Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Nia Jeffreys, Dafydd Meurig, Angela Russell a Rob Triggs a’r Cynghorydd Elwyn Jones (Cadeirydd y Cyngor) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 15 Gorffennaf 2022 fel rhai cywir COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
ar 15-07-22 fel rhai cywir |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y
dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr
eitem canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r
paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am
unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus
sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad
mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig COFNODION: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. |
|
CYFWELD YMGEISWYR AR GYFER SWYDDI CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL I gyfweld ymgeiswyr ar gyfer y swyddi · CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL · CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL Penderfyniad: PENDERFYNIAD: a)
Penodi
Mr Dylan Owen i’r swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol b)
Penodi
Mr Geraint Owen i’r swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol COFNODION: ·
CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL ·
CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL a)
Cadarnhawyd trefn y
diwrnod gyda’r Aelodau. b) Cyfwelwyd dau ymgeisydd ar gyfer y swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol
Gwasanaethau Cymdeithasol c)
Gwahoddwyd yr ymgeiswyr i roi cyflwyniad rhwng 10 a
15 munud ar y testun ‘Beth yw’r prif risgiau a sialensiau o fewn y maes
gwasanaethau cymdeithasol ar hyn o bryd, a sut fedrwch chi wneud gwahaniaeth
mwyaf i arwain y Cyngor i ymateb yn effeithiol i’r materion hyn dros y cyfnod
nesaf?’ Ymatebwyd i bum cwestiwn ffurfiol a ofynnwyd gan y Cadeirydd, y
Cynghorydd Menna Jones, ynghyd a chwestiynau dilynol gan yr Aelodau. d)
Gwahoddwyd Mr Dafydd Gibbard
(Prif Weithredwr), i gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r ddau ymgeisydd
mewn cyfres o weithgareddau asesu a gynhaliwyd ar y 26ain o Orffennaf
2022. Cafodd yr ymgeiswyr eu hasesu gan
gwmni Edgecombe (nodwyd canlyniadau’r profion
seicometreg a chymwyseddau’r ymgeiswyr i’r gweithgaredd hynny), gan grŵp o
Aelodau Etholedig a grŵp o Bartneriaid Allanol. Cyflwynwyd hefyd adborth cryno o berfformiadau’r ddau ymgeisydd mewn
cyfweliad proffesiynol a gynhaliwyd gyda chefnogaeth Morwena
Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol) Cynigiwyd ac eiliwyd bod y swydd yn cael ei chynnig
i Mr Dylan Owen PENDERFYNWYD,
yn unfrydol, penodi Mr Dylan Owen i’r swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol
Gwasanaethau Cymdeithasol Cafwyd toriad am ginio a) Cyfwelwyd tri ymgeisydd ar gyfer y swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol b)
Gwahoddwyd yr ymgeiswyr i roi cyflwyniad rhwng 10 a
15 munud ar y testun ‘Mae’r Cyngor yn darparu amrediad eang o wasanaethau i
drigolion Gwynedd. Ym mhle, a sut, fedrwch chi wneud y gwahaniaeth mwyaf wrth
gefnogi’r Prif Weithredwr ac Aelodau’r Cyngor i sicrhau darpariaeth
gwasanaethau o’r radd flaenaf’? Ymatebwyd i bum cwestiwn ffurfiol a ofynnwyd gan y Cadeirydd, y
Cynghorydd Menna Jones, ynghyd a chwestiynau dilynol gan yr Aelodau. c)
Gwahoddwyd Mr Dafydd Gibbard
(Prif Weithredwr), i gyflwyno adborth cryno o berfformiadau’r tri ymgeisydd
mewn cyfres o weithgareddau asesu a gynhaliwyd ar y 26ain o Orffennaf
2022. Cafodd yr ymgeiswyr eu hasesu gan
gwmni Edgecombe (nodwyd canlyniadau’r profion
seicometreg a chymwyseddau’r ymgeiswyr i’r gweithgaredd hynny), gan grŵp o
Aelodau Etholedig a grŵp o Bartneriaid Allanol. Cyflwynwyd hefyd adborth cryno o berfformiadau’r ddau ymgeisydd mewn
cyfweliad proffesiynol a gynhaliwyd gyda chefnogaeth Morwena
Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol) Cynigiwyd
ac eiliwyd bod y swydd yn cael ei chynnig i Mr Geraint Owen PENDERFYNWYD, yn unfrydol, penodi Mr Geraint Owen i’r swydd Cyfarwyddwr
Corfforaethol |