Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Y Cynghorwyr Simon Glyn, E. Selwyn Griffiths, John Brynmor Hughes, Michael Sol Owen, Peter Read a Eirwyn Williams. |
|
CYFLWYNIAD AR WAITH GALW GWYNEDD, Y GANOLFAN GYSWLLT YM MHENRHYNDEUDRAETH I dderbyn cyflwyniad gan Joanne Parry (Rheolwr Siopau Gwynedd, Galw Gwynedd a'r Gwasanaeth Cofrestru). Cofnod: Derbyniwyd cyflwyniad gan Reolwr Siopau Gwynedd, Galw Gwynedd a’r Gwasanaeth Cofrestru. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau
ofyn cwestiynau. Pwynt Gweithredu: Cyfleu diolchiadau’r aelodau am waith staff y Ganolfan Gyswllt. |
|
TREFNIADAU ETHOLIADAU LLYWODRAETH LEOL - MAI 2017 PDF 82 KB I drafod trefniadau ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol 2017. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Uwch
Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol er mwyn codi ymwybyddiaeth
Aelodau o’r trefniadau sy’n cael eu datblygu
ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol 2017. Tynnwyd sylw’r Aelodau at y
sesiynau sydd wedi eu trefnu
ymhob un o’r
tair ardal ym mis Ionawr
2017. Gofynnwyd i’r aelodau adnabod
grwpiau/rhwydweithiau lleol y dylid gohebu
yn benodol i hyrwyddo gwybodaeth. Pwyntiau Gweithredu:
|