Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2023/24.

Penderfyniad:

Penderfynwyd ethol  Sian Parri (Cyngor Cymuned Tudweiliog) yn gadeirydd ar gyfer y cyfnod 2023/24.

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol Sian Parri (Cyngor Cymuned Tudweiliog) yn Gadeirydd ar gyfer y cyfnod 2023/24.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24.

Penderfyniad:

Penderfynwyd ethol  T Victor Jones yn Is-gadeirydd ar gyfer y cyfnod 2023/24.

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol T. Victor Jones yn Is-gadeirydd ar gyfer y cyfnod 2023/24.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

To receive apologies for absence.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiadau o ymddiheuriad gan Einir Wyn (Cyngor Cymuned Llanengan), Euros Jones (FWAG Cymru), Cynghorydd Dafydd Davies, Eirian Allport (Cyngor Cymuned Clynnog Fawr), Gillian Walker (Cyfeillion Llŷn) a Kevin Roberts (Warden Cefn Gwlad – AHNE Llŷn)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

            To receive any declaration of personal interest.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiadau o fuddiant personol gan Morgan Jones-Parry a Sianelen Pleming ar gyfer Eitem 9 gan fod Canolfan Llithfaen yn cael ei drafod. Nid oeddent o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a ni wnaethant adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

 

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Gareth Tudor Jones ar gyfer Eitem 8 gan ei fod yn un o gyfarwyddwyr ‘O Ddrws i Ddrws’, sydd wedi derbyn arian gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a ni wnaeth adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

 

5.

MATERION BRYS

To note any items that are a matter of urgency in the view of the Chairman for consideration.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 165 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Cydbwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2023, fel rhai cywir.

 

7.

YR AWYR DYWYLL pdf eicon PDF 86 KB

Cyflwyno gwybodaeth ar ymgyrch statws ‘Awyr Dywyll’ ardal Aberdaron.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn  er gwybodaeth i’r Aelodau, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod trafodaethau wedi codi yng nghyfarfod 29 Mawrth 2023 o’r Pwyllgor hwn ynglŷn ag ymgeisio am ddynodiad ‘Awyr Dywyll’ i’r ardal AHNE, yn dilyn llwyddiant Ynys Enlli i dderbyn y dynodiad o ‘Noddfa Awyr Dywyll’ yn ddiweddar. Nodwyd mai canlyniad y trafodaethau hynny oedd ystyried ymgeisio am ddynodiad i ardal Aberdaron o’r AHNE os oedd y gymuned yn cefnogi hynny.

 

Diweddarwyd bod swyddogion wedi cynnal trafodaethau gyda Chyngor Cymuned Aberdaron yn ystod eu cyfarfod ym mis Gorffennaf.  Cadarnhawyd bod y gymuned yn awyddus i ymgeisio am y dynodiad ‘Awyr Dywyll’ ac felly mae’r gwaith paratoi ar gyfer y cais wedi cychwyn. Pwysleisiwyd bydd y cais am ddynodiad Awyr Dywyll yn berthnasol i ffiniau ardal Cyngor Cymuned Aberdaron yn unig.

 

Cadarnhawyd bod swyddogion yn cydweithio gyda Prosiect NOS er mwyn casglu data i adeiladu cais am ddynodiad Awyr Dywyll. Amcangyfrifwyd byddai’r gwaith hwn yn cymryd rhwng 1 a 2 mlynedd i’w gwblhau cyn derbyn dynodiad. Manylwyd bod swyddogion hefyd wedi bod yn mesur tywyllwch yr awyr yn ddiweddar gan ddefnyddio ‘Sky Quality Meter’ ar nosweithiau clir di-leuad. Cadarnhawyd y bwriedir gwneud hyn mewn gwahanol rannau o ardal y dynodiad dwywaith y flwyddyn.

