Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Cofnod: Etholwyd
y Cynghorydd Sian Wyn Hughes yn
Gadeirydd. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Cofnod: Etholwyd
y Cynghorydd Dylan Bullard yn
Is-Gadeirydd. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Y Cynghorwyr Anwen Davies, Simon Glyn, E. Selwyn Griffiths,
John Brynmor Hughes, Peter Read, W. Gareth Roberts a
Eirwyn Williams. |
|
CYFLWYNIAD I'R FFORWM Cofnod: Derbyniwyd eglurhad gan yr Uwch Reolwr
Cefnogaeth Gorfforaethol ar gylch gorchwyl
y Fforwm gan dynnu sylw bod y Fforymau ar gyfer
trafod materion hynny rhwng gwaith
ward ar y naill law a materion sir gyfan y dylid ymdrin â hwy drwy drefniadau
craffu. Atgoffwyd nad oedd
gan y Fforwm bwerau gweithredol o ran gwneud penderfyniad ond bod modd ceisio
gwneud penderfyniadau i ddylanwadu ar
Aelod Cabinet neu Adran a chyfeirio unrhyw fater i’w
graffu’n ffurfiol. Nodwyd y defnyddir y Fforymau
ar gyfer hyfforddiant neu rannu gwybodaeth |
|
SESIWN GWYBODAETH AM Y SIR Cofnod: Derbyniwyd cyflwyniad am wybodaeth
am y Sir gan Rheolwr Ymchwil a Dadansoddeg a’r Uwch Swyddog Ymchwil
a Dadansoddeg Dros Dro. Pwyntiau Gweithredu: |
|
SEFYDLU MATERION AR GYFER Y RHAGLEN WAITH PDF 111 KB (Ynghlwm
– rhestr o eitemau a ystyriwyd gan
Pwyllgor Ardal Dwyfor 2013-17) Cofnod: Cyfeiriwyd at y rhestr o faterion
a drafodwyd gan y Fforwm Ardal eisoes
rhwng 2013 - 2017. Cafwyd awgrymiadau am faterion i’w ystyried yn
y cyfarfodydd am y flwyddyn. Pwyntiau Gweithredu: (i) Cytuno ar yr eitemau
canlynol gan ystyried eitemau eraill yn ystod
y flwyddyn: ·
Cynllun Cyflogaeth Llŷn ac Eifionydd ·
Manteisio
ar gyfleoedd o ran yr Iaith ym
myd gwaith ·
Darpariaeth
Tai yn yr Ardal ·
Incwm
Premiwm Treth Ail-Gartrefi ·
Prinder
meddygon teulu a gweithwyr gofal yn yr ardal ·
Diwygio wardiau etholiadol (ii) Swyddogion i ymgynghori efo’r
Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd o ran pa eitemau y dylid cynnwys ar
raglenni’r cyfarfodydd. |
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD 2017-18 I nodi dyddiadau cyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Cofnod: Pwynt Gweithredu: Nodi dyddiadau cyfarfodydd
ar gyfer y flwyddyn i ddod,
sef:
·
dydd Llun, 5 Mawrth 2018 |