

Pencampwr Cefn Gwlad

 

Nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod y Cynghorydd Angela Russell wedi ei phenodi yn Bencampwr Cefn Gwlad gan Gyngor Gwynedd.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 128 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2017, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Cyd-Bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2017, fel rhai cywir.

7.

CYNLLUN RHEOLI’R AHNE pdf eicon PDF 55 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yr adroddiad, gan nodi bod Cynllun Rheoli’r AHNE wedi ei fabwysiadu yn ffurfiol gan y Cyngor trwy drefn ddirprwyedig yr Aelod Cabinet Amgylchedd.

 

Cyfeiriodd at yr adolygiad nesaf o’r Cynllun Rheoli, gan nodi bod Cyfoeth Naturiol Cymru, a oedd yn cydgordio gwaith cenedlaethol ar yr AHNE, wedi dechrau paratoi canllawiau newydd ar gyfer yr adolygiad nesaf. Nododd ei fod yn ymddangos o ganlyniad i ddatblygiadau diweddar o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a’r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, y byddai rhai newidiadau i’r broses a’i fod yn debygol y byddai statws y cynlluniau yn uwch.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o ran statws Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) yng Nghymru yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd, nododd Rheolwr Cefn Gwlad a Mynediad eu bod wedi eu dynodi o dan gyfraith gwlad.

 

Holodd aelod yng nghyswllt cyhoeddi’r Cynllun Rheoli. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod y Cynllun wedi ei anfon i’r argraffdy i’w brintio, gan egluro y byddai copïau caled ar gael yn fuan a fe gyhoeddir fersiwn electroneg ar y we.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.

8.

MATERION CENEDLAETHOL pdf eicon PDF 59 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yr adroddiad, a oedd yn rhoi diweddariad o ran yr adolygiad mewn perthynas â’r tirweddau dynodedig (Parciau Cenedlaethol a’r AHNE) yng Nghymru.

 

Nododd bod Hannah Blythyn AC wedi ei phenodi yn Weinidog dros yr Amgylchedd yn Nhachwedd 2017 a’i bod hi bellach efo cyfrifoldeb dros dirweddau dynodedig Cymru. Adroddodd bod y gweinidog wedi cadarnhau mewn datganiad i’r Senedd ar 13 Mawrth 2018 bod Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i’r tirweddau dynodedig. Ychwanegodd ei bod wedi nodi bod cydraddoldeb rhwng yr AHNE â’r Parciau Cenedlaethol o ran polisi cynllunio ond nad oedd hynny yn wir o ran statws, proffil ac adnoddau. Disgwylir cyhoeddiad pellach yn Sioe Frenhinol Cymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt cyllid pellach i’r AHNE, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn nad oedd cyfeiriad at gyllid pellach ond bod sylwadau’r gweinidog yn gadarnhaol a gobeithir y byddai mwy o statws i’r AHNE.

 

Nododd aelod y byddai’n anodd gwireddu heb gyllid pellach. Holodd aelod os dylid ystyried nodi ffigwr i Lywodraeth Cymru o ran faint o gyllid yr oedd angen i wireddu. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn os byddai statws yr AHNE yn cael ei uchafu i fod yr un statws a’r Parciau Cenedlaethol disgwylir i Lywodraeth Cymru amlinellu o ran gweithdrefnau ac yna edrych ar yr adnoddau ar gyfer gwireddu. Ychwanegodd bod trafodaethau yn cael eu cynnal rhwng y 5 AHNE, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Gymdeithas dros AHNE er mwyn cyflwyno cynnig gerbron Llywodraeth Cymru yn fuan.

 

Nododd aelod bod datganiad y gweinidog yn un cyffrous, cyn y datganiad roedd yn aneglur iawn o ran statws ac amcanion yr AHNE. Ychwanegodd ei bryder na fyddai argymhellion yr Athro Terry Marsden, yn ei adroddiad ‘Tirweddau Cenedlaethol – Gwireddu eu Potensial’, yn cael eu gweithredu. Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod adroddiad yr Athro Terry Marsden yn cynnwys cyfanswm o 69 argymhelliad, roedd yn obeithiol y byddai’r argymhellion pwysicaf yn cael eu gweithredu.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.

9.

MATERION CYNLLUNIO pdf eicon PDF 67 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn gwybyddu’r aelodau am 3 apêl cynllunio am ddatblygiadau yn yr AHNE, sef:

·         The Shanty, Abersoch (Cais Cynllunio Rhif C17/1024/39/LL) – caniatawyd yr apêl;

·         Ger Glynllifon, Llanbedrog (Cais Cynllunio Rhif C17/0725/38/AM) – gwrthodwyd yr apêl;

·         Coed ger Gorse Bank, Abersoch (Cais Rhif C17/1185/39/CC) – gwrthodwyd yr apêl.