 

Eglurwyd bod swyddogion yn cydweithio gyda AHNEau eraill yn ogystal â’r Parc Cenedlaethol drwy gydol y broses. Manylwyd bod swyddogion wedi bod yn cydweithio gyda chwmni Ridge er mwyn adnabod ardaloedd o fewn ardal AHNE Llŷn ble mae llawer o lygredd golau er mwyn ceisio cynorthwyo datrysiadau i’r llygredd hwnnw gyda’r sefydliadau. Esboniwyd bod y cwmni wedi edrych ar oddeutu 20 sefydliad o fewn yr AHNE ble mae llygredd golau a nodwyd mai’r prif sefydliadau sydd wedi cael eu blaenoriaethau yw:

 

·       Nant Gwrtheyrn

·       Clwb Golff Nefyn

·       Neuadd Sarn Mellteyrn

·       Ysgol Crud y Werin, Aberdaron

 

Eglurwyd nad ydi’r lleoliadau sydd wedi cael eu cynnwys gan gwmni Ridge yn cynnwys anheddau preswyl, ail dai neu dai gwyliau oherwydd nid oes gan y Cyngor awdurdod i’w reoli. Er hyn, nodwyd bod swyddogion yn cael trafodaethau gyda’r adran gynllunio er mwyn ystyried gosod amodau ar dai newydd i geisio datrys y broblem o lygredd golau.

 

          PENDERFYNIAD

 

   Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

8.

Y GRONFA DATBLYGU CYNALIADWY pdf eicon PDF 83 KB

Cyflwyno gwybodaeth i’r aelodau am sefyllfa presennol y Gronfa Datblygu Cynaliadwy.

Penderfyniad:

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
  2. Etholwyd y Cynghorydd John Brynmor Hughes yn aelod o Banel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, wedi i un Aelod gamu i lawr.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn  er gwybodaeth i’r Aelodau, a thynnwyd sylw’n fras i’r prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr aelodau bod £100,000 ar gael ar gyfer Cronfa'r Datblygiadau Cynaliadwy ar ddechrau’r flwyddyn ariannol gyfredol. Cadarnhawyd mai’r prosiectau canlynol sydd wedi derbyn cefnogaeth y Gronfa hyd yma eleni:

 

·       Amgueddfa Forwrol Llŷn

·       Bws Fflecsi Llŷn

·       Balchder a chelf Llŷn

·       Storws Enlli

·       Diogelu Enwau Llanengan

·       Llyfrgell Pethau Llŷn

·       Gŵyl R S Thomas

·       Arddangosfa Melinau Gwlân Llŷn

·       Arddangosfa Berwyn Jones

·       Cae Chwarae Rhydyclafdy

·       Menter Raber

 

Eglurwyd bod £4,833 yn weddill o’r Gronfa. Nodwyd bod modd derbyn ceisiadau am yr arian hwn, ond bod unrhyw brosiect sy’n derbyn yr arian yn ei ddefnyddio cyn diwedd mis Mawrth 2024. Nodwyd bydd adroddiadau cyffelyb yn y dyfodol yn cynnwys prosiectau sydd wedi derbyn cefnogaeth y Gronfa yn y flwyddyn ariannol gyfredol a’r ddwy flynedd flaenorol er mwyn cael darlun o’r mathau o brosiectau sy’n ymgeisio am ddyraniad o’r gyllideb.

 

Tynnwyd sylw at brosiectau ‘Storws Enlli’ a ‘Bws Fflecsi’ yn benodol oherwydd eu bod wedi derbyn £30,000 yr un o ddyraniad y Gronfa. Darparwyd diweddariad ar y prosiectau gan nodi eu bod wedi bod yn llwyddiant mawr, gyda’r Storws wedi cael ei adfer i safon ardderchog a’r Bws Fflecsi wedi cludo mwy o deithwyr eleni.

 

Sicrhawyd bod cyllideb o £100,000 wedi cael ei gadarnhau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25 ac anogwyd yr aelodau i hysbysu cymunedau Llŷn o’r cyfleon mae’r Gronfa yn ei ddarparu. Atgoffwyd yr aelodau bod gwybodaeth ychwanegol am y Gronfa ar gael i’r cyhoedd ar wefan yr AHNE.

