skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts yn Gadeirydd.

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Dylan Bullard yn Is-Gadeirydd.

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Y Cynghorwyr Anwen Davies a John Brynmor Hughes

4.

DATBLYGIADAU YN YSBYTY BRYN BERYL

I dderbyn cyflwyniad gan Kathryn Cummings (Swyddog y Wasg a Chyfathrebu (Gorllewin), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr).

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad yn manylu ar y gwaith a gwblhawyd fel cam cyntaf o’r datblygiadau ynghyd â’r camau ailddatblygu yn y dyfodol.

 

Diolchwyd am y cyflwyniad a chroesawyd y datblygiadau a fyddai o fudd i’r gymuned gan nodi bod cyfle i gydweithio gyda’r Cyngor.

 

Pwynt Gweithredu:

·         Anfon copi o’r cyflwyniad i’r aelodau.

5.

AIL-FODELU GOFAL CARTREF

I dderbyn cyflwyniad gan Sian Griffiths (Rheolwr Prosiect – Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant).

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad ar y model Gofal Cartref newydd a oedd yn egluro’r rhesymau am y newid, yn manylu ar y model newydd a’i effaith a’r amserlen.

 

Diolchwyd am y cyflwyniad.

 

Pwynt Gweithredu:

·         Anfon copi o’r cyflwyniad i’r aelodau.

 

6.

PONT BODFEL

I dderbyn cyflwyniad gan Steffan Jones (Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol Dros Dro) ar y gwaith sydd wedi ei gwblhau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad ar y gwaith a gwblhawyd a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod yr Adran mewn trafodaethau gyda CADW o ran lledu’r bont i gyfeiriad y gogledd a bwriadwyd rhoi diweddariad i’r aelodau yn y cyfarfod nesaf.

 

Diolchwyd am y cyflwyniad gan nodi gwerthfawrogiad o waith yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a Ymgynghoriaeth Gwynedd o osod pont dros dro yn ddiymdroi yn dilyn difrod i’r bont.

 

Pwynt Gweithredu:

  • Rhoi diweddariad i’r aelodau yn y cyfarfod nesaf.

7.

EITEMAU AR GYFER Y CYFARFOD NESAF

I nodi eitemau posib ar gyfer y cyfarfod nesaf.

Cofnod:

Cafwyd trafodaeth o ran eitemau posib ar gyfer y cyfarfod nesaf, nodwyd yr eitemau canlynol:

 

Ø  Diweddariad ar Adolygiad Hafan a Harbwr Pwllheli

Ø  Newid Hinsawdd – Effaith ar Arfordir Gwynedd

Ø  Materion Plismona