skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Y Cynghorwyr Stephen Churchman, John Brynmor Hughes, W. Gareth Roberts a Eirwyn Williams.

2.

HUNAN WASANAETH

Codi ymwybyddiaeth am y system hunan wasanaeth.

 

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan y Rheolwr Gwybodaeth a Gwasanaethau ar y Wefan ar brosiect i wella gwasanaeth i gwsmeriaid drwy roi’r gallu iddynt gyflwyno ceisiadau am wasanaeth ar amser cyfleus iddynt.

 

Pwynt Gweithredu:

 

Aelodau i hyrwyddo’r modd y gellir archebu gwasanaethau’r Cyngor ar lein.

 

 

3.

CYNLLUN CYFLOGAETH LLŶN AC EIFIONYDD

Derbyn cyflwyniad ar yr uchod.

Cofnod:

Derbyniwyd diweddariad gan y Rheolwr Rhaglenni Datblygu Economaidd ar y Cynllun Cyflogaeth.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a nodi sylwadau.

 

Pwyntiau Gweithredu:

  • Anfon copi o’r cyflwyniad i’r aelodau;
  • Aelodau i adnabod busnesau sydd angen cymorth o ran creu swyddi gwerth uchel;
  • Darparu copi papur o’r Cynllun Cyflogaeth i’r aelodau yn eu twll colomen yn Lolfa’r Aelodau.

 

 

4.

GWASANAETH IEUENCTID GWYNEDD - Y DYFODOL pdf eicon PDF 1 MB

Derbyn cyflwyniad ar ail-fodelu’r Gwasaneth Ieuenctid.

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan yr Uwch Reolwr Dysgu Cymunedol ynglŷn â dyfodol Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a nodi sylwadau.

 

Pwynt Gweithredu:

 

Aelodau i ymateb i’r ymgynghoriad ac i dynnu sylw'r cyhoedd at y cyfnod ymgynghori ar yr uchod tan 22 Rhagfyr 2017.

 

5.

CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir y cyfarfod nesaf ar ddydd Llun, 5 Mawrth 2018.

Cofnod:

Pwynt Gweithredu:

 

Nodi y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 5 Mawrth 2018.