skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Y Cynghorwyr Aled Evans, E. Selwyn Griffiths a Peter Read.

 

2.

CYNLLUN PRYNU’N LLEOL

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan gynrychiolwyr yr Adran Economi a Chymuned ar Gynllun Prynu’n Lleol Gwynedd.

 

Tynnodd aelodau sylw at ffioedd parcio a’r ffaith nad oeddent yn hybu unigolion i siopa yn y canol trefi/pentrefi.

 

Pwynt Gweithredu:

 

Cymeradwyo cefnogaeth i’r cynllun a gofyn i Aelodau wneud cysylltiadau yn eu wardiau unigol i ddatblygu’r cynllun a datgan diddordeb drwy gysylltu â

hannahjoyce@gwynedd.gov.uk 

 

3.

RHAGLEN WAITH Y GWASANAETH ADFYWIO CYMUNEDOL - ARDAL DWYFOR pdf eicon PDF 546 KB

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Adfywio Cymunedol raglen waith y Swyddog Adfywio Lleol.

 

Cefnogwyd cydbwysedd thematig / daearyddol y prosiectau.

 

Pwyntiau Gweithredu:

 

  • Derbyn diweddariad pellach ymhen 6 mis;
  • Gwneud ymholiadau o ran bwriad yr Adran Economi a Chymuned yng nghyswllt cyflwyno Rhaglen Waith Cynllun Cyflogaeth Llŷn ac Eifionydd.

4.

MONITRO A GORFODAETH SAFLEOEDD CARAFANAU pdf eicon PDF 356 KB

Cofnod:

Rhoddwyd diweddariad ar waith Uned Gorfodaeth y Gwasanaeth Cynllunio yng nghyswllt monitro cyfnod gwyliau 12 mis safleoedd carafanau.

 

Ymatebodd yr Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd Dros Dro a’r Rheolwr Gorfodaeth i gwestiynau a roddwyd ymlaen gan y Cynghorydd Aled Evans.

 

Pwynt Gweithredu:

 

Cyflwyno gwybodaeth i aelodau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn dilyn cynnal gwaith monitro safleoedd carafanau yn dechrau 2016.