Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2020 / 21 Penderfyniad: Ail ethol y Cynghorydd
Dafydd Meurig yn Gadeirydd ar gyfer 2020 - 21 COFNODION: PENDERFYNWYD
ail ethol y Cynghorydd
Dafydd Meurig yn Gadeirydd am 2020/21 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2020 / 21 Penderfyniad: Ail ethol y Cynghorydd Alwyn
Gruffydd yn Is-gadeirydd ar gyfer 2020 - 21 COFNODION: PENDERFYNWYD
ail ethol y Cynghorydd
Alwyn Gruffydd yn Is-gadeirydd
am y cyfnod 2020/2021 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd a’r Cynghorydd
Gethin Glyn Williams |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 11eg Chwefror 2020 fel rhai cywir COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 11.02.20 fel rhai cywir |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwysio hawliau’r unigolion yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. COFNODION: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r
cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitemau
canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol
oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd.
Nid oes unrhyw
fudd cyhoeddus sydd yn galw
am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n
gorbwyso hawliau’r unigolion yma . O ganlyniad mae’r
budd cyhoeddus yn disgyn o blaid
cadw’r wybodaeth yn eithriedig. |
|
CYFLOGAU PRIF SWYDDOGION I ystyried
adroddiad y Prif Weithredwr (copi ar wahân i
Aelodau’r Pwyllgor yn unig) Penderfyniad: a)
Derbyn bod angen adolygu rhai cyflogau prif swyddogion ond yn
wyneb y ffaith y gallasem fod yn wynebu rhewi cyflogau swyddogion o fewn y
sector gyhoeddus, gohirio rhoi ystyriaeth ffurfiol i gynnwys adroddiad y Prif
Weithredwr hyd nes bydd staff y Cyngor yn derbyn codiad cyflog cyffredinol gan
ail ymweld a’r adroddiad yn syth bryd hynny. b)
Cynyddu cyflog y Swyddog
Monitro ar ei uchafswm i tua £70,000 fel bod modd osgoi risgiau annerbyniol i’r
Cyngor, gan adael yr union ffigwr i arfarniad yn unol a’r dull a nodir yn yr
adroddiad. c) Hysbysebu swydd Prif Weithredwr ar y telerau presennol. COFNODION: Yn dilyn cais gan yr Aelodau yng nghyfarfod
diwethaf o’r Pwyllgor Penodi (Chwefror 11 2020) cyflwynwyd adolygiad o gyflogau Prif Swyddogion gan y Prif Weithredwr. Yn dilyn trafodaeth drylwyr ar gynnwys
yr adolygiad ynghyd a’r opsiynau
a gyflwynwyd, PENDERFYNWYD a)
Derbyn bod angen adolygu rhai
cyflogau prif swyddogion ond yn wyneb y ffaith y gallem fod yn wynebu rhewi
cyflogau swyddogion o fewn y sector gyhoeddus, gohirio rhoi ystyriaeth ffurfiol
i gynnwys adroddiad y Prif Weithredwr hyd nes bydd staff y Cyngor yn derbyn
codiad cyflog cyffredinol gan ail ymweld â’r adroddiad yn syth bryd hynny. b) Cynyddu
cyflog y Swyddog Monitro ar ei uchafswm i tua £70,000 fel bod modd osgoi
risgiau annerbyniol i’r Cyngor, gan adael yr union ffigwr i arfarniad yn unol
â’r dull a nodir yn yr adroddiad. c)
Hysbysebu swydd Prif Weithredwr ar y telerau presennol |
|
AIL AGOR Y CYFARFOD I'R WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd
yn cynnig ail agor y cyfarfod ar gyfer y wasg
a’r cyhoedd COFNODION: PENDERFYNWYD ail agor y cyfarfod ar gyfer y wasg
a’r cyhoedd |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL POLISI TAL Y CYNGOR PDF 215 KB I ystyried
adroddiad y Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad ac argymell y polisi tal
i’r Cyngor gan nodi’r addasiadau y bydd angen eu hymgorffori yn sgil
penderfyniad 8b uchod. COFNODION: Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr yn nodi bod dyletswydd statudol
ar bob Cyngor i baratoi datganiad polisi tal yn flynyddol. Yn unol â
phenderfyniad y Cyngor wrth fabwysiadu polisi tal ar gyfer 2012/13, roedd
disgwyliad i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion gynnal adolygiad blynyddol o
gynaliadwyedd y polisi a chyflwyno unrhyw argymhellion yn dilyn adolygu’r
polisi tâl i’r Cyngor Llawn yn flynyddol.
