Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Cofnod: Etholwyd y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts yn
Gadeirydd. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Cofnod: Etholwyd y Cynghorydd Dylan Bullard yn
Is-Gadeirydd. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Y Cynghorwyr Anwen Davies a John Brynmor Hughes |
|
DATBLYGIADAU YN YSBYTY BRYN BERYL I dderbyn
cyflwyniad gan Kathryn Cummings (Swyddog y Wasg a Chyfathrebu (Gorllewin), Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr). Cofnod: Derbyniwyd cyflwyniad yn
manylu ar y gwaith a gwblhawyd fel cam cyntaf o’r datblygiadau ynghyd â’r camau
ailddatblygu yn y dyfodol. Diolchwyd am y cyflwyniad a chroesawyd y
datblygiadau a fyddai o fudd i’r gymuned gan nodi bod cyfle i gydweithio gyda’r
Cyngor. Pwynt Gweithredu: · Anfon copi o’r cyflwyniad i’r aelodau. |
|
AIL-FODELU GOFAL CARTREF I dderbyn
cyflwyniad gan Sian Griffiths (Rheolwr Prosiect – Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant). Cofnod: Derbyniwyd cyflwyniad ar
y model Gofal Cartref newydd a oedd yn egluro’r rhesymau am y newid, yn manylu
ar y model newydd a’i effaith a’r amserlen. Diolchwyd am y
cyflwyniad. Pwynt
Gweithredu: ·
Anfon copi o’r cyflwyniad i’r aelodau. |
|
PONT BODFEL Cofnod: Derbyniwyd cyflwyniad ar y gwaith a gwblhawyd a
chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod yr Adran mewn trafodaethau gyda CADW
o ran lledu’r bont i gyfeiriad y gogledd a bwriadwyd rhoi diweddariad i’r
aelodau yn y cyfarfod nesaf. Diolchwyd am y cyflwyniad gan nodi gwerthfawrogiad
o waith yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a Ymgynghoriaeth Gwynedd o osod pont
dros dro yn ddiymdroi yn dilyn difrod i’r bont. Pwynt Gweithredu:
|
|
EITEMAU AR GYFER Y CYFARFOD NESAF I nodi eitemau posib ar gyfer y cyfarfod nesaf. Cofnod: Cafwyd trafodaeth o ran
eitemau posib ar gyfer y cyfarfod nesaf, nodwyd yr eitemau canlynol: Ø Diweddariad ar Adolygiad Hafan a Harbwr Pwllheli Ø Newid
Hinsawdd – Effaith ar Arfordir Gwynedd Ø
Materion Plismona |