skip to main content

Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Canolfan Fenter Congl Meinciau, Botwnnog

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Glyn Roberts yn gadeirydd y cyd-bwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd T.Victor Jones yn is-gadeirydd y cyd-bwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20.

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Y Cynghorwyr Simon Glyn a John Brynmor Hughes (Cyngor Gwynedd) a’r Cynghorydd Angela Russell (Pencampwr Cefn Gwlad Cyngor Gwynedd) ynghyd ag Andy Godber (Ymddiriedolaeth Genedlaethol), Morgan Jones-Parry (Fforwm Mynediad Arfon a Dwyfor), John Gosling (Partneriaeth Dwristiaeth Abersoch a Llŷn) ac Andrew Davidson (Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

 

Cofnod:

Ail-ddatblygu cytiau glan môr

 

Nododd y Swyddog AHNE Llŷn fod cynrychiolydd Partneriaeth Dwristiaeth Abersoch a Llŷn, oedd yn methu bod yn bresennol yn y cyfarfod, wedi gofyn iddo godi mater ar ei ran mewn perthynas ag ail-ddatblygu cwt glan môr yn Abersoch.  Eglurwyd bod yr aelod wedi datgan pryder bod y cwt newydd yn fwy na’r hen un a gafodd ei ddymchwel, ac wedi gofyn i’r swyddogion fynd i gael golwg arno.  Nodwyd, fodd bynnag, er bod caniatâd cynllunio i ail-ddatblygu’r cwt wedi ei wrthod yn wreiddiol, bod y cais wedi’i ganiatáu’n ddiweddarach drwy apêl.  Hysbyswyd y cynrychiolydd bod y drefn wedi’i dilyn yn yr achos hwn, ond cydnabyddid bod yna bryder cyffredinol bod caniatâd cynllunio yn cael ei roi yn weddol gyson i ddatblygiadau o’r math.

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Swyddog AHNE Llŷn, gan fod yr apêl wedi’i chaniatáu yn yr achos hwn, nad oedd yna fawr ddim y gellid ei wneud am y sefyllfa.

 

Nododd aelod nad oedd y broblem hon wedi’i chyfyngu i gytiau glan môr yn unig a bod yna lawer o dai sylweddol o ran maint yn cael eu caniatáu ar draws y cymunedau.

 

Nododd aelod mai cymharol ychydig geisiadau oedd yn dod gerbron Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd bellach gan fod gan y swyddogion lawer mwy o hawliau dirprwyedig i wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.  Nododd fod ceisiadau am dai gan bobl leol yn cael eu gwrthod ar y sail nad ydynt yn dai fforddiadwy, ond roedd sefyllfa’r farchnad dai mewn llefydd fel Abersoch a Llanengan yn golygu nad oedd unrhyw dai yn fforddiadwy yno.  Pwysleisiodd fod rhaid pwyso ar y drefn gynllunio neu ni fyddai yna bobl Cymraeg yn byw yn yr ardaloedd hyn.

 

Nododd aelod fod y sgaffaldiau sy’n ffurfio sylfaen y cytiau glan môr yn Nefyn yn cael eu gadael yno trwy gydol y flwyddyn ac yn creu blerwch.

 

Nododd y Swyddog AHNE Llŷn y gellid rhoi sylw i’r materion hyn wrth adolygu’r cynllun rheoli.

 

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 120 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2019, fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Cyd-bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf, 2019, fel rhai cywir.

 

7.

MATERION CENEDLAETHOL pdf eicon PDF 79 KB

Cyflwyno adroddiad Swyddog AHNE Llŷn.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog AHNE Llŷn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys gwybodaeth bellach am y sefyllfa genedlaethol mewn perthynas â’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru.

 

Rhoddwyd diweddariad ar y datblygiadau canlynol:-

 

·         Amcanion a themâu blaenoriaeth y ddogfen ‘Cydnerth a Gwerthfawr – Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol’.

·         Cynigion ar gyfer cynyddu cydraddoldeb gyda’r Parciau Cenedlaethol o ran statws, proffil ac adnoddau.

·         Cynigion ar gyfer sefydlu Partneriaeth Tirlun Cenedlaethol Cymru.

·         Penodiad Rheolwr Datblygu Cymru i gynorthwyo Partneriaethau AHNE i weithredu blaenoriaethau Cydnerth a Gwerthfawr Llywodraeth Cymru.

·         Y cynigion yn deillio o’r adolygiad o’r tirweddau dynodedig yn Lloegr (“Glover Review”) a’r prif gasgliad bod potensial i’r Ardaloedd Dynodedig wneud llawer mwy drwy gydweithio fel teulu o dan sefydliad newydd: “Tirweddau Cenedlaethol”.

