Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Y Cynghorwyr Gweno Glyn, Simon Glyn, Peter Read, W. Gareth Roberts, Angela Ann Russell, Eirwyn Williams ac Owain Williams.

2.

CYFLWYNIAD GAN GYNRYCHIOLWYR BANC BWYD PWLLHELI

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan gynrychiolwyr Banc Bwyd Pwllheli.

 

Diolchwyd i’r cynrychiolwyr am eu cyflwyniad a llongyfarchwyd y Banc Bwyd ar eu gwaith.

 

Pwyntiau Gweithredu:

 

·        Anfon dolen gyswllt at fanylion cyswllt clercod cynghorau Cymuned/Tref i gynrychiolwyr y Banc Bwyd;

·        Anfon neges at y Prif Weithredwr yn galw ar y Cyngor i roi cymorth ariannol i’r Banc Bwyd.

 

3.

ARGYFWNG TAI YN YR ARDAL

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad ar y cyd gan yr Uwch Reolwr Tai, Rheolwr Tai Strategol ac Arweinydd Tîm Opsiynau Tai ar y sefyllfa dai, angen lleol a sut mae’r Cyngor yn ymateb i’r angen.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau.

 

Ymatebodd y swyddogion i’r cwestiynau gyda Phennaeth Cyflenwad Tai, Llywodraeth Cymru yn ymateb o ran y sefyllfa genedlaethol.

 

Pwyntiau Gweithredu:

 

  • Tîm Opsiynau Tai i gysylltu efo aelodau lleol pan ceir anhawster gosod tai penodol yn eu cymunedau;
  • Anfon copi o’r cyflwyniad at yr aelodau.