Adroddwyd nad oedd addasiadau i’r polisi eleni, ond yn unol â chyfansoddiad
y Cyngor roedd angen ystyried cynaladwyedd y polisi i’r dyfodol. PENDERFYNWYD DERBYN YR
ADRODDIAD YN UNOL Â’R ARGYMHELLIAD ·
Bod y Pwyllgor Penodi yn cynnig
y Datganiad o Bolisi Tal (drafft) i’r Cyngor ar Fawrth y 3ydd 2021, fel un i’w
fabwysiadau ar gyfer 2021/22 yn ddarostyngedig i addasu cyflog y Swyddog Monitro (atodiad 1) yn unol
â phenderfyniad 8b uchod. |
|
RECRIWTIO A PHENODI PRIF WEITHREDWR PDF 375 KB Cytuno ar y trefniadau ar gyfer recriwtio a phenodi Prif Weithredwr Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad ynglyn a threfniadau recriwtio a phenodi Prif Weithredwr a chytuno
ar yr amserlen isod 24ain o
Chwefror – hysbyseb yn ymddangos yn y wasg. 11eg o
Fawrth – dyddiad cau. 19eg o
Fawrth – tynnu rhestr fer. Wythnos
yn dechrau’r 22ain o Fawrth – Canolfan Asesu (Rhithiol). 16eg
o Ebrill - Cyfweld ac argymell ymgeisydd i’w penodi 23ain o Ebrill – Cyfarfod
arbennig o’r Cyngor Llawn er mwyn cadarnhau’r penodiad COFNODION: Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weithredwr o’i fwriad i ymddeol
ar y 31ain o Fawrth 2021, cyflwynwyd adroddiad gan Rheolwr Adnoddau
Dynol yn amlygu camau ar
gyfer penodi Prif Weithredwr newydd. Amlygwyd, o ran yr amserlen, byddai
penodi olynydd erbyn Mawrth 31ain yn rhy uchelgeisiol
ac felly, yn dilyn trafodaethau gydag Arweinydd y Cyngor, penderfynwyd
anelu at lenwi’r swydd erbyn dechrau
mis Mai. Cadarnhawyd bod y Prif Weithredwr presennol wedi cytuno i barhau
â’i swyddogaethau yn rhan amser
hyd nes bydd
olynydd wedi ei b/phenodi. Trafodwyd yr amserlen arfaethedig ar gyfer y broses o benodi Prif Weithredwr Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Cynnig addasu dyddiadau oherwydd gwrthdaro gyda phwyllgorau eraill a threfniadau cyhoeddi 15/04/21 – Cyfweliadau ac argymell
ymgeisydd – cynnig 16/04/21 21/04/21 – Cyfarfod Arbennig
o’r Cyngor Llawn – cynnig 23/04/21 ·
Awgrym i gopi drafft o ddyletswyddau a swydd ddisgrifiad Prif Weithredwr ei gylchredeg i’r
Aelodau am sylwadau PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad ynglŷn â threfniadau recriwtio a phenodi Prif Weithredwr
a chytuno ar yr amserlen isod 24ain o Chwefror – hysbyseb
yn ymddangos yn y wasg. 11eg o Fawrth – dyddiad
cau. 19eg o Fawrth – tynnu
rhestr fer. Wythnos yn dechrau’r 22ain o Fawrth – Canolfan Asesu (Rhithiol). 16eg o Ebrill - Cyfweld ac argymell ymgeisydd i’w penodi 23ain o Ebrill – Cyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn er mwyn
cadarnhau’r penodiad |