 

Nodwyd bod canllawiau mwyaf diweddar Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn rhoi blaenoriaeth i brosiectau sydd yn gyd fynd â’r themâu ‘Adfer Natur’ a ‘Dad-garboneiddio’.

 

Atgoffwyd bod naw Aelod ar Banel y Gronfa ar hyn o bryd. Nodwyd bod yr Aelod dros Gyngor Cymuned Clynnog Fawr wedi datgan diddordeb i gamu i lawr o’r Panel. Etholwyd y Cynghorydd John Brynmor Hughes fel Aelod o’r Panel yn ei lle.

 

Yn dilyn y drafodaeth ar yr eitem yma, tynnwyd sylw at drafferthion sy’n codi o ddiffyg bysiau hwyrol sy’n bodoli ar hyn o bryd mewn ardaloedd gwledig yr AHNE. Ystyriwyd os byddai modd ystyried y Bws Fflecsi fel rhan o ddatrysiad i’r sefyllfa ond cydnabuwyd byddai hyn yn anodd gan ei fod yn wasanaeth tymhorol gydag oriau cyfyngedig ar rai dyddiau’r wythnos. Cytunwyd bydd y Swyddog AHNE yn cysylltu gyda Rheolwr Trafnidiaeth Gyhoeddus yn nodi bod yr Aelodau yn datgan pryder am y sefyllfa bresennol.

 

PENDERFYNIAD

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
  2. Etholwyd y Cynghorydd John Brynmor Hughes yn aelod o Banel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, wedi i Aelod Cyngor Cymuned Clynnog gamu i lawr.

 

9.

PROSIECTAU CYFALAF AHNE LLŶN pdf eicon PDF 106 KB

Cyflwyno Gwybodaeth am brosiectau cyfalaf AHNE Llŷn.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn  er gwybodaeth i’r Aelodau a thynnwyd sylw’n fras i’r prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy (TCLC) yn gynllun grant gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau cyfalaf yn y Parciau Cenedlaethol a’r AHNE. Cadarnhawyd bod y prosiectau yn yn cwmpasu tair blynedd (2022-25).

 

Esboniwyd bod yr adroddiad yn manylu ar ddiweddariadau 2022/23 o brosiectau cyfalaf TCLC Llŷn sef:

 

·       Adnewyddu grisiau Porth Ysgo

·       Tiroedd Comin Mynytho, Horeb a Rhos Botwnnog

·       Coed Cynhenid

·       Rhywogaethau ymledol estron

·       Canolfan Llithfaen

 

Cadarnhawyd bod yr AHNE yn derbyn oddeutu £200,000 yn flynyddol gan y Llywodraeth o fewn y TCLC i’w wario ar y prosiectau hyn yn 2023/4. Soniwyd y bydd oddeutu £160,000 o’r arian hwn wedi cael ei wario ar waith cyfalaf  (£60,000 yng Nghanolfan Llithfaen, £50,000 ym Mhorth Ysgo, £30,000 i’r tiroedd comin a £20,000 ar goed cynhenid). Sicrhawyd bod gwariant y prosiectau hyn yn hyblyg i anghenion yr ardal ac bod swyddogion yn trafod y materion gyda’r Llywodraeth yn rheolaidd er mwyn darparu diweddariadau. Nodwyd y bydd diweddariadau’r dyfodol i’r Cyd-bwyllgor yn cynnwys gwybodaeth am wariant y prosiectau o fewn yr adroddiadau.

 

Trafodwyd bod problemau rhododendron ar dir comin Mynydd Tir y Cwmwd, Llanbedrog, ond eglurwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn delio gyda’r sefyllfa hon felly nid oes angen i’r AHNE weithredu yma.

 

          PENDERFYNIAD

 

   Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

 

10.

MATERION CENEDLAETHOL pdf eicon PDF 77 KB

Cyflwyno Gwybodaeth ar faterion Cenedlaethol.