 

Nodwyd hefyd bod Unedau AHNE wedi cael cyfle yn ystod y blynyddoedd diweddar i roi cynigion am gyllid uniongyrchol i Lywodraeth Cymru er ariannu prosiectau a bod gwybodaeth am rai o’r prosiectau a ariannwyd gyda’r arian yma wedi ei chynnwys yn yr adroddiad ar Brosiectau’r Uned AHNE.

 

Yn dilyn ymlaen o’r drafodaeth o dan eitem 6 uchod, nododd y Swyddog AHNE Llŷn fod cynigion yr adolygiad o’r tirweddau dynodedig yn Lloegr yn cyfeirio at roi mwy o ddylanwad i’r AHNE’au gyda materion cynllunio.  Byddai’n rhaid cadw golwg ar y sefyllfa yma ac adrodd yn ôl i’r cyfarfodydd nesaf.

 

O safbwynt yr ariannu, nodwyd mai £59,000 a ddyrannwyd i AHNE Llŷn allan o’r £4m ar gyfer ardaloedd dynodedig, tra bo Môn wedi derbyn £350,000.  Holwyd beth oedd y meini prawf, sut bod Môn wedi llwyddo i ddenu swm sylweddol uwch a sut roedd y Llywodraeth yn penderfynu ar y dyraniad.

 

Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog AHNE y derbyniodd yr Uned wahoddiad byr rybudd i roi cynigion i mewn.  Ychydig o ganllawiau a dderbyniwyd, ac eithrio nodi bod yr arian ar gyfer prosiectau cyfalaf yn unig.  Roedd hynny’n cyfyngu ar yr Uned o safbwynt cynlluniau, a hefyd o ran y capasiti i wario’r arian erbyn diwedd Mawrth 2020.  Gan hynny, cyflwynwyd cynigion ar sail yr hyn fyddai wedi bod yn bosib’ ei gyflawni yn yr amser oedd ar gael.  Eglurwyd bod Môn wedi cyflwyno cais sylweddol fwy.  Nid oedd yn amlwg sut y byddent yn llwyddo i wario’r arian erbyn diwedd Mawrth y flwyddyn nesaf. 

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod, cytunwyd y byddai’n fuddiol cael rhywfaint o gynlluniau yn barod ymlaen llaw fel bod modd ymgeisio am ragor o arian ar yr adeg briodol.

 

Holwyd oedd modd trosglwyddo rhywfaint o arian Interreg ar gyfer y cynlluniau hyn, ond nodwyd na fyddai hynny’n bosib’ gan mai prosiectau refeniw yn unig a ganiateir.

 

          PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.

 

8.

CYNLLUN RHEOLI’R AHNE pdf eicon PDF 69 KB

Cyflwyno adroddiad Swyddog AHNE Llŷn.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog AHNE Llŷn yr adroddiad, a oedd yn amlygu bod angen dechrau adolygu Cynllun Rheoli’r AHNE a’r asesiadau amgylcheddol cysylltiol yn fuan, gan fod cyfnod gweithredu’r cynllun presennol yn dod i ben yn 2020.

 

Manylwyd ar gynnydd y gwaith hyd yma a’r amserlen ddrafft.

 

Awgrymwyd bod y bwriad i adolygu’r cynllun mewn blwyddyn yn uchelgeisiol iawn o ystyried bod yr adolygiad diwethaf wedi cymryd 4 blynedd. 

 

Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog AHNE Llŷn y byddai yna lai o newidiadau y tro yma.  Ad-drefnwyd y cynllun yn sylweddol y tro diwethaf ac hefyd fe osodwyd gwaith allan i ymgynghorwyr.  Hefyd, y tro hwn, gobeithid y byddai’r cydweithio agosach gyda AHNE’au Bryniau Clwyd a Môn o gymorth i symud ymlaen yn gynt.

 

Awgrymodd aelod fod adolygu bob 5 mlynedd yn defnyddio llawer o adnoddau’r AHNE.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog AHNE Llŷn fod y Ddeddf Cefn Gwlad yn nodi bod rhaid cynnal adolygiad o’r cynllun bob 5 mlynedd, ac y byddai’n anodd newid y sefyllfa heb newid y ddeddf.

 

Holwyd, yn dilyn o’r gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan y Llywodraeth i effaith tai haf ar gyflenwad tai i bobl leol mewn ardaloedd gwledig, oedd modd rhoi mewnbwn o ran y sefyllfa tai haf yn yr AHNE. 

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Swyddog AHNE Llŷn y gellid yn bendant edrych ar hynny wrth gynnal yr adolygiad gan y byddai hynny’n dystiolaeth gefndirol ar gyfer y cynllun.

 

          PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.

 

9.