 

Cyfeiriodd aelod at Bolisi TWR2 ‘Llety Gwyliau’ o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl), gan nodi ei bryder o ran y cynnydd yn y nifer o geisiadau i drosi adeiladau yn llety gwyliau. Nododd ei fod yn rhan o’r polisi i ganiatáu ceisiadau o’r fath fel rhan o ehangu busnes. Ymhelaethodd ei fod yn anodd gwneud ymchwil o ran gorddarpariaeth o lety hunanarlwyo yn yr ardal a bod y polisi yn benagored gan nad oedd yn nodi canran. Nododd ei fod wedi gofyn am adolygiad o’r polisi.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn ei fod yn rhannu’r pryder, gan fod y polisi blaenorol oedd yn cyfeirio at adeiladau traddodiadol wedi ei wanhau.

 

Cyfeiriodd aelod at apêl ‘Coed ger Gorse Bank, Abersoch’, gan nodi bod coed tebyg wedi eu tynnu dros y ffordd i Whitehouse, Abersoch a coed wedi eu tocio ger y cwrs golff. Pwysleisiodd bod angen cadw golwg ar achosion o’r fath.

 

Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y byddai’n crybwyll yr uchod gyda’r Uned Bioamrywiaeth ond os nad oedd gorchymyn gwarchodaeth ar y coed nid oedd posib ei atal.

 

Nododd aelod bod y polisïau cynllunio yn gadael pobl ifanc yr ardal i lawr gyda cheisiadau cynllunio i ail-wneud adeiladau cerrig yn cael eu gwrthod. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y byddai’n cyfleu’r sylwadau i’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd. Nododd aelod bod y mater wedi codi yng nghyfarfod y Panel Polisi Cynllunio ar y Cyd.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.

10.

PROSIECTAU pdf eicon PDF 77 KB

Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynodd Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn adroddiad ar waith y Gwasanaeth AHNE. Rhoddwyd diweddariad ar y prosiectau canlynol:

·         Arolwg Tiroedd Comin

·         Rhywogaethau Ymledol

·         Hyfforddiant Sgiliau Gwledig

·         Gwella Mynediad

·         Awyr Dywyll.

 

Holodd aelod os oedd hawl mynd efo beic modur dros dir comin. Nododd aelod mai Cyfoeth Naturiol Cymru oedd yn gyfrifol am eu rheoli. Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, eglurodd Rheolwr Cefn Gwlad a Mynediad mai mynediad ar droed yn unig oedd ar dir agored ond bod hawliau eraill mewn rhai llefydd.

 

Cyfeiriodd aelod at Foel Saethon lle'r oedd bryngaer Oes yr Haearn. Nododd ei fod yn dir agored ond nid oedd llwybr cyhoeddus. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn ei fod wedi ceisio cael hawl ar gyfer Mynydd Ystum ond nid oedd y tirfeddiannwr yn rhy gefnogol. Nododd y byddai’n ceisio adnabod a chysylltu efo’r tirfeddiannwr yn yr achos yma.

 

Holodd aelod pam fod llwybr rhif 12 yng Nghilan wedi ei ddewis ar gyfer gwella mynediad. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod y llwybr wedi ei ddewis mewn ymgynghoriad â Uwch Swyddog Hawliau Tramwy (Dwyfor).

 

Nododd aelod bod Cyngor Ynys Môn wedi derbyn arian grant i drin y planhigyn ymledol Jac y Neidiwr. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn ei fod wedi siarad efo’r Swyddog AHNE yng Nghyngor Ynys Môn a’i fod wedi crybwyll mynd ato i drafod. Eglurodd bod gwaith o ran gwaredu Canclwm Siapaneaidd yn yr AHNE yn cael ei ariannu gan arian bloc grant Cyfoeth Naturiol Cymru a bod cryn waith mapio i wneud cyn cychwyn ar y gwaith.

 

Cyfeiriodd aelod at y llwybr oedd yn cychwyn o Gefn Morfa ac yn mynd o Blas yng Ngheidio i Geidio, gan nodi ei fod wedi gordyfu. Nododd ei bod wedi cysylltu efo Uwch Swyddog Hawliau Tramwy (Dwyfor). Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y byddai’n cysylltu efo Uwch Swyddog Hawliau Tramwy (Dwyfor) yng nghylch y mater.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.