Penderfyniad:

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
  2. Cytunwyd i beidio mabwysiadu teitl a logo cenedlaethol newydd ‘Tirweddau Cenedlaethol’ gan barhau gyda ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ a’r logo presennol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn  er gwybodaeth i’r Aelodau. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Soniwyd bod llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS wedi cyrraedd Arweinwyr Awdurdodau Lleol a Pharciau Cenedlaethol yn ogystal â Chadeiryddion y Parciau a’r Cydbwyllgorau AHNE yn ddiweddar. Manylwyd bod y llythyr yn nodi bod y Llywodraeth wedi datblygu pecyn hyfforddiant ar-lein ar gyfer y cyrff perthnasol er mwyn sicrhau bod gan arweinwyr ac aelodau’r sefydliadau y wybodaeth a’r sgiliau cywir.

 

Eglurwyd bod dwy sesiwn hyfforddiant perthnasol i aelodau Cydbwyllgor AHNE Llŷn, gan gynnwys:

 

·       Cyflwyniad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

·       Mynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd

 

Cadarnhawyd nad yw mynychu’r sesiynau hyfforddiant hyn yn orfodol ond mae anogaeth gref i’r holl aelodau fynychu’r sesiynau. Eglurwyd bod y sesiynau yn 2 awr yr un ac yn cael eu cynnal ar 02 Chwefror ac 16 Chwefror 2024 rhwng 2-4yh. Nodwyd mai’r bwriad yw trefnu cyfarfod o’r Cydbwyllgor er mwyn cynnal yr hyfforddiant.

 

Eglurwyd bod y term ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ yn deillio o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 a'i fod wedi bod mewn defnydd ers hynny. Er hyn, cydnabuwyd bod trafodaethau ynglŷn â’r enw wedi cael eu cynnal dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd ei fod yn or-ddisgrifiadol, yn hir ac ystyrir nad ydi’r AHNEau o’r un statws a’r Parciau oherwydd nad yw’r enw yn cynnwys y gair ‘cenedlaethol’.

 

Ymhelaethwyd bod adolygiad o’r Parciau Cenedlaethol a’r AHNE yn Lloger wedi ei gynnal dan arweiniad y newyddiadurwr Julian Glover ac un o’r argymhellion oedd i newid yr enw gweithredol o ‘Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol’ i ‘Dirweddau Cenedlaethol’. Nodwyd bod nifer fawr o ardaloedd Lloegr o blaid y newid hwn a rhannwyd pecynnau gwybodaeth, brandio a logos newydd i gyd-fynd gydag hyn. Eglurwyd  hefyd bod Cymdeithas Cenedlaethol dros AHNE hefyd yn gefnogol ac am newid ei enw i Gymdeithas Tirweddau Cenedlaethol.

 

Sicrhawyd bod trafodaeth ar y mater wedi bod yng Nghymru hefyd. Eglurwyd, yn gyffredinol, mai cefnogaeth i’r bwriad sydd i’w weld mewn AHNE eraill ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gefnogol. Pwysleisiwyd nad oes gorfodaeth i ddefnyddio’r teitl newydd, y brandio na’r logo sydd wedi ei ddatblygu. Cadarnhawyd bydd enw swyddogol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn parhau.

 

Rhannwyd nifer o bryderon gan Aelodau am newid yr enw a’r logo presennol i’r fersiynau newydd. Ystyrir bod y defnydd presennol yn eglur, addas i bwrpas ac yn gyfle i ddangos i'r iaith Gymraeg. Cydnabuwyd nad oes modd creu cymdeithas ar wahân i Gymru oherwydd dim ond 5 ardal sydd yng Nghymru a bod 37 yn Lloegr, ond nodwyd bydd swyddogion yn cysylltu gydag ardaloedd AHNE eraill er mwyn lleisio gofidion.

 

PENDERFYNIAD

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

2.    Cytunwyd i beidio mabwysiadu teitl a logo cenedlaethol newydd ‘Tirweddau Cenedlaethol’ gan barhau gyda ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ a’r logo presennol.