PROSIECTAU'R UNED ANHE pdf eicon PDF 74 KB

Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn adroddiad ar waith y Gwasanaeth AHNE. Rhoddwyd diweddariad ar y prosiectau canlynol:

 

·        Hyfforddiant Sgiliau Gwledig

·        Sbwriel Morol

·        Rhywogaethau Ymledol

·        Tanddaearu Gwifrau Trydan

·        Cynnal Asedau – Cyfleon Gwirfoddoli

·        Cystadleuaeth Ffotograffiaeth AHNE

·        Prosiectau Cyfalaf – Cyllid Llywodraeth Cymru, sef:-

-       Eglwys Carnguwch - gwaith trwsio ac ail-osod giatiau a gosod arwyddion i gyfeirio o gyfeiriad Llwyndyrys

-       Gwaith adnewyddu wal derfyn Cae’r Nant a chreu bwlch fel lle pasio i gerbydau

-       Gwella Llwybrau Cilan

-       Gwella Mynediad i Dir Mynediad Bwlch Mawr, Gyrn Ddu, Gyrn Goch

 

Dosbarthwyd ychydig gopïau o lyfryn gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ynglŷn â phrosiect ffermio “Talu am Ganlyniadau” ym Mhorth Gwylan, a nododd y Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn fod ganddi fwy o gopïau yn y swyddfa petai’r rhywun yn dymuno copi.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Gan gyfeirio at y bwriad i osod tap dŵr cyhoeddus ger y toiledau yn Abersoch, nododd cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru fod modd darparu paneli wrth ymyl pwyntiau ail-lenwi yn egluro pam bod angen lleihau’r defnydd o blastigion.  Awgrymwyd bod y Swyddog AHNE Llŷn yn trafod ymhellach gyda’r cynrychiolydd.

·         Nododd aelod fod Jac y Neidiwr yn fwy o broblem na Changlwm Siapan gan ei fod yn lledaenu yn llawer cynt.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog AHNE Llŷn y byddai’r Uned yn dal i fynd ar ôl hyn, ond bod ‘Himalayan Balsam’ yn broblem fawr yn yr ardal bellach.  Nododd fod y planhigyn wedi ymledu o’r mynydd yn Nefyn i lawr i’r traeth ac efallai y byddai’n brosiect da i ymgeisio am arian ar ei gyfer gan Lywodraeth Cymru.  Ychwanegodd fod llawer o waith wedi’i wneud ar hyn ym Môn a bod y bartneriaeth ‘Himalayan Balsam’ yno yn mapio’r ardaloedd hynny lle mae’r planhigyn yn tyfu.  Awgrymwyd cysylltu â’r bartneriaeth ym Môn i weld oes modd ymestyn y gwaith mapio i gynnwys Llŷn hefyd.

·         Nododd aelod nad oedd yna unrhyw beth ar wefan yr AHNE ynglŷn â’r Prosiect Awyr Dywyll, er bo cyfeiriad at hyn yn aml ar y gwefannau cymdeithasol.  Mynegwyd dymuniad i weld llawer o ddigwyddiadau’n cymryd lle unwaith y byddai’r Swyddog Prosiect yn ôl yn ei gwaith.

·         Holodd aelod a fyddai’n bosibcael prosiect i gael gwared â’r coed helyg ar Garn Boduan gan fod perygl iddynt ymledu ac amharu ar yr olion yno.  Awgrymodd y Swyddog AHNE Llŷn y gellid cynnwys hyn yn y cynllun rheoli.  Nododd yr aelod y byddai’n pasio manylion cyswllt y perchennog ymlaen i’r swyddog.

·         Nododd aelod fod Scottish Power wedi uwchraddio un o’u llinellau yn Sarn Bach a holwyd a fyddai’n bosibtrafod gyda hwy ymlaen llaw i weld a fyddai modd eu tanddaearu.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog AHNE Llŷn fod Scottish Power yn fwy awyddus i danddaearu mewn rhai llefydd nag eraill, a chyfeiriodd at dair o linellau y bwriedir eu tanddaearu y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Y GRONFA DATBLYGU CYNALIADWY pdf eicon PDF 63 KB

Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn a oedd yn manylu ar sefyllfa’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy.  Nodwyd, o’r £55,000 oedd ar gael i’r Gronfa ar ddechrau blwyddyn ariannol 2019/20, bod y cyfan eisoes wedi ei glustnodi.

 

Nodwyd bod prosiect Ffynhonnau – Cadwch Gymru’n Daclus wedi ei dynnu’n ôl oherwydd diffyg arian cyfatebol ac y defnyddiwyd y tanwariant i ariannu’r prosiectau a ganlyn:-

 

·         Sgyrsiau Hanes Lleol Bryncroes

·         Arwyddion Newydd Eglwysi Bro Madryn

·         Parêd Dewi Sant, Pwllheli

·         Be Nawn Ni Heddiw